Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau ar y galon yn disodli'r cynllun darparu ar gyfer cyflyrau ar y galon. 

Cyflwyniad

Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn dal yn un o brif achosion afiechyd a marw cyn pryd yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am ryw 1 o bob 4 o'r holl farwolaethau a 29.5% o farwolaethau y gellir eu hosgoi (2023).

Am y 50 mlynedd diwethaf bu gostyngiad cyson yn y gyfradd marwolaethau o CVD, yn rhannol oherwydd cyflwyno triniaethau gwell a chydnabod a thrin ffactorau risg cardiofasgwlaidd.

Mae'r gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau o ddigwyddiadau acíwt fel trawiadau ar y galon wedi golygu bod mwy o bobl yn byw gyda chyflyrau'r galon a'r cylchrediad (amcangyfrif diweddaraf o 400,000 o bobl yng Nghymru), ac mae'r garfan hon o bobl yn debygol o gynyddu am fod y boblogaeth yn tyfu ac yn heneiddio. Er hynny, dros y degawd diwethaf mae'r gyfradd marwolaethau o CVD wedi aros yn wastad ac mae'r gyfradd marwolaethau cynamserol yng Nghymru yn gyson uwch nag yn Lloegr.

Mae angen dull amlasiantaeth o leihau baich sylweddol a chynyddol clefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru gyda ffocws clir ar atal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. O fewn GIG Cymru mae dull systematig o nodi a thrin ffactorau risg cardiofasgwlaidd hysbys megis pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, diabetes a gordewdra yn hanfodol. 

Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau cardiaidd yn unol â safonau clinigol a’r disgwyliadau cynllunio a nodir isod. Bydd Rhwydwaith Clefydau Cardiofasgwlaidd Strategol Perfformiad a Gwella'r GIG (NHSPI) yn gweithio gyda sefydliadau a phartneriaid y GIG i gyflawni camau galluogi cenedlaethol ar gyfer y gwelliannau gwasanaeth a ddisgrifir isod. 

Mesur Gofal Cardiaidd a Chanlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer un ar ddeg o archwiliadau clinigol a chofrestrfeydd cenedlaethol fel rhan o'r Rhaglen Archwilio Gardiaidd Genedlaethol (NCAP) sy'n cael ei rhedeg gan Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Canlyniadau Cardiofasgwlaidd (NICOR) i lywio darparwyr gofal iechyd a sefydliadau ymchwil. Mae gofyniad NICOR ar gyfer cyflwyno data yn newid i drefn fisol wrth i NCAP symud tuag at adroddiadau amlach i hwyluso dull gwella ansawdd.

Mae'r Rhaglen Archwilio Gardiaidd Genedlaethol (NCAP) yn hysbysu ysbytai a chomisiynwyr am ansawdd y gofal a ddarperir wrth ddarparu gwasanaethau cardiofasgwlaidd. A hithau yn cynnwys un ar ddeg o is-arbenigeddau (neu ‘barthau’) gwahanol, mae'r NCAP ar gyfer 2025 yn cynnwys gwybodaeth am ddarparu gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 neu, lle mae metrigau'n cwmpasu cyfnod o dair blynedd, o 2021 i 2022 i 2023 i 2024.

Darperir gwybodaeth i gefnogi gwella ansawdd clinigol gan y canlynol:

Mae tair cofrestrfa ymyrraeth strwythurol newydd ar gyfer y galon wedi'u cyflwyno dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid oes digon o achosion i ddarparu set lawn o allbynnau gwella ansawdd (QI), ond crynhoir y statws presennol yn:

Mae'r  Archwiliad Cenedlaethol Adsefydlu Cardiaidd (NACR) wedi'i alinio â'r NCAP, ac yn parhau i adrodd gydag amserlen ar wahân.

Disgwyliadau Cynllunio

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn datblygu manylebau gwasanaeth ar gyfer llwybrau cyflwr y galon fel sail i drafodaethau ynghylch atebolrwydd. Ychwanegir y rhain pan fyddant ar gael.

