Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r WPPN hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

1. Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth a amlinellir yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol ac ni fwriedir iddi fod yn gynhwysfawr – dylai partïon contractio geisio eu cyngor annibynnol eu hunain fel y bo hynny'n briodol. Nodwch hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson a dylid ceisio cyngor mewn perthynas â phob achos unigol. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Tachwedd 2021.
  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn yn adeiladu ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 nad yw Offeryn Statudol (OS) y DU Rhif 1319 – Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020, sy'n weithredol o 1 Ionawr, yn effeithio arnynt, ac mae'n cyd-fynd â'r Datganiad a'r Rheoliadau hynny. Mae'r OS yn cywiro diffygion sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r UE ac yn gweithredu'r agweddau perthnasol ar Gytundeb Ymadael y DU/UE.
  • Felly, mae'r nodyn yn cymryd lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus yn ganiataol. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a dylid anfon unrhyw ymholiadau at CommercialPolicy@llyw.cymru neu drwy bwynt cyswllt cyntaf gwasanaethau cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

2. Pwrpas

Diben y Nodyn Polisi hwn yw rhoi cyngor i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru ar y camau y gellir eu cymryd mewn perthynas â CO2e – Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr Cwmpas 3, gan ganolbwyntio'n benodol ar nwyddau a gwasanaethau a brynir. Mae hyn yn cefnogi taith y DU i fod yn garbon niwtral erbyn 2050 ac, yn fwy penodol, uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030. Bwriedir i'r Nodyn Polisi ategu a chael ei ddarllen ar y cyd â Chanllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-net (Llywodraeth Cymru, 2021), Statws carbon Sero-net erbyn 2030: Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru (Llywodraeth Cymru Gorffennaf 2021) a WPPN 06/21: Datgarboneiddio drwy gaffael – Ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon (Llywodraeth Cymru Medi 2021).

Nodi

Mae CO2e (Cywerthedd carbon deuocsid) yn derm ar gyfer disgrifio gwahanol nwyon tŷ gwydr mewn uned gyffredin. Ar gyfer unrhyw faint a math o nwyon tŷ gwydr, mae CO2e yn dynodi faint o CO2 a fyddai'n cael yr un effaith o ran cynhesu byd-eang posibl.

3. Y Cefndir

3.1 Protocol Nwyon Tŷ Gwydr – Ffynonellau Allyriadau Cwmpasau 1, 2 a 3

Er bod gan gaffael rôl i'w chwarae yn y gwaith o leihau elfennau o allyriadau Cwmpasau 1, 2 a 3 y mae gan y sefydliad lefel o ddylanwad uniongyrchol arnynt (er enghraifft, allyriadau sy'n deillio o'u hystad eu hunain / eu gweithrediadau mewnol eu hunain – gweithwyr yn cymudo / teithiau busnes), mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn yn canolbwyntio ar yr elfen nwyddau a gwasanaethau a brynir o dan Gwmpas 3.

Scope 1 Scope 2 Scope 3
Fuel combustion
Company vehicles
Fugitive emissions
Purchased electricity, heat and steam *Purchased goods and services*
Business travel
Employee commuting
Waste disposal
Use of sold products
Transportation and distribution (up- and downstream)
Investments
Leased assets and franchises

Ffynhonnell: yr Ymddiriedolaeth Garbon Papur Briffio'r Ymddiriedolaeth Garbon: What are Scope 3 emissions?

