Mae hwn yn gosod ystod a lefel uchaf y lwfansau sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.
Dogfennau
Adroddiad blynyddol drafft 2022 i 2023 , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 455 KB
DOCX
455 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
O dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol 2011, mae’n ofynnol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddarparu adroddiad drafft i:
- Weinidogion Cymru
- awdurdodau perthnasol y mae’r Panel yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau i’w haelodau mewn perthynas â materion perthnasol neu’n eu hawdurdodi i wneud hynny; ac
- unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn nhyb y Panel.
A:
- chymryd i ystyriaeth y sylwadau a ddaw i law ynglŷn â’r drafft.
Er mwyn bodloni’r gofyniad yn y Mesur i gyhoeddi’r adroddiad blynyddol erbyn 28 Chwefror 2022, dylai sylwadau ddod i law erbyn 26 Tachwedd 2021.
Gallwch fynegi’ch barn drwy’r cyfeiriad e-bost irpmailbox@llyw.cymru.
