Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mark Morgan: Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful

Mae Mark yn gydweithiwr rhagorol ac ysbrydoledig sydd wedi bod yn esiampl o bositifrwydd i'r ysgol. Mae wedi darparu atebion arloesol i’r heriau y mae disgyblion, rhieni ac ysgolion wedi’u hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Mae canlyniadau ei ddisgyblion yn gyson ymhlith y gorau oll yng Nghymru ar gyfer y garfan blwyddyn, ac mae’n dangos y brwdfrydedd a’r sgiliau addysgu i gael y gorau oll o ddisgyblion, beth bynnag fo’u gallu academaidd.

Mae'n arwain yr ysgol yn llwyddiannus wrth hybu a dysgu'r Gymraeg.