Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Ysgol Bro Lleu wedi bod ar daith i ddatblygu eu dysgu digidol, gan ddechrau gyda chyfrifiaduron cyn symud ymlaen i ddefnyddio iPads a Chromebooks.

Mae’r disgyblion wrth eu bodd a’r defnydd o dechnoleg yn eu dysgu am ei fod yn eu gwneud yn llawer mwy hyderus a brwdfrydig. Mae’r ysgol yn cydweithio’n glos a’i chymuned i rannu eu dysgu a’i sgiliau ac mae’n helpu rhieni i brynu dyfeisiadau i’w defnyddio yn y cartref. Mae rhieni wrth eu bodd a’r effaith bositif mae hyn yn ei gael ar hyder a brwdfrydedd eu plant.

Yn ddiweddar daeth yr ysgol yn un o Ganolfannau Hyfforddi Rhanbarthol Apple.