Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a’r sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau – yn cyfrannu at y themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar lefel fferm
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar lefel tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael dros y tair blynedd nesaf, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn  Rhwydwaith Gweldig Cymru.

Adran A - cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau. Darllenwch nhw'n ofalus. Os ydych yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn, a'ch bod am wneud cais, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran C a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 4 Gorffennaf 2022 ac yn cau ar 12 Awst 2022.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £15 miliwn.

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn gynllun cyfalaf sydd ar gael i ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu busnesau fferm.

Yr amcanion yw cefnogi buddsoddiadau i wella'r ffordd mae maethynnau'n cael eu rheoli ar ffermydd; i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer; i wella effeithlonrwydd adnoddau ar y fferm; i wella perfformiad technegol ac i ddefnyddio technegol i wella penderfyniadau rheoli.

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cefnogi buddsoddiadau mewn seilwaith a buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau sydd wedi cael eu nodi ymlaen llaw i fynd i'r afael ag effaith llygredd ar y fferm, gan gynnig manteision clir ac amlwg i'ch busnes fferm a'r amgylchedd ehangach.

Darllenwch reolau a chanllawiau'r cynllun cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Os ydych yn cael eich dewis bydd rhaid ichi allu cwblhau'r holl eitemau o waith cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2025.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B - pwy sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau

Rydych yn gymwys os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004
  • Rydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
  • Mae gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
  • Rydych yn gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol

Byddwn yn gwirio a oes gennych hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gynllun Glastir Organig i gadarnhau a ydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliadau i’r naill gynllun na'r llall, bydd rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch datganiad o ddiddordeb i gadarnhau eich bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, naill ai ar sail tri hectar o dir amaethyddol yng Nghymru wedi'i gofrestru gydag RPW neu ar sail 550 o oriau llafur safonol. Os nad yw'r dystiolaeth ddogfennol hon yn cael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb, bydd eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei wrthod.  

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg ac acwaponeg)
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Cymhwysedd Grŵp 

Caiff grŵp o ffermwyr gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau. I wneud hynny, mae angen i bob ffermydd sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl amodau cymhwysedd uchod. Yn ogystal, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bod â Chyfeirnod Cwsmer ar gyfer y grŵp. Rhaid cyflwyno'r datganiad o ddiddordeb o dan y Cyfeirnod Cwsmer a roddwyd ar gyfer y grŵp.

Os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau’n cael eu rheoli ar y cyd, a bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwyd cyffredin, byddant yn cael eu hystyried yn un busnes.

Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • os ydych yn defnyddio'r offer cyfalaf at ddibenion contractio neu lesio
  • Os oes gennych gontract Grant Cynhyrchu Cynaliadwy cyfredol ar gyfer yr un ardal/eitemau

Eitemau Cymwys

Dim ond ar gyfer yr eitemau ar y Rhestr o Eitemau Cyfalaf Cymwys y rhoddir cyllid.

Rhaid i fuddsoddiad fodloni neu ragori ar y fanyleb ofynnol a ddisgrifir.

Mae offer ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • ei fod yn bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch bresennol
  • ei fod yn addas i'r diben
  • bod ganddo ddisgwyliad oes o bum mlynedd arall o leiaf

Eitemau Anghymwys

  • Buddsoddiadau i brynu eitemau yn lle eitemau a brynwyd yn flaenorol â chyllid cyhoeddus, fel cymorth grant yr UE neu Lywodraeth Cymru (ar gyfer yr un busnes fferm)
  • Prynu eitemau newydd o dan hawliad yswiriant
  • Adeiladu ardaloedd o siediau da byw.
  • Addasu adeiladau y derbyniwyd cymorth ar eu cyfer drwy'r cynllun at ddibenion eraill – e.e. siediau da byw, storio.
  • Buddsoddiadau nad ydynt ar ddaliad yr ymgeisydd.

Dim ond pan fydd yr hawliwr wedi talu'r gost yn gywir ac yn llawn, cyn cyflwyno hawliad, y mae costau sy'n gysylltiedig â phrynu offer yn gymwys.

Y Grant Uchaf a’r Grant Isaf

Caniateir un cais yn ystod pob cyfnod. Y grant uchaf a roddir yw £50,000 a'r grant isaf yw £12,000.

  • Nid yw'r ffaith eich bod wedi derbyn cymorth yn y gorffennol gan y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy Cyfnodau 1–7 yn effeithio ar eich hawl i wneud cais am y grant uchaf grant o £50,000.
  • Nid yw ymgeiswyr sydd â contract o dan y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy ar gyfer yr un ardal/eitemau yn gymwys i wneud cais yn ystod y cyfnod hwn

Mae'r grant yn cyfrannu hyd at 40% at fuddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau (heb TAW) y gellir dangos eu bod yn cynnig manteision clir a mesuradwy ar gyfer busnes fferm.

Y grant fydd cyfraniad hyd at 40% yn erbyn costau gwirioneddol wedi'u hanfonebu.

