Neidio i'r prif gynnwys

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddarparu unrhyw ddata personol penodol i gyflwyno pryder am y ffordd mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall eich cyfeiriad e-bost fod yn gyfystyr â data personol ac felly bydd hyn, ynghyd ag unrhyw ddata personol rydych yn dewis eu darparu, yn cael ei reoli yn unol â'r holl ddeddfwriaeth diogelu data sydd ar gael. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar ei gyfer a byddwn yn ei brosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom er mwyn delio â'ch pryder ac unrhyw faterion sy'n codi ohono.

Er y bydd y pryderon a godwch yn gwbl ddienw cyn iddynt gael eu trosglwyddo i'r Asesydd Interim i'w hadolygu, efallai y bydd adegau pan fydd angen mwy o wybodaeth ar yr Asesydd Interim i ystyried y pryder a godwyd ac efallai y bydd am gysylltu â chi.  Os felly, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i rannu eich data â’r Asesydd Interim.  Bydd unrhyw ohebiaeth rhyngoch chi a Llywodraeth Cymru neu chi a'r Asesydd Interim yn cael ei storio'n ddiogel gan Lywodraeth Cymru.

Ni fydd yr adroddiad ar eich pryder a'r adroddiad blynyddol yn cynnwys eich data personol.

Caiff ffeiliau achos ynghylch pryderon (gan gynnwys eich data personol) a gyflwynir i Asesydd Diogelu Amgylcheddol Dros Dro Cymru eu cadw am hyd at 3 blynedd ar ôl i’ch achos gael ei ddatrys yn llwyr. Fodd bynnag, o ran ymholiadau syml y gellir ymateb iddynt ar unwaith, byddwn yn dileu eich data personol fis ar ôl i’r ymateb gael ei anfon atoch. Byddwn yn eich hysbysu os bydd angen i ni gadw gwybodaeth am gyfnodau hirach o amser am ba bynnag reswm.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru a chael gafael arnynt
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu neu i gyfyngu ar hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i'ch data gael eu 'dileu'
  • (o dan amgylchiadau penodol) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Fodd bynnag, byddwn yn delio â chais sut bynnag y byddwch yn cysylltu â ni.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth