Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y gweinidog

Mae