Neidio i'r prif gynnwy

Esbonio'r wybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysgol a dysgwyr a gyhoeddir ar hwb.llyw.cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Hwb yn darparu amrywiaeth o gynnwys digidol a theclynnau i leoliadau addysg yng Nghymru. Gall hyn gefnogi trawsnewid arferion addysgu a dysgu digidol.

Beth sy'n mynd ar hwb.llyw.cymru

Mae Hwb yn cefnogi ymarferwyr addysg a dysgwyr i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at amrywiaeth o declynnau ac adnoddau digidol
  • cydweithio a datblygu eu sgiliau i fodloni anghenion cwricwlwm eang
  • roi polisi Llywodraeth Cymru ar waith

Mae platfform Hwb yn darparu'r canlynol:

  • hunaniaeth genedlaethol i ddefnyddwyr a ddarparwyd
  • darparu cyfrifon Hwb i gael mynediad i nifer o declynnau a gwasanaethau addysgol a gyllidir yn ganolog
  • adnoddau addysg
  • hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol
  • cyngor i ymarferwyr, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr
  • cyfleoedd hyrwyddo i gefnogi datblygiad ymarferwyr

Beth sy'n mynd ar LLYW.CYMRU

Gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod ysgol yn cael ei rhedeg.

Mae cynnwys LLYW.CYMRU yn cynnwys y canlynol:

  • Gwybodaeth a chynnwys Llywodraeth Cymru sy'n helpu defnyddwyr i ddeall y wybodaeth hon, fel dogfennau polisi, strategaethau, canllawiau, newyddion neu ddatganiadau gweinidogol.
  • Rhaglenni, mentrau, digwyddiadau a grwpiau Llywodraeth Cymru

Mae hefyd cynnwys yno ar gyfer cynulleidfaoedd sector tu hwnt i ymarferwyr addysgol. Mae'r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, darparwyr hyfforddiant i athrawon ac Estyn.

Eithriadau

Efallai bydd angen defnyddio awdurdodiad Heb fel rhan o fenter neu ddigwyddiad, er enghraifft recriwtio gwirfoddolwyr i Rwydwaith Seren. Yn yr achosion hyn, bydd cynnwys ar LLYW.CYMRU a bydd y defnyddiwr yn cael ei basio i'w awdurdodi gan Hwb ar y pwynt perthnasol yn y daith.