Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Er mwyn deall maint y gwelliant sydd ei angen, mae angen i ni asesu capasiti’r rhwydweithiau draenio a charthffosiaeth yn yr hir dymor.  

Mae Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr wedi'i ddatblygu er mwyn gwneud hyn, a bydd cwmnïau dŵr yn ymgynghori arno gyda chwsmeriaid, rhanddeiliaid, rheoleiddwyr ac awdurdodau lleol.

Bydd y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gynhwysfawr, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn dryloyw wrth asesu, cyn belled ag y bo modd, y capasiti presennol a'r camau gweithredu sydd eu hangen mewn cyfnodau 5 mlynedd, 10 mlynedd a 25 mlynedd, gan ystyried risgiau a materion megis newid yn yr hinsawdd.  Bydd yn cyd-fynd, cyn belled ag y bo modd, â chynlluniau a pholisïau strategol eraill.  Bydd yn anelu at ddarparu rhwydweithiau draenio a charthffosiaeth gwydn sy'n ateb y galw gweithredol yn ogystal â phwysau eraill ac sy'n lleihau methiannau'r system.

Wrth ddatblygu'r cynllun, ystyrir effaith systemau draenio ar yr amgylchedd yn uniongyrchol ac yn ehangach gan gynnwys cynefinoedd, ac wrth i ni ddatblygu atebion byddwn yn ystyried cynnydd a gwelliannau amgylcheddol net.

Bydd y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gydweithredol ac  yn cydnabod pwysigrwydd sectorau'n cydweithio i ymateb i risgiau i ansawdd dŵr a gwasanaeth cwsmeriaid nawr ac i’r dyfodol yn ogystal â'r angen i ddarparu atebion effeithiol, gan nodi sut y byddant yn gwneud hyn, a sut  y mae rhanddeiliaid wedi ymgysylltu ac ymateb iddynt.  Bydd y cynllun yn gwella canlyniadau i gwsmeriaid ac yn codi ymwybyddiaeth o'r atebion angenrheidiol i ddiogelu'r amgylchedd, yn ogystal â dealltwriaeth y bydd y camau gweithredu yn cynnig gwerth am arian a buddion i’r gymdeithas gyfan.

Dylai'r cynllun ddangos arweiniad gan ystyried capasiti gweithredol pob sefydliad i ddatblygu a chyflawni'r cynllun a bod yn ymwybodol o gysylltiadau â fframweithiau cynllunio strategol eraill.  Yn olaf, caiff y cynllun ei ddatblygu yn unol â'r ymddygiadau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a bydd yn egluro sut y bydd yn cyfrannu at y canlyniadau llesiant. Bydd Cynlluniau Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr hefyd yn helpu cwmnïau dŵr a'u rhanddeiliaid i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Gan ddibynnu ar yr ymateb i’r ymgynghoriad, canlyniad y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr fydd creu cynllun a fydd yn rhoi gorlifoedd storm yn yr ardaloedd a wasanaethir gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy ar drywydd gwell dealltwriaeth o’u heffaith, gyda’r nod o ddileu niwed ecolegol i’r amgylchedd.

Bydd y canlyniadau tymor byr yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth, dulliau cefnogi penderfyniadau a datblygu llwybr addasol i ddangos sut y gallai’r cynllun newid dros amser - mewn ymateb i heriau twf, newid yn yr hinsawdd, ehangu trefol a newidiadau mewn rheoleiddio.  Yn ddibynnol ar ymatebion rhanddeiliaid a chwsmeriaid i’r ymgynghoriad, bydd y cynllun yn cynnwys cynigion buddsoddi ar gyfer lleihau gollyngiadau o orlifoedd storm yn AMP8, pennu'r amserlenni ar gyfer sicrhau lleihad yng ngollyngiadau’r gorlifoedd storm, ynghyd â lleihau'r perygl o lifogydd, a nodi ardaloedd lle mae Awdurdodau Rheoli Risg yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau hyn.