Mae pwysigrwydd mynd i'r afael â'r elfen nwyddau a gwasanaethau a brynir yng Nghwmpas 3 yn cael ei gefnogi gan ymchwil sy'n dangos y gall y rhain gyfrif am tua 60% o gyfanswm ôl troed CO2e sefydliadau (59% yn ôl Prosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru 2017; 62% yn ôl y Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru 2021–2030, Mawrth, 2021; 58% yn ôl Cyngor Sir Ddinbych yn 2019/20). Yr her benodol mewn perthynas ag allyriadau Cwmpas 3 sy'n deillio o weithgareddau yn y gadwyn gyflenwi yw, er eu bod yn deillio o angen y sefydliad am nwyddau, gwasanaethau neu waith, maent yn deillio o weithgareddau yn y gadwyn gyflenwi nad yw sefydliadau yn berchen arnynt nac yn eu rheol yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gall y gweithgareddau hynny yn y gadwyn gyflenwi gael eu dylanwadu gan brosesau caffael y sefydliad sy'n prynu (strategaethau caffael – sut rydym yn ymdrin â'r farchnad; sut rydym yn pennu gofynion, gwerthuso tendrau a gosod dangosyddion perfformiad allweddol), drwy sicrhau bod y canlyniadau a ragwelir yn cael eu cyflawni drwy ein cysylltiadau rheoli contractau, yn ogystal â thrwy fynd yn gam ymhellach drwy roi gymhellion i annog arloesi / gwelliant parhaus drwy gyfnod y contract.

Mae ystyried Nwyddau a Gwasanaethau a Brynir yn cynnwys yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â chefnogi'r gwaith o weithgynhyrchu a darparu nwyddau a gwasanaethau a brynir. Mae hyn yn cynnwys Gwaredu Gwastraff (Diwedd Defnydd/ Diwedd Oes i lawr y gadwyn gyflenwi) a gwastraff sy'n deillio o swyddogaethau ystadau, sy'n rhan o drefniadau cytundebol Rheoli Cyfleusterau y gellir eu rheoli drwy'r broses gaffael. Er enghraifft:

  • Trefnu contractau gyda busnesau’n unol ag egwyddorion Economi Gylchol (e.e. eco-ddylunio, dylunio ar gyfer dadgydosod).
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weithgynhyrchwyr neu Gyflenwyr Cyfarpar Gwreiddiol dderbyn cynhyrchion a/neu ddeunyddiau pacio a roddir yn ôl iddynt, neu ddefnyddio’r rhai sy’n gwneud hynny.
  • Cynnwys gofynion gwaredu gwastraff mewn contractau neu wneud contractau ar wahân ar gyfer gwaredu gwastraff sy'n ei gwneud yn ofynnol didoli gwastraff er mwyn lleihau gwastraff gweddilliol 'nad oes modd ei ailgylchu', a chreu ffrydiau refeniw ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu mewn marchnadoedd ailgylchu.

Mae’n fwy priodoli’r ffynonellau allyriadau Cwmpas 3 canlynol (a restrir yn Ffigur 1) gael eu rheoli gan bolisïau sefydliad ei hun ac felly maent y tu allan i gwmpas y Nodyn Polisi hwn:

Teithio at ddibenion busnes

A reolir gan bolisïau adnoddau dynol e.e:

  • cyfarfodydd ar-lein fel yr opsiwn diofyn
  • lle ystyrir bod teithio at ddibenion busnes yn angenrheidiol – Polisi Teithio a Chynhaliaeth sy'n cynnwys 'teithio fflyd lwyd', sef cyflogeion yn defnyddio eu cerbydau eu hunain at ddibenion busnes
  • polisi llogi cerbydau lle mae'n rhaid i gyflogeion ddefnyddio contract/fframwaith llogi ceir sy'n cyflenwi cerbydau allyriadau isel iawn/trydan yn unig, ar gyfer milltiredd dros drothwy penodol
  • polisi teithio ar drenau a hedfan sy'n nodi meini prawf ar gyfer pryd y dylid defnyddio trenau a hedfan.

Gweithwyr yn Cymudo

A reolir gan bolisïau adnoddau dynol e.e:

  • gweithio gartref fel yr opsiwn diofyn
  • cyfyngu ar barcio 'ar y safle'
  • talu treuliau teithio a chynhaliaeth ar gyfer parcio ceir 'oddi ar y safle’.

Defnyddio cynhyrchion a werthir (cynhyrchion sy'n cael eu gweithgynhyrchu neu eu manwerthu gan y sefydliad)

- nid yw'r rhain yn berthnasol yng nghyd-destun sefydliadau'r sector cyhoeddus gan nad yw sector cyhoeddus Cymru yn gweithgynhyrchu nac yn cynhyrchu nwyddau/cynhyrchion i'w gwerthu, ac eithrio Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW).

