Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2022.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £301 miliwn ar 31 Mawrth 2022, sy'n gyfwerth â £659 y disgybl. Cynyddodd lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn £121 miliwn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £175 miliwn.
  • Dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn sylweddol oherwydd effaith pandemig COVID-19 a chyllid craidd ychwanegol a gyhoeddwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Mae ysgolion wedi parhau i dderbyn eu cyllid craidd arferol ynghyd â chyllid ychwanegol COVID-19 wrth iddynt leihau gwariant ar elfennau fel athrawon cyflenwi, hyfforddiant staff, arholiadau, deunyddiau addysgol a biliau cyfleustodau oherwydd cyfnodau amrywiol o gau ysgolion yn ystod y flwyddyn.
  • Cynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd £55 miliwn yn y flwyddyn ddiweddaraf a chynyddodd cronfeydd wrth gefn ysgolion uwchradd £55 miliwn.
  • Roedd gan Gwynedd y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £1,012, a Phowys yr isaf, gyda £531 y disgybl.
  • Roedd gan 28 o ysgolion cynradd, 12 o ysgolion uwchradd, 1 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 2 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £8 miliwn. Roedd gan y 1,435 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 994 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

Adroddiadau

Cronfeydd wrth gefn ysgolion, ar 31 March 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 448 KB

PDF
Saesneg yn unig
448 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Anthony Newby

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.