Ein hymrwymiadau

Mae'r camau sy'n cael eu cymryd o fewn y ffrwd waith hon yn cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru  2021-26 a’r nodau'r canlynol:

  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
  • Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau'r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.
Sefydliad Arweiniol     Gweithred     Pam?   Erbyn Pryd Diweddariad Hydref 2023
Dŵr Cymru Ymgynghori ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft, paratoi cynllun drafft diwygiedig a datganiad o ymateb i'r ymgynghoriad.     Casglu barn cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft ac adlewyrchu'r rhain yn y cynllun drafft terfynol.   Rhagfyr 2023 Mae Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMP) wedi'i anfon i OFWAT a bydd yn cael ei rannu gyda rhanddeiliaid ehangach erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023.
Dŵr Cymru Dechrau ar ail gylch y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Dechrau'r broses o ddiweddaru'r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr ac ehangu ei gwmpas a'i gywirdeb.  Bydd hyn yn caniatáu i gwmnïau dŵr wella eu dealltwriaeth o effeithiau gorlifoedd storm ar yr amgylchedd a'u galluogi i ddatblygu cynlluniau buddsoddi ar raddfa ehangach i'w cynnwys yn AMP9 a thu hwnt.  Nod hyn fydd dileu niwed ecolegol o ganlyniad i orlifoedd storm cyn gynted â phosibl a sicrhau bod y gwelliannau hynny’n gallu gwrthsefyll pwysau megis newid yn yr hinsawdd. Rhagfyr 2023 gyda'r bwriad o gyhoeddi'r ail gynllun drafft yn 2027  I'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023.
Dŵr Cymru Mabwysiadu arfer gorau. Er mwyn nodi mesurau arfer da yn Lloegr a'r Alban y gellir eu mabwysiadu yng Nghymru a chynllunio i'w cyflwyno drwy gydol ail gylch y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Parhaus Dŵr Cymru yn cyd-gadeirio pwyllgor ymchwil ac arloesi aml-lywodraeth / rheoleiddiwr y Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff. Pob cam i ysgogi arferion gorau'r diwydiant a gwelliannau methodoleg ar y cyd.
Dŵr Cymru and Hafren Dyfrdwy     Cyfathrebu ynglŷn â’r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Darparu cyfres o negeseuon clir am y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr (beth yw’r cynllun a beth yw ei fwriad) i’r ffrwd gwaith Cyfathrebu.  Esbonio cysylltiad a rôl y broses gynllunio busnes, blaenoriaethu buddsoddiad a’r effaith bosibl ar fforddiadwyedd i gwsmeriaid.   Cyd-fynd â'r amserlen ymgynghori a chyhoeddi Bydd cyhoeddiadau ar gyfer Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff Terfynol yn cynnwys dogfennau technegol a chyfeillgar i gwsmeriaid. Byddant yn egluro sut mae'r Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff yn cyd-fynd â'r prosesau Cynllunio Busnes a buddsoddi. 
Hafren Dyfrdwy Dechrau ar ail gylch y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Dechrau'r broses o ddiweddaru'r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr ac ehangu ei gwmpas a'i gywirdeb.  Bydd hyn yn caniatáu i gwmnïau dŵr wella eu dealltwriaeth o effeithiau gorlifoedd storm ar yr amgylchedd a'u galluogi i ddatblygu cynlluniau buddsoddi ar raddfa ehangach i'w cynnwys yn AMP9 a thu hwnt.  Nod hyn fydd dileu niwed ecolegol o ganlyniad i orlifoedd storm cyn gynted â phosibl a sicrhau bod y gwelliannau hynny’n gallu gwrthsefyll pwysau megis newid yn yr hinsawdd. Gwanwyn 2023 gyda'r bwriad o gyhoeddi'r ail gynllun drafft yn 2027 Paratoadau yn parhau.
Hafren Dyfrdwy     Ymgorffori gwelliannau i orlifoedd storm a nodwyd yn y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gynlluniau busnes drafft PR24 ar gyfer buddsoddi yn AMP8. Darparu cyllid buddsoddi i wneud gwelliannau i orlifoedd storm yng nghynlluniau busnes AMP8.   Cwblhawyd Mae ein buddsoddiad gwelliannau AMP8 yn canolbwyntio ar leihau ffosffad yn ein gweithfeydd trin carthffosiaeth, gan mai dyma ein heffaith fwyaf o ran rheswm dros beidio â chyflawni statws da (RNAG). Lle mae ein hasesiadau gorlifoedd storm cyfun AMP7 parhaus yn nodi 'enillion cyflym' i leihau gollyngiadau (e.e., gwell cyfundrefnau cynnal a chadw, ymgyrchoedd addysg 'stopio'r bloc' ac ati), bydd y rhain yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl. Bydd asedau gorlifoedd storm cyfun mwy cymhleth yn cael eu harchwilio yn AMP8. 
