Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau ar gyfer porth gwaith achos Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC)

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

1.Telerau defnyddio’r wefan

Croeso i wefan Porth Gwaith Achos Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). Mae’r dudalen hon (o’i chymryd gyda’r dogfennau a’r tudalennau y mae’n cyfeirio atynt) yn dweud wrthych beth yw’r telerau defnyddio yr ydych yn cytuno iddynt pan fyddwch chi’n defnyddio [Gwaith achos cynllunio] (y “Wefan”). Darllenwch y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio’r Wefan. Trwy ddefnyddio’r Wefan, rydych chi’n dynodi eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych chi’n cytuno i dderbyn y telerau defnyddio hyn, peidiwch â defnyddio’r Wefan.

2. Gwybodaeth amdanom ni

Gweithredir y Wefan gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn isadran Llywodraeth Cymru ac mae’n rheoli gwaith achos sy’n ymwneud â datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd yng Nghymru. Gellir cael rhagor o wybodaeth am PCAC, gan gynnwys manylion cyswllt, yn Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru

3. Cyrchu’r Wefan

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r Wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu nac yn rhwystro ar ddefnydd a mwynhad o’r Wefan gan unrhyw drydydd parti.

Caniateir mynediad i’r Wefan ar sail dros dro yn unig, a chadwn yr hawl i dynnu’n ôl neu ddiwygio’r gwasanaeth a ddarparwn ar y Wefan heb rybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os am unrhyw reswm nad yw’r Wefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.

Os dewiswch, neu os darperir i chi, god adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi ymdrin â’r gyfryw wybodaeth fel gwybodaeth gyfrinachol, a rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae’r hawl gennym i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p’un a ddewiswyd nhw gennych chi neu y dyrannwyd nhw gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydych yn ein barn ni wedi methu cydymffurfio ag unrhyw rai o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod unrhyw un heblaw amdanoch chi’n gwybod eich cod adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, mae’n rhaid i chi ein hysbysu ni ar unwaith yn PEDW.Gwaithachos@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 0604400.

Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi gael mynediad i’r Wefan. Chi hefyd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl bersonau sy’n cyrchu’r Wefan drwy eich cysylltiad rhyngrwyd chi yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

4. Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn cymryd ei gyfrifoldebau diogelu data am y wybodaeth a ddarparwch i ni yn ddifrifol iawn. I ganfod mwy am sut rydym yn defnyddio ac yn rheoli eich data personol, ewch i’n hysbysiad preifatrwydd.

5. Cyfnodau Cadw

Cyfrifon Porth Gwaith Achos PCAC 

Bydd angen i chi greu cyfrif er mwyn cyflwyno apêl wrth ddefnyddio’r Wefan. Os hoffech fwy o wybodaeth am sut y defnyddiwn eich manylion personol, gweler y paragraff uchod. Bydd y Wefan yn dileu’n awtomatig cyfrifon (ac eithrio cyfrifon awdurdod cynllunio lleol (ACLl) nas cyrchwyd ers 3 blynedd.

Mae’r diffiniad o’r term ‘cyrchu’ yn y sefyllfa hon yn golygu os na chyrchwyd cyfrif yn llwyddiannus o fewn cyfnod amser 3 blynedd. Os yw cwsmer yn ceisio mewngofnodi’n aflwyddiannus, nid ystyrir bod hyn yn gyfystyr â chyrchu’r cyfrif ac ni fydd yn effeithio ar y cyfnod amser 3 blynedd.

Ni fydd unrhyw ddata personol a gadwyd yn flaenorol ar y cyfrif wedi’i ddileu yn cael ei gadw ar gronfa ddata’r Wefan ar ôl i’r amserlen hon fynd heibio.

Pan fydd cyfrif wedi’i ddileu, bydd cwsmeriaid yn gallu ailddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a’r un enw defnyddiwr pe baent yn dymuno creu cyfrif newydd ar Borth Gwaith Achos PCAC.

Dileu â llaw 

Bydd cwsmeriaid yn gallu dileu eu hapeliadau/holiaduron/sylwadau eu hunain o’u cyfrif Porth Gwaith Achos PCAC (h.y. y rheiny sydd wedi’u cyflwyno a’r rheiny sydd wedi’u cychwyn ond heb eu cyflwyno eto i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru).

6. Dileu’n awtomatig eitemau nas cyflwynwyd eto

Bydd apeliadau/holiaduron/sylwadau (gan gynnwys atodiadau) sydd wedi’u cychwyn ond heb eu cyflwyno eto i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru) yn cael eu dileu o gronfa ddata’r Wefan [Porth Gwaith Achos Apeliadau] os nad ydynt wedi’u diweddaru mewn 180 o ddiwrnodau. Bydd hyn yn golygu na ellir eu gweld mwyach ar gyfrif Gwefan [Porth Gwaith Achos Apeliadau] [y cwsmer].

