Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Kathryn Matthews - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Caerffili

Mae Kathryn wedi ymrwymo i ddysgu uchelgeisiol, gan ddatblygu strategaethau newydd i gefnogi disgyblion o bob gallu dysgu a sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi yn yr ysgol.

Mae’n annog disgyblion a rhieni i gymryd rhan yn natblygiad yr ysgol ac yn defnyddio arweinyddiaeth greadigol a thechnegau gwahanol i gefnogi hyn.

Mae Kathryn yn fodel rôl sy'n arwain gydag agwedd hyblyg.

Mae’n hybu cynhwysiant a thosturi, gan annog staff, plant, a rhieni i feithrin empathi trwy’r cwricwlwm addysgu a’r gweithgareddau ar ôl ysgol. Mae ei hymagwedd wedi’i thargedu at ddysgu yn sicrhau bod pob plentyn yn deall ac yn cefnogi eraill heb farn. Mae Kathryn yn gosod parch wrth galon pob perthynas ysgol.