Cludo a dosbarthu 'cynhyrchion a werthir' i fyny ac i lawr y gadwyn gyflenwi

- nid yw'r rhain yn berthnasol yng nghyd-destun sefydliadau sector cyhoeddus gan nad yw sector cyhoeddus Cymru yn gweithgynhyrchu nac yn cynhyrchu nwyddau/cynhyrchion i'w gwerthu, h.y. deunyddiau'n dod i mewn a chynhyrchion yn mynd allan. Dylid archwilio a rheoli'r gwaith o gludo a dosbarthu nwyddau a gwasanaethau a brynir fel y trafodwyd uchod.

Buddsoddiadau ac Asedau ar Brydles / masnachfreintiau

– nid ystyrir bod y rhain o fewn cwmpas y Canllawiau ar Adrodd ar Sero-net.

4. Canllawiau

Yn hanfodol i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr mae deall ble a sut mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu, a gosod targedau a dangosyddion perfformiad allweddol i gasglu'r data sydd eu hangen i'w cyfrifo a'u rheoli a, lle bynnag y bo modd, eu dileu'n gyfan gwbl. Felly, mae ffynonellau data yn ystyriaeth hanfodol wrth amcangyfrif a monitro allyriadau.

4.1 Ffynonellau data - methodolegau cyfrifo CO2e

Gellir rhannu methodolegau ar gyfer cyfrifo allyriadau yn dair lefel, neu haenau, yn dibynnu ar y data sydd ar gael, gan symud o Haen 1 gyda'r data lleiaf cywir i Haen 3 gyda'r data mwyaf cywir.

Haen 3: Data penodol a roddir gan gyflenwyr

Dyma’r data mwyaf cywir, gan mai dyma’r data defnydd gwirioneddol a adroddir yn eu cylch gan gyflenwyr / contractwyr / darparwyr gwasanaethau, e.e. gwneuthuriad a model y cerbydau a ddefnyddir, tanwydd mewn litrau, kg neu kWh, neu’r pellter gwirioneddol a deithir at ddibenion busnes mewn milltiroedd / cilomedrau, ffactorau allyrru sy’n benodol i’r cynnyrch wedi’u cyfrifo gan y cyflenwr, neu allyriadau sefydliad a briodolir i gynnyrch neu wasanaeth.

Haen 2: Data Cyfartalog

Defnyddir data cyfartalog ar allyriadau'r diwydiant, i gynhyrchu ffactorau ar gyfer unedau safonol e.e. dosbarth/maint y cerbydau a ddefnyddir, kg/Co2e fesul km /milltir, litrau o danwydd, tunelli; gallai cyfartalog olygu allyriadau fesul uned a brynir, e.e. allyriadau arferol ar gyfer gliniadur a brynir o restr o allyriadau cylch bywyd at ati. Er enghraifft, Adroddiadau BEIS ar nwyon tŷ gwydr: ffactorau trosi 2020.

Haen 1 – Data ar Sail Gwariant

Dyma’r data lleiaf cywir gan eu bod yn dibynnu ar ddata procsi fel ffactorau allyrru’r gadwyn gyflenwi enghraifft yn Atodiad 1 – ar gyfer pob punt a warir mewn categori generig cyfrifir pwysau CO2e mewn cilogramau. Er enghraifft, ar gyfer offer trydanol tybir bod pob punt a warir yn cynhyrchu 0.62 kg/CO2e. Mae'r dull hwn ar ei fwyaf defnyddiol yn y camau cynnar o ddeall eich proffil gwariant CO2e, ac mae'n fan cychwyn ar gyfer camau cynllunio i leihau allyriadau un eich cadwyn gyflenwi a nodi cyfleoedd i gasglu data Haen 3.

Er mai'r dewis a ffefrir bob amser yw defnyddio data Haen 3, yn ymarferol bydd angen ichi ddefnyddio dull cyfunol. Isod mae awgrymiadau ar gyfer strategaethau i fanteisio i'r eithaf ar y data sydd ar gael ichi. Bydd y strategaethau hyn yn cael eu hystyried mewn dwy ran. Yn gyntaf, pa gamau y gallwch eu cymryd ar unwaith, Dechrau arni / Nodau Hawdd eu Cyflawni (adran 4.2) ac yn ail sut i ymgorffori'r gwaith o leihau CO2e yn strategaeth gaffael a chontractau eich sefydliadau yn y dyfodol, Mynd i'r afael â CO2e yn y cylch caffael (adran 4.5).

4.2 Dechrau arni / Nodau Hawdd eu Cyflawni

4.2.1 Cam 1: Dadansoddi gwariant

Mae'r ffordd rydych chi'n mynd ati i wneud hyn yn dibynnu ar sut mae'r gwariant ar gyflenwyr allanol yn cael ei ddosbarthu yn eich sefydliad, a'r systemau a ddefnyddir i reoli a monitro'r gwariant hwnnw.

4.2.2 Cam 2: Nodi eich contractau presennol sydd â CO2e uchel / canolig

Gan na fydd eich dadansoddiad gwariant ond yn dangos ichi ar 'beth' (ym mha gategorïau) mae eich sefydliad yn gwario ei arian, bydd angen ichi ganfod 'sut' mae'r arian hwnnw'n cael ei wario, h.y. pa nwyddau, gwasanaethau neu waith penodol sy'n cael eu prynu, a'r hyn y mae'n ofynnol i'r cyflenwyr / darparwyr gwasanaethau / contractwyr ei wneud, h.y. beth oedd yn ofynnol yn ôl manyleb y contract, telerau'r contract ac amodau’r cyllid? Pa weithgareddau sy'n cael eu cynnal i gyflawni'r contract o ddydd i ddydd? 

Step 2.1 Gan ddefnyddio eich dadansoddiad gwariant, gweithio yn ôl o gategorïau gwariant i nodi contractau a chyfleoedd penodol i weithredu i leihau CO2e fel a ganlyn:

Cam 2.1(a) yn ôl categori gwariant
  1. Categori gwariant (categorïau lefel uchaf yn ôl ffactor CO2e)
  2. A ellir rhannu'r categori lefel uchaf yn is-gategorïau gwariant? (os gellir, trefnu categorïau yn ôl ffactor CO2e)
  3. Nodi adrannau sy'n gwneud y gwariant hwnnw (drwy ddod o hyd i godau canolfan gostau cysylltiedig, cyfrif yr adran / codau cyllideb ac ati)
  4. Holi adrannau neu ddeiliaid cyllideb neu, os yw eich sefydliad yn defnyddio contract neu gytundeb fframwaith a reolir gan sefydliad arall, rheolwyr y fframwaith, i gael dogfennau contract – manyleb; meini prawf dyfarnu, dangosyddion perfformiad allweddol ac ati.

Neu

Cam 2.1(b) yn ôl cyflenwr – gwariant
  1. Nodi eich prif gontractwyr / cyflenwyr / darparwyr gwasanaethau (y rhai rydych yn gwario'r mwyaf gyda nhw)
  2. Nodi'r categorïau gwariant ar gyfer y contractwyr hynny (am ba nwyddau, gwasanaethau neu waith maent yn cael eu talu?)
  3. Cymharu'r categorïau hynny â chategorïau CO2e uchel eich sefydliad (rhowch flaenoriaeth i gontractwyr mewn categorïau CO2e uchel)
  4. Nodi’r adrannau sy'n gyfrifol am y gwariant hwnnw (drwy ddod o hyd i godau canolfan gostau cysylltiedig, cyfrif yr adran / codau cyllideb ac ati)
  5. Holi adrannau neu ddeiliaid cyllideb neu, os yw eich sefydliad yn defnyddio contract neu gytundeb fframwaith a reolir gan sefydliad arall, rheolwyr y fframwaith, i gael dogfennau contract – manyleb; meini prawf dyfarnu, dangosyddion perfformiad allweddol ac ati.

Neu

Cam 2.1 (c) yn ôl cyflenwr – contract
  1. Nodi eich prif gontractwyr / cyflenwyr / darparwyr gwasanaethau (y rhai rydych yn gwario'r mwyaf gyda nhw)
  2. Cysylltu â'ch prif gontractwyr / cyflenwyr / darparwyr gwasanaethau a'u holi am y contract a phwy yw eu rheolwr contract / pwynt cyswllt yn eich sefydliad. Pan fyddwch wedi cael yr wybodaeth hon, gofyn i'r rheolwyr contract am ddogfennau'r contract – y fanyleb; y meini prawf dyfarnu ac amodau'r contract, a deall y gweithgareddau mae angen eu cynnal o ddydd i ddydd er mwyn cyflawni'r contract.

Neu

Cam 2.1 (d) yn ôl y gofrestr contractau
  1. Os oes gan eich sefydliad gofrestr contractau, defnyddio hon i nodi contractau a all fod yn eich categorïau CO2e uchel a / neu i nodi eich prif gontractwyr / cyflenwyr / darparwyr gwasanaethau a dilyn y camau yn a) a b) uchod.

4.2.3 Cam 3 Archwilio sut y gellir defnyddio eich contractau presennol i weithredu i leihau CO2e

Ar ôl nodi'r contractau neu'r cytundebau fframwaith penodol sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, nodi pa fesurau datgarboneiddio, os o gwbl, sydd wedi cael eu cynnwys yn y contract, a yw'r rhain wedi cael eu defnyddio'n llawn (os nad ydynt, a oes modd dechrau gwneud hynny), ac unrhyw ddata rheoli gwybodaeth a all fod ar gael a fyddai'n feincnod defnyddiol neu'n fan cychwyn i ddechrau gweithredu i leihau CO2e.

Er ei bod yn bosibl na fydd manylebau / amodau contract yn cyfeirio'n benodol at ddatgarboneiddio, gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ac ati, gallant gynnwys cymalau contract y gellid eu defnyddio i dechrau gweithredu i fynd i'r afael â CO2e, e.e. cyfeiriadau at Arloesi neu Welliant Parhaus, Rheoli Newid neu Amrywio Contractau. Mae'r dull hwn yn debygol o fod ar ei fwyaf effeithiol os yw'r contract yn dal i fod yn ei gamau cynnar; pan fydd eich sefydliad yn gleient mawr a/neu pan fydd ganddo berthynas weithio dda â'r cyflenwr / darparwr gwasanaeth / contractwr.

Mae'n debygol y bydd cydweithredu â chi yn helpu eich cyflenwyr / darparwyr gwasanaethau / contractwyr i ddatblygu, gan y bydd deall eich amcanion datgarboneiddio yn creu mantais gystadleuol wrth i gleientiaid eraill yn y sector cyhoeddus ddechrau pennu gofynion datgarboneiddio yn eu contractau.

Os nad oes cyfleoedd i gymryd camau o fewn cwmpas y contractau presennol, ystyried terfynu'r contract yn gynnar, yn enwedig os yw testun y contract yn risg CO2e canolig i uchel a bod dewisiadau gwell ar gael ar gyfer cyflawni.

4.3 Cynllunio ar gyfer y Dyfodol

Mae’r adran hon yn trafod rhai o’r ystyriaethau masnachol ehangach y mae’n bosibl y bydd rhaid ichi eu hystyried. Mae adran 4.5 Mynd i’r afael â CO2e yn y cylch caffael yn edrych ar bob cam yn y cylch yn fanylach.

Defnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r ffordd mae contractau blaenorol neu bresennol wedi cael eu cynllunio i wella eich strategaethau caffael, eich manylebau, eich dewis o gyflenwyr a meini prawf dyfarnu contractau i ganolbwyntio ar leihau allyriadau CO2e Cwmpas 3 yn eich cadwyni cyflenwi. Lle bynnag y bo modd, y nod yw lleihau a dileu prosesau, deunyddiau neu weithgareddau sy'n achosi allyriadau CO2e. Bydd ei gwneud yn ofynnol i bob cynigydd gyflwyno Cynllun Lleihau Carbon fel rhan o’r tendr yn sicrhau bod cyflenwyr posibl yn canolbwyntio ar leihau CO2e (gweler Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 06/21: Datgarboneiddio drwy gaffael – Ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon).

Mwy na thebyg byddwch yn gofyn i gyflenwyr / darparwyr gwasanaethau / contractwyr newid:

  • eu prosesau sefydledig (e.e. logisteg am yn ôl i ganiatáu ar gyfer trwsio ac ailddefnyddio)
  • defnyddio deunyddiau a chydrannau crai gwahanol (e.e. gyda llai o garbon wedi'i ymgorffori, wedi'i gyrchu'n fwy lleol neu'n cynnwys deunyddiau wedi'u hailgylchu neu gyda chyfran uwch wedi'i hailgylchu)
  • y ffordd maen nhw'n mynd ati i gyflawni gofynion eich contract (e.e. defnyddio cerbydau trydan)
  • neu, i gyflawni safonau ac achrediadau, e.e:
    • BSI PAS 2050: Labelu cynhyrchion sy'n allyrru carbon ar gyfer nwyddau a gwasanaethau
    • PAS 2060: Statws carbon niwtral
    • PAS 2080: Rheoli carbon mewn prosiectau seilwaith
    • Yr Ymddiriedolaeth Garbon: Labeli ôl Troed Carbon Cynhyrchion - mae Labeli ôl Troed Carbon Cynhyrchion yr Ymddiriedolaeth Garbon yn cynnwys: cynhyrchion y mae eu ôl troed carbon wedi cael eu mesur, lle mae ymrwymiad i leihau'r ôl troed carbon a lle mae ymrwymiad i fod yn garbon niwtral; deunyddiau pacio lle mae ymrwymiad i leihau carbon neu i fod yn garbon niwtral
    • Safon Cynhyrchion y Protocol Nwyon Tŷ Gwydr - Gellir defnyddio'r Safon Cyfrifo ac Adrodd ar Gylch Bywyd Cynnyrch i ddeall allyriadau yn ystod cylch bywyd llawn cynnyrch, a chanolbwyntio ymdrechion ar y cyfleoedd gorau ar gyfer lleihau nwyon tŷ gwydr.
    • ISO14067 - yn pennu egwyddorion, gofynion a chanllawiau ar gyfer meintioli ac adrodd ar ôl troed carbon, neu ran o ôl troed carbon cynnyrch, mewn modd sy'n gyson â Safonau Rhyngwladol ar asesu cylch bywyd (ISO 14040 ac ISO 14044).

Mae'n debygol y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt fuddsoddi yn eu busnesau (ymchwil a datblygu, offer, peiriannau, staffio a hyfforddiant) a bydd angen ichi ystyried pa gymhellion a gynigir i'w hannog i wneud y newidiadau hyn. Er enghraifft:

  • drwy estyn uchafswm hyd eich contractau i ganiatáu amser i adennill costau'r buddsoddiadau hyn
  • gwneud 'contractau ymrwymo' sy'n gwarantu, yn amodol ar berfformiad boddhaol, y bydd y contract yn para am yr uchafswm hyd, e.e. pedair blynedd, yn hytrach na chontractau gydag opsiynau i estyn, e.e. contractau 2+2, sef contractau o leiaf dwy flynedd gydag opsiynau i estyn am flynyddoedd ychwanegol, sy'n creu elfen o ansicrwydd ac a fydd yn effeithio ar hyder cyflenwyr i gynllunio y tu hwnt i'r isafswm hyd
  • Cymalau talu bonws ar gyfer cyflawni cerrig milltir allweddol.

Ar ddechrau'r broses cynllunio caffael, ar ôl cadarnhau bod angen busnes, ystyried a oes angen ichi brynu'r ased, hynny yw, bod yn berchen arno 'eich hun', neu a ellid diwallu'r angen drwy brydles neu drefniant gwasanaeth a reolir? Ystyried y risgiau o ran allyriadau CO2e ac a ellir dileu neu leihau'r rhain yn awr, neu a ddylai'r strategaeth gaffael gynnwys opsiynau i ganiatáu uwchraddio, neu newid i opsiynau newydd a gwell os bydd y farchnad yn datblygu yn ystod cyfnod y contract.