Llywodraeth Cymru     Datblygu canllawiau rheoleiddio ar gyfer y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. I ddatblygu'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr gan gynnwys dyletswyddau Cwmnïau Dŵr, Rheoleiddwyr ac Awdurdodau Lleol er mwyn gwneud y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn ofyniad statudol i gwmnïau dŵr.   Hydref 2024 Ar y gweill.
Llywodraeth Cymru   Adolygiad rheoli draenio. Er mwyn gallu adolygu'r angen am strwythur rheoli newydd ar gyfer carthffosiaeth a draenio yng Nghymru a darparu cynigion a fydd yn hwyluso buddsoddiad cyd-gysylltiedig rhwng gweithredwyr draenio a charthffosiaeth yng Nghymru.  Bydd hyn yn cynnwys yr angen i gwmnïau dŵr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol rannu gwybodaeth am asedau a datblygu eu meysydd o ddiddordeb cyffredin.  Diwedd 2024 Ar y gweill.
Dŵr Cymru Ymgorffori gwelliannau i orlifoedd storm a nodwyd yn y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr yn gynlluniau busnes drafft PR24 ar gyfer buddsoddi yn AMP8. Darparu cyllid buddsoddi i wneud gwelliannau i orlifoedd storm yng nghynlluniau busnes AMP8.   Cwblhawyd Mae cynllun AMP8 wedi'i gyflwyno i OFWAT, gyda buddsoddiad o dros £500M ar wella gorlifoedd stormydd.
Dŵr Cymru Prosiect tystiolaeth gorlifoedd storm.  Er mwyn cefnogi'r nodau ar gyfer Prosiect Tystiolaeth Gorlifoedd Storm Cymru a darparu'r wybodaeth ofynnol os mae’r wybodaeth ar gael.     Cwblhawyd Mae'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i darparu.
Hafren Dyfrdwy    Ymgynghori ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft, paratoi cynllun drafft diwygiedig a datganiad o ymateb i'r ymgynghoriad.     Casglu barn cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft ac adlewyrchu'r rhain yn y cynllun drafft terfynol.   Cwblhawyd Ymgynghori ar y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr drafft  
Hafren Dyfrdwy   Mabwysiadu arfer gorau. Er mwyn nodi mesurau arfer da yn Lloegr a'r Alban y gellir eu mabwysiadu yng Nghymru a chynllunio i'w cyflwyno drwy gydol ail gylch y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Cwblhawyd Cyhoeddi Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff cylch 1. Bydd unrhyw arferion gorau newydd a nodwyd fel rhan o gylch 1 yn cael eu cofnodi a'u cynnwys yng nghylch 2.
Hafren Dyfrdwy     Cyfathrebu ynglŷn â’r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Darparu cyfres o negeseuon clir am y Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr (beth yw’r cynllun a beth yw ei fwriad) i’r ffrwd gwaith Cyfathrebu.  Esbonio cysylltiad a rôl y broses gynllunio busnes, blaenoriaethu buddsoddiad a’r effaith bosibl ar fforddiadwyedd i gwsmeriaid.   Cwblhawyd Wedi cyhoeddi Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff a chynnal gweithdai allanol adeg ei lansio.
Hafren Dyfrdwy     Prosiect tystiolaeth gorlifoedd storm.  Er mwyn cefnogi'r nodau ar gyfer Prosiect Tystiolaeth Gorlifoedd Storm Cymru a darparu'r wybodaeth ofynnol os mae’r wybodaeth ar gael.     Cwblhawyd Wedi cyhoeddi Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff a chynnal gweithdai allanol adeg ei lansio.
Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol   Ymgysylltu â'r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr. Mae CNC ac Awdurdodau Lleol yn ymwneud â’r Cynllun Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr o safbwynt gweithredwyr draenio a rheoleiddwyr fel bod cynlluniau cydweithredol yn cael eu datblygu i ddiogelu ansawdd dŵr afonydd ar yr un pryd â lleihau'r perygl o lifogydd  Cwblhawyd CNC wedi adolygu a gwneud sylwadau ar ymgynghoriadau'r Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff.
Llywodraeth Cymru   Rhoi cyfarwyddyd i gwmnïau dŵr gyhoeddi eu Cynlluniau Rheoli Draenio a Gwastraff Dŵr.   Cadarnhau bod y cynlluniau wedi'u mabwysiadu'n ffurfiol ac y dylai cwmnïau dŵr ddechrau adrodd ar gynnydd.   Cwblhawyd Disgwylir i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi yn ystod hydref 2023.