Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil i werthuso'r Isafbris am Alcohol a gyflwynwyd yng Nghymru ar 2 Mawrth 2020.

Mae'r ymchwil yn ystyried lefel ymwybyddiaeth manwerthwyr o'r polisi a'r effeithiau disgwyliedig, yn eu barn nhw. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys cynllun dadansoddi meintiol sy'n manylu ar y dulliau i'w defnyddio i werthuso effaith yr isafbris am alcohol ar fanwerthwyr.

Methodoleg

Cynhaliwyd cyfweliadau ansoddol â 30 o fanwerthwyr o bob un o'r pum rhanbarth yng Nghymru. Roedd y sampl yn cynnwys siopau annibynnol a siopau cadwyn, manwerthwyr mawr a bach, a chyfuniad o fathau o drwyddedau alcohol (mewnfasnach, allfasnach a'r ddwy). Cafodd cyfranogwyr eu recriwtio o restr fasnachol o 2,362 o fanwerthwyr alcohol cofrestredig.

Cyfwelwyd â pherchenogion neu reolwyr siopau â chyfrifoldeb am roi'r isafbris am alcohol ar waith. Cynhaliwyd y cyfweliadau rhwng mis Medi 2019 a mis Chwefror 2020.

Cafodd y dulliau methodolegol a gyflwynir yn y cynllun dadansoddi meintiol eu llywio gan y profion ystadegol a gynhaliwyd gyda'r data llinell sylfaen ar brynu alcohol (Kantar) a gwerthiannau (Y Bartneriaeth Data Manwerthu (TRDP)). Roedd y data llinell sylfaen a oedd ar gael ar brynu alcohol yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Mawrth 2015 a mis Chwefror 2020; roedd y data llinell sylfaen ar werthiannau yn cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Medi 2019 a mis Chwefror 2020.

Cyfweliadau â manwerthwyr: canfyddiadau

Ymwybyddiaeth

Ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at bob manwerthwr alcohol ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2019, gan amgáu taflen ar y newid arfaethedig yn y gyfraith a phoster gwybodaeth i'w arddangos wrth y man gwerthu. Darparwyd gwybodaeth ymyl silff a mathau eraill o wybodaeth arddangos i esbonio'r newid mewn polisi mewn siopau diodydd trwyddedig ac archfarchnadoedd. Yna, gwnaed gwaith codi ymwybyddiaeth gyda'r wasg fasnach a chyrff masnach, a chynhaliwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar drolïau archfarchnadoedd, hysbysebion ar y radio a hysbysebion digidol, a ategwyd gan weithgarwch cysylltiadau cyhoeddus a gweithgarwch yn y cyfryngau. Gwnaed rhywfaint o waith cyfathrebu ac ymgysylltu ychwanegol, dan arweiniad Alcohol Change UK Cymru, ochr yn ochr â'r ymgyrch genedlaethol. Hefyd, cyhoeddwyd y canllawiau i fanwerthwyr ac awdurdodau lleol ar roi'r isafbris ar waith yng Nghymru ar 15 Ionawr 2020.

Roedd ymwybyddiaeth o'r polisi ymhlith manwerthwyr yn amrywio, gan gynnwys ymhlith y rhai y cyfwelwyd â nhw pan oedd ymgyrch gyhoeddusrwydd Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi;  nid oedd gan rai fawr ddim ymwybyddiaeth, os o gwbl, o'r polisi, ond roedd eraill yn fwy ymwybodol ohono. Ymhlith y gwahanol lefelau o ymwybyddiaeth, roedd bylchau mewn gwybodaeth yn cynnwys y dyddiad gweithredu, sut y cyfrifwyd yr isafbris am alcohol ac a yw'r polisi yn gymwys i gyfanwerthwyr.  

Roedd y rhai a oedd yn meddu ar y lefel uchaf o ymwybyddiaeth o'r polisi yn dueddol o fod wedi cael gwybodaeth o sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, prif swyddfeydd (manwerthwyr cadwyn) neu gyrff yn y diwydiant (siopau annibynnol).  Ymhlith y rhai nad oedd ganddynt fawr ddim ymwybyddiaeth, os o gwbl, roedd manwerthwyr mewnfasnach a siopau annibynnol nad oeddent, yn ôl pob golwg, wedi cael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru ac na allent ddibynnu ar brif swyddfa.

