Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar sut i ofyn y cwestiynau cywir ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae llunio cwestiynau da yn ei gwneud yn rhwydd i ddefnyddwyr ddarparu’r wybodaeth gywir a deall pam y mae angen iddynt ei darparu.

Gallwch ychwanegu testun cymorth a negeseuon gwall i’w harwain ar y trywydd iawn yn ôl yr angen.

Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pam eich bod yn gofyn pob cwestiwn.

Gofyn cwestiynau y mae defnyddwyr yn eu deall

Mae cwestiynau caeedig yn haws i’w hateb na chwestiynau penagored, yn enwedig o ran gwasanaethau’r llywodraeth lle mae gan y defnyddwyr ofn o gael eu dal allan yn aml iawn.

Dyma enghraifft o gwestiwn caeedig: ‘Ydych chi’n byw mewn mwy nag un cyfeiriad?’ Fersiwn penagored o’r cwestiwn hwn fyddai: ‘Dywedwch wrthym am eich trefniadau byw’.

Gall cyfres o gwestiynau syml fod yn haws i’w hateb nag un cwestiwn cymhleth, yn enwedig os nad yw rhannau o’r cwestiwn yn berthnasol i bob defnyddiwr.

Gadewch i ddefnyddwyr ateb ‘Ddim yn siŵr’ neu ‘Ddim yn gwybod’ os yw’r rhain yn atebion dilys.

Addaswch y cwestiwn i ganfod yr hyn sy’n gweithio

Os yw pobl yn cael anawsterau deall ffurflen, ystyriwch addasu’r cwestiwn neu newid y strwythur yn ogystal â’r iaith.

Er enghraifft, rhowch gynnig ar wyrdroi’r cwestiwn lle bydd gofyn i’r defnyddiwr ddweud ‘na’ yn hytrach na ‘ie’ (neu i’r gwrthwyneb). Weithiau, mae defnyddwyr yn rhagdybio beth yw’r ateb ‘cywir’.

Fel arall, rhowch gynnig ar ddefnyddio labeli mwy disgrifiadol fel botymau dewis neu flychau ticio.

Os oes rhai botymau dewis neu flychau ticio wedi’u geirio’n wahanol i eraill, mae’n bosibl y bydd yn haws i’r darllenydd eu darllen os byddwch yn rhoi ‘neu’ rhwng yr opsiynau sy’n wahanol.

Ychwanegu testun cymorth lle bo angen

Weithiau mae’n ddefnyddiol darparu testun cymorth i egluro pethau gan gynnwys:

  • jargon cyfreithiol
  • lle i ddod o hyd i wybodaeth gudd
  • ym mha fformat y dylid darparu’r wybodaeth
  • yr hyn fyddwch chi’n ei wneud â gwybodaeth bersonol defnyddiwr
  • canlyniadau gwneud un dewis dros un arall

Gwnewch hyn yn unig os yw ymchwil yn dangos bod angen yr wybodaeth hon ar ddefnyddwyr.

Sut i ychwanegu testun cymorth

Opsiynau testun cymorth:

  • Patrwm ‘mewnbynnu disgrifiad’ – ar gyfer testun awgrym a ddaw yn syth cyn y meysydd mewnbynnu ar gyfer y cwestiwn hwnnw
  • Patrwm ‘mewnbynnu enghraifft’ – ar gyfer testun awgrym ynghylch fformat yr ateb, a ddaw yn syth cyn y meysydd mewnbynnu ar gyfer y cwestiwn hwnnw
  • Patrwm ‘helpu’ – ar gyfer testun cymorth sy’n ymestyn, a ddaw yn syth cyn neu ar ôl y meysydd mewnbynnu ar gyfer y cwestiwn hwnnw

Mae’r enghraifft hwn, sef Dysgwch ragor am sut mae'r cyfraddau treth incwm Cymru a delir gennych yn cael eu gwario yng Nghymru yn dangos y 3 patrwm.

O dro i dro, mae’n bosibl y bydd angen i chi ychwanegu testun manylach i helpu defnyddwyr ddod i benderfyniadau anodd.

Cofiwch nad yw’r defnyddwyr yn debygol o ddarllen testun sydd dros 3 llinell o hyd, felly ceisiwch gadw unrhyw destun yn fras ac yn weithredol.

Peidiwch â defnyddio testun cymorth i egluro’r rhyngwyneb. Os oes angen i chi wneud hynny, mae’n rhy gymhleth.

Helpu defnyddwyr i roi’r wybodaeth gywir i chi

Gwnewch hynny a allwch i helpu defnyddwyr osgoi rhoi ateb gwallus a chael neges wall. Ewch ati i lunio eich cam dilysu fel ei fod yn gallu ymdopi â gwybodaeth yn cael ei mewnbynnu mewn ffyrdd gwahanol.

Felly, er enghraifft, os ydych yn gofyn am rif Yswiriant Gwladol y defnyddiwr, dylai’r maes mewnbynnu dderbyn y rhif gyda bylchau a heb fylchau. Felly un ai ‘QQ123456C’ neu ‘QQ 12 34 56 C’ a’i fod yn cael gwared ar y bylchau cyn iddo wthio’r rhif i’r gweinydd cefn.

Mae’n debygol y bydd angen i chi greu sawl neges wall ar gyfer pob maes fel eu bod mor benodol ar gyfer y broblem â phosibl. Canolbwyntiwch ar ddweud wrth y defnyddiwr sut i ddatrys y broblem yn hytrach na disgrifio’r gwall.