Er enghraifft, os cynigir contract ichi gyda chynnig grant ar gyfer prynu storfa slyri â gwerth o £100,000, y grant uchaf a gynigir fydd £40,000.

Os yw cost y buddsoddiad, ar ôl iddo gael ei gwblhau, yn fwy na £100,000, bydd y grant yn cael ei gapio yn unol â'r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais, h.y. 40% o £100,000.

Os yw cost y buddsoddiad, ar ôl iddo gael ei gwblhau, yn llai na'r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais, e.e. £80,000, bydd y grant yn cael ei leihau i £32,000, h.y. 40% o £80,000.

I dderbyn y grant uchaf o £50,000, bydd angen i'r cais gynnwys buddsoddiadau gwerth £125,000 o leiaf. Er mwyn cyrraedd y trothwy isaf ar gyfer y grant, bydd rhaid ichi fuddsoddi £30,000 o leiaf.

Caiff eich cais fod yn fwy na'r grant uchaf. Os dewisir eich datganiad o ddiddordeb, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i'r uchafswm o £50,000.

Dewis Prosiectau Llwyddiannus

Bydd y datganiad o ddiddordeb a'r broses ddethol gychwynnol yn cadarnhau bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi cael eu bodloni.

Gofynion Allweddol

Os yw'n cael ei ddewis, rhaid i bob ymgeisydd i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau ddangos ei gapasiti presennol ar gyfer storio slyri, a gofynion storio'r fferm yn y dyfodol mewn perthynas â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Gellir gweld y gofynion ar gyfer storio slyri drwy ddefnyddio

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: gweithlyfr fferm

Cyn cwblhau'r templed, darllenwch y canllawiau i weld  y cyfrifiadau mae angen eu defnyddio ar gyfer eich daliad chi.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir

Dylai'r niferoedd o dda byw a ddefnyddir yn y cyfrifiadau gyd-fynd â'r wybodaeth yn y cynllun busnes â'r niferoedd ar y daliad wedi'u cofnodi gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).

Os ydych yn cael eich dewis ac nad ydych yn bodloni gofynion y rheoliadau ar hyn o bryd, bydd angen ichi ddangos sut y bydd y grant yn eich galluogi i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau ar gyfer capasiti storio slyri.

I fod yn gymwys ar gyfer offer gwasgaru slyri, eitemau storio chemegion / plaladdwyr / tanwydd, neu eitemau cyffredinol eraill, rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau ar hyn o bryd, neu y byddant yn cydymffurfio â'r Rheoliadau ar ôl i'r prosiect Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau gael ei gwblhau.

Rhaid prynu a hawlio am bob eitem erbyn 31 Mawrth 2025.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler Adran E am ragor o fanylion.

Rhaid sicrhau bod pob buddsoddiad mewn seilwaith wedi cael ei gwblhau pan fyddwch yn cyflwyno eich hawliad

Rhaid sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno eich hawliad.

Os ydych yn adeiladu storfa slyri neu silwair newydd, neu storfa sydd wedi cael ei hehangu neu ai hailadeiladu'n sylweddol, mae angen ichi hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o leiaf 14 diwrnod cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.

Pan fydd to yn cael ei adeiladu dros storfa silwair neu slyri, mae'n debyg y bydd yn cael effaith ar strwythur y storfa bresennol. Ar gyfer prosiectau sy'n derbyn cymorth gan y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau, rhaid i ymgeiswyr sy'n derbyn cymorth ar gyfer to dros storfa silwair neu slyri, ni waeth beth yw'r amgylchiadau, hysbysu CNC 14 diwrnod cyn dechrau ar y gwaith adeiladu.  

Argymhellir yn gryf eich bod yn lleihau'r risg o golli unrhyw esemptiad sydd gennych ar gyfer eich storfa ar hyn o bryd, ac yn lleihau'r risg o dderbyn hysbysiad gorfodi, drwy gynnwys CNC yn y broses yn gynnar. Gall gwneud hyn osgoi camgymeriadau costus.

Noder, os oes angen caniatâd cynllunio arnoch, mae CNC yn ymgynghorai statudol yn y broses gynllunio.

Os ydych yn gosod to dros ardaloedd bwydo da byw, ardaloedd casglu da byw ac ardaloedd storio tail presennol, rhaid ichi ddangos bod yr holl lawr yn anhydraidd i ddŵr e.e. concrid.  

Dylai pob adeilad fodloni BS 5502 rhan 22:2013 – wedi'i gynllunio i wrthsefyll y llwythi nodweddiadol y bydd yn agored iddynt, yn seiliedig ar y ffordd mae’n cael ei ddefnyddio a'i leoliad. Os yw wedi cael ei weithgynhyrchu oddi ar y safle i'w godi'n ddiweddarach, dylai'r uned ddwyn nod CE.  Ar gyfer unrhyw strwythurau nad ydynt yn dwyn nod CE, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos eu bod yn cydymffurfio â BS 5502 rhan 22:2013 drwy ddarparu cyfrifiadau strwythurol gan beirianwyr â chymwysterau addas.

Bydd angen i ddeunyddiau'r to allu gwrthsefyll rhwd a lleihau cyddwysiad. Er mwyn sicrhau hyn, dylai'r cladin fod wedi'i wneud o sment ffeibr neu, fel arall, ddur proffiliedig wedi'i inswleiddio ag araen o blastig os gall hyn fodloni'r gofynion o ran gwrthsefyll rhwd.   Dylai tulathau fod wedi'u gwneud o bren wedi'i drin neu ddur galfanedig – pren wedi'i drin sydd orau. Er bod dur wedi'i baentio yn ddigon da, byddai dur galfanedig yn ddewis gwell am ei fod yn para'n hirach.

Mae’n rhaid i geisiadau hefyd ddangos eu bod wedi mynd i’r afael â’r canlynol.

Caniatâd Cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich buddsoddiad, ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo cynllunio wedi cael eu derbyn a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hynny.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

Os oes angen cymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau ar gyfer eich buddsoddiad, ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu nes bod y dogfennau cymeradwyo SDCau wedi cael eu cyflwyno a'u dilysu gan Lywodraeth Cymru.

I gael trosolwg o'r hyn sydd angen cymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau ac i gael canllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau): canllawiau

Os yw'r corff cymeradwyo SDCau lleol wedi penderfynu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer y prosiect, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gan y corff i gadarnhau hynny. Er bod cymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer ymdrin â chaniatâd cynllunio.

Ar gyfer rhai ceisiadau am waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio y mae angen cymeradwyaeth corff cymeradwyo SDCau ar eu cyfer, mae'n bosibl na fydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol (er enghraifft, datblygiad a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr).    Felly, ni ddylid tybio bod diffyg angen caniatâd cynllunio yn dileu’r angen am gymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau

Cydsyniadau Eraill

  • Rhaid bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall sydd eu hangen wedi cael eu rhoi
  • Rhaid ichi gydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol

Adran C – gwneud cais i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau

RPW Ar-lein

Dim ond drwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein y gellir gwneud cais i’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch cod actifadu arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8.30am – 5pm, Gwener 8.30am – 4.30pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd cod actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r ffurflen gais ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau ar gael yn adran 'Ceisiadau a Hawliadau' eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a chod actifadu ar-lein ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Rhoi Caniatâd i Asiant ar ôl cofrestru gydag RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddant yn gallu eich cynghori a dweud wrthych ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y Broses Ymgeisio

Mae tri cham i'r broses o wneud cais i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau.

  1. Dylid cyflwyno datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein.
  2. Ar ôl i'r cyfnod datgan diddordeb ddod i ben, bydd proses ddethol yn cael ei chynnal. Os yw eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, byddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau cais llawn, a fydd ar gael ichi drwy RPW Ar-lein, a chyflwyno'r holl ddogfennau ategol.
  3. Y trydydd cam yn y broses fydd arfarnu eich cais llawn. Nid fydd y cais yn cael ei arfarnu oni bai bod yr holl ddogfennau ategol yn cael eu derbyn gan y dyddiad cau.

Anogir ymgeiswyr sy'n meddwl am gyflwyno datganiad o ddiddordeb i ystyried a pharatoi'r dogfennau ar gyfer cais llawn, fel eu bod eisoes yn barod os ydynt yn cael eu dewis.

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein ar gael yn y canllawiau Sut i Lenwi.

Pan fyddwch yn cwblhau eich datganiad o ddiddordeb, bydd angen ichi ddewis o restr o eitemau cyfalaf cymwys, a darparu amcangyfrif o'r cyfanswm cost ar gyfer pob eitem a ddewisir. Uchafswm y grant y gellir eu cymeradwyo yw £50,000. Bydd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ar gyfer grant gwerth dros y cyfanswm hwn yn cael ei gapio i £50,000.

Cyn dewis eitemau, rydym yn argymell yn gryf fod ymgeiswyr yn ystyried sut bydd y buddsoddiad yn galluogi'r fferm i gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, gan gynnwys gofynion y Rheoliadau ar gyfer storio slyri yn y dyfodol.

Dylai'r niferoedd o dda byw a ddefnyddir yn y cyfrifiadau gyd-fynd â'r wybodaeth yn y cynllun busnes â'r niferoedd ar y daliad wedi'u cofnodi gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).

Rydym yn eich cynghori i wneud amcangyfrif realistig o gost pob eitem buddsoddi rydych yn ei chyflwyno ar eich datganiad o ddiddordeb. Ni fyddwch yn gallu newid y gost hon ar ôl ichi gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb. Os yw eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, ni fydd unrhyw ddyfarniad grant yn uwch na'r hyn rydych wedi ei gyflwyno, nac yn uwch na'r cyfanswm grant o £50,000

Bydd rhestr o'r eitemau rydych wedi'u cyflwyno ar y datganiad o ddiddordeb llwyddiannus yn cael eu llenwi ymlaen llaw ar eich cais llawn, er mwyn ichi ddarparu gwybodaeth am ddyfynbrisiau.

Ni chewch newid yr eitemau rydych wedi'u dewis ar ôl ichi gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y datganiad o ddiddordeb wedi’i gwblhau’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi eich prosiect yn gywir.

Rhaid ichi gwblhau'r datganiad o ddiddordeb yn llawn a chyflwyno'r holl ddogfennau a nodir isod i gefnogi'r cais.

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer ceisiadau sydd yn y broses ddrafftio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Tynnu Datganiadau o Ddiddordeb yn ôl

Cewch dynnu eich datganiad o ddiddordeb yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein – os yw'r cyfnod datgan diddordeb ar agor. Cewch wedyn ailgyflwyno cais cyn i'r cyfnod ddod i ben.

Cewch hefyd dynnu eich datganiad o ddiddordeb yn ôl ar ôl i'r cyfnod datgan diddordeb ddod i ben ond cyn i lythyrau dewis gael eu cyhoeddi.

Sgorio a Dethol

Bydd datganiadau o ddiddordeb yn cystadlu â'i gilydd yn uniongyrchol. Mae pob eitem cyfalaf a restrir ar y Rhestr o Eitemau Cyfalaf Cymwys wedi cael ei sgorio yn erbyn tair thema a phwysoliad:

Tabl sgorio a dethol

Thema Pwysoliad
Defnyddio Maethynnau'n Effeithiol X3
Defnyddio Ynni'n Effeithiol X2
Defnyddio Dŵr yn Effeithiol X1

Rhoddir y sgôr ar y rhestr o Eitemau Cyfalaf Cymwys ar bwys pob eitem unigol. Diben y broses sgorio yw galluogi i Lywodraeth Cymru drefnu’r datganiadau o ddiddordeb yn ôl faint o arian sydd ar gael ym mhob cyfnod.

Bydd y datganiadau'n cael eu sgorio a’u trefnu yn ôl y meini prawf. Mae'r system sgorio yn rhannu sgôr gyfartalog yr eitemau rydych wedi gwneud cais ar eu cyfer (fel y nodir yn y Rhestr o Eitemau Cyfalaf Cymwys) â gwerth y grant yn seiliedig ar eich amcangyfrif o gostau yn eich datganiad o ddiddordeb, i gyfrifo'r sgôr derfynol.  

Er enghraifft:

Pe baech yn gwneud cais am storfa slyri a'r pyllau derbyn cysylltiedig, gyda chost amcangyfrifedig o £80,000, byddai'r datganiad o ddiddordeb yn cael sgôr o 0.00535.  (428.75 wedi'i rannu ag 80,000).

Pe baech yn gwneud cais am yr un eitem, ond hefyd yn cynnwys gwasgarwr tail troelli, gwasgarwr sy’n gollwng o'r tu ôl neu wasgarwr dau bwrpas, gyda gwerth cyfunol ar y datganiad o ddiddordeb o £90,000, y sgôr ar gyfer y datganiad o ddiddordeb fyddai 0.00409. (Cyfartaledd o 428.75 / 307.5 wedi'i rannu â 90,000).

Bydd sgôr trothwy yn cael ei phennu yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael, a chynigir contractau i'r datganiadau o ddiddordeb sy'n cael y sgoriau uchaf.

Pan fydd ceisiadau'n ennill yr un sgôr, y cais am y gwerth isaf a ddewisir gyntaf.

Pan fydd gan geisiadau'r un sgôr, ynghyd â'r un gwerth a'r un safle ar y trothwy cyllid sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, yn dibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Datganiadau o Ddiddordeb a Ddewisir – Derbyn Cynnig

Os bydd eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, cewch wybod drwy eich cyfrif RPW ar-lein. Rhaid ichi naill ai dderbyn neu wrthod y cynnig drwy gwblhau Atodiad y Cais a fydd yn dod gyda’r llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi cael eich dewis, a’i anfon at Lywodraeth Cymru drwy’ch cyfrif RPW Ar-Lein erbyn y dyddiad a nodir yn eich llythyr.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Os ydych yn derbyn y cynnig, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Nid yw’r llythyr dewis yn eich caniatáu i ddechrau gweithio ar y prosiect. Ni ddylech ddechrau unrhyw waith nes i gontract gael ei gynnig ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried ar gyfer cymorth.

Os nad ydych yn derbyn y cynnig neu os nad ydych yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni fydd eich datganiadau o ddiddordeb yn mynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.

Datganiadau o Ddiddordeb a Ddewisir – Cyflwyno eich Cais Llawn

Os yw eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, byddwch yn cael mynediad at y cais llawn drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd rhestr o'r eitemau rydych wedi'u cyflwyno ar y datganiad o ddiddordeb llwyddiannus yn cael ei llenwi ymlaen llaw ar eich cais llawn, er mwyn ichi ddarparu gwybodaeth am ddyfynbrisiau. Rhaid cyflwyno dyfynbrisiau gyda'r cais llawn.

