Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae Jon yn rhoi popeth i’w ysgol, mae’r disgyblion yn dod gyntaf ym mhopeth mae’n ei wneud. Mae ganddo gymeriad cynnes ac mae’n gallu creu amgylchedd diogel i bawb. Mae ganddo hefyd ddealltwriaeth drylwyr o’i gylch gwaith ac mae ei agwedd yn un gwbl broffesiynol.

Mae staff yn troi at Jon i glywed ei farn ar bopeth ac er ei fod yn eu cadw ar flaenau eu traed, pan fydd angen rhywbeth arnynt, ato ef y byddant yn troi am gymorth. Mae brwdfrydedd, ymrwymiad ac ymroddiad Jon yn gwbl amlwg i bawb.

Mae’n gallu troi ei law at bopeth ac yn gallu meistroli unrhyw beth, ac mae’n wirioneddol uchel ei barch yn yr ysgol ac yn y gymuned leol.