Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio'r math o wybodaeth a gyhoeddir ar Busnes Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr hyn sy'n mynd ar Busnes Cymru (safle craidd, ardaloedd ac is-safleoedd)

Cymorth busnes cyffredinol. Gwybodaeth, cyngor, digwyddiadau a deunyddiau dysgu sy'n berthnasol i bob busnes, gan gynnwys:

  • cyfreithiau a rheoliadau (gan gynnwys dolenni i GOV.UK ar gyfer cynnwys nad yw wedi'i ddatganoli)
  • cynllunio busnes
  • hyfforddi staff
  • cyllid, gan gynnwys Grantiau Llywodraeth Cymru
  • marchnata
  • allforio
  • TG a digidol
  • Y Gymraeg (er enghraifft Helo Blod)
  • Cyrsiau ar-lein (BOSS)

Cymorth busnes wedi’i dargedu. Gwybodaeth, cyngor a digwyddiadau sy'n berthnasol i sectorau penodol neu fathau o fusnesau, gan gynnwys:

  • adeiladu
  • amaethyddiaeth a choedwigaeth
  • bwyd a diod
  • y môr a physgodfeydd
  • arloesi
  • twristiaeth
  • mentrau cymdeithasol neu gwmnïau cydweithredol
  • busnesau twf uchel

Ymgyrchoedd gyda chynulleidfa fusnes.

Rhwydweithiau ar gyfer busnesau.

Newyddion a hyrwyddo datganiadau i'r wasg.

Gwybodaeth gryno sy'n cyfeirio at raglenni neu wasanaethau Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â busnes.

Yr hyn nad ydyw'n mynd ar Busnes Cymru

Mae holl wybodaeth a gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn mynd ar wefan craidd LLYW.CYMRU:

  • strategaethau, dogfennau polisi a chynlluniau gweithredu
  • ymgynghoriadau
  • cyrff cynghori
  • datganiadau i'r wasg
  • canllawiau
  • gwasanaethau trafodiadol lle mae busnesau'n gwneud cais i Lywodraeth Cymru