Bydd gennych 12 wythnos i gyflwyno eich cais llawn ynghyd â'r dogfennau ategol drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Wrth wneud y cais llawn, bydd angen i ymgeiswyr ymateb i gwestiynau am:

  • Addasrwydd y buddsoddiad
  • Cyflawni’r Prosiect
  • Risg a rheoli risg
  • Cynaliadwyedd hirdymor
  • Gwerth am arian
  • Materion ariannol a chydymffurfiaeth

Hefyd bydd y ffurflen gais yn gofyn ichi egluro sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Dyma’r dangosyddion a chanlyniadau’r buddsoddiad a fydd yn cael eu monitro:

  • Nifer y busnesau wedi'u cefnogi
  • Nifer y swyddi wedi'u creu
  • Yr effaith ar drosiant y busnes
  • Arferion neu dechnoleg arloesol wedi'u cyflwyno

Yn ogystal â chwblhau'r ffurflen gais lawn ar-lein, bydd angen ichi gyflwyno'r dogfennau ategol canlynol ar-lein i'w harfarnu gan Lywodraeth Cymru o fewn 12 wythnos ichi gael eich hysbysu eich bod wedi cael eich dewis:

  • Tystiolaeth i ddangos eich capasiti presennol ar gyfer storio slyri a'ch gofion ar gyfer storio slyri yn y dyfodol mewn perthynas â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
  • Cynllun busnes tair blynedd
  • Tair blynedd o gyfrifon ardystiedig
  • Tri dyfynbris ar gyfer pob eitem a ddewisir yn y datganiad o ddiddordeb
  • Tystiolaeth o'r cyllid sydd ar gael
  • Caniatâd cynllunio os yw hynny'n briodol ac ar gael
  • Cymeradwyaeth gan gorff gymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) os yw hynny'n briodol ac ar gael

Ni fydd y broses asesu'n dechrau nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Cewch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi eich cais.

Capasiti storio slyri presennol

Gellir cyfrifo'r gofynion ar gyfer storio slyri drwy ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: llyfr gwaith ffermydd

Cynllun busnes

Dylai’r cynllun busnes ddarparu amlinelliad cyfannol o’ch busnes. Dylai’r cynllun fod ar gyfer y tair blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

  • Manylion y busnes
  • Gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, gweithgareddau'r busnes a’r system amaethu
  • Perfformiad ariannol diweddar (gan gyfeirio at gyfrifon ardystiedig a chyfrifon rheoli ddiweddar
  • Amcanion a chynigion buddsoddi ar gyfer y dyfodol
  • Gwerthusiad o ystyriaethau ac opsiynau’r cynnig ar gyfer y busnes a buddsoddi yn y dyfodol.

I ategu'r cynllun busnes dylech ddarparu'r canlynol:

  • Tair blynedd o gyfrifon ardystiedig. (Os nad oes cyfrifon ardystiedig ar gael ar gyfer y cyfnod ariannol diweddaraf, dylid cyflwyno'r cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod hwn.)
  • Tair blynedd o ragolygon ariannol. (Dylid cyfrif am y buddsoddiad ariannol yn y rhagolygon) 
  • Tystiolaeth o’r arian sydd ar gael (benthyciad gan y banc, gorddrafft ac ati)

Rhestr o'r eitemau mae dyfynbrisiau ar eu cyfer

Bydd rhestr o'r eitemau buddsoddi y gwnaethoch eu cyflwyno yn eich datganiad o ddiddordeb llwyddiannus yn cael ei llenwi ymlaen llaw yn eich cais llawn er mwyn ichi ddarparu gwybodaeth am ddyfynbrisiau.

Rhaid ichi ddarllen Nodiadau Canllaw Technegol Llywodraeth Cymru ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol yn y dolenni canlynol:

Bydd angen ichi gael a chyflwyno tri dyfynbris ar wahân ar gyfer pob un, a dewis yr un a ffefrir ar gyfer y buddsoddiad.

Dim ond un dyfynbris sydd ei angen pan fydd y pryniant o dan £5,000.

Caniatâd Cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich buddsoddiad, ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo cynllunio wedi cael eu derbyn a'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hyn.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

Os oes angen cymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau ar gyfer eich buddsoddiad, ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo SDCau wedi cael eu cyflwyno a'u dilysu gan Lywodraeth Cymru.

I gael trosolwg o'r hyn mae angen cymeradwyaeth SDCau ar ei gyfer ac i gael canllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau): canllawiau.

Os yw'r corff cymeradwyo SDCau lleol wedi penderfynu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer y prosiect, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gan y corff cymeradwyo i gadarnhau hynny.  Er bod cymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer ymdrin â chaniatâd cynllunio.

