Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd

Mae Ysgol Uwchradd Llanwern wedi bod yn gweithio tuag at sefydlu diwylliant Cynefin, lle mae holl aelodau cymuned yr ysgol yn meithrin ymdeimlad o berthyn.

Mae wedi ail-ddychmygu’r cwricwlwm trwy lens amrywiaeth, gan gofleidio dull ysgol gyfan lle mae timau bugeiliol ac academaidd yn cydweithio i sicrhau bod disgyblion yn profi ac yn dathlu amrywiaeth yn eu haddysg yn ddilys.

Mae staff Llanwern yn dangos brwdfrydedd wrth wneud yr ysgol yn fan lle mae pob ethnigrwydd yn cael ei ddathlu.

Boed yn mynychu dysgu proffesiynol, yn amrywio adnoddau dysgu neu’n blaenoriaethu amrywiaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru, mae’r ysgol wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddathlu amrywiaeth.