Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith ymchwil hwn yn gwerthuso sut caiff y safonau proffesiynol eu gweithredu, eu heffeithiolrwydd a’r effeithiau a ragwelir, ynghyd â’u gallu i gefnogi datblygiad gweithlu medrus.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad blwyddyn 1 y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu.

Roedd y gwaith ymchwil hwn yn cynnwys cyfweld â rhanddeiliaid allweddol, ac ymchwilio i ddata a gasglwyd drwy’r pasbort dysgu proffesiynol, yn ogystal â chyfweld ag ymarferwyr ar draws 20 o ysgolion yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r data a’r gwaith maes, gan amlinellu sut y defnyddiwyd y safonau, y gefnogaeth i ddefnyddio’r safonau, ac effeithiau tybiedig y safonau ynghyd â’r effeithiau a ragwelir.

Cyswllt

Cangen ymchwil ysgolion

Rhif ffôn: 0300 025 6812

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.