Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mae Anne yn cael y gorau allan o’i disgyblion trwy eu meithrin a’u cefnogi, gan roi sylw i’w gwendidau mewn ffordd sy’n hwyliog ond heb fod yn fygythiol. Mae Anne yn helpu a llythrennedd a rhifedd ac mae’n chwilio’n barhaus am ffyrdd i ehangu ei rol, gan drefnu sesiynau un i un ychwanegol.

Mae rhieni’n teimlo ei bod wedi mynd allan o’i ffordd i helpu eu plant. Ni allant bwysleisio digon y gwahaniaeth maent yn ei weld yn agweddau eu plant tuag at ddarllen a rhifedd a llythrennedd a sut mae Anne wedi gweithio’n ddiflino i gyflawni hyn.

Mae disgyblion Anne yn barod iawn i’w chanmol am ei help a’i chefnogaeth ac mae’n amlwg ei bod yn boblogaidd ymhlith yr holl ysgol.