Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2019 i Orffennaf 2020.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y datganiad hwn yn debygol o fod wedi’u heffeithio. Dylid cadw hyn mewn cof, yn enwedig wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2019/20, roedd yna 148,860 o ddysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach (SAB), darparwyr dysgu oedolion neu ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith.
  • Roedd 112,105 dysgwr unigryw mewn SAB, gostyngiad o tua 8% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd y gostyngiad hwn yn ymwneud yn bennaf â dysgwyr rhan-amser mewn SAB (i law 15%) ac, i raddau llai, dysgwyr sy’n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith mewn SAB (i lawr 10%).
  • Roedd nifer y dysgwyr llawn-amser mewn SAB wedi cynyddu 1%.
  • Roedd 8,200 o ddysgwyr unigryw mewn dysgu oedolion. 
  • Roedd cyfanswm nifer y dysgwyr ar raglenni dysgu seiliedig ar waith wedi gostwng 15% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd tua 14% yn llai o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau.

Nodyn

Mae’r adroddiad ystadegol cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn sefydliadau addysg uwch neu ysgolion ond gan gynnwys sefydliadau addysg bellach, darparwyr eraill dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu oedolion a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion, Awst 2019 i Orffennaf 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.