Nid oedd rhai manwerthwyr wedi mynd ati'n rhagweithiol i geisio gwybodaeth naill ai oherwydd y cyfwelwyd â nhw yn hydref 2019 a'u bod yn teimlo nad oedd angen iddynt wneud hynny am fod y dyddiad gweithredu yn rhy bell i ffwrdd neu eu bod wedi cymryd yn ganiataol y byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon atynt maes o law; neu am eu bod yn credu bod eu prisiau eisoes yn uwch na'r isafbris am alcohol.  

Camau a gymerwyd i baratoi

Roedd manwerthwyr cadwyn yn dueddol o fod wedi paratoi ar gyfer rhoi'r isafbris am alcohol ar waith, ar ôl cael canllawiau a hyfforddiant gan eu prif swyddfeydd. Hefyd, roedd yn gyffredin bod manwerthwyr (cadwyni a rhai annibynnol) y cyfwelwyd â nhw yn ystod y mis cyn i'r isafbris gael ei roi ar waith, wedi paratoi. 

Ymhlith y rhai a oedd wedi paratoi, roedd y camau gweithredu arfaethedig yn cynnwys gwirio prisiau yn erbyn yr isafbris am alcohol, hyfforddi staff, tynnu sylw cwsmeriaid at y polisi, ac addasu stoc er mwyn cynnwys mwy o gynhyrchion o ansawdd uchel gan ddisgwyl y byddai'r rhain yn gwerthu'n well ar ôl i'r isafbris gael ei roi ar waith.    

Rhoddodd manwerthwyr nad oeddent wedi paratoi wahanol resymau dros hyn. Ymhlith y rhai y cyfwelwyd â nhw sawl mis cyn y dyddiad gweithredu, roedd y rhesymau yn ymwneud â diffyg ymwybyddiaeth, heb fod yn drefnus neu heb roi blaenoriaeth i baratoadau. Fodd bynnag, roedd rhesymau eraill a nodwyd gan fanwerthwyr, diffyg gwybodaeth a'r gred nad oedd yr isafbris am alcohol yn gymwys iddynt am fod y prisiau a godwyd ganddynt eisoes yn uwch na'r isafbris gofynnol am alcohol, yn parhau i fod yn rhwystrau yn agosach i'r dyddiad gweithredu. 

Roedd manwerthwyr annibynnol, na allent ddibynnu ar gael cymorth gan brif swyddfa, am gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylent ei wneud i baratoi, naill ai am nad oeddent wedi cael[1] gwybodaeth neu am nad oeddent wedi darllen yr wybodaeth a anfonodd Llywodraeth Cymru at bob manwerthwr.

[1] Cyfwelwyd â rhai o'r manwerthwyr hyn cyn i Lywodraeth Cymru anfon gwybodaeth at fanwerthwyr ond cyfwelwyd ag eraill ar ôl hynny, a nodwyd nad oeddent wedi cael yr wybodaeth.

Effeithiau disgwyliedig

Ymhlith y manwerthwyr a oedd yn rhagweld sut y byddai'r isafbris am alcohol yn effeithio ar eu sefyllfa ariannol, roedd rhai yn disgwyl y byddent ar eu hennill drwy fwy o gystadleuaeth, ond roedd eraill yn rhagweld risg (y gellid ei rheoli) o werthiannau is.

Roedd cyfranogwyr yn disgwyl mai manwerthwyr sy'n agos i'r ffin â Lloegr, a'r rhai sy'n gwerthu alcohol pris isel, fyddai'n wynebu'r effaith fwyaf negyddol. Fodd bynnag, roeddent yn teimlo na fyddai llawer o effaith ac na fyddai unrhyw ostyngiadau mewn gwerthiannau yn parhau'n hir, a hynny am eu bod yn credu bod prisiau'r rhan fwyaf o'r alcohol eisoes yn uwch na'r isafbris am alcohol; gallai unrhyw fanwerthwyr yr effeithid arnynt gyflwyno mesurau gwrthbwyso. Cymysg oedd y farn ynghylch a fyddai'r isafbris am alcohol yn effeithio ar y gystadleuaeth rhwng manwerthwyr a'r archfarchnadoedd mawr; mynegwyd y farn y gallai sicrhau mwy o degwch rhwng manwerthwyr mawr a bach.

Roedd manwerthwyr yn teimlo y gallai'r polisi arwain at ostyngiad yn y defnydd niweidiol o alcohol, ond codwyd amheuon ynghylch a oedd yr isafbris am alcohol y cytunwyd arno yn ddigon uchel i fod yn fesur ataliol. Roedd rhai yn dyfalu y byddai pobl ar incwm isel sy'n dibynnu ar alcohol yn parhau i brynu alcohol sut bynnag, a fyddai'n golygu y byddai ganddynt lai o arian i brynu eitemau hanfodol, neu y byddent yn troi at ddwyn o siop neu ddefnyddio cyffuriau i fwydo eu caethiwed.

Argymhellion ar gyfer cyfresi o gyfweliadau yn y dyfodol

Nod y cam hwn o'r ymchwil oedd ceisio barn manwerthwyr am yr isafbris am alcohol cyn iddo ddod i rym. Bydd camau yn y dyfodol yn cofnodi profiadau manwerthwyr o'r polisi ar ôl iddo ddod i rym. Gallai cyfweliadau yn y dyfodol ystyried: a oedd bylchau mewn gwybodaeth o hyd; unrhyw gymorth a gafodd manwerthwyr annibynnol; canfyddiadau o effaith yr isafbris am alcohol ar arferion busnes a'r farchnad; profiadau manwerthwyr o gystadleuaeth ar lefel leol; ac a fyddai safbwyntiau ynghylch y polisi yn datblygu, a sut.

Cynllun dadansoddi meintiol

Daeth y cynllun dadansoddi meintiol i'r casgliad mai cyfres amser fylchog reoledig (CITS) yw'r dull mwyaf addas o asesu effaith yr isafbris am alcohol ar fanwerthwyr. Dull gwerthuso lled-arbrofol yw cyfres amser fylchog (ITS), sy'n defnyddio data cyn ac ar ôl ymyrraeth i fesur effeithiau'r ‘ymyriad’ (yn yr achos hwn, cyflwyno'r isafbris am alcohol yng Nghymru ym mis Mawrth 2020) mewn ffordd gadarn. Math o ITS yw CITS sy'n defnyddio cyfres amser cymharu i atgyfnerthu'r amcangyfrifon o effaith. Ar gyfer data ar brynu alcohol (Kantar) a gwerthiannau (TRDP), rydym yn cynnig y dylid defnyddio data Lloegr fel cymhariaeth i Gymru.

Ar gyfer data ar brynu alcohol, argymhellir y dylid defnyddio CITS i astudio effeithiau'r isafbris am alcohol ar y pris cyfartalog fesul litr o alcohol, y gwariant cymedrig ar alcohol a chyfaint cymedrig yr alcohol a brynwyd yng Nghymru. Bwriedir cynnal modelau atchwel llinol lle y byddai'r newidynnau dibynnol yn cael eu pennu fel gwahaniaethau yng ngwerthoedd misol y mesurau canlyniadau rhwng Lloegr a Chymru (O’Donnell et al., 2019). Cynigir y dylid defnyddio'r un dull i ddadansoddi data ar werthiannau alcohol, gan ganolbwyntio ar werthiannau alcohol cyfartalog, gwerthiannau alcohol fel canran o gyfanswm y gwerthiannau, nifer cyfartalog y trafodiadau alcohol a thrafodiadau alcohol fel canran o gyfanswm y trafodiadau.

Manylion cyswllt

Awduron: Vainius Bartasevicius, Alison Beck, Maria David, Emma Forsyth, Nilufer Rahim, Rebecca Steinbach

Barn yr ymchwilydd a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Janine Hale
E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 79/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-148-9

Image
GSR logo