Mae Telerau ac Amodau Safonol eisoes yn debygol o gynnwys cymal terfynu contract cynnar, ond nodwch a oes cymal(au) Arloesi neu Welliant Parhaus, Rheoli Newid neu Amrywio Contractau a fydd yn eich galluogi i fanteisio ar gyfleoedd i weithredu i leihau CO2e wrth gyflawni'r contract, e.e. trosglwyddo i gerbydau trydan neu hydrogen; defnyddio sment / concrit carbon isel; partneriaid yn y gadwyn gyflenwi sy'n defnyddio llai o garbon.

4.4. Manteisio i'r eithaf ar ddylanwad eich sefydliad ar y farchnad

- drwy ymrwymo i drefniadau caffael ar y cyd ag eraill yn eich rhanbarth, sector neu ar lefel Cymru gyfan i gynyddu'r galw i lefel sy'n ei gwneud yn fuddiol i ddarpar gyflenwyr ymrwymo i wneud y mathau o newidiadau y cyfeirir atynt uchod.

4.5 Mynd i'r afael â CO2e yn y cylch caffael

Drwy ystyried y materion a chymryd y camau a nodir yng nghamau 1 – 7 isod, gallwch sicrhau bod yr angen i ystyried CO2e yn cael ei ymgorffori yn y broses gaffael. Camau 2 – 5 yw eich cyfle i ddefnyddio cynigion i leihau allyriadau CO2e i wahaniaethu rhwng tendrau wrth eu gwerthuso, gan ganiatáu i'r cyflenwyr, y contractwyr neu’r darparwyr gwasanaethau hynny sydd fwyaf tebygol o'ch helpu i weithio tuag at ddatgarboneiddio gyflwyno eu cynnig ac ennill sgôr dda.

Image

Cylch caffael:

  1. Cynllunio
  2. Diffinio gofynion
  3. Paratoi’r tendr a hysbysebu
  4. Gwerthuso tendrwyr
  5. Dyfarnu'r Contract / dechrau arni
  6. Rheoli contractau
  7. Diwedd y contract / gwersi a ddysgwyd

1. Cynllunio

  • Herio’r ‘angen’. A oes angen y caffael o gwbl? Oes ffyrdd eraill o gyflawni’r un canlyniadau?
  • Defnyddio eich profiad chi ac eraill i wella canlyniadau
  • Ymchwil / trafodaethau cyn-farchnad – deall y farchnad a thechnolegau, cynhyrchion neu atebion newydd / sy'n datblygu

2. Diffinio gofynion

  • Ymgysylltu â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a dylanwadu arnynt (deiliaid cyllideb / comisiynwyr/ dylunwyr)
  • Ymchwil / trafodaethau cyn-farchnad – deall y farchnad a thechnolegau, cynhyrchion neu atebion newydd / sy'n datblygu
  • Deall nodau, targedau, amcanion polisi strategol, nid anghenion / dymuniadau'r contract yn unig
  • Ystyried sut i ysgogi /sicrhau gwelliant parhaus.

3. Paratoi’r tendr a hysbysebu

  • Anelu at 'gydnawsedd diwylliannol' – lle mae'r ymgeisydd llwyddiannus am weithio gyda chi, nid elwa ar y contract yn unig
  • Cyfleu nodau, targedau, amcanion polisi strategol, nid anghenion / dymuniadau'r contract yn unig.
  • Sicrhau bod darpar gyflenwyr yn deall y byddwch yn chwilio am atebion / canlyniadau sy'n lleihau CO2e, neu’n ddelfrydol ei ddileu.

4. Gwerthuso tendrwyr

  • Sicrhau bod manylebau a meini prawf dyfarnu yn gofyn am atebion / canlyniadau sy'n lleihau CO2e, neu yn ddelfrydol ei ddileu.