Os yw [cwsmer] ond yn mynd i mewn i’r ffurflen heb symud rhwng tabiau, yn ateb cwestiwn a oedd heb ei ateb yn flaenorol neu’n diwygio cwestiwn, yna ni chaiff hyn ei ddosbarthu fel diweddariad ac mae’r cyfnod cyfrif i lawr 180 diwrnod yn parhau. Os yw’r defnyddiwr yn mynd at y ffurflen ac yn gwneud un o’r pethau a grybwyllwyd eisoes, yna dosberthir hyn fel diweddariad, ac mae’r cyfnod cyfrif i lawr 180 diwrnod yn dechrau eto.

21 diwrnod cyn i’r eitem gael ei dileu, bydd eicon yn ymddangos nesaf at y cyflwyniad. Wrth hofran dros hwn, mae’r eicon yn dangos faint o ddiwrnodau sydd cyn i’r cyflwyniad gael ei ddileu. Os yw defnyddiwr eisiau i eitem barhau, yna bydd angen iddo fynd i mewn i’r eitem a gwneud diweddariad er mwyn i’r cyfnod cyfrif i lawr 180 diwrnod ddechrau eto.

7. Dileu’n awtomatig eitemau a gyflwynwyd yn llwyddiannus

Ar gyfer cwsmeriaid heb fod yn ymwneud â’r ACLl (awdurdod cynllunio lleol), bydd apeliadau/sylwadau yn cael eu dileu o gronfa ddata’r Wefan [Porth Gwaith Achos Apeliadau] (felly ni ellir eu gweld mwyach ar eu cyfrif Gwefan (Porth Gwaith Achos Apeliadau) 1 flwyddyn ar ôl cyflwyno.

Ar gyfer cwsmeriaid ACLl (awdurdod cynllunio lleol), bydd holiaduron/sylwadau yn cael eu dileu o gronfa ddata’r Wefan Porth Gwaith Achos Apeliadau (felly ni ellir eu gweld mwyach ar gyfrif Gwefan Porth Gwaith Achos Apeliadau y cwsmer) 180 diwrnod ar ôl cyflwyno.

Bydd yr holl atodiadau a lanlwythwyd i’r ffurflenni yn cael eu dileu o gronfa ddata’r Wefan Porth Gwaith Achos Apeliadau 1 flwyddyn ar ôl eu cyflwyno.

8. Dibynnu ar wybodaeth a bostiwyd

Ni fwriedir i sylwadaeth neu ddeunyddiau eraill sy’n cael eu postio ar y Wefan i fod yn gyfystyr â chyngor y dylid dibynnu arno. Mae’n rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag cymryd, unrhyw gamau gweithredu ar sail cynnwys y Wefan. Rydym, felly, yn ymwrthod â phob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy’n deillio o unrhyw ddibyniaeth ar y cyfryw ddeunyddiau gan unrhyw ymwelydd â’r Wefan, neu gan unrhyw un a allai gael ei lywio gan unrhyw ran o’i chynnwys.

9. Sut cewch ddefnyddio deunydd ar y Wefan

Mae’r deunydd ar y Wefan yn destun gwarchodaeth hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Cyhoeddir y Wefan o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f3.0, a chewch atgynhyrchu gwybodaeth o’r Wefan (heb gynnwys logos) ar yr amod eich bod yn ufuddhau i delerau’r drwydded honno. Fodd bynnag, sylwch fod rhywfaint o’r wybodaeth a gyhoeddwyd ar y Wefan wedi’i heithrio o’r Drwydded Llywodraeth Agored. Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw hawlfraint ar gyfer cynhyrchion neu ddogfennau trydydd parti.

Trefnir bod rhai deunyddiau sydd ar gael drwy’r Wefan - fel mapiau, cynlluniau a lluniadau – ar gael gydag awdurdod PCAC yn unol ag adran 47 Deddf Hawlfraint a Phatentau 1988. Oni bai bod y Ddeddf yn darparu eithriad perthnasol i hawlfraint, ni cheir gwneud copïau pellach heb ganiatâd blaenorol perchennog yr hawlfraint. Ceir ond atgynhyrchu map Arolwg Ordnans os oes gennych drwydded i wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedu mapiau’r Arolwg Ordnans ar gael ar eu gwefan.

Yn ogystal, gallwn drefnu bod rhywfaint o’n gwybodaeth ar gael drwy ffrydiau i drydydd partïon i’w defnyddio ar wefannau neu gymwysiadau eraill. Dylech wybod, fodd bynnag, nad ein cynhyrchion ni yw’r rhain. Gall y cymwysiadau hyn ddefnyddio fersiynau o’n gwybodaeth a’n canllawiau sydd wedi’u golygu neu’u storio. Y wybodaeth sydd ar gael ar y Wefan fydd y fersiwn ddiweddaraf o’n gwybodaeth bob amser.

