Neidio i'r prif gynnwy

Helpu pobl i benderfynu a ddylai rhan o'u cyhoeddiadau, neu'r cyfan ohonynt, fod ar LLYW.CYMRU neu beidio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae LLYW.CYMRU wedi'i gynllunio i ddiwallu'r anghenion sydd gan bobl Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i holl gynnwys LLYW.CYMRU ddangos anghenion clir gan y defnyddiwr, ac mae'n rhaid iddo gydymffurfio â safonau cyhoeddi.

Beth sy'n cael ei gynnwys ar LLYW.CYMRU

LLYW.CYMRU yw cartref diofyn cynnwys Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gan y Cyfarwyddwr Cyfathrebu. Mae 'Llywodraeth Cymru' yn cynnwys adrannau, adrannau nad ydynt yn rhai gweinidogol a chyrff cynghori.

Gwybodaeth

Enghreifftiau:

  • datganiadau i'r wasg
  • datganiadau
  • ymgyngoriadau
  • strategaethau a phapurau polisi
  • canllawiau
  • ystadegau ac ymchwil
  • ymgyrchoedd
  • adroddiadau
  • asesiadau effaith
  • data
  • mapiau
  • Datganiadau Rhyddid Gwybodaeth

Gwasanaethau

Enghreifftiau:

  • hawlio taliadau gwledig
  • cymorth i brynu tŷ
  • cymorth i gyflymu band eang

Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys ar LLYW.CYMRU

Cynnwys sy'n eiddo i’r mathau hyn o gyrff cyhoeddus ac sy’n cael ei greu ganddynt:

  • sefydliadau sydd â swyddogaethau arolygu neu reoleiddio, hyd yn oed os ydynt yn rhan o Lywodraeth Cymru
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (Gweithredol)
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (Tribiwnlys)
  • elusennau cofrestredig, mentrau cydfuddiannol neu gymdeithasol
  • sefydliadau sy'n cael llai na 50% o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru
  • sefydliadau nad ydynt yn atebol i Lywodraeth Cymru

Cynnwys sy'n eiddo i’r sefydliadau sector cyhoeddus hyn ac yn cael ei greu ganddynt:

  • awdurdodau lleol
  • cynghorau tref a chymuned
  • awdurdodau parciau cenedlaethol
  • awdurdodau tân ac achub
  • byrddau iechyd lleol
  • ymddiriedolaethau iechyd
  • cynghorau iechyd cymuned
  • deiliaid swyddi statudol annibynnol
  • Llywodraeth y DU

Gall LLYW.CYMRU greu cyswllt at y cynnwys hwn pan fydd yn diwallu anghenion defnyddwyr yn ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru, er enghraifft:

  • gall cynnwys sy’n ymwneud â'r Gronfa Cymorth Dewisol gael ei gysylltu â chynnwys Llywodraeth y DU ar fudd-daliadau
  • gallwn greu cyswllt at wefannau awdurdodau lleol ar gyfer gwneud cais am bàs bws