Ar gyfer rhai ceisiadau am waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio y mae angen cymeradwyaeth gan corff cymeradwyo SDCau ar eu cyfer, mae'n bosibl na fydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol (er enghraifft, datblygiad a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr). Felly, ni ddylid tybio bod diffyg angen caniatâd cynllunio yn dileu’r angen am gymeradwyaeth gan gorff cymeradwyo SDCau

  • Rhaid bod pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd sydd eu hangen wedi cael eu rhoi;
  • Rhaid ichi gydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol

Arfarnu'r Cais Llawn

Bydd y cais llawn yn cael ei arfarnu’n unol â chanllawiau a rheolau cymhwysedd y   Cynllun. Bydd yr archwiliadau diwydrwydd dyledus (os oes angen), arfarniad a gwiriadau cymhwysedd yn cael eu cynnal, a dim ond ar ôl hynny y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cynnig prosiect yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Byddwn yn ceisio cwblhau'r arfarniad o'r cais o fewn 90 diwrnod i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais. Os nad ydych yn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth yn brydlon, bydd yn cymryd mwy o amser inni gwblhau'r arfarniad o’ch cais.

Bydd y wybodaeth a roddir yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol, er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch dyfarnu'r grant:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu’n annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

Y trothwy ansawdd yw sgôr Canolig ym mhob categori.

Noder, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y canllawiau'n ofalus er mwyn darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani gyda'r cais.

Canlyniad yr Arfarniad a Chynnig Contract

Mae dau ganlyniad posibl i'r arfarniad llawn o'r cais:

  1. Nid yw eich prosiect yn cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad grant. Byddwch yn cael eich hysbysu am y rhesymau nad oedd eich cais yn llwyddiannus drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Cewch wneud cais am yr un prosiect eto os bydd cyfnodau ymgeisio eraill yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno).
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer dyfarniad grant. Bydd contract yn cael ei gyflwyno ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir ichi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod ichi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y contract sydd wedi cael ei gynnig o fewn 30 diwrnod. Os nad ydych wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, bydd y cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y contract.

Bydd manylion llawn ynghylch pryd y bydd rhaid ichi dderbyn y contract, a phryd y bydd rhaid ichi brynu'r eitemau a hawlio amdanynt, yn cael eu nodi yn eich contract.

Os ydych yn derbyn y cynnig o gontract bydd yn ofynnol ichi gwblhau proffil cyflawni hefyd i gadarnhau ym mha mis a blwyddyn rydych yn bwriadu cyflwyno eich hawliad ar gyfer pob eitem a gafodd ei chymeradwyo yn eich contract.

Ar ôl ichi gael eich dewis, os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch contract neu os na fyddwch wedi derbyn y cynnig o fewn yr amser a ganiateir, mae'n bosibl na chewch wneud cais am y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau mewn unrhyw gyfnod ymgeisio arall yn y dyfodol. Os byddwch yn dewis gadael y contract cyn cwblhau'r gwaith neu os na fyddwch yn cwblhau'r holl waith a gymeradwywyd yn eich contract, mae'n bosibl na chewch wneud cais am y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau mewn unrhyw gyfnod ymgeisio arall.

Dechrau ar y Gwaith

Ni ddylech ddechrau ar y gwaith nes bod contract wedi cael ei gynnig ichi. Os byddwch yn dechrau ar y gwaith, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y gwaith a wnaed neu ddiddymu’r contract ac adennill unrhyw daliadau a wnaed.

Adran D – amodau’r Grant

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn ddarostyngedig i amrediad o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae grant y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cael ei gynnig yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Bydd y contract yn dechrau ar y dyddiad y mae'n cael ei gyhoeddi. Gallai methu â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo eich dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi cael eu talu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar y prosiect nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Rhaid ichi fod wedi prynu'r offer ac wedi cysylltu ag RPW drwy RPW Ar-Lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio yn y contract. Os nad ydych wedi cysylltu ag RPW erbyn y dyddiad hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei wrthod yn awtomatig.

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru'r rheolau a'r amodau i ystyried newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith y DU.

Ni chewch newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgareddau, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau ar ôl cael eich hysbysu amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Ni ellir gwaredu, trosglwyddo neu werthu offer a brynwyd gyda chymorth grant yn ystod y prosiect nac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ymlaen llaw. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.

Rhaid ichi ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Rhaid i’r manylion rydych wedi’u rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, fod yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r ceisiadau, a'ch bod yn llwyr gyfrifol am y penderfyniadau busnes a wneir.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro o'r amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi cael ei wneud y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rydych yn ymrwymo i fodloni, yn ôl yr angen, unrhyw rwymedigaethau mewn perthynas â sicrhau caniatâd cynllunio.

Rhaid ichi gadarnhau nad oes unrhyw eitemau sydd wedi’u cynnwys yn y cais yn cymryd lle eitemau dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf pum mlynedd ar ôl dyddiad dod i ben y prosiect.

Rhaid ichi gytuno i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis iechyd a diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio'r tir ac unrhyw offer perthnasol. Os gofynnir ichi, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd  yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran E – caffael a Thendro Cystadleuol

Rhaid ichi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol drwy’r canlynol:

Adran F – taliadau

Hawliadau

Dim ond drwy ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein y cewch wneud hawliad i’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau. Gwneir taliadau pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi cael ei wneud a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â’r contract y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

I dderbyn taliad gan y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau rhaid ichi wneud y canlynol:

  • Derbyn contract o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau o fewn 30 diwrnod calendr i’r dyddiad mae’n cael ei gynnig a chydymffurfio â’r holl ofynion.
  • Sicrhau mai dim ond ar ôl i gontract gael ei gynnig ichi yr ydych yn prynu'r eitemau a restrir yn eich contract.
  • Sicrhau eich bod wedi prynu'r holl eitemau sydd wedi'u rhestru ar eich contract.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno eich hawliad.
  • Cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SDCau os oes angen.
  • Cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein ar ôl i'ch contract gael ei gyhoeddi, ynghyd â'r holl ddogfennau ategol, erbyn y dyddiad cau ar 31 Mawrth

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sydd heb eu cyflwyno drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad.

Nid ystyrir hawliad yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno drwy dudalen Hawlio Grantiau RPW Ar-Lein, ynghyd â'r holl ddogfennau ategol.

Cewch gyflwyno eich hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir derbyn cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio, a rhaid gwneud yn ysgrifenedig, gan nodi eich rhesymau, drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Ni roddir unrhyw estyniadau y tu hwnt i 31 Mawrth 2025.

Dogfennau i Ategu eich Hawliad

Rhaid ichi gyflwyno'r canlynol gyda'ch cais:

  • Tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem rydych wedi hawlio amdani.
  • Anfonebau ar gyfer pob eitem rydych wedi hawlio amdani.
  • Ffotograff â geotag o'r eitem/eitemau ar eich fferm.

Os na roddir tystiolaeth bydd y cais yn cael ei wrthod.

Rhaid i anfonebau ddangos y gair 'anfoneb' ar y ddogfen a chynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw a chyfeiriad eich cwmni a manylion cyswllt
  • enw a chyfeiriad y cwmni anfonebu
  • disgrifiad clir o'r hyn yr ydych yn talu amdano
  • dyddiad darparu'r nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm/symiau a godir am bob eitem
  • y TAW, os yw'n gymwys
  • y cyfanswm sy'n ddyledus

Dylid rhoi tystiolaeth o dalu drwy gyfriflenni banc. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyd-fynd â gwerth yr anfoneb (er enghraifft, os ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn rhan o'r prosiect o'r un cyflenwr, bydd angen dadansoddiad o'r taliad cyfan gydag anfonebau atodol.

Os ydych yn gwneud taliadau â siec, yna bydd angen sganio neu dynnu llun o'r siec wedi'i hysgrifennu, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc.

Ffotograff â geotag sy'n cynnwys gwybodaeth am y lleoliad o fewn data'r ffotograff. Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol â chysylltiad â'r rhyngrwyd yn cofnodi'r cyfesurynnau GPS yn awtomatig. Maent hefyd yn cofnodi'r dyddiad a'r amser y tynnwyd y ffotograff.

Bydd canllawiau manwl ar y ffotograffau â geotag sydd eu hangen a sut i gyflwyno ffotograffau â geotag, sy'n benodol i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau, ar gael ar y wefan yn ystod y cam hawlio. 

Cewch gyflwyno’r anfonebau a thystiolaeth eu bod wedi cael eu talu drwy eu sganio a’u hanfon drwy 'Fy negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Hawliadau anghywir a chosbau

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi cael ei wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Rhaid i’r holl eitemau a gymeradwywyd fod wedi eu cwblhau ar ôl derbyn y contract.

Bydd eich hawliad yn anghywir yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Rydych wedi prynu eitemau cyn i’r contract gael ei gynnig.
  • Nid ydych wedi prynu’r holl eitemau wedi'u rhestru yn y contract.
  • Rydych wedi prynu eitemau anghywir neu eitemau nad ydynt yn bodloni'r fanyleb. 
  • Rydych wedi methu cyflwyno hawliad a'r dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • Nid yw pob un o’r eitemau a hawliwyd yn bresennol ar eich daliad yn ystod ymweliad â’ch safle.

Mae’n rhaid ichi hawlio am yr holl eitemau wedi'u rhestru yn eich contract.

Os nad ydych yn hawlio am bob eitem bydd yr hawliad yn cael ei wrthod.

Os ydym yn gweld nad yw'r eitemau a brynwyd yn bodloni'r fanyleb, bydd y taliadau'n cael eu lleihau i werth yr eitemau a brynwyd yn unol â'r fanyleb.

Os gwelir bod yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o’r costau cymwys, tynnir swm o’ch taliad sy’n cyfateb i werth yr eitemau anghymwys.

Er enghraifft:

Mae cwsmer yn hawlio'r eitemau canlynol o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau mewn un hawliad, gwerth cyfanswm o £49,000,

Esiampl

Eitem Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau Gwerth y Grant
Storfa o dan y llawr a sianeli trosglwyddo / llifo £3,000
Storfeydd slyri a phyllau derbyn cysylltiedig £33,000
Toeon ar gyfer buarthau sy'n bodoli eisoes £6,000
Cyfanswm £49,000

Yn enghraifft 1, y cyfanswm wedi'i hawlio yw £49,000, ond nid yw'r storfa o dan y llawr a'r sianeli trosglwyddo / llifo gwerth £3,000 yn bodloni'r fanyleb. Gwerth yr eitem anghymwys yw £3,000. Gan fod gwerth y eitem anghymwys yn llai na 10% o'r taliad cymwys (£46,000), cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £46,000.

Yn enghraifft 2, y cyfanswm a hawliwyd yw £49,000, ond nid yw'r toeon ar gyfer iardiau presennol gwerth £6,000 yn bodloni'r fanyleb. Gwerth yr eitem anghymwys yw £6,000. Bydd gwerth yr eitem anghymwys, sef £6,000, yn cael ei dynnu o'r hawliad gwreiddiol o £49,000 gan adael swm o £42,000. Gan fod gwerth yr eitem anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys (£42,000), bydd swm sy'n cyfateb i werth yr eitem anghymwys, sef £6,000, yn cael ei dynnu o'r swm sy'n weddill hefyd. Cyfanswm y taliad sy'n ddyledus fydd £36,000.

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch unrhyw beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich contract, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn ichi ysgwyddo’r costau.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig.  Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran G – newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys dehongliadau newydd)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i Reolau neu Gontract y Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran H – rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Rheolaethau

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi cael ei wneud cyn ichi dderbyn y taliad neu wedi hynny.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau'n tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai gwiriadau yn gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau a gallwch gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwn.

Ymwelir â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd i ddyddiad cwblhau’r prosiect (dyddiad diwedd y prosiect) i sicrhau bod yr ymgeisydd yn parhau i ddefnyddio’r offer a brynwyd â’r grant a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Un o ofynion y dyfarniad grant yw bod angen cadw’r offer a brynwyd â chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben ag a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Bydd hyn yn sicrhau hirhoedledd y prosiect ac yn sicrhau y bydd cynhyrchwyr cynradd yn gallu elwa ar fanteision y prosiect yn y tymor hir.

Cadw Cofnodion

Mae’n rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd yn ofynnol ichi hefyd:

  • Rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • Sicrhau bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur mewn perthynas a'ch contract Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantiaid eu gweld.  Rhaid ichi roi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnodion o'r fath neu i wneud copïau neu godi darnau ohonynt.

Adran I – y weithdrefn apelio a chwyno

Y Weithdrefn Apelio

Nid oes sail dros apelio yn y cam Datgan Diddordeb.

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan Banel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon ar  ymateb Cam 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Bydd y taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os bydd Cam 2 yr apêl naill ai'n llwyddiannus neu'r rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth brosesu eich apêl.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl drwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig.

Y Weithdrefn Gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn ar gael gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Cewch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae,
Pen-coed,
CF35 5LJ

Ffôn 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran J – Yr Hysbysiad Preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am gyllid grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata a roddwch mewn perthynas â’r cais am grant neu gyllid grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant ichi, byddwn yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i dalu eich cyllid grant presennol.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwysedd efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r sefydliadau canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cafodd ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a bod pob taliad wedi'i wneud. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y gwnaethoch eu rhoi inni.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn inni 'ddileu' eich data’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Cardiff
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran K – deddfwriaeth

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cyflawni yn erbyn amrediad o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Mae'r rhain wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd).

Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o bryd i’w gilydd), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

 Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol;
  • Cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • Sicrhau cadernid hinsawdd;
  • Sicrhau bod cymunedau ac economïau gwledig yn cael eu datblygu mewn ffordd diriogaethol a chytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau:

  • Lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt
  • Arloesi
  • Yr Amgylchedd

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, sef:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

(1)  Annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig;

(2)  Gwneud amaethyddiaeth yn fwy hyfyw a chystadleuol ar bob math o fferm, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;

(3)  Hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth;

(4)  Adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;

(5)  Hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;

(6)  Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gwaith i leihau tlodi a datblygu’r economi mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi cael eu categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  1. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran L – cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i ddiwallu eich anghenion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Drwy fynd i'r wefan bydd cyfle ichi gofrestru i e-newyddlen yr Adran Materion Gwledig gael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Gwlad

Gwlad yw e-newyddlen Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf yn y dyfodol, hoffem eich annog i gofrestru i dderbyn newyddlen Gwlad. Gallwch wneud hynny naill ai yn Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).