Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn storio ac yn prosesu eich manylion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. (Cymru yn Genedl Noddfa, arolwg datganiadau o ddiddordeb).

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er mwyn rhoi cymorth i ddinasyddion Wcráin sy’n ffoi rhag y gwrthdaro yno, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu a phrosesu gwybodaeth am unigolion sy’n dymuno cynnig llety i ddinesydd neu deulu o Wcráin am o leiaf chwe mis yng Nghymru. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol gan unigolion sydd wedi cwblhau ffurflen Llywodraeth y DU i ddatgan diddordeb yng nghynllun Cartrefi i Wcráin sy’n cadarnhau eu bod yn hapus i swyddogion gysylltu â nhw i drafod eu cynnig ymhellach.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol y mae’n ei gasglu. Byddwn yn prosesu’r data hwn yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd wedi’i freinio ynom.

Bydd y data yn cael ei brosesu at ddibenion y broses o baru dinasyddion a theuluoedd o Wcráin sydd wedi dod i Gymru gyda llety addas o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin neu lwybrau fisa eraill Wcráin, gan gynnwys y rhai hynny sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru.

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth angenrheidiol â thrydydd partïon, megis partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru. Pan fo angen, byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol â phartneriaid eraill yn y sector elusennol a’r sector preifat a fydd yn darparu gwasanaethau ar ein rhan. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn rhannu data â Llywodraeth y DU. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â dinasyddion unigol o Wcráin yn rhan o’r broses baru. Ni fyddwn yn rhannu data personol ond i’r graddau y bydd angen gwneud hynny er mwyn cefnogi dinasyddion Wcráin, neu pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith inni wneud hynny.

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Bydd data personol adnabyddadwy a rennir â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus a phartneriaid eraill yn cael ei drosglwyddo yn unig gan ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig. Dim ond data sy'n gwbl angenrheidiol ar gyfer gweithredu'r cynllun cymorth nawdd fydd yn cael ei rannu. Bydd data personol adnabyddadwy sydd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am gyfnod cynllun noddi Llywodraeth Cymru, ac am gyfnod am o leiaf chwe mis ar ôl hynny. Mae’n bosibl y bydd data yn cael ei gadw am gyfnodau hirach, gan gynnwys gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, pan fo rhwymedigaethau statudol neu ofynion parhaus i wneud hynny. Bydd y data yn cael ei ddinistrio’n ddiogel unwaith y penderfynir nad oes ei angen mwyach.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi inni neu’r wybodaeth bersonol amdanoch sydd gennym. Yn benodol, mae gennych yr hawl i:

  • gael gafael ar gopi o’r data amdanoch
  • gofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn rhai amgylchiadau)
  • gofyn bod eich data yn cael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 725 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru