Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i effaith cyflwyno isafbris am alcohol ar fanwerthwyr.

Mae'r adroddiad hwn yn rhan o'r gwerthusiad o'r isafbris am alcohol yng Nghymru. Mae'n cyflwyno'r gyfres gyntaf o ganfyddiadau o ymchwil ansoddol hydredol gyda manwerthwyr alcohol yng Nghymru a wnaed cyn i'r isafbris am alcohol gael ei gyflwyno yng Nghymru. Drwy ddefnyddio dull ansoddol, mae'n ystyried dealltwriaeth manwerthwyr o'r polisi ar isafbris a'u safbwyntiau yn ei gylch cyn iddo gael ei gyflwyno, ynghyd â'u disgwyliadau o ran effeithiau'r polisi. Bydd dau gam arall o gyfweliadau â manwerthwyr yn dilyn yr ymchwil llinell sylfaen hon.

Bydd y cam nesaf yn ystyried profiadau ac effeithiau canfyddedig yr isafbris uned ar ôl i'r polisi ddod i rym. Bydd y trydydd cam, a'r cam olaf, yn ystyried effeithiau yn y tymor hwy. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys cynllun dadansoddi meintiol sy'n manylu ar y dulliau i'w defnyddio i werthuso effaith yr isafbris am alcohol ar fanwerthwyr.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.