Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o ddyluniad y CBGY

Casgliad electronig o ddata ar lefel unigol ynghylch y gweithlu ysgolion mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yw'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY).  Cyflwynwyd y casgliad yn 2019 ac mae’n casglu gwybodaeth ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

Mae casgliad CBGY wedi’i rannu’n ddwy ran CBGY Ysgol a CBGY Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldebau.

Caiff Datganiad Ysgol y CBGY ei gwblhau gan ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae ysgolion yn cofnodi a diweddaru data ar y gweithlu drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth (SRhG).  Mae rhan fwyaf o’r eitemau data a gesglir yn y CBGY Ysgol yn eitemau data ciplun. Mae hyn yn golygu eu bod yn adlewyrchu’r gweithlu fel ar ddyddiad y Cyfrifiad. Cyflwynwyd modylau newydd ar gyfer recriwtio, cadw staff a chyflenwi i’r casgliad 2021. Mae’r modylau yma yn casglu gwybodaeth hanesyddol dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf cyn y dyddiad cyfrifiad. Mae’r CBGY Ysgol yn casglu gwybodaeth ar:

  • nodweddion staff (rhyw, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol ayyb)
  • rolau
  • y Gymraeg (gallu yn y Gymraeg ac addysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg)
  • pynciau a ddysgir
  • recriwtio a chadw staff 
  • cyflenwi

Caiff Datganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY ei gwblhau gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion sydd wedi dewis peidio ag ymrwymo i gytundebau lefel gwasanaeth adnoddau dynol a/neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Caiff y data eu cynnal drwy’r flwyddyn yn eu systemau adnoddau dynol a chyflogres. Oni bai nodir isod, mae’r eitemau data a gesglir yn y CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau yn eitemau data ciplun fel ar dyddiad y cyfrifiad. Mae’r rhan yma o’r casgliad yn casglu gwybodaeth ar:

  • swyddi
  • ystod gyflog
  • cyflog sail
  • cyfwerth ag amser llawn
  • lwfansau (wedi’u derbyn yn y flwyddyn i ddyddiad y cyfrifiad)
  • absenoldebau (agorwyd neu caewyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol)

Caiff y data hwn eu coladu mewn datganiad CBGY electronig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy Fenter Cyfnewid Data Cymru (DEWi), sef system trosglwyddo data ar-lein diogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r broses hon yn cynnwys camau dilysu a gwirio amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae hysbysiad preifatrwydd y CBGY i aelodau'r gweithlu ysgolion yn rhoi manylion am y wybodaeth a gesglir amdanynt a'r hyn a wnawn gyda'u gwybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y CBGY, gan gynnwys nodiadau cwblhau technegol a'r hysbysiad preifatrwydd ar gael ar dudalen Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth ansawdd

Cywirdeb

Mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yng nghasgliad 2025 y CBGY ac, fel y cyfryw, cânt eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol. Mae’r wybodaeth wedi’u casglu trwy broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.  Bwriadir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol.

Yn 2019, ni chyflwynodd 4 ysgol o blith y 1,502 o ysgolion ddatganiad Ysgol ar gyfer y CBGY (cyfradd gyflwyno o 99.7%). Ar gyfer yr ysgolion hyn, cafodd y dadansoddiad staff yn ôl rôl ei amcangyfrif gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd ar gyfer ysgolion â nodweddion tebyg yn yr un awdurdod lleol a’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD). Mae gwybodaeth arall ar y gweithlu (e.e. rhyw, oedran) wedi’u cofnodi fel ‘anhysbys’ yn yr achos yma. Ym mhob blwyddyn ers 2020, cyflwynodd 100% o ysgolion eu data CBGY Ysgol.

CBGY Ysgol

Cyflwynwyd tair eitem data newydd i’r casgliad CBGY Ysgol ar gyfer 2020: cyfwerth ag amser llawn (FTE), statws a trydydd parti. Cyflwynwyd ‘FTE’ yn lle ‘Oriau contract bob wythnos’. Hefyd, cyflwynwyd yr eitem ‘Statws’ i nodi unigolion ar absenoldeb hirdymor (e.e. unigolion ar gyfnod mamolaeth, secondiad). Er mwyn osgoi gorgyfrifo (cyfri’r rhai hynny sy’n absennol ar ddyddiad y Cyfrifiad ac y rhai hynny sydd yn cyfro’r absenoldeb), mae unigolion sydd wedi’u nodi fel ar absenoldeb hirdymor a/neu sydd â FTE yn sero wedi’u heithrio o’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer 2020 ymlaen. Cyflwynwyd yr eitem ‘trydydd parti’ i ddynodi unigolion nad sy’n cael eu cyflogi trwy’r awdurdod lleol (e.e. staff wedi’u cyflogi trwy asiantaethau cyflenwi) ac i helpu’r broses dilysu data rhwng y data CBGY Ysgol a CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau. Am y rheswm yma, nid yw ffigurau o’r CBGY Ysgol ar gyfer 2020 ymlaen yn union gymharol a 2019.

Mae tablau 1 a 2 yn dangos cyfanswm nifer staff casglwyd yn y CBGY Ysgol rhwng 2021 a 2025. 

Tabl 1: cyfrif pen athrawon yn ôl statws, 2020/21 i 2025/26
Mesur2021/222022/232023/242024/252025/26
Cyfrif pen cyhoeddedig26,60026,44525,74025,11524,930
Absenoldeb tymor hir1,3051,5251,4401,6751,470
FTE = sero0005*
Cyfanswm unigolion27,90527,97027,18026,79526,400

Ffynhonnell: Data CBGY Ysgolion
* Eitem data ddim yn berthnasol.

Tabl 2: cyfrif pen staff cymorth yn ôl statws ar gyfer 2020/21 i 2025/26
Mesur2021/222022/232023/242024/252025/26
Cyfrif pen cyhoeddedig30,03530,86030,15529,25029,070
Absenoldeb tymor hir580690735790700
FTE = sero401,4451,3451,3601,360
Cyfanswm unigolion30,65032,99532,23031,40031,130

Ffynhonnell: Data CBGY Ysgolion

Disgrifiad o Tablau 1 a 2: Mae tablau 1 a 2 yn dangos y nifer o athrawon a staff cymorth wedi’u cynnwys yn y data CBGY Ysgol a’r nifer sydd wedi’u heithrio o’r ffigurau cyhoeddedig oherwydd eu bod wedi’u nodi fel ar absenoldeb tymor hir neu â ffigwr cyfwerth ag amser llawn o sero. Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd yn y cyfrif pen cyhoeddedig a chyfanswm nifer yr unigolion yn y data CBGY Ysgol ar gyfer athrawon rhwng 2020 a 2021, ond wedi disgyn bob blwyddyn ers hynny. Bu cynnydd yn cyfrif pen ar gyfer staff cymorth rhwng 2020 a 2022 cyn disgyn yn 2023 ac eto yn 2024. Mae’n bosib bod y patrymau yma yn rhannol o ganlyniad i’r arian ychwanegol roddwyd i ysgolion gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r cynllun i “recriwtio, adfer a chodi safonau” (RAChS) i helpu recriwtio staff ychwanegol i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Darparwyd arian RAChS i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID a’r cyfnod adferu hyd at 2023-24, er mae’r swm sydd wedi’i ddyrannu wedi lleihau ers yr ariannu gwreiddiol yn 2020-21. Roedd y mwyafrif o’r staff yma wedi’u cyflogi ar sail dros dro ac mae hyn wedi effeithio’r newidiadau sydd i’w gweld yn y gweithlu ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar yr arian RAChS ar gael yn y ddogfen Gwerthuso'r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RAChS).

Diffiniadau

CBGY ysgol: rolau

Defnyddir tri mesur i ddangos dosbarthiad y gweithlu ysgol: cyfrif pen, cyfwerth â pherson llawn (FPE) a cyfwerth ag amser llawn (FTE). Gweler diffiniad ar gyfer bob un o’r mesurau yma isod.

Cyfrif pen

Mae’r cyfrif pen yn rhoi cyfrif o unigolion yn eu rôl uchaf. Ar y lefel awdurdod lleol, mae bob unigolion yn cael eu cyfri unwaith ym mhob awdurdod lleol maent yn gweithio. Ar lefel Cymru, mae unigolion ond yn cael eu cyfri unwaith, beth bynnag y nifer o awdurdodau lleol maent yn gweithio ynddynt. O ganlyniad, mae’n bosib na fydd cyfanswm yr awdurdod lleol yn hafal i ffigwr Cymru.

Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE)

Mae’r FPE yn dangos y gyfran o amser gweithio unigolyn maent yn gwario ym mhob rôl ac awdurdod lleol. Mae cyfanswm yr awdurdodau lleol yn hafal i ffigwr Cymru.

Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE)

Mae’r FTE yn dangos y gyfran o gontract amser llawn unigolyn maent yn gwario ym mhob rôl ac awdurdod lleol. Fel yr FPE, mae cyfanswm yr awdurdodau lleol yn hafal i ffigwr Cymru.

Dyma enghraifft i ddangos y gwahaniaeth rhwng y tri mesur:

Mae athro yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos. Am un diwrnod mae’n gweithio fel pennaeth cynorthwyol ac fel athro dosbarth am yr 1.5 diwrnod arall.

Yn y cyfrif pen, bydd yr unigolyn yn cael ei gyfri fel 1 yn erbyn y categori pennaeth cynorthwyol (cyfrif pen yn hafal i 1).

Ar gyfer FPE, bydd yr unigolyn yn cael ei gyfri fel 0.4 yn y categori pennaeth cynorthwyol a 0.6 yn y categori athro dosbarth (cyfanswm FPE yn hafal i 1).

Ar gyfer FTE, bydd yr unigolyn yn cael ei gyfri fel 0.2 yn y categori pennaeth cynorthwyol a 0.3 yn y categori athro dosbarth (cyfanswm FTE yn hafal i 0.5).

CBGY ysgol: y Gymraeg

Mae athrawon yn nodi eu sgiliau iaith Gymraeg yn erbyn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg ymarferwyr addysg. Mae’r ffigurau isod yn mesur y nifer o athrawon sydd ag sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd, uwch neu hyfrededd gan bod hyn yn dangos bod gan rhai unigolion y sgiliau anghenrheidiol i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond efallai angen datblygu eu sgiliau ac hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn cynnwys nifer o staff yn ôl lefel gallu yn y Gymraeg ar gael ar StatsCymru.

CBGY ysgol: pynciau a ddysgir

Mae’r wybodaeth a gesglir ar y pynciau a ddysgir yn seiliedig ar amserlen dros bythefnos arferol yr ysgol. Mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys athrawon sy’n dysgu disgyblion blwyddyn 7 ac uwch yn unig. Y tri mesur sydd ar gael y data yma yw: cyfrif pen, cyfwerth ag amser llawn (FPE) ac oriau.

Cyfrif Pen

Yn y ffigurau yn ôl pwnc, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn erbyn pob pwnc maent yn dysgu.  Yn y cyfanswm, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn unig, pa bynnag nifer o bynciau maent yn dysgu. Felly, ni fydd swm y pynciau yn hafal i’r cyfanswm.

Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE)

Mae’r FPE yn dangos y gyfran o amser Dysgu mae athro yn gwario yn dysgu pwnc penodol.

Os mae athro yn gwario hanner ei amser yn dysgu Saesneg a hanner ei amser yn dysgu Drama, ar gyfer yr FPE maent yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Yn y cyfrif pen, bydd yr athro yma yn cyfri fel 1 yn erbyn bob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Ar lefel pwnc, y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r FPE, y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd  yn y pwnc.

Oriau

Mae hyn yn adlewyrchu cyfanswm yr oriau a ddysgir yn yr amserlen dros bythefnos. Mae’r tri mesur yn gymharol a’i gilydd.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

Yn arferol, mae’r data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau yn cael eu cwblhau gan awdurdodau lleol. Mae mwyafrif o’r gweithlu i’w cynnwys yn y ddau gasgliad, er mae yna rhai eithriadau. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan yr awdurdod lleol lle nad ydynt yn gweithio mewn ysgol benodol yn ymddangos yn y data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Mae’r unigolion yma wedi’u nodi yn y sector ‘Arall’ ar StatsCymru. Hefyd, mae’n bosib bod unigolion sydd wedi’u cyflogi trwy asiantaethau cyflenwi neu sefydliadau trydydd parti wedi’u cofnodi yn y data CBGY Ysgol ond nid y data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau. Am y rhesymau yma, bydd ffigurau cyfrif pen a nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyflogau athrawon ac absenoldebau athrawon yn wahanol i’r rhai hynny yn y data CBGY Ysgol.

Nid yw’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi o’r data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau yn cynnwys unigolion:

  • Gyda FTE neu gyflog sail yn sero
  • Mewn swydd lle and ydynt yn addysgu
  • Yn cael eu talu ar gyfradd ddyddiol
  • Ar gytundeb lefel gwasanaeth gyda’u hawdurdod lleol
  • Heb gontract agored ar y dyddiad Cyfrifiad [troednodyn 1] [troednodyn 2]

Hefyd, nid yw ffigurau ar absenoldebau athrawon trwy salwch yn cynnwys absenoldebau:

  • Heb eu hagor neu gau yn ystod y flwyddyn academaidd [troednodyn 3]
  • Yn llai na 0.5 neu’n fwy na 195 diwrnod o hyd.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau: athrawon yn ôl ystod cyflog

Cyfrif pen

Mae unigolion wedi’u cyfri unwaith ar gyfer pob ystod gyflog maent yn cael eu talu yn erbyn (mae hyn yn wahanol i’r cyfrif pen ar gyfer y data CBGY Ysgol ble mae unigolion ond yn cael eu cyfrif yn erbyn eu rôl uchaf yn unig). Yn y cyfanswm, mae unigolion wedi’u cyfri unwaith yn unig, pwy bynnag nifer o ystodau cyflog maent wedi’u talu yn eu herbyn. Felly, mae’n bosib na fydd swm yr ystodau cyflog yn hafal i’r cyfanswm.

Cyfwerth ag amser llawn (FTE)

Mae unigolion wedi’u cyfri am y gyfran yr amser contract llawn yr ystod gyflog maent wedi’u talu yn erbyn. Os yw unigolyn yn dal mwy nag un contract ar yr un ystod gyflog, mae’r FTE wedi’i symio. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol wedi’u cofnodi yn y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Ar gyfer y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn dangos unigolion wedi’u cyfri am y gyfran o amser contract llawn maent wedi’u talu ar ystod cyflog benodol a bydd yn wahanol i’r ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nodweddion staff o’r data CBGY Ysgol.

CBGY AD, cyflogau ac absenoldebau: absenoldebau trwy salwch

Mae data absenoldeb trwy salwch yn cynnwys absenoldebau wedi’u cofnodi yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol. Mae gwybodaeth yn cael eu cyhoeddi ar gyfer unigolion â chontract agored yn yr un awdurdod lleol ar y dyddiad Cyfrifiad diwethaf. 

Cyfrif pen (a chyfran)

Mae unigolion wedi’u cyfri unwaith ar gyfer pob math o lwfans maent yn eu derbyn. Mae unigolion sydd wedi’u nodi yn derbyn mwy nag un taliad ar gyfer yr un math o lwfans wedi’u cyfri unwaith yn unig. Ar gyfer y cyfanswm, mae unigolyn yn cael eu cyfri unwaith, sawl bynnag gwahanol fath o lwfans maent wedi derbyn. Am y rheswm yma, mae’n bosib na fydd swm y math o daliad yn hafal i’r cyfanswm.

Taliad cyfartalog (cymedr a chanolrif)

Mae’r taliad cyfartalog yn seiliedig ar y nifer o unigolion sydd wedi derbyn lwfans. Os yw unigolyn wedi derbyn mwy nag un taliad ar gyfer yr un math o lwfans, mae’r taliad mwyaf wedi’i ddefnyddio.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau: absenoldebau trwy salwch

Mae data absenoldeb trwy salwch yn cynnwys absenoldebau wedi’u cofnodi yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol (h.y. 1 Medi 2021 i 31 Medi 2022). Mae gwybodaeth yn cael eu cyhoeddi ar gyfer unigolion â chontract agored yn yr un awdurdod lleol ar y dyddiad Cyfrifiad diwethaf.

Cyfrif pen (a chyfran)

Cyfrif o’r nifer o unigolion sydd wedi cymryd absenoldeb trwy salwch. Ar gyfer unigolion sydd wedi cymryd mwy nag un absenoldeb yn ystod y flwyddyn, mae’r dyddiau gwaith a gollwyd wedi’u symio. Bydd athro sydd wedi cymryd dau absenoldeb trwy salwch o 5 diwrnod o hyd yr un yn cael ei gyfri unwaith yn y categori ‘ Rhwng 6 a 10 diwrnod’.

Nifer o absenoldebau

Y nifer o absenoldebau salwch sydd wedi’u cofnodi. Bydd athro sydd wedi cymryd dau absenoldeb trwy salwch o 5 diwrnod o hyd yr un yn cael ei gyfri ddwywaith yn y categori ‘5 diwrnod neu lai’.

Cysylltu data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau a CBGY Ysgol

Nid oes gwybodaeth ar sector yr ysgol (e.e. cynradd, uwchradd ayyb) yn cael eu casglu yn y CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau. Er mwyn gallu darparu data yn ôl sector ar gyfer y wybodaeth o’r CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau mae’r data yn cael eu cysylltu i’r data yn y CBGY Ysgol gan ddefnyddio’r rhif yswiriant cenedlaethol a’r côd awdurdod lleol. Os yw unigolyn yn gweithio mewn mwy nag un sector yn yr un awdurdod lleol, mae’r wybodaeth yn cael eu cysylltu i’r sector mae’r unigolyn yn gweithio yn ei rôl uchaf.

Swydd

Mae hyn yn adlewyrchu’r swydd mae’r unigolyn wedi’u gofnodi yn ei herbyn yn y data cyflogres. Mae’n bosib bydd hyn yn wahanol i’r hynny sydd wedi ei gasglu yn y CBGY Ysgol sydd yn seiliedig ar y rolau mae’r unigolyn yn ymgymryd (ar sail barhaol neu dros dro) ar ddyddiad y Cyfrifiad.

Daliadaeth (Llawn amser/Rhan amser)

Yn y tabl athrawon yn ôl ystod gyflog sydd wedi’i gyhoeddi ar StatsCymru, mae’r ddaliadaeth yn dangos daliadaeth unigolyn ar ystod cyflog benodol. Os oes gan unigolyn yn dal nifer o gontractau ar yr un ystod gyflog, bydd ei daliadaeth yn adlewyrchu hyn (h.y. bydd athro â dau gontract gyda FTE yn 0.5 yr un ar y brif ystod gyflog yn cael ei gyfri fell lawn amser). Bydd unigolyn sydd â chontract 0.5 FTE ar y brif ystod gyflog a chontract 0.5 FTE ar yr ystod gyflog arweinyddiaeth yn cael ei gofnodi fel rhan amser yn erbyn y ddau ystod gyflog a’r cyfanswm ystod gyflog.

Mae’r ddaliadaeth yn cael ei gyfrifo’n wahanol ar gyfer tablau lwfansau ac absenoldeb athrawon trwy salwch. Yn yr achos yma, os oes gan unigolyn mwy nag un contract, mae’r FTE uchaf yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod unigolyn sydd â dau gontract 0.5 FTE yr un yn cael ei gyfri fel rhan amser.

Mae’r FTE yn eitem data ciplun sy’n adlewyrchu patrwm gwaith unigolyn ar ddyddiad y cyfrifiad. Gan fod y data lwfansau yn cyfeirio at y flwyddyn i ddyddiad y Cyfrifiad, ac absenoldebau dros y flwyddyn academaidd, mae’n bosib and yw’r FTE yn adlewyrchu patrwm gwaith yr unigolyn wrth dderbyn y lwfans / cymryd y cyfnod o absenoldeb.

Categorïau Iaith Ysgol

Diweddarwyd canllawiau ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y mis Rhagfyr 2021. Pwrpas y trefniadau newydd ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yw helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i gynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd sy’n ategu’r Cwricwlwm i Gymru ynghyd â’r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg, fel cyflwynwyd yn Cymraeg 2050. Nid yw data sy’n defnyddio’r system categoreiddio newydd yn gymharol â’r system categoreiddio flaenorol.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau swyddogol hyn o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • Estyn
  • y gymuned ymchwilio
  • awdurdodau lleol
  • undebau llafur
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • darparu tystiolaeth i’r Corff Adolygu Cyflogau Annibynol Cymru (IWPRB) i oleuo trafodaethau ac ystyriaethau fel rhan o adolygiad blynyddol o gyflogau athrawon
  • dyrannu adnoddau yn Grant Addysgu Proffesiynol
  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolioni gynorthwyo ymchwil addysgol

Cymharedd â CYBLD

Mae'r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) yn casglu data ar lefel gyfanredol ar nifer yr athrawon a'r staff cymorth ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithlu ysgolion, a gasglwyd drwy'r CYBLD, ar gael yn natganiad ystadegol Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: ym mis Ionawr 2025. Dylid parhau i ddefnyddio data a gyhoeddir yn y datganiad ystadegol ‘Canlyniadau’r Cyfrifiad Ysgol’ sy’n defnyddio gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol ar gyfer tueddiadau dros amser ar hyn o bryd. Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.

Rydym wedi dechrau ymchwilio i mewn i’r gwahaniaethau rhwng data gweithlu ysgol a gesglir trwy’r CYBLD a CBGY ac yn bwriadu ymgymryd â dadansoddiad mwy manwl yn dilyn cyhoeddiad data CYBLD 2026 ar 5 Awst 2026.

Cymharu data CBGY a CYBLD: athrawon wedi cymhwyso

Mae’r gwahaniaethau rhwng niferoedd cyfrif pen a nifer cyfwerth ag amser llawn CBGY a CYBLD  yn gallu cael eu hesbonio i raddau helaeth gan y gwahaniaeth yng nghwmpas yr athrawon sydd i’w cynnwys yn y casgliadau a gan yr arian darparwyd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion fel rhan o’r cynllun “recriwtio, adfer a chodi safonau” (RAChS) i recriwtio staff ychwanegol i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod pandemig COVID a’r cyfnod adfer hyd at 2023-24. Roedd yr holl staff cyflogwyd trwy’r RAChS wedi’u cyflogi ar sail dros dro. Mae’r CBGY yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi ar gontract o 28 diwrnod neu mwy lle mae’r CYBLD yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi ar gontract o dymor neu mwy. Hefyd, mae’r CBGY yn cael ei gasglu ar lefel unigolyn sy’n galluogi eithrio dyblygu staff sy’n gweithio mewn mwy nag un ysgol a staff sydd ar absenoldeb tymor hir sydd efallai wedi’u cynnwys yn y CYBLD sy’n casglu gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth ar lefel cyfanredol yn unig. Felly, nid yw’n bosib sicrhau nad yw data CYBLD yn dyblygu niferoedd athrawon a staff cymorth mewn rhai amgylchiadau.

Cyfrif pen

Un brif wahaniaeth rhwng y CYBLD a CBGY yw’r broses casglu. Mae yna ddilysu cyfyngedig ar y data gweithlu a gyflwynir trwy’r CYBLD, lle mae yna ddilysiadau wedi’u hawtomeiddio a gwirio synnwyr mwy trylwyr wedi’u cynnwys yn y casgliad CBGY. Felly, mae’n debygol bod y data gweithlu o’r CBGY o safon uwch o ganlyniad i ddulliau casglu data a ddefnyddir. Hefyd, mae’r data’n cael eu casglu ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, y CBGY ym mis Tachwedd a’r CYBLD ym mis Ionawr, sydd hefyd o bosib yn cyfri am ychydig o’r gwahaniaethau.

Tabl 3: Cymhariaeth o ffigurau cyfrif pen a gyhoeddwyd ar gyfer athrawon wedi cymhwyso o CYBLD a CBGY, 2020/21 to 2024/25
Casgliad2021/222022/232023/242024/252025/26
CYBLD26,86527,13526,465 25,940
CBGY25,90525,78525,06024,44524,290

Ffynhonell: Data CBGY Ysgolion

. Eitem ddata ddim ar gael.

Yn 2024/25, roedd yna 24,445 athro wedi cymhwyso yn ôl data CBGY o’i gymharu â 25,940 yn CYBLD. Mae’n bosib bod ran health o’r gwahaniaeth o ganlyniad i’r broses dilysu fwy trylwyr o’r data gweithlu yn y CBGY. Yn y CBGY, mae gwallau yn cael eu hamlygu os oes unigolyn yn cael ei gofnodi fel athro cymwysedig ond heb statws athro cymwysedig (SAC). Yn y CYBLD, nid yw’n bosib cadarnhau os yw athro heb gymhwyso wedi’i gofnodi’n anghywir yn y categori athro wedi cymhwyso. 

