Neidio i'r prif gynnwy

Sut i strwythuro ffurflenni ar-lein ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dylunio eich ffurflenni ar gyfer y fformat y byddant yn ymddangos

Mae gan ffurflenni papur a digidol wahanol gryfderau a gwendidau. Dylech gymryd gofal a sylw dyledus wrth ddylunio ar gyfer y ddau fformat.

Mae symud o bapur i ddigidol yn gyfle i drawsnewid sut caiff eich gwasanaeth ei darparu. Ni ddylech roi eich ffurflenni papur ar-lein.

Gwybod pam yr ydych yn gofyn pob cwestiwn

Cyn i chi ddechrau, gwenwch restr o'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch gan eich defnyddwyr.

Dylech ond ychwanegu cwestiwn os ydych yn gwybod:

  • bod angen y wybodaeth arnoch i ddarparu'r gwasanaeth
  • pam fod angen y wybodaeth arnoch
  • beth fyddwch yn gwneud gyda'r wybodaeth
  • pa ddefnyddwyr sydd angen rhoi'r wybodaeth i chi
  • sut fyddwch chi'n gwirio fod y wybodaeth yn gywir
  • sut i gadw'r wybodaeth yn gyfoes a diogel

Gelwir y rhestr yn 'protocol cwestiynau', mae'n wahanol i'r ffurflen ei hunan gan ei fod ynghylch sut y byddwch yn defnyddio'r atebion.

Mae protocol cwestiynau yn eich gorfodi chi (a'ch sefydliad) i gwestiynu pam yr ydych yn gofyn am bob darn o wybodaeth gan eich defnyddwyr. Mae'n rhoi ffordd i chi o herio a gwthio yn ôl yn erbyn cwestiynau diangen os oes angen i chi wneud.

Unwaith i chi benderfynu beth sydd angen i chi ofyn, gallwch feddwl am sut i ofyn y cwestiynau.

Dylunio ar gyfer y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin yn gyntaf

Unwaith i chi benderfynu ar brotocol cwestiynau, gallwch ddechrau penderfynu sut i drefnu eich cwestiynau.

Dechreuwch gyda'r cwestiynau fydd yn gadael i ddefnyddwyr wybod os ydynt yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth, i osgoi gwastraffu amser pobl.

Defnyddiwch gwestiynau canghennog fel bod pobl ond yn ateb cwestiynau sy'n berthnasol iddynt.

Mae angen i chi benderfynu pa grwp o ddefnyddwyr i'w blaenoriaethu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod maint cymharol eich gwahanol grwpiau defnyddwyr, a sut fydd eich penderfyniadau yn effeithio arnynt.

Dechrau gydag un peth i bob tudalen

Dechreuwch drwy rannu'r ffurflen ar draws nifer o dudalennau gydag un peth yn unig ar bob tudalen, er enghraifft:

  • un darn o wybodaeth ar gyfer y defnyddiwr
  • un penderfyniad sy'n rhaid iddynt wneud
  • un cwestiwn sy'n rhaid iddynt ei ateb

Bydd ymchwil defnyddwyr yn dweud wrthych pryd y gallwch gyfuno tudalennau.

Mae cychwyn gydag un peth ar dudalen yn helpu pobl i:

  • ddeall beth yr ydych yn gofyn iddynt wneud
  • canolbwyntio ar gwestiwn penodol a'i ateb
  • llywio drwy broses anghyfarwydd
  • defnyddio'r gwasanaeth ar ddyfais symudol
  • adfer yn hawdd o wallau ar y ffurflen

Mae hefyd yn eich helpu i:

  • arbed atebion defnyddiwr yn awtomatig wrth iddynt fynd yn eu blaenau
  • gipio analyteg ynghylch pob cwestiwn
  • delio gyda chwestiynau canghennog a chylchoedd

Strwythuro eich ffurflen i helpu defnyddwyr

Nid yw gofyn cwestiwn o reidrwydd yn golygu y dylech ddefnyddio un maes ffurflen yn unig. Er enghraifft, caiff dyddiad geni ei gipio orau gyda 3 maes testun.

Ar gyfer teitlau tudalennau, gallwch ddefnyddio cwestiwn neu ddatganiad. Er enghraifft, 'Beth yw eich dyddiad geni?' neu 'Dyddiad geni'.

Defnyddiwch gwestiynau neu ddatganiadau'n gyson i helpu defnyddwyr fynd i rythm o ateb. Mae hyn yn gadael iddynt ganolbwyntio ar gynnwys y cwestiynau yn hytrach na sut y cânt eu cyflwyno.

Mwy o wybodaeth