Teg

  1. Mae arweinwyr gweithredol byrddau iechyd, clinigol a gweithredol ar gyfer cardioleg yn cydweithio'n rheolaidd ar lefel genedlaethol trwy Rwydwaith Gweithredu Cardiaidd NHSPI i wella ansawdd a thegwch gwasanaethau cardiaidd a ddarperir yn lleol.
  2. Mae'r byrddau iechyd a NHSPI yn defnyddio data o'r Rhaglen Archwilio Gardiaidd Genedlaethol (NICOR), Atlas Amrywiadau Cardiofasgwlaidd (GIG Cymru), PROMs, adolygiad gan gymheiriaid a setiau data eraill sy'n gymaradwy yn genedlaethol i sbarduno cylchoedd gwella ansawdd yn safon y gofal ac i fynd i'r afael ag amrywiad diangen yn ansawdd a chanlyniadau gofal.
  3. Mae'r byrddau iechyd, gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn adolygu cynllunio'r gweithlu i sicrhau bod y gweithlu cardiaidd yn gallu darparu gwasanaethau cynaliadwy a theg, gyda ffocws penodol ar ffisioleg gardiaidd, nyrsio arbenigol, a darpariaeth gyflenwi i feddygon ymgynghorol.
  4. Mae NHSPI, gan weithio gyda'r Hwb Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg Iechyd Cymru, yn hwyluso gweithio mewn partneriaeth rhwng byrddau iechyd a diwydiant i nodi, profi a chyflwyno arloesedd mewn gofal cardiofasgwlaidd drwy raglenni cenedlaethol.

Diogel

  1. Mae'r byrddau iechyd, gan weithio gyda'r NHSPI a thrwy'r Cyd-bwyllgor Comisiynu, yn adolygu gwasanaethau cardiaidd arbenigol sydd â gweithgarwch annigonol i fodloni'r safonau clinigol gofynnol ac ystyried ail-gyflunio gwasanaethau.
  2. Mae NHSPI yn adolygu data archwilio clinigol a data am wasanaethau i nodi pryderon ansawdd a diogelwch sy'n ymwneud â gofal neu ganlyniadau cardiaidd, ac yn uwchgyfeirio'r materion hyn at y Bwrdd Ansawdd a Chyflawni i'w hystyried.
  3. Mae'r byrddau iechyd yn ystyried ac yn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion (NCEPOD) sy'n ymwneud â gofal cardiaidd.

Effeithiol

  1. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn ymgorffori llwybrau a manylebau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer gofal cardiaidd wrth gynllunio gwasanaethau lleol.
  2. Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn comisiynu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i weithredu cynllun ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty i gefnogi gwelliannau i berfformiad dychwelyd i gylchrediad naturiol a chyfraddau goroesi a hwylusir gan y rhaglen ‘Achub Bywyd Cymru’.
  3. Mae'r byrddau iechyd yn cydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar weithredu'r Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i Gymru.

