Map Rhanbarthau TB Cymru yn dangos plwyfi, unedau gofodol ac Ardaloedd TB ledled Cymru a gynhelir ar Fap Data Cymru.
Cynnwys
Gwnaethom sefydlu’r rhaglen dileu TB, gyda nod hirdymor o ddileu TB mewn gwartheg. Ers 1 Hydref 2017, mae Ardaloedd TB wedi dangos statws y clefyd ar draws daliadau mewn ardal ddiffiniedig. Mae'r ardaloedd Isel, Canolradd ac Uchel yn gyfuniad o unedau gofodol, sy'n cynnwys plwyfi. Mae'r unedau gofodol yn cyd-fynd â'r system CPH ac mae pob un yn cynnwys nifer debyg o fuchesi. Nid yw newidiadau i ffiniau awdurdodau lleol yn effeithio ar y dull hwn. Mae’n hyblyg hefyd i gyd-fynd â sefyllfa'r clefyd. Byddwn yn olrhain sefyllfa’r clefyd yn yr ardaloedd, ac yn adolygu'r unedau gofodol yn rheolaidd.
Mae'r map hwn yn dangos ffiniau cyfredol yr Ardal Digwyddiad TB ar 1 Tachwedd 2021. Ar 1 Tachwedd 2021 cafodd unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 eu hailddosbarthu dros dro fel rhan o'r Ardal TB Ganolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel. Mae hyn yn wahanol i fapiau a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwn. Mae hefyd yn wahanol i'r dangosfwrdd diweddaraf (Ch2 2021) a gyhoeddwyd gyda data hyd at 30 Mehefin 2021. Bydd dangosfwrdd Ch4 2021 yn cynnwys ailddosbarthu'r unedau gofodol hyn. Bydd hefyd yn cynnwys y data ar gyfer y cyfnod o 1 Tachwedd 2021 pan gafodd yr unedau gofodol eu hailddosbarthu.
Map Rhanbarthau TB Cymru
Canllawiau
Ar ôl clicio ar Dangos yn y syllwr mapiau ar dudalen gwefan Map Data Cymru - Rhanbarthau TB Cymru:
- Ar ochr chwith y map, cliciwch eicon y ffolder i agor y grŵp o haenau map
- Dewiswch neu ddad-ddewiswch haen map drwy glicio ar eicon y llygad i ddangos naill ai plwyfi, unedau gofodol, Ardaloedd TB neu gyfuniad o'r rhain
- Cliciwch yr arwydd mwy na (>) ar gyfer yr haen map i ddangos yr allwedd ar gyfer yr haen honno
- Cliciwch a sgroliwch y bar llorweddol gyda chanran o dan yr allwedd i newid lefel tryloywder yr haen map
- Os dewisir sawl haen map gallwch newid y drefn drwy lusgo a gollwng haenau ar ben ei gilydd yn y bar offer ar ochr chwith y map
- Chwyddwch mewn i ddangos y labeli ar gyfer yr haen map a ddewiswyd