Hefyd, mae’r dilysiadau sydd wedi eu hadeiladu i mewn i’r CBGY yn gallu amlygu achosion lle mae unigolion ar absenoldeb tymor hir wedi eu nodi’n bresennol yn anghywir. Mae’r unigolion hynny sydd ar absenoldeb tymor hir yn cael eu heithrio o’r cyfrif pen sy’n cael ei gyhoeddi o’r CBGY. Er bod nodiadau cwblhau technegol CYBLD yn nodi na ddylid cynnwys unigolion ar absenoldeb tymor hir, nid yw’n bosib gwirio hynny yn y data.

Cyfwerth ag amser llawn (FTE)

Yn 2024/25, roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn o athrawon yn ôl CBGY yn 22,830 o’i gymharu â 23,730 yn CYBLD Ionawr 2025.

Tabl 4: cymhariaeth o ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn a gyhoeddwyd ar gyfer athrawon wedi cymhwyso o CYBLD a CBGY, 2020/21 to 2023/24
Casgliad2021/222022/232023/242024/252025/26
PLASC24,65524,88524,295 23,730.
SWAC24,12024,08023,40022,83022,660

Ffynhonell: Data CBGY Ysgolion

. Eitem ddata ddim ar gael.

Hefyd, gellir esbonio’r gwahaniaeth trwy’r amrywiaeth yn sut mae’r FTE yn cael eu cyfrifo yn y ddau gasgliad. Mae’r data lefel unigolyn yn y CBGY yn galluogi mwy o gysondeb yn sut mae’r data yn cael eu dadansoddi ac mae gofyn dychwelyd FTE ar gyfer bob unigolyn, gyda’r FTE yn adlewyrchu’r gyfran o gontract amser llawn mae’r unigolyn yn gweithio. Mae’r CYBLD yn casglu gwybodaeth ar ddaliadaeth (llawn amser / rhan amser) ac oriau gweithio. Ar gyfer unigolyn sydd wedi’i gofnodi fel rhan amser mae ei oriau gwaith yn cael ei rhannu â 32.5 er mwyn dynodi’r FTE. Mae’r dull yma yn tybio bod amser contract llawn yn hafal i 32.5, er mae’n bosib and yw hynny’n wir ar gyfer bob rôl. Golyga hyn bod unigolyn sy’n gweithio 20 awr yr wythnos, mewn rôl sydd ag oriau cyfwerth ag amser llawn o 25 awr, yn cael ei gofnodi fel 0.8 FTE yn y CBGY ond 0.6 yn y CYBLD.

Bydd ymchwil pellach i’r gwahaniaethau rhwng data gweithlu yn CBGY a CYBLD yn cael ei ymgymryd yn dilyn cyhoeddiad y data CYBLD diweddaraf ym mis Awst. 

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’r CGA yn cyhoeddi data a gesglir trwy Cofrestr Ymarferwyr Addysg yn ‘Ystadegau Blynyddol CGA ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru’. Mae cofrestr y CGA yn cynnwys athrawon cyflenwi, gweithwyr peripatetig ac eraill sy’n darparu addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion ynghyd â sefydliadau addysg eraill. Felly, mae data’r CGA yn darparu trosolwg o’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru Er hynny, nid yw’r CGA yn casglu gwybodaeth ar holl staff ysgolion gan gynnwys rhai categorïau staff cymorth megis staff gweinyddol, rheolwyr busnes, technegwyr a llyfrgellwyr ymysg eraill. Mae’r data CBGY yn rhoi darlun mwy manwl o athrawon a staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion ar ddyddiad y Cyfrifiad.

Cymhariaeth â gwledydd eraill y DU

Mae’r Adran Addysg yn Lloegr (DfE) yn cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol o’r Cyfrifiad Gweithlu Ysgol yn Lloegr. Rydym am weithio’n agos â chydweithwyr yn DfE i ddeall y tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng ein setiau data ac i wella cydlyniant ein hystadegau. Hefyd, Rydym yn bwriadu gweithio â Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon i gyfathrebu data ar y gweithlu ysgol at gyfer u DU ar y cyfan. Gweler isod ar gyfer gwybodaeth bellach am y gweithlu ysgol ar draws y DU:

Lloegr

Ystadegau gweithlu ysgol ar gyfer Lloegr

Yr Alban

Ystadegau addysg ar gyfer yr Alban

Gogledd Iwerddon

Ystadegau addysg ar gyfer Gogledd Iwerddon

Baich ar ymatebwyr

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn cynghori cyrff cyhoeddus sy’n casglu data ystadegol y dylai’r baich i ymatebwyr fod yn gymesur i’r buddion o ddefnyddio’r data. Er mwyn deal y baich cysylltiol i’r casgliad CBGY, gofynnir i ymatebwyr rhoi gwybodaeth am yr amser i gwblhau’r casgliad CBGY Ysgol.

Tabl 5: nifer o oriau cyfartalog (Canolrif) i gwblhau’r casgliad CBGY gan ysgolion
BlwyddynOriau Canolrifol
20204
20215
20225
20235
20245
20256

Ffynhonell: Data CBGY Ysgol

Yn 2020, yr amser cyfartalog (canolrif) i gwblhau’r data CBGY Ysgol oedd 4 awr, gan gynyddu i 4 awr ar gyfer 2021. Yn 2025, yr amser cyfartalog i gwblhau’r data oedd 6 awr, cynnydd bacha r 2025. Yn 2024, roedd staff gweinyddol (a) yn cyfri am 53.6% o’r holl amser i gwblhau’r data. Roedd athrawon mewn rolau arweinyddiaeth yn cyfri am 7.3% o’r amser, ychydig is na 2024 (8.0%).

Tabl 7: cyfran o amser i gwblhau’r casgliad CBGY gan ysgolion yn ôl rôl staff
Rôl staff202020212022202320242025
Staff Gweinyddol59.90%59.00%60.10%46.40%59.97%53.58%
Rheolwyr Busnes15.50%20.30%25.00%36.30%22.85%28.68%
Staff Arweinyddol (a)8.30%6.90%7.50%9.80%8.03%7.25%
Staff Eraill16.40%13.80%7.40%7.50%9.15%10.48%

Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol

[Nodyn 1] Yn cynnwys rheolwyr busnes, rheolwyr data a staff gweinyddol.

Gwiriad Cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau

Mewn ymateb i drafodaethau ac ymrwymiadau wedi’u cytuno rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys undebau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ynghyd ag eraill, gofynnwyd i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ymgymryd â gwiriad cydymffurfio o CBGY yn erbyn Cod Ymarfer Ystadegau.

Fel rhan o’r gwiriad, penderfynodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fesur y CBGY yn erbyn elfen ‘gwerth’ y Cod Ymarfer Ystadegau, gan ystyried gwerth y wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru nad sydd ar gael unrhyw le arall. Nodwyd nifer o gryfderau i ystadegau CBGY ynghyd â ffyrdd gellir gwella safon a gwerth yr ystadegau yn bellach. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr ehangach er mwyn casglu barn fwy eang ar yr ystadegau gall helpu uchafu gwerth y data i’r cyhoedd a pharhau i ymchwilio ac esbonio gwahaniaethau â ffynhonellau data arall. Rydym wedi ehangu ar y gwahaniaethau rhwng CBGY a CYBLD yn y cyhoeddiad yma a byddwn yn parhau i gysylltu â defnyddwyr ac archwilio ffynhonellau data eraill ar gyfer datganiadau yn y dyfodol.

Mae ymateb y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn dilyn y gwiriad cydymffurfio at: 'OSR compliance check of SWAC'.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhag-gyhoeddwyd y prif ystadegau hyn cyn eu cyhoeddi ar adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Diweddariad nesaf

Gorffennaf 2027 (i’w gadarnhau) 

Y cyfnod dan sylw: Bydd data'r CBGY yn ymwneud â’r sefyllfa ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2026.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at educationworkforcedata@llyw.cymru.

Troednodiadau

[1] Nid yw hyn yn gymwys ar gyfer gwybodaeth lwfansau.

[2] Ar gyfer absenoldebau athrawon trwy salwch, mae hyn cyfeirio at y dyddiad Cyfrifiad blaenorol.

[3] Ar gyfer absenoldebau wedi’u hagor yn ôl mis, nid yw absenoldebau wedi’u cau (ond heb eu hagor) yn ystod y flwyddyn academaidd wedi’u cynnwys.

Manylion cyswllt

Ystadegau Gweithlu Ysgol
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099