Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r dadansoddiad  hwn yn cysylltu'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) a'r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Brechiadau COVID-19 (RRDA_CVVD) ym Manc Data SAIL. Fe'i cynhaliwyd gan yr Uned Ymchwil Data Gweinyddol o fewn Llywodraeth Cymru.

Y prif ganlyniadau

Ers 7 Rhagfyr 2020 mae Cymru wedi arwain rhaglen frechu gyflym i leihau salwch a nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19. Mae'r dadansoddiad canlynol yn ymdrin â brechiadau a gofnodwyd rhwng 7 Rhagfyr 2020 a 1 Chwefror 2022. Er i'r mwyafrif o'r boblogaeth 12 oed a throsodd gael cynnig dau brif ddos ynghyd â dos atgyfnerthu, argymhellwyd y dylai unigolion â system imiwnedd wan iawn gael trydydd prif ddos. Yn y dadansoddiad hwn, mae unigolion wedi'u cyfrif unwaith yn unig yn erbyn y dos uchaf y maent wedi'i gael.

Ar gyfer yr holl aelodau o staff ysgolion yng Nghymru ar 1 Chwefror 2022:

  • amcangyfrifir bod 37,990 wedi cael brechiad atgyfnerthu cyntaf (A1), roedd hyn yn cyfateb i 82.3% o'r holl staff, gan gynnwys 84.3% o'r holl athrawon (18,395) ac 80.4% o'r holl staff cymorth (19,950)
  • y ganran a oedd wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn unig oedd 1.0% (445), roedd 11.7% (5,390) wedi cael dau ddos yn unig, roedd 1.6% (755) wedi cael trydydd prif ddos (ond dim dos atgyfnerthu); nid oedd unrhyw frechiadau wedi'u cofnodi ar gyfer 3.4% (1,570) o staff ysgolion.
  • canran y staff a oedd wedi cael trydydd dos neu ddos atgyfnerthu gyda'i gilydd oedd 83.9% (38,740); roedd y ganran hon yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, gyda'r ganran uchaf a oedd wedi cael y dosau hyn, sef 88.2% (870), yn cael ei chofnodi ym Mlaenau Gwent a'r ganran isaf, sef 78.1% (1,580), yn cael ei chofnodi yng Nghastell-nedd Port Talbot
  • roedd nifer yr aelodau o staff a oedd wedi cael eu brechu hefyd yn amrywio yn ôl rôl staff, gyda'r categori ‘arweinyddiaeth’ yn cofnodi'r ganran uchaf a oedd wedi cael trydydd dos neu ddos atgyfnerthu cyntaf, sef 92.1% (2,585), o gymharu ag 80.3% (645) o'r rhai yn y categori ‘athrawon eraill’
Image
Siart 1: Y gweithlu ysgolion yn ôl nifer y brechiadau ac awdurdod lleol, Chwefror 2022. Dengys y siart fod y mwyafrif o staff ysgolion wedi cael naill ai eu trydydd dos neu frechiad atgyfnerthu ac mae hyn yn gyson ym mhob awdurdod lleol gyda rhywfaint o amrywiad rhanbarthol.
Image
Siart 2:  Y gweithlu ysgolion yn ôl rôl staff a nifer y brechiadau, Chwefror 2022. Dengys y siart fod cyfran uwch yn y categori arweinyddiaeth (a) wedi cael eu brechiad atgyfnerthu o gymharu â chategorïau eraill o staff.

Nifer staff ysgolion sydd wedi cael eu brechu yn ôl sector

  • Ar y cyfan, roedd nifer yr unigolion a oedd wedi cael eu brechu yn eithaf cyson rhwng sectorau ysgol.
  • Ar 1 Chwefror 2022, amcangyfrifir bod 21,800 o aelodau o staff ysgolion meithrin a chynradd wedi cael naill ai eu trydydd dos neu frechiad atgyfnerthu cyntaf. Mae hyn yn cyfateb i tua 83.1% o holl staff ysgolion yn y sector hwn.
  • Ar gyfer yr holl staff mewn ysgolion canol, roedd 83.9% (1,585) wedi cael naill ai trydydd dos neu ddos atgyfnerthu cyntaf ac ar gyfer staff ysgolion uwchradd y ffigur hwn oedd 85.2% (12,500).
  • Yn yr un modd, ar gyfer staff mewn ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau) roedd 84.3% (2,860) wedi cael naill ai eu trydydd dos neu frechiad atgyfnerthu cyntaf.
  • Dangosir dadansoddiad manylach o nifer y brechiadau yn ôl sector yn Siart 3.
Image
Siart 3:  Y gweithlu ysgolion yn ôl sector a nifer y brechiadau, Chwefror 2022. Dengys y siart fod nifer yr unigolion sydd wedi cael eu brechu ar gyfer pob dos yn gyson rhwng sectorau ysgol.

Nifer staff ysgolion sydd cael eu brechu yn ôl demograffeg

  • Ar 1 Chwefror 2022, amcangyfrifir bod 32,555 o aelodau benywaidd o staff ysgolion wedi cael naill ai trydydd dos neu ddos atgyfnerthu cyntaf. Roedd hyn yn cyfateb i 83.5% o'r hol aelodau benywaidd o staff ysgolion.
  • Ar gyfer aelodau gwrywaidd o staff ysgolion, roedd 6,185 wedi cael naill ai eu trydydd dos neu ddos atgyfnerthu, sef 85.8% o'r holl aelodau gwrywaidd o staff ysgolion.
  • Dengys cyfraddau brechu oedran-benodol fod cyfran y rhai sydd wedi cael y trydydd dos a'r dos atgyfnerthu yn cynyddu gydag oedran.  Ar gyfer y rhai yn y categori o dan 25 oed roedd y ganran hon ar ei hisaf, sef 68.% (1,020) o gymharu â 94.1% (3,440) ar gyfer y rhai yn y categori 60 oed a throsodd.
  • Fodd bynnag, y rhai yn y categori o dan 25 oed oedd â'r ganran uchaf gyda dim ond dau ddos, sef 25.1% (375), wedi'u dilyn gan y rhai 25-29 oed ar 22.1% (940).
  • O'r aelodau hynny o staff ysgolion a nododd fod ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu iechyd meddwl a oedd wedi para 12 mis neu fwy neu yr oedd disgwyl iddo bara 12 mis neu fwy, roedd 91.7% (400) wedi cael naill ai'r trydydd dos neu ddos atgyfnerthu, o gymharu ag 83.8% (36,075) o'r rhai a roddodd ateb negyddol i'r cwestiwn hwn.
  • Mae'r data ar gyfraddau brechu yn ôl ethnigrwydd yn seiliedig ar niferoedd bach ac, felly, dylid eu dehongli'n ofalus. Yn y categorïau ‘gwrthodwyd rhoi gwybodaeth’ ac ‘ni chafwyd y wybodaeth’ y cofnodwyd y ganran uchaf o'r rhai a oedd wedi cael eu trydydd dos neu ddos atgyfnerthu.
  • Lle roedd ethnigrwydd wedi'i gofnodi, yn y categori ‘Gwyn’ y cofnodwyd y ganran uchaf a oedd wedi cael eu trydydd dos neu ddos atgyfnerthu, sef 84.1% (37,435). Yn y categori ‘Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig y cofnodwyd y ganran isaf, sef 55.8% (55), wedi'i ddilyn gan ‘Grwpiau Ethnig Cymysg/Lluosog’ ar 70.7% (230).
Image
Siart 4:  Y gweithlu ysgolion yn ôl oedran a nifer y brechiadau, Chwefror 2022. Dengys y siart fod nifer yr unigolion sydd wedi cael eu brechu yn amrywio yn ôl oedran gyda'r gyfran sydd wedi cael naill ai eu trydydd dos neu frechiad atgyfnerthu yn cynyddu gydag oedran.
Image
Siart 5: Y gweithlu ysgolion yn ôl ethnigrwydd a nifer y brechiadau, Chwefror 2022. Dengys y siart, ar gyfer cofnodion lle y datgelwyd ethnigrwydd, mai'r categori gwyn a gofnododd y gyfran uchaf â thrydydd dos neu ddos atgyfnerthu ac mai'r categori Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig a gofnododd y gyfran isaf.

Gwybodaeth am setiau data

Mae'r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar ddata dienw a gedwir yn y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sy'n rhan o seilwaith ymchwil cofnodion e-iechyd cenedlaethol Cymru. Cafodd yr holl ddata eu hanonymeiddio cyn eu cael a'u defnyddio o fewn yr amgylchedd diogel a ddarparwyd gan Fanc Data SAIL.

Caiff Asedau Data Parod Ymchwil (RRDA) eu paratoi a'u cynnal gan y tîm Gwyddor Data Poblogaeth, Ymchwil Data Iechyd y DU ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Data Brechu COVID-19 (RRDA_CVVD) yn cwmpasu pob claf a phob brechlyn a roddir neu y bwriedir ei rhoi ar gyfer COVID-19, yn GIG Cymru neu a ariennir gan GIG Cymru.

Mae'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yn cynnwys dau gasgliad data ac mae'n cwmpasu blynyddoedd academaidd 2018/2019 a 2020/21. Y cyntaf yw data ar gontractau a chyflog gan awdurdodau lleol a'r ail yw data ar y gweithlu yn uniongyrchol gan ysgolion. Mae'r ddau gasgliad data yn cynnwys cofnodion staff sy'n gorgyffwrdd ac nad ydynt yn union yr un peth. Felly, gall rhai aelodau o staff ymddangos ar y naill gasgliad data ond nid ar y llall. Ar gyfer y dadansoddiad hwn defnyddiwyd y data a gafwyd yn uniongyrchol gan ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21, mae hyn yn gyson â'r fethodoleg ar gyfer cynhyrchu ffigurau cyfrif pen ar gyfer Staff Ysgolion (Gweler yr adroddiad ar y  ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: gwybodaeth gefndir’  am fanylion pellach am set ddata CBGY.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol yn Llywodraeth Cymru yn cynnal prosiectau ymchwil er budd y cyhoedd gan ddefnyddio setiau data gweinyddol sefydledig. Yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19), mae'r Uned wedi cynnal nifer o brosiectau cysylltu data. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cysylltwyd y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) ar gyfer 2020/21 a'r Ased Data Parod Ymchwil ar gyfer Brechiadau COVID-2020 (RRDA_CVVD) ym Manc Data SAIL.

Mae'r RRDA_CVVD yn ffynhonnell wedi'i glanhau o ddata brechu COVID-19 a grëwyd yn benodol ar gyfer gwaith dadansoddi ac ymchwil. Mae ffigurau brechu a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad hwn fel y'u tynnwyd ar 01/02/2022. Ni chynhwyswyd brechlynnau a gafwyd ar ôl y dyddiad hwn. Caiff ffigurau ar gyfer nifer y bobl sydd wedi'u brechu eu newid yn rheolaidd oherwydd diweddariadau mynych i set ddata RRDA_CVVD.

Yn set ddata RRDA_CVVD caiff canran fach o gofnodion eu hepgor am nad ydynt yn dilyn un o'r rheolau brechu canlynol:

  • Wedi'u brechu yn y DU h.y. byth dramor
  • Wedi'u brechu fel rhan o'r rhaglen frechu h.y. byth fel rhan o dreial
  • Enw'r brechiad yw: Pfizer Biotech o 7 Rhag 2021, AstraZeneca o 4 Ion 2021, Moderna (neu Moderna half) o 4 Ion 2021, Janssen o 1 Maw 2021, Novavax o 1 Ion 2023
  • Mae'r dyddiad brechu cyn y *dyddiad presennol*
  • Ar gyfer cofnod â sawl brechiad: Rhaid i bob dos fod o leiaf 20 diwrnod ar ôl yr un blaenorol
  • Rhaid i drefn y dosau fod yn ddilyniannol e.e. dim ail ddos cyn y dos cyntaf, ni ddylai mwy nag un ail ddos fod wedi'i gofnodi

Casgliad ar lefel unigol yw'r CBGY ac, felly, mae'n bosibl y bydd rhai achosion lle bydd aelod o'r gweithlu wedi'i gofnodi yn erbyn nifer o rolau yn yr un ysgol neu mewn nifer o ysgolion. Ar gyfer y dadansoddiad hwn fel rhan o'r broses gysylltu a chyfuno, lle y bo'n bosibl caiff gwybodaeth yr athrawon hynny sydd â mwy nag un rôl (e.e. y rhai sy'n gweithio'n rhan-amser mewn dwy ysgol) ei chyfuno'n un cofnod a'i chofnodi yn erbyn y raddfa uchaf ar gyfer yr athro unigol hwnnw.

Yn yr un modd, gyda chofnodion croes o oedran sy'n ymwneud â'r un unigolyn, er mwyn osgoi gorgyfrif, mae'r oedran uchaf a gofnodwyd wedi'i ddewis ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Effeithiodd hyn ar nifer bach iawn o gofnodion ac, felly, roedd yn annhebygol o greu tuedd arwyddocaol. Ar gyfer nodweddion eraill gan gynnwys ethnigrwydd ac anabledd, lle y nodwyd mwy nag un categori dim ond un sydd wedi'i gynnwys. 

Cysylltir setiau data drwy ddefnyddio meysydd cysylltu dienw (ALFs). Dim ond ar gyfer aelodau o staff sy'n byw yng Nghymru mae'r rhain ar gael, mae unigolion nad ydynt yn byw yng Nghymru wedi'u hepgor. Lle mae aelodau o'r gweithlu wedi cael brechlynnau a roddwyd y tu allan i Gymru, gall y rhain ymddangos fel petaent wedi cael dim dosau a gofnodwyd. O ganlyniad, mae'n debygol y bydd ffigurau a ddangosir yn goramcangyfrif nifer yr unigolion â dim dosau mewn Awdurdodau Lleol ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd amcangyfrifon cyfrif pen staff yn is na ffigurau cyfrif pen CBDY sydd wedi'u cyhoeddi rywle arall gan fod tua 84 y cant o gofnodion CBDY wedi'u paru'n llwyddiannus â set ddata RRDA_CVVD (gweler canlyniadau cyfrifiad gweithlu ysgolion am y ffigurau cyfrif pen diweddaraf)

Dangosir ffigurau cyfrif pen wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Bwriedir i dalgrynnu atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei datgelu. Fodd bynnag, mae canrannau wedi'u cyfrifol gan ddefnyddio rhifau crai manwl gywir.

Cafodd y data eu trin yn SQL DB2 ac MS Excel ym Manc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). 

Mae'r ymchwil hon wedi'i gwneud rhan fel o raglen waith Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Mae rhaglen waith YDG Cymru yn cyd-fynd â'r themâu â blaenoriaeth fel y'u nodir gan Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae YDG Cymru yn dod ag arbenigwyr ym maes gwyddor data yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Data a Dulliau (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd a thimau arbennig at ei gilydd i ddatblygu tystiolaeth newydd drwy ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn cysylltu a dadansoddi data dienw. Mae YDG Cymru yn rhan o'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) a ariennir gan ADR UK (grant ES/S007393/1).

Mae'r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarparwyd gan gleifion ac a gasglwyd gan y GIG fel rhan o’u gofal a’u cymorth. Hoffem hefyd gydnabod yr holl ddarparwyr data sy’n darparu data dienw ar gyfer ymchwil.

Rydym am gydnabod y bartneriaeth gydweithredol a'n galluogodd i gael a gweld y data dienw, a arweiniodd at yr allbwn hwn. Arweiniwyd y cydweithrediad gan dîm Ymchwil Data Iechyd y DU ym Mhrifysgol Abertawe o dan gyfarwyddyd Cell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys y grwpiau a'r sefydliadau canlynol:  Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru gynt), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cydwasanaethau'r GIG ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae'r holl ymchwil wedi'i gwneud gyda chaniatâd a chymeradwyaeth Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth annibynnol SAIL rhif prosiect 0911.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef: Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt wneud y canlynol: (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif i gefnogi’r dangosyddion cenedlaethol a gallent gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn cysylltiad â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Kathryn Helliwell
Ffôn: 0300 062 8349
Email: ADRUWales@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 97/2022