5. Dyfarnu'r Contract / dechrau arni

Cadarnhau dealltwriaeth yr ymgeisydd llwyddiannus o:

  • Y canlyniadau a ddymunir ar gyfer y contract
  • Unrhyw gymhellion neu ofynion ar gyfer gwelliant parhaus / arloesi yn ystod oes y contract
  • Dangosyddion perfformiad allweddol / gwybodaeth reoli (yn ddelfrydol data ar weithgareddau / defnydd sy'n sicrhau bod allyriadau CO2e yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu monitro a'u rheol er mwyn eu lleihau cymaint ag y bo modd)

6. Rheoli contractau

  • Sicrhau bod y canlyniadau a ddymunir ar gyfer y contract yn cael eu cyflawni
  • Annog ac ysgogi gwelliant parhaus / arloesi
  • Casglu dangosyddion perfformiad allweddol / gwybodaeth reoli, yn ddelfrydol data ar weithgareddau / defnydd sy'n sicrhau bod allyriadau CO2e yn y gadwyn gyflenwi yn cael eu monitro a'u rheol er mwyn eu lleihau cymaint ag y bo modd

7. Diwedd y contract / gwersi a ddysgwyd

  • Defnyddio gwybodaeth reoli allweddol (data ar weithgareddau / defnydd i lywio a gwella manylebau yn y dyfodol)
  • Deall profiad y 'defnyddiwr terfynol', beth aeth yn dda, beth y gellid ei wella?

5. Amserlen

Mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn yn effeithiol o'r dyddiad cyhoeddi 01/12/2021 nes y caiff ei ddisodli neu ei ganslo.

6. Dosbarthiad a chwmpas

Mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn yn uniongyrchol berthnasol i bob corff sector cyhoeddus yng Nghymru, a dylid ei ddosbarthu (er gwybodaeth) o fewn eich sefydliad, gan dynnu’n benodol sylw'r holl bersonél sydd â rôl gomisiynu, cynllunio caffael neu reoli contractau, yn ogystal â'r rhai sy'n gyfrifol am weithredu i liniaru effaith cyfraniad allyriadau nwyon tŷ gwydr CO2e at newid yn yr hinsawdd neu sy’n gyfrifol am leihau ôl troed carbon cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru.

7. Deddfwriaeth

Mae caffael yn y ffordd hon yn cefnogi’r gwaith o ddatgarboneiddio gweithgareddau'r sector cyhoeddus ac yn benodol y nod llesiant ‘Cymru fwy llewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas’.

8. Datganiad Polisi Caffael Cymru

Mae'r Nodyn Polisi Caffael hwn wedi'i alinio'n briodol â Datganiad Polisi Caffael Cymru.

Egwyddor 6

Byddwn yn gweithredu i atal newid yn yr hinsawdd drwy flaenoriaethu’r gwaith o leihau allyriadau carbon, a defnyddio technoleg sero-net drwy gaffael mwy cyfrifol a chynaliadwy i gyflawni ein huchelgais ar gyfer sector cyhoeddus sero-net Cymru erbyn 2030.

9. Manylion cyswllt

Polisi Masnachol - PolisiMasnachol@llyw.cymru

10. Cydnabyddiaethau

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei fod wedi defnyddio’r cyhoeddiadau a'r sefydliadau canlynol (rhoddir dolenni lle bo'n briodol):

Canllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-net (Llywodraeth Cymru 2021)

Datganiad Polisi Caffael Cymru 2021 (Llywodraeth Cymru 2021)

Nodyn Polisi Caffael Cymru WPPN 06/21: Datgarboneiddio drwy gaffael – Ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon (Llywodraeth Cymru 2021)

Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (OS 2015 / 102) (Gwasanaethau Masnachol y Goron Chwefror 2015)

Cyngor Sir Ddinbych

Cyfoeth Naturiol Cymru

Atodiad: Ffactorau Allyrru’r Gadwyn Gyflenwi (kg/CO2e fesul £ a warir)

Dyma sgrin lun o pdf, er enghraifft yn unig, yn dangos taflen 3 o’r ‘gyfrifiannell-adrodd-ar-garbon-sero-net’ (y gyfrifiannell) sydd ar gael ar dudalen Llyw.Cymru ar gyfer y Nodyn Polisi Caffael hwn. Mae’r ‘gyfrifiannell-adrodd-ar-garbon-sero-net’ yn seiliedig ar Dabl 29 yng Nghanllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-net

Diben taflen 3 Allyriadau o’r Gadwyn Gyflenwi ar gyfer cyfrifo Allyriadau Anuniongyrchol o’r gadwyn gyflenwi yw cyfrifo allyriadau Cwmpas 3 eich nwyddau a gwasanaethau a brynir.

Image