Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofyn hwn yw diogelu adnoddau dŵr trwy drwyddedu’r rheini sy’n codi dŵr i ddyfrhau’r tir. Drwy drwyddedu dŵr at ddibenion dyfrhau, gellir sicrhau bod y llif dŵr yn cael ei gynnal er budd pawb sy’n defnyddio dŵr, yr amgylchedd a bioamrywiaeth. Mae’r drwydded yn berthnasol os ydych codi 20 metr ciwbig neu fwy o ddŵr bob dydd at unrhyw ddiben, gan gynnwys i ddyfrhau’r tir.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn trwyddedu gwaith codi dŵr yng Nghymru er mwyn diogelu’r amgylchedd.

Prif ofynion

  • Mae angen trwydded codi dŵr arnoch gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych yn codi 20 metr ciwbig (4,400 galwyn) neu fwy o ddŵr y dydd o ffynhonnell ar y tir (fel afon neu nant) neu o dan y tir (fel ffynnon neu dwll turio) ar gyfer unrhyw bwrpas, gan gynnwys dyfrhau’r tir.
  • Cadwch at amodau unrhyw drwydded codi dŵr a roddir i chi at ddibenion dyfrhau tir.

Archwiliadau maes

  • Gofalu bod y drwydded wedi’i chael.
  • Gofalu bod amodau’r drwydded yn cael eu cadw.
  • Cadarnhau y bodlonir unrhyw rybuddion sydd wedi’u rhoi ynghylch defnyddio dŵr i ddyfrhau.

Arferion da

  • Cyn eich bod yn mynd ati i godi dŵr, holwch Cyfoeth Naturiol Cymru a yw’r ardal yr ydych yn awyddus i dynnu dŵr ohoni’n ardal sydd angen trwydded i wneud hynny.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024) o fewn y pecyn hwn.