Y datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau ar y galon
Beth ry'n ni'n ceisio gwneud i wella gofal ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar y galon.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau ar y galon yn disodli'r cynllun darparu ar gyfer cyflyrau ar y galon.
Cyflwyniad
Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn dal yn un o brif achosion afiechyd a marw cyn pryd yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am ryw 1 o bob 4 o'r holl farwolaethau a 29.5% o farwolaethau y gellir eu hosgoi (2023).
Am y 50 mlynedd diwethaf bu gostyngiad cyson yn y gyfradd marwolaethau o CVD, yn rhannol oherwydd cyflwyno triniaethau gwell a chydnabod a thrin ffactorau risg cardiofasgwlaidd.
Mae'r gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau o ddigwyddiadau acíwt fel trawiadau ar y galon wedi golygu bod mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau'r galon a'r cylchrediad (amcangyfrif diweddaraf o 400,000 o bobl yng Nghymru), ac mae'r garfan hon o bobl yn debygol o gynyddu am fod y boblogaeth yn tyfu ac yn heneiddio. Er hynny, dros y degawd diwethaf mae'r gyfradd marwolaethau o CVD wedi aros yn wastad ac mae'r gyfradd marwolaethau cynamserol yng Nghymru yn gyson uwch nag yn Lloegr.
Mae angen dull amlasiantaeth o leihau baich sylweddol a chynyddol clefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru gyda ffocws clir ar atal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. O fewn GIG Cymru mae dull systematig o nodi a thrin ffactorau risg cardiofasgwlaidd hysbys megis pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, diabetes a gordewdra yn hanfodol.
Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau cardiaidd yn unol â safonau clinigol a’r disgwyliadau cynllunio a nodir isod. Bydd Rhwydwaith Clefydau Cardiofasgwlaidd Strategol Perfformiad a Gwella'r GIG (NHSPI) yn gweithio gyda sefydliadau a phartneriaid y GIG i gyflawni camau galluogi cenedlaethol ar gyfer y gwelliannau gwasanaeth a ddisgrifir isod.
Mesur Gofal Cardiaidd a Chanlyniadau
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer un ar ddeg o archwiliadau clinigol a chofrestrfeydd cenedlaethol fel rhan o'r Rhaglen Archwilio Gardiaidd Genedlaethol (NCAP) sy'n cael ei rhedeg gan Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Canlyniadau Cardiofasgwlaidd (NICOR) i lywio darparwyr gofal iechyd a sefydliadau ymchwil. Mae gofyniad NICOR ar gyfer cyflwyno data yn newid i drefn fisol wrth i NCAP symud tuag at adroddiadau amlach i hwyluso dull gwella ansawdd.
Mae'r Rhaglen Archwilio Gardiaidd Genedlaethol (NCAP) yn hysbysu ysbytai a chomisiynwyr am ansawdd y gofal a ddarperir wrth ddarparu gwasanaethau cardiofasgwlaidd. A hithau yn cynnwys un ar ddeg o is-arbenigeddau (neu ‘barthau’) gwahanol, mae'r NCAP ar gyfer 2025 yn cynnwys gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 neu, lle mae metrigau'n cwmpasu cyfnod o dair blynedd, o 2021 i 2022 i 2023 i 2024.
Darperir gwybodaeth i gefnogi gwella ansawdd clinigol gan y canlynol:
- National Congenital Heart Disease Audit (NCHDA)
- Myocardial Ischaemia National Audit Project (MINAP)
- National Audit of Percutaneous Coronary Interventions (NAPCI)
- National Adult Cardiac Surgery Audit (NACSA)
- National Heart Failure Audit (NHFA)
- National Audit of Cardiac Rhythm Management (NACRM)
- UK Transcatheter Aortic Valve Implantation Registry (TAVI)
Mae tair cofrestrfa ymyrraeth strwythurol newydd ar gyfer y galon wedi'u cyflwyno dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes digon o achosion i ddarparu set lawn o allbynnau gwella ansawdd (QI), ond crynhoir y statws presennol yn:
- Transcatheter Mitral and Tricuspid Valve procedure (TMTV) Registry
- Left Atrial Appendage Occlusion (LAAO) Registry
- The Percutaneous Foramen Ovale Closure (PFOC) Registry
Mae'r Archwiliad Cenedlaethol Adsefydlu Cardiaidd (NACR) wedi'i alinio â'r NCAP, ac yn parhau i adrodd gydag amserlen ar wahân.
