Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau ail don astudiaeth hydredol sy’n asesu effaith yr Isafbris Alcohol ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Glyndŵr a Figure 8 Consultancy. 

Yn y fanyleb wreiddiol ar gyfer yr ymchwil, y bwriad oedd cynnal ymchwil a fyddai’n asesu effaith MPA am 18 mis a 42 mis ar ôl gweithredu’r ddeddfwriaeth.  Fodd bynnag, o ystyried effeithiau dryslyd pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud, a ddaeth wythnosau yn unig ar ôl rhoi’r MPA ar waith yng Nghymru (ym mis Mawrth 2020), cafodd cyllid ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ton ychwanegol o gyfweliadau gyda sampl yr astudiaeth hydredol naw mis ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith.

Pwrpas y don ychwanegol hon o gyfweliadau oedd cynnal astudiaeth ansoddol fanwl o effaith COVID-19 ar ymddygiad yfed y sampl hydredol er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer dehongli data yn y dyfodol.

Fel rhan o’r cyfweliad, casglwyd adborth ar effaith gynnar yr MPA ar ymddygiad yfed hefyd.  Fodd bynnag, ni fwriadwyd y byddai hyn yn darparu unrhyw ganfyddiadau pendant ynghylch effaith MPA o ystyried y cyfnod cyfyngedig o amser a oedd wedi mynd heibio ers ei gyflwyno ac effaith andwyol pandemig COVID-19. At hynny, sampl ansoddol yn unig yw’r casgliad data hwn ac felly ni ellir ei gyffredinoli i ddod i gasgliadau.

Cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda 32 o yfwyr, pob un ond un ohonynt wedi cymryd rhan mewn cyfweliad llinell sylfaen ychydig cyn gweithredu’r MPA.  Roedd y sampl yn gymysg o ran rhyw, oed, ardal breswyl a statws priodasol.  Fodd bynnag, roedd y sampl ond yn cynnwys pobl a oedd yn Wyn Prydeinig neu’n Wyn Arall ac roedd gan rai ardaloedd Awdurdod Lleol (e.e. Caerdydd a Wrecsam) fwy o gynrychiolaeth nag eraill.

Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd wedi sgorio’n gadarnhaol ar y mesurau ansawdd bywyd a lle’r oedd newidiadau wedi digwydd rhwng y llinell sylfaen a’r camau dilynol, roedd y rhain i raddau helaeth i gyfeiriad cadarnhaol (llai niweidiol). Roedd y sampl yn cynnwys cymysgedd o wahanol fathau o yfwr gan gynnwys chwe yfwyr niweidiol, 13 peryglus a 13 cymedrol. Arhosodd statws yfed (fel y’i mesurir gan AUDIT) yn weddol sefydlog rhwng y llinell sylfaen a’r camau dilynol yn achos y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd. Yr unig newidiadau a gofnodwyd oedd yn achos pum yfwyr a symudodd i batrymau yfed llai niweidiol.

Y cefndir a'r cyd-destun

Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanyleb ar gyfer gwerthusiad a fyddai’n asesu proses ac effaith cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol (MPA) yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd.  Rhannwyd y contract yn bedwar ‘lot’: (1) dadansoddiad o gyfraniad, (2) gwaith gyda manwerthwyr, (3) gwaith ansoddol gyda gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau, a (4) asesiad o’r effaith ar y boblogaeth ehangach o yfwyr.

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar asesu effaith ar boblogaeth ehangach o yfwyr (h.y. Lot 4).  Y cynllun gwreiddiol ar gyfer yr elfen hon o’r gwerthusiad oedd asesu effaith ar ôl 18 mis a 42 mis ar ôl gweithredu. Fodd bynnag, ychwanegwyd ton ychwanegol o gyfweliadau i gasglu adborth ynghylch effaith gymharol MPA a COVID-19 ar batrymau yfed ac ymddygiad cysylltiedig yn ystod y cyfnod o naw mis ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith.

Er mwyn helpu manwerthwyr i baratoi ar gyfer rhoi MPA ar waith yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amrywiaeth o adnoddau ar ei gwefan ym mis Tachwedd 2019 a dogfen ganllawiau ym mis Ionawr 2020.  Hefyd, cyhoeddwyd Ap Cyfrifo MUP i helpu manwerthwyr i gyfrifo’r isafswm pris ar gyfer cynnyrch alcohol penodol.

Bythefnos cyn ei roi ar waith, ar 17 Chwefror 2020, lansiwyd ymgyrch gyhoeddusrwydd ehangach yn targedu’r boblogaeth gyffredinol. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar gyfryngau cymdeithasol, radio cenedlaethol a lleol ac ar-lein, ond nid ar y teledu. Cafodd animeiddiad byr dau funud, yn egluro cyflwyno’r gyfraith newydd, ei roi hefyd ar sianel YouTube Llywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2020. 

Deallir gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru bod gadael lansiad yr ymgyrch cyfryngau tan bythefnos cyn gweithredu yn seiliedig ar gyngor marchnata a phrofiad gydag ymgyrchoedd eraill sy’n awgrymu y byddai cyfnod arweiniol o bythefnos yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r negeseuon ac yn lleihau dadsensiteiddio cyn gweithredu.

Yn ogystal â’r ymgyrch cyfryngau cyhoeddus a chanllawiau ar gyfer manwerthwyr, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ariannu cyfres o saith gweithdy codi ymwybyddiaeth a luniwyd i helpu gwasanaethau i baratoi ar gyfer cyflwyno MPA yng Nghymru. Trefnwyd y gweithdai mewn ymateb i bryderon ynghylch diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol o MPA mewn gwasanaethau triniaeth a chymorth a phryderon ynghylch canlyniadau anfwriadol posibl y ddeddfwriaeth a nodwyd gan Holloway et al. (2019) yn y ‘Switching study’.

Adolygiad llenyddiaeth

Erbyn i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ddod i rym, roedd y pandemig COVID-19 byd-eang yn dod i’r amlwg. O fewn tair wythnos i roi MPA ar waith yng Nghymru, cafodd y DU gyfnod clo llawn yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod dilynol o 12 mis, dechreuodd Cymru ar ddau gyfnod clo arall. Achosodd pob cyfnod clo gyfyngiadau sylweddol ar ffyrdd o fyw am ran fawr o’r cyfnod ar ôl rhoi’r MPA ar waith, a dim ond o siopau gwerthu alcohol trwyddedig yr oedd alcohol ar gael.

Mae effaith y newidiadau hyn, a’r pandemig yn fwy cyffredinol, ar yfed alcohol wedi denu sylw sylweddol yn y cyfryngau. Mae rhai straeon wedi cyfeirio at gynnydd dychrynllyd mewn yfed tra bo eraill wedi cyfeirio at ostyngiadau.  Ar gyfer ymchwilwyr sydd â’r dasg o asesu effaith MPA ar yfwyr yn y boblogaeth gyffredinol, mae’r sefyllfa’n peri her benodol.  Sut gallwn ni ddatod effaith gymharol COVID-19 ar yfed ac ymddygiad cysylltiedig o ganlyniad i effaith yr MPA? 

Er mwyn dechrau’r broses o fynd i’r afael â’r sefyllfa gymhleth hon, cynhaliwyd chwiliadau systematig o’r lenyddiaeth i ganfod papurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod ers rhoi’r MPA ar waith yng Nghymru (h.y. Mawrth 2020) a oedd wedi asesu (a) effaith COVID-19, a/neu (b) effaith yr isafswm prisiau mewn perthynas â pholisïau alcohol, ar yfed ac ymddygiad cysylltiedig. Cyflwynir crynodebau byr o’r ddau adolygiad hyn isod.

Effaith COVID-19 ar y defnydd o alcohol ac ymddygiad cysylltiedig

Wrth chwilio’r lenyddiaeth, canfuwyd 59 o astudiaethau yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd mewn ystod eang o wledydd. Roedd hyn yn cynnwys un adolygiad systematig o’r llenyddiaeth, a oedd yn crynhoi canfyddiadau o astudiaethau a gynhaliwyd mewn 34 o wahanol wledydd (Bakaloudi et al., 2021) ac adolygiad yn canolbwyntio ar ddata sy’n ymwneud â Lloegr (Iechyd Cyhoeddus Lloegr, 2021). O blith y 57 cyhoeddiad arall, oedd y rhan fwyaf yn seiliedig ar ddyluniadau ymchwil trawstoriadol a dulliau arolygu gydag ychydig iawn o astudiaethau’n seiliedig ar ddyluniadau hydredol neu ddulliau ansoddol.

Roedd y canfyddiadau'n cyfateb yn fras i ganlyniadau dau adolygiad o’r llenyddiaeth gan nodi bod y rhan fwyaf o bobl yn cynnal patrymau presennol o ddefnyddio alcohol yn dilyn y pandemig. Pan gofnodwyd newidiadau, roedd y rhain yn amrywio ar draws astudiaethau gyda rhai yn adrodd am fwy o gynnydd na gostyngiadau tra bod astudiaethau eraill yn nodi’r gwrthwyneb. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod cytundeb cyffredinol mai yfwyr trwm oedd y mwyaf tebygol o gynyddu’r yfed a phrofi mwy o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn ystod y cyfnod ar ôl i COVID-19 ddod i’r amlwg.

Er ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o gytundeb ar draws y gronfa dystiolaeth o ran cyfeiriad cyffredinol y canfyddiadau, mae’n bwysig nodi bod yr astudiaethau y seilir canfyddiadau empirig arnynt yn amrywio’n fawr o ran eu dyluniad, eu dulliau a’u samplau. Felly, rhaid bod yn ofalus wrth lunio unrhyw gasgliadau.

Effaith MPA ar y defnydd o alcohol ac ymddygiad cysylltiedig

Fel rhan o ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar MPA, mae dau adolygiad o’r llenyddiaeth sy’n ymwneud ag effaith isafswm pris ar gyfer alcohol wedi cael eu cyhoeddi hyd yma(Holloway et al, 2019, Buhociu et al, 2021). Yn yr adroddiad hwn, mae’r adolygiad wedi ei ddiweddaru am y trydydd tro ac mae’n cynnwys deunydd newydd sy’n dod o wledydd fel yr Alban ac Awstralia lle mae effaith polisïau MPA yn dal i gael ei monitro a’i gwerthuso.

Canfuwyd ugain astudiaeth gymwys ac mae eu canlyniadau’n ychwanegu canfyddiadau cadarnhaol pellach at y rhai a nodwyd yn flaenorol.  Mae ymchwil sy’n dod o’r Alban er enghraifft wedi bod yn unfrydol gadarnhaol wrth nodi bod MUP yn cael effaith gynnar lwyddiannus o ran cynyddu prisiau a lleihau gwerthiant, yfed a niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys marwolaethau (Robinson, et. al. 2020; Ferguson et al., 2021; Alcohol Focus Scotland, 2021).

Ar ben hynny, nid yw tystiolaeth o ganlyniadau negyddol a ragwelwyd yn benodol ymysg yfwyr dibynnol wedi dod i’r amlwg, er bod rhywfaint o symud cyllidebau aelwydydd o gyflenwadau hanfodol i alcohol wedi cael ei nodi (Buykx et al., 2021). 

Mae’r canfyddiadau cynnar o ran effaith MPA yng Nghymru hefyd yn gadarnhaol ac yn adlewyrchu’r rheini o’r Alban (Anderson et al., 2021). Yn wir, cofnododd y ddwy wlad ostyngiadau mewn prynu alcohol, a oedd yn fwyaf ar gyfer seidr a gwirodydd nag ar gyfer diodydd alcoholaidd eraill.  Yn Lloegr fodd bynnag, mae alcohol yn dal ar gael am brisiau ‘arian poced’, a seidr yw’r rhataf ac mae ar gael am gyn lleied â 19c yr uned (Alcohol Change, 2021; Alcohol Health Alliance, 2020).

Er bod casgliadau’r adolygiad a ddiweddarwyd yn gadarnhaol i raddau helaeth o ran canfod y gall polisïau prisio alcohol helpu i leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol mewn rhai awdurdodaethau, mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y bydd angen polisïau eraill i gynnal ei effaith gadarnhaol.  Mae’n amlwg hefyd bod dal angen gwneud rhagor o ymchwil i’r pwnc, yn enwedig mewn ystod ehangach o leoliadau cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys y rheini sydd â marchnadoedd mawr anghyfreithlon.

Prif ganfyddiadau

Paratoi ar gyfer cyflwyno MPA

Yn ystod y cyfweliadau llinell sylfaen, gofynnwyd i’r cyfranogwyr ragweld a fyddent, gan wybod am y ddeddfwriaeth MPA oedd ar y gweill, yn gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer ei chyflwyno. Dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr nad oedd ganddynt unrhyw gynlluniau i baratoi a dywedodd y nifer fach a nododd bod ganddynt gynlluniau y byddai hynny yn golygu pentyrru cyflenwadau rhad o alcohol cyn  gweithredu’r ddeddfwriaeth (Buhociu et al., 2021).

Yn y cyfweliadau dilynol, gofynnwyd i’r cyfranogwyr adrodd a oeddent, mewn gwirionedd, yn gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer gweithredu’r MPA. Gydag un eithriad, roedd pawb a gyfwelwyd (ar draws pob math o yfwyr) yn glir nad oeddent wedi gwneud dim i baratoi ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth MPA. Fodd bynnag, rhoddodd un cyfwelai ateb amwys gan awgrymu ei fod ‘efallai’ wedi prynu potel ‘neis’ o wisgi cyn i’w bris godi. Nid oedd y rhagfynegiadau ynghylch unrhyw bentyrru stoc a wnaed adeg y llinell sylfaen wedi cael eu gwireddu.

Yn y cyfweliadau dilynol, roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd wedi nodi’r cyhoeddusrwydd am MPA cyn ei roi ar waith.  Fodd bynnag, nid oedd rhai o’r cyfweleion wedi sylwi ar unrhyw gyhoeddusrwydd, a allai awgrymu na roddwyd digon o gyhoeddusrwydd i’r wybodaeth.

Rhoi’r MPA ar waith

Er bod rhai a gafodd eu cyfweld wedi sylwi ar arwyddion mewn siopau am MPA, nid oedd y rhan fwyaf o’r rheini a gafodd eu cyfweld yn gwybod bod MPA wedi cael ei roi ar waith ym mis Mawrth 2020. Rhoddwyd nifer o esboniadau am y diffyg ymwybyddiaeth hwn gan gynnwys: eu dewis o ddiod nad yw’r MPA yn effeithio arno, teithiau cyfyngedig i siopau yn ystod y cyfyngiadau symud a diffyg diddordeb mewn prisiau. Roedd y rhai a oedd yn ymwybodol yn amrywio o ran y pwynt pryd y gwnaethant sylwi ar y newid yn y pris.  I rai roedd hyn ar ddiwrnod ei weithredu ond i eraill cymerodd fwy o amser iddynt ddod yn ymwybodol. 

Pan welwyd newidiadau mewn prisiau, roedd y rhain yn ymwneud ag amrywiaeth o gynnyrch alcoholig gan gynnwys seidr cryf a chwrw, gwin, gwirodydd a hyd yn oed rhai cynnyrch alcohol is. Nodwyd newidiadau hefyd ym mhris cynnyrch swmp (h.y. cewyll o lager). Nid oedd fawr o newid yn yr argaeledd er bod rhai o’r rhai a gyfwelwyd wedi sylwi nad oedd rhai cynnyrch, gan gynnwys seidr cryf, ar gael mwyach.

Newidiadau mewn patrymau yfed

O ystyried effaith bosibl COVID-19 a’r cyfyngiadau symud ar batrymau yfed, gofynnwyd i’r cyfweleion ystyried effaith yr MPA yn ogystal ag effaith COVID-19 a’r cyfyngiadau symud cysylltiedig ar eu patrymau yfed.

Soniodd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd am newidiadau yn eu hyfed yn ystod y cyfnod ers y cyfweliad llinell sylfaen ac roedd hyn yn cynnwys y ddau yfwr a oedd yn yfed mwy a’r rhai a oedd yn yfed llai o alcohol. 

Ym mhob achos ond un, roedd y newid mewn patrwm yfed yn cael ei briodoli i COVID-19 yn hytrach nag i MPA. Roedd yr unig newid a oedd yn ymwneud â MPA yn ymwneud ag yfwr niweidiol a symudodd o seidr i fodca wrth i brisiau’r ddau ddod yn agosach ar ôl rhoi’r MPA ar waith. 

Roedd y prif reswm cysylltiedig â COVID dros yfed llai o alcohol yn ymwneud â’r diffyg cymdeithasu yn ystod y cyfyngiadau symud, a’r prif resymau dros y cynnydd oedd unigrwydd, diflastod a gorbryder. Soniodd rhai a gyfwelwyd am gymryd rhan mewn mwy o sesiynau yfed, a arweiniodd at gynnydd cyffredinol yn faint o alcohol a yfwyd. Dywedodd un arall fod y cyfyngiadau ar amseroedd agor siopau wedi golygu ei fod yn yfed mwy o alcohol yn gyflymach nag o’r blaen.

Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau cymysg a nodir  yn ategu canfyddiadau ymchwilwyr eraill sy’n edrych ar effaith COVID-19 ar batrymau yfed yn y DU.

Newidiadau mewn patrymau prynu

Gofynnwyd i’r rheini a gafodd eu cyfweld ddisgrifio unrhyw newidiadau yn eu patrymau prynu alcohol yn ystod y cyfnod ers rhoi’r MPA ar waith. Roedd hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau yn faint o arian a wariwyd ar alcohol a newidiadau yn y ffordd y prynasant alcohol yn y cyfnod ers y cyfweliad llinell sylfaen. Gofynnwyd hefyd i’r rhai a gyfwelwyd a ddywedodd fod eu gwariant ar alcohol wedi cynyddu egluro sut yr oeddent yn ariannu’r gwariant ychwanegol hwn.

Roedd rhai o’r cyfweleion wedi parhau i wario symiau tebyg o arian ar ôl rhoi’r MPA ar waith. Dywedodd eraill, fodd bynnag, eu bod wedi cynyddu eu gwariant tra bod eraill wedi disgrifio gostyngiadau. Roedd y rhesymau’n cyfateb yn fras i’r rhesymau a roddwyd dros y newidiadau yn y symiau a yfwyd a gofnodwyd yn yr adran flaenorol. Fodd bynnag, rhoddwyd rhai esboniadau ychwanegol hefyd gan gynnwys newidiadau mewn deiet (gan arwain at newid i winoedd drutach yn hytrach na chwrw), a chynnydd mewn gwariant ar alcohol i’w helpu i ymdopi â phrofedigaeth ddiweddar.

Ychydig iawn o anhawster a gafodd y rhai a gynyddodd eu gwariant ar alcohol i dalu am y costau ychwanegol. Roedd y rhan fwyaf yn gallu cynnwys y cynnydd yng nghyllidebau eu cartref tra roedd eraill yn gallu defnyddio’r arian a oedd yn cael ei arbed drwy beidio â mynd allan yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. 

Fodd bynnag, roedd yn rhaid i rai yfwyr newid eu harferion gwario er mwyn ariannu eu defnydd parhaus o alcohol.  Fel y rhagwelwyd mewn astudiaethau blaenorol, roedd rhywfaint o dystiolaeth bod rhai yfwyr niweidiol wedi ariannu eu defnydd parhaus o alcohol drwy newid eu patrymau prynu nwyddau tŷ a thrwy gardota mwy (Holloway et al. 2019, Buhociu et al. 2021).

Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd wedi parhau i brynu alcohol yn yr un ffordd ag yr oeddent wedi’i wneud cyn yr MPA.  Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd wedi gwneud newidiadau wedi disgrifio newidiadau i siopa ar-lein, danfon nwyddau i’r cartref a mwy o ddefnydd o siopau cyfleuster lleol, gan briodoli’r newidiadau hyn i’r pandemig. 

Defnyddio sylweddau eraill

Yn ystod camau craffu’r Bil MPA, mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd y gallai rhai yfwyr newid o alcohol i gyffuriau anghyfreithlon rhatach o ganlyniad i gynnydd ym mhris alcohol.  Yn yr ‘astudiaeth newid’ flaenorol ac yn y cyfweliadau llinell sylfaen gofynnwyd i bobl ragweld beth allai ddigwydd yn y cyswllt hwn. Y farn gyffredinol oedd bod newid yn annhebygol ond pe bai hynny’n digwydd byddai ymysg y rheini sydd â hanes o ddefnydd blaenorol a sylweddau sy’n cael effaith debyg i alcohol (Holloway et al. 2019; Buhociu et al. 2021).

Fel y rhagdybiwyd, ni wnaeth y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd newid o alcohol i sylweddau eraill yn ystod y cyfnod dilynol.  I’r yfwyr hyn, roeddent yn dal i ddewis alcohol ac nid oedd newid i gyffuriau anghyfreithlon yn opsiwn. Hefyd, fel y rhagwelwyd, dim ond ymysg yfwyr dibynnol sydd â hanes o ddefnyddio’r sylweddau hyn y nodwyd newid i gyffuriau anghyfreithlon.  Yn wir, soniodd un a gafodd gyfweliad am gynnydd yn y defnydd o crac fel dewis rhatach yn lle alcohol (penderfyniad a ddylanwadwyd gan yr MPA a’r pandemig) a throdd un arall at dawelyddion i’w helpu i ymdopi â symptomau diddyfnu alcohol heb ei gynllunio. 

Effaith gyffredinol deddfwriaeth MPA

Hefyd gofynnwyd i’r cyfweleion edrych yn ehangach ar effaith MPA ar eu bywydau a’r effaith ar eu ffrindiau, eu teulu a’r rheini yn eu cymunedau. 

Y farn gyffredinol oedd nad oedd yr MPA wedi gwneud fawr o wahaniaeth i fywydau ein cyfweleion. Y rheswm pennaf am hyn oedd nad oeddent yn yfed digon er mwyn iddo effeithio arnynt neu oherwydd eu bod yn gallu fforddio’r cynnydd yn y pris.

Er nad oedd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd wedi sylwi ar effaith ar y rhai o’u cwmpas, roedd nifer fach yn sylwi neu’n teimlo ei bod wedi gwneud hynny ac roedd y newidiadau hyn yn cyd-fynd yn fras â’r rhagfynegiadau a wnaed mewn ymchwil blaenorol (gweler Holloway et al. 2019 a Buhociu et al. 2021).

Roedd rhai o’r cyfweleion wedi sylwi ar newid i gyffuriau anghyfreithlon (e.e. canabinoidau synthetig – sbeis, crac cocên a chanabis) tra bod eraill wedi sylwi ar newid o un math o alcohol i un arall (h.y. o seidr i wirodydd). Dywedodd rhai o’r cyfweleion fod aelodau o’r teulu wedi dechrau siopa am alcohol dros y ffin yn Lloegr lle nad yw’r MPA mewn grym, tra’r oedd eraill yn amau cynnydd mewn dwyn o siopau ac yn nodi newidiadau yng nghyllidebau’r cartref (h.y. addasu gwariant ar fwyd) i ariannu’r defnydd parhaus o alcohol.

Casgliadau

Yr astudiaeth hon yw’r gyntaf i gasglu adborth ar effaith isafswm prisiau ar gyfer alcohol ar batrymau yfed ac ymddygiad cysylltiedig yng Nghymru. Dyma’r cyntaf yn y DU hefyd (ac un o ychydig iawn o astudiaethau ar draws y byd) sydd wedi archwilio effaith COVID-19 ar batrymau yfed gan ddefnyddio dyluniad hydredol a dulliau ymchwil ansoddol.

Mae’r ymchwil yn wahanol i ymchwil blaenorol i MPA yng Nghymru gan ei fod yn seiliedig ar senarios bywyd go iawn yn hytrach na rhagfynegiadau o ddigwyddiadau (Buhociu et al., 2021; Holloway et al., 2019). Felly, mae wedi ein galluogi i fonitro a yw’r newidiadau a ragwelwyd, gan gynnwys canlyniadau anfwriadol posibl, wedi dod i’r amlwg ac wedi cael eu hachosi gan ddigwyddiadau.

Mae’r adborth a gasglwyd o’r sampl ansoddol hwn yn awgrymu nad yw gweithredu’r MPA wedi cael fawr o effaith hyd yma ar batrymau yfed na bywydau’r yfwyr yn ein sampl. Er bod rhai yfwyr wedi adrodd am gynnydd ac eraill am ostyngiad yn y cyfnod ar ôl gweithredu, roedd y newidiadau hyn yn cael eu priodoli, ym mhob achos ond un, i COVID-19 yn hytrach nag i MPA.

Yn unol ag ymchwil sy’n ymwneud â COVID o bob cwr o’r byd, roedd y cynnydd mewn yfed alcohol yn gysylltiedig ag unigrwydd, diflastod a straen, ac roedd y gostyngiadau’n gysylltiedig yn bennaf â diffyg cymdeithasu yn ystod y cyfyngiadau symud.

Yn bwysig, ni roddwyd llawer o sylw yn ein sampl i ganlyniadau negyddol disgwyliedig cynyddu mewn pris alcohol (e.e. cynnydd mewn troseddau, bragu gartref, newid sylweddau, defnyddio alcohol anghyfreithlon, diddyfnu heb ei gynllunio). Roedd yr ychydig achosion lle’r oedd ymddygiad a allai fod yn niweidiol (e.e. newid i ddefnyddio crac a thawelyddion) yn cael eu cofnodi, fel y rhagwelwyd, ymysg yfwyr dibynnol a’r rheini â hanes o ddefnyddio cyffuriau’n anghyfreithlon. 

Mae p’un a fydd effaith gadarnhaol isafbris ar y defnydd a’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a nodwyd yn yr Alban cyn y pandemig, yn dod i’r amlwg yng Nghymru ar ôl COVID, eto i’w gadarnhau. Bydd y don nesaf o gasglu data, a fydd yn cynnwys casglu data dilynol ar gyfer yr arolwg ar-lein, gryn amser ar ôl unrhyw gyfyngiadau symud cenedlaethol sylweddol yng Nghymru. Felly, mae’n gyfle defnyddiol i asesu effaith MPA heb effaith gronnus y cyfyngiadau symud cenedlaethol a phandemig byd-eang.

Y camau nesaf

Yr adroddiad hwn yw’r ail o bedwar adroddiad sydd wedi’u cynllunio ar gyfer asesu effaith MPA ar boblogaeth ehangach yfwyr yng Nghymru. Bydd yr adroddiad nesaf yn canolbwyntio ar ddata a gasglwyd ddwy flynedd ar ôl gweithredu’r ddeddfwriaeth a bydd y pedwerydd yn cyflwyno canfyddiadau ar sail data a gasglwyd 42 mis ar ôl gweithredu. Bydd y ddau adroddiad hyn yn bwysig o ran helpu i asesu effaith MPA ar yfwyr yng Nghymru. Byddant yn cyflwyno canfyddiadau o ymchwil a gynhaliwyd ar adeg, gobeithio, pan fydd pobl yn gallu cymdeithasu’n fwy rhydd a phan fydd safleoedd trwyddedig yn agored i fusnes. 

Yn nhon nesaf yr ymchwil, y bwriad yw cynnal trydedd rownd o gyfweliadau gyda’n sampl o gyfweliadau. Mae priodoli yn fater allweddol mewn unrhyw astudiaeth hydredol ac nid yw’r prosiect hwn yn eithriad. Yn wir, o blith y sampl gwreiddiol o 41 a gyfwelwyd, nid oedd yn bosibl cynnwys 10 yn yr ail don o gyfweliadau. Wrth symud ymlaen, bwriedir amnewid yr holl aelodau o’r sampl a gollwyd â mathau tebyg o yfwyr (e.e. drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, a thrwy ein cysylltiadau hostel).  Bydd hyn yn helpu i gynyddu cyfraniad y gwahanol fathau o yfwyr yn yr ymchwil. 

Bwriedir hefyd ailadrodd yr arolwg trawstoriadol a gynhaliwyd yn yr astudiaeth sylfaenol yn nhon nesaf yr ymchwil.  Fel y nodwyd yn yr adroddiad gwaelodlin, bydd nodweddion ymatebwyr i’r arolwg yn cael eu monitro drwy gydol y cyfnod casglu data a bydd ymgyrch hyblyg ond wedi’i thargedu i ennyn diddordeb ac annog cyfranogiad ymysg unrhyw is-grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn cael ei defnyddio. Y nod fydd cael ymatebion gan sampl mor gynrychiadol â phosibl.

Mae’r portffolio ymchwil sy’n deillio o’r asesiad o MPA ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yn bwysig. Bydd yn helpu i lywio ac arwain siâp a chwmpas MPA yng Nghymru ac, o bosibl, gwledydd eraill ledled y byd.

Manylion cyswllt

Awduron: Holloway, K., Buhociu, M., Murray, S., Livingston, W. and Perkins, A.

Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Janine Hale
E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 23/2022
ISBN digidol: 978-1-80391-782-5

Image
GSR logo