Nid ydym yn darparu unrhyw sicrwyddau, amodau na gwarantau ynglŷn â chywirdeb unrhyw gynhyrchion trydydd parti o’r fath ac nid ydym yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod gan ddefnyddwyr y cyfryw gynhyrchion trydydd parti o dan unrhyw amgylchiadau.

10. Mae’r Wefan yn newid yn rheolaidd

Ein nod yw diweddaru’r Wefan yn rheolaidd, a gallwn newid y cynnwys unrhyw bryd. Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar y Wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau na sicrwyddau, boed datganedig neu ymhlyg, bod y cynnwys ar ein safle yn gywir, yn gyflawn neu’n ddiweddar. Gallai unrhyw ran o’r deunydd ar y Wefan fod yn anghyfredol ar unrhyw adeg benodol, ac nid ydym o dan unrhyw rwymedigaeth i ddiweddaru’r cyfryw ddeunydd.

Os cyfyd yr angen, gallwn atal mynediad i’r Wefan neu ei chau am gyfnod amhenodol.

11. Ein hatebolrwydd

Mae’r deunydd a ddangosir ar y Wefan yn cael ei ddarparu heb unrhyw sicrwyddau, amodau na gwarantau o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym drwy hyn yn eithrio’n benodol:

  • Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill a allai fel arall fod ymhlyg drwy statud, cyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti.
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol gan unrhyw ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’r Wefan neu mewn cysylltiad â’r defnydd, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau’r defnydd o’r Wefan, ac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau sydd wedi’u postio arni, gan gynnwys, heb gyfyngiad unrhyw atebolrwydd am: golli incwm neu refeniw, colli busnes, colli elw neu gontractau, colli arbedion a ragwelir, colli data, colli ewyllys da, amser rheoli neu amser swyddfa a gollwyd ac am unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag y cododd, a ph’un ai a achoswyd drwy gamwedd (gan gynnwys esgeuluster), tor contract neu fel arall, hyd yn oed pe gellir ei ragweld.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o’n hesgeuluster, na’n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio ynglŷn â mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan y gyfraith gymwys.

12. Hyperddolenni

Gall y Wefan ddarparu hyperddolenni at wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon. Nid yw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru’n gyfrifol am argaeledd y cyfryw wefannau eraill ac nid yw’n eu cymeradwyo, ac nid yw’n gyfrifol nac yn atebol am unrhyw adnoddau, cynnwys, cynhyrchion na deunyddiau eraill sydd ar gael ar y cyfryw wefannau eraill.

13. Firysau, hacio a throseddau eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r Wefan trwy gyflwyno, a gwybod hynny, firysau, firysau troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad diawdurdod i’r Wefan, y gweinydd y mae’r Wefan wedi’i storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r Wefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y Wefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

Trwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw dramgwydd o’r fath i’r awdurdodau perthnasol gorfodi’r gyfraith a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu eich enw iddynt. Pe bai tramgwydd o’r fath yn digwydd, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn terfynu ar unwaith.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, firysau neu ddeunydd technolegol niweidiol eraill a allai heintio eich offer cyfrifiadur, rhaglenni cyfrifiadur, data neu ddeunydd perchnogol arall yn sgil eich defnydd o’r Wefan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni, nac unrhyw wefan sydd wedi’i chysylltu â hi.

14. Cysylltu â’r Wefan

Gallwch gysylltu â’r Wefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg a chyfreithiol ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno, ond rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni lle nad yw hynny’n bodoli.

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen i’r Wefan o unrhyw wefan nad ydyw’n berchen i chi.

Ni cheir ffurfio’r Wefan ar unrhyw wefan arall. Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.

Os dymunwch wneud unrhyw ddefnydd o ddeunydd ar y Wefan heblaw am hynny a amlinellwyd uchod, cyflwynwch ymholiad i PEDW.Gwaithachos@llyw.cymru.

15. Cyfraith ac Awdurdodaeth Gymwys

Caiff y telerau ac amodau hyn, eu pwnc a’u ffurfiant (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau digontract eraill) eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw dros unrhyw hawliad sy’n deillio o, neu’n gysylltiedig â, ymweliad â’r Wefan.

16. Amrywiadau

Gallwn adolygu’r telerau ac amodau hyn unrhyw bryd drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o dro i dro er mwyn gwneud sylw o unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eu bod yn rhwymol arnoch. Ystyrir eich bod, drwy barhau i ddefnyddio’r Wefan ar ôl i newid gael ei wneud, yn derbyn y newid. Gallai rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau hyn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir yn rhywle arall ar y Wefan.

17. Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn lle mae’r cyfryw fethiant yn sgil amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol. Os ydym yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny’n cael eu hildio’n awtomatig ar unrhyw achlysur arall.

Os ystyrir bod unrhyw rai o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd gweddill y telerau ac amodau, serch hynny, yn parhau â grym llawn.

18. Eich pryderon

Os oes unrhyw bryderon gennych ynglŷn â deunydd sy’n ymddangos ar y Wefan, cyflwynwch nhw drwy ein tudalen gyswllt.