Neidio i'r prif gynnwy

Data ar yr ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio o wastraff trefol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021.

Mae canran y gwastraff trefol awdurdod lleol a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yng Nghymru wedi cynyddu yn sylweddol yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf (o tua 5% yn yr 1990au hwyr).

Gorffennaf 2020 i Fehefin 2021

  • Cafodd 65.8% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd bach o’i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mehefin 2020. Roedd hefyd yn gynnydd o 63.3% ym mis Mehefin 2019, cyn pandemig COVID-19.

Ebrill i Fehefin 2021

  • Cafodd 66% o wastraff trefol ei ailddefnyddio / ailgylchu / compostio, cynnydd o 2 bwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2020 ond gostyngiad o 1 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.
  • Cynhyrchwyd 408,000 tunnell o wastraff trefol, cynnydd o 20% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2020 a cynnydd o 2% o’i gymharu â’r un chwarter yn 2019.

Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ddata dros dro, a gyhoeddir yn chwarterol. Cyhoeddir data terfynol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn flynyddol.

Roedd y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Amharodd y pandemig ar y casgliad data gwastraff awdurdodau lleol. Achosodd hyn  anghysondebau yn y setiau data chwarterol. Mae'r amhariad wedi amrywio rhwng awdurdodau lleol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau sy'n effeithio ar eu rheolaeth gwastraff unigol. Er nad oedd y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin 2021 yn gyfnod clo, roedd sawl ffactor a allai fod wedi effeithio ar reoli gwastraff ar draws yr awdurdodau lleol. Gallai rhai effeithiau posibl fod yn brinder staff, cyfleusterau yn aros ar gau, gweithwyr nad oedd bellach yn gorfod gweithio gartref, a chyfrif am wastraff a allai fod wedi'i gadw/gohirio o'r blaen. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cymharu rhwng awdurdodau lleol yn ogystal â chymharu â chwarteri blaenorol.

Nodiadau

Cesglir data ar reolaeth gwastraff er mwyn monitor cynnydd yn erbyn targedau lleol a chenedlaethol; yn benodol yn erbyn gofynion Y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a’r Gyfarwyddeb Tirlenwi. Yn y strategaeth gwastraff cyfredol ‘Mwy nag ailgylchu’ (2021) mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ailgylchu statudol o 64% o wastraff erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25.

Daw’r data or system WasteDataFlow sy’n cael ei fonitro gan Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ansawdd ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.