Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso a chyflwyniadau

Cytunwyd ar nodiadau a chamau gweithredu y cyfarfod diwethaf.

2. Arferion da o ran rheoli risg – Cymdeithas Yswirwyr Prydain

Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain ar reoli risg ac arferion da.

3. Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd – cyflwyniad ar weithgarwch gorfodi

Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar Weithgarwch Gorfodi o ran COVID-19 yng Nghymru. Cafwyd trafodaeth ar sut y gallai rhai aelodau gefnogi gwaith gorfodi a chyfathrebu a hyrwyddo mesurau ataliol.

4. Adborth gan y Gweithgor

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ddiweddariad cryno ar y trafodaethau yng nghyfarfod Gweithgor y Fforwm a fu’n ystyried risgiau Covid i weithwyr asiantaeth ac yn y sector prosesu bwyd.

5. Ffocws y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod

Cytunodd y Fforwm i gyfarfod eto ym mis Rhagfyr a gofynnwyd am gael rhoi adroddiad diweddar y Resolution Foundation ‘Enforcing workplace health and safety in the age of Covid-19’ ar agenda'r cyfarfod nesaf.