Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Mehefin 2021.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar gynigion i ddiwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae hyn er mwyn adlewyrchu diwygiad sydd wedi’i wneud i Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 (O.S. 2020/1476). Mae'n peri oedi cyn sbarduno rheolau newydd, hyd at 22 Chwefror 2022 yn lle 22 Chwefror 2021.
Rydym yn ymgynghori ar gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth ddomestig er mwyn:
- adlewyrchu’r diwygiad i Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 (O.S. 2020/1476)
- diweddaru'r drefn orfodi ddomestig