Effeithlon

  1. Mae'r byrddau iechyd yn sicrhau bod cynllunio swyddi ym maes cardioleg yn cynnwys digon o amser ar gyfer brysbennu clinigol gwell yn achos atgyfeiriadau cleifion allanol.
  2. Mae'r byrddau iechyd yn cymhwyso'r Fframweithiau Optimeiddio cardioleg y cytunwyd arnynt drwy Fwrdd y Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd i wella mynediad cleifion at brofion diagnostig ac adolygiad clinigol priodol.
  3. Y byrddau iechyd i gymhwyso metrigau gwerth uchel y Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd ar gyfer methiant y galon i lywio gweithgarwch gwella ansawdd lleol.
  4. Mae'r byrddau iechyd, gan weithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), yn caffael ac yn defnyddio System PACS a Gwybodaeth Gardiaidd genedlaethol ledled Cymru i hwyluso mwy o integreiddio gofal a data safonol i gefnogi gwella gwasanaethau.
  5. Y byrddau iechyd i gefnogi mwy o ddefnydd o rolau ymarfer uwch a rolau rhagnodi anfeddygol mewn gwasanaethau cardiaidd, gan gynnwys ymhlith fferyllwyr, nyrsys, a thimau adsefydlu.
  6. Y byrddau Iechyd i ymgorffori safonau hyfforddiant cardioleg o fewn y fframwaith i sicrhau bod darparu gwasanaethau yn diwallu anghenion y boblogaeth yn ogystal ag anghenion y meddygon a phroffesiynau eraill sy'n darparu gofal.
  7. Y byrddau Iechyd ar y cyd ag AaGIC i sicrhau darpariaeth genedlaethol Datblygiad Proffesiynol Parhaus sy'n gysylltiedig â chymwyseddau iechyd cyhoeddus ar gyfer staff cardioleg, gan gynnwys cardiolegwyr o dan hyfforddiant yn ogystal ag ymgynghorwyr.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

  1. Mae'r byrddau iechyd yn darparu dull cyd-gynhyrchu o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd ar ymchwiliadau diagnostig ac opsiynau triniaeth.
  2. Mae'r byrddau iechyd yn gweithio gyda chleifion a fforymau rhanddeiliaid a arweinir gan bartneriaid i ddysgu o brofiad cleifion i wella llwybrau gofal a modelau ar gyfer gwasanaethau cardioleg.
  3. Mae'r byrddau iechyd yn darparu mynediad cyfartal i adsefydlu cardiaidd cynhwysfawr, amlddisgyblaethol fel yr amlinellir yn y ddogfen Standards and Core Components gan y Gymdeithas Brydeinig Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd(BACPR).
  4. Mae'r byrddau iechyd yn darparu adsefydlu Methiant y Galon i'r rhai sy'n gymwys.
  5. Mae'r byrddau iechyd yn cydweithio drwy'r rhaglen genedlaethol Cymunedol o’r Cychwyn i ddarparu ymchwiliadau a gofal cardioleg priodol yn y gymuned.

Amserol

  1. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cefnogi canlyniadau gwell ar gyfer pobl sydd ag ataliad y galon (neu anadlol) drwy gefnogi galwyr pan fyddant yn y fan a'r lle  drwy ymdrin â galwadau brys a brysbennu'n effeithlon, CPR â chymorth anfonwr, darparu Cymorth Bywyd Uwch (ALS) cynnar a throsglwyddo di-dor i ofal ysbyty gyda chymorth y byrddau iechyd.
  2. Mae'r byrddau iechyd yn sicrhau bod mynediad at brofion diagnostig cardiaidd cleifion allanol yn cydymffurfio â'r targed cenedlaethol o 8 wythnos ac mae profion cardiaidd cleifion mewnol allweddol ar gael saith niwrnod yr wythnos ym mhob ysbyty acíwt, ac yn cael eu darparu gan weithlu ffisioleg gardiaidd cynaliadwy.
  3. Mae'r byrddau iechyd yn adolygu amseroedd aros cleifion allanol yn rheolaidd ac yn defnyddio'r Dangosfwrdd Cenedlaethol o Gydrannau Amseroedd Aros i nodi oedi y gellir ei osgoi yn y targed o 26 wythnos ar gyfer atgyfeirio at driniaeth ac adolygiad system.

Atodiad A: Manylebau gwasanaethau a llwybrau

Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn datblygu manylebau gwasanaeth neu lwybrau i gefnogi gwaith cynllunio byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau.

Llwybr Methiant Acíwt y Galon (y manylion terfynol yn cael eu pennu ar hyn o bryd)

Y ddogfen Standards and Core Components gan y Gymdeithas Brydeinig Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd, 2023.

Cardiac-Rehabilitation-Consensus-of-Key-Terminology