Trawsgydymffurfio: defnyddio dŵr i ddyfrhau'r tir (GAEC 2) (2014)
Crynodeb o'r rheolau ar drwyddedau codi dŵr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcan y gofyn hwn yw diogelu adnoddau dŵr trwy drwyddedu’r rheini sy’n codi dŵr i ddyfrhau’r tir. Drwy drwyddedu dŵr at ddibenion dyfrhau, gellir sicrhau bod y llif dŵr yn cael ei gynnal er budd pawb sy’n defnyddio dŵr, yr amgylchedd a bioamrywiaeth. Mae’r drwydded yn berthnasol os ydych codi 20 metr ciwbig neu fwy o ddŵr bob dydd at unrhyw ddiben, gan gynnwys i ddyfrhau’r tir.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn trwyddedu gwaith codi dŵr yng Nghymru er mwyn diogelu’r amgylchedd.
Prif ofynion
- mae angen trwydded codi dŵr arnoch gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych yn codi 20 metr ciwbig (4,400 galwyn) neu fwy o ddŵr y dydd o ffynhonnell ar y tir (fel afon neu nant) neu o dan y tir (fel ffynnon neu dwll turio) ar gyfer unrhyw bwrpas, gan gynnwys dyfrhau’r tir
- cadwch at amodau unrhyw drwydded codi dŵr a roddir i chi at ddibenion dyfrhau tir
Archwiliadau maes
- gofalu bod y drwydded wedi’i chael
- gofalu bod amodau’r drwydded yn cael eu cadw
- cadarnhau y bodlonir unrhyw rybuddion sydd wedi’u rhoi ynghylch defnyddio dŵr i ddyfrhau
Arferion da
- cyn eich bod yn mynd ati i godi dŵr, holwch Cyfoeth Naturiol Cymru a yw’r ardal yr ydych yn awyddus i dynnu dŵr ohoni’n ardal sydd angen trwydded i wneud hynny.
Gwybodaeth pellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
- Llywodraeth Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2025) o fewn y pecyn hwn.