Disgwyliadau Cynllunio
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn datblygu manylebau gwasanaeth ar gyfer llwybrau cyflwr y galon fel sail i drafodaethau ynghylch atebolrwydd. Ychwanegir y rhain pan fyddant ar gael.
Teg
- Mae arweinwyr gweithredol byrddau iechyd, clinigol a gweithredol ar gyfer cardioleg yn cydweithio'n rheolaidd ar lefel genedlaethol trwy Rwydwaith Gweithredu Cardiaidd NHSPI i wella ansawdd a thegwch gwasanaethau cardiaidd a ddarperir yn lleol.
- Mae'r byrddau iechyd a NHSPI yn defnyddio data o'r Rhaglen Archwilio Gardiaidd Genedlaethol (NICOR), Atlas Amrywiadau Cardiofasgwlaidd (GIG Cymru), PROMs, adolygiad gan gymheiriaid a setiau data eraill sy'n gymaradwy yn genedlaethol i sbarduno cylchoedd gwella ansawdd yn safon y gofal ac i fynd i'r afael ag amrywiad diangen yn ansawdd a chanlyniadau gofal.
- Mae'r byrddau iechyd, gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn adolygu cynllunio'r gweithlu i sicrhau bod y gweithlu cardiaidd yn gallu darparu gwasanaethau cynaliadwy a theg, gyda ffocws penodol ar ffisioleg gardiaidd, nyrsio arbenigol, a darpariaeth gyflenwi i feddygon ymgynghorol.
- Mae NHSPI, gan weithio gyda'r Hwb Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg Iechyd Cymru, yn hwyluso gweithio mewn partneriaeth rhwng byrddau iechyd a diwydiant i nodi, profi a chyflwyno arloesedd mewn gofal cardiofasgwlaidd drwy raglenni cenedlaethol.
Diogel
- Mae'r byrddau iechyd, gan weithio gyda'r NHSPI a thrwy'r Cyd-bwyllgor Comisiynu, yn adolygu gwasanaethau cardiaidd arbenigol sydd â gweithgarwch annigonol i fodloni'r safonau clinigol gofynnol ac ystyried ail-gyflunio gwasanaethau.
- Mae NHSPI yn adolygu data archwilio clinigol a data am wasanaethau i nodi pryderon ansawdd a diogelwch sy'n ymwneud â gofal neu ganlyniadau cardiaidd, ac yn uwchgyfeirio'r materion hyn at y Bwrdd Ansawdd a Chyflawni i'w hystyried.
- Mae'r byrddau iechyd yn ystyried ac yn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion (NCEPOD) sy'n ymwneud â gofal cardiaidd.
Effeithiol
- Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn ymgorffori llwybrau a manylebau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer gofal cardiaidd wrth gynllunio gwasanaethau lleol.
- Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn comisiynu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i weithredu cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty i gefnogi gwelliannau i berfformiad dychwelyd i gylchrediad naturiol a chyfraddau goroesi a hwylusir gan y rhaglen ‘Achub Bywyd Cymru’.
- Mae'r byrddau iechyd yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar weithredu'r Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i Gymru.
Effeithlon
- Mae'r byrddau iechyd yn sicrhau bod cynllunio swyddi ym maes cardioleg yn cynnwys digon o amser ar gyfer brysbennu clinigol gwell yn achos atgyfeiriadau cleifion allanol.
- Mae'r byrddau iechyd yn cymhwyso'r Fframweithiau Optimeiddio cardioleg y cytunwyd arnynt drwy Fwrdd y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd i wella mynediad cleifion at brofion diagnostig ac adolygiad clinigol priodol.
- Y byrddau iechyd i gymhwyso metrigau gwerth uchel y Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd ar gyfer methiant y galon i lywio gweithgarwch gwella ansawdd lleol.
- Mae'r byrddau iechyd, gan weithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), yn caffael ac yn defnyddio System PACS a Gwybodaeth Gardiaidd genedlaethol ledled Cymru i hwyluso mwy o integreiddio gofal a data safonol i gefnogi gwella gwasanaethau.
- Y byrddau iechyd i gefnogi mwy o ddefnydd o rolau ymarfer uwch a rolau rhagnodi anfeddygol mewn gwasanaethau cardiaidd, gan gynnwys ymhlith fferyllwyr, nyrsys, a thimau adsefydlu.
- Y byrddau Iechyd i ymgorffori safonau hyfforddiant cardioleg o fewn y fframwaith i sicrhau bod darparu gwasanaethau yn diwallu anghenion y boblogaeth yn ogystal ag anghenion y meddygon a phroffesiynau eraill sy'n darparu gofal.
- Y byrddau Iechyd ar y cyd ag AaGIC i sicrhau darpariaeth genedlaethol Datblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n gysylltiedig â chymwyseddau iechyd cyhoeddus ar gyfer staff cardioleg, gan gynnwys cardiolegwyr o dan hyfforddiant yn ogystal ag ymgynghorwyr.
Canolbwyntio ar yr unigolyn
- Mae'r byrddau iechyd yn darparu dull cyd-gynhyrchu o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd ar ymchwiliadau diagnostig ac opsiynau triniaeth.
- Mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda chleifion a fforymau rhanddeiliaid a arweinir gan bartneriaid i ddysgu o brofiad cleifion i wella llwybrau gofal a modelau ar gyfer gwasanaethau cardioleg.
- Mae'r byrddau iechyd yn darparu mynediad cyfartal i adsefydlu cardiaidd cynhwysfawr, amlddisgyblaethol fel yr amlinellir yn y ddogfen Standards and Core Components gan y Gymdeithas Brydeinig Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd(BACPR).
- Mae'r byrddau iechyd yn darparu adsefydlu Methiant y Galon i'r rhai sy'n gymwys.
- Mae'r byrddau iechyd yn cydweithio drwy'r rhaglen genedlaethol Cymunedol o’r Cychwyn i ddarparu ymchwiliadau a gofal cardioleg priodol yn y gymuned.
Amserol
- Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cefnogi canlyniadau gwell ar gyfer pobl sydd ag ataliad y galon (neu anadlol) drwy gefnogi galwyr pan fyddant yn y fan a'r lle drwy ymdrin â galwadau brys a brysbennu'n effeithlon, CPR â chymorth anfonwr, darparu Cymorth Bywyd Uwch (ALS) cynnar a throsglwyddo di-dor i ofal ysbyty gyda chymorth y byrddau iechyd.
- Mae'r byrddau iechyd yn sicrhau bod mynediad at brofion diagnostig cardiaidd cleifion allanol yn cydymffurfio â'r targed cenedlaethol o 8 wythnos ac mae profion cardiaidd cleifion mewnol allweddol ar gael saith niwrnod yr wythnos ym mhob ysbyty acíwt, ac yn cael eu darparu gan weithlu ffisioleg gardiaidd cynaliadwy.
- Mae'r byrddau iechyd yn adolygu amseroedd aros cleifion allanol yn rheolaidd ac yn defnyddio'r Dangosfwrdd Cenedlaethol o Gydrannau Amseroedd Aros i nodi oedi y gellir ei osgoi yn y targed o 26 wythnos ar gyfer atgyfeirio at driniaeth ac adolygiad system.
Atodiad A: Manylebau gwasanaethau a llwybrau
Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn datblygu manylebau gwasanaeth neu lwybrau i gefnogi gwaith cynllunio byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.
Llwybr Methiant Acíwt y Galon (y manylion terfynol yn cael eu pennu ar hyn o bryd)
Y ddogfen Standards and Core Components gan y Gymdeithas Brydeinig Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd, 2023.
Cardiac-Rehabilitation-Consensus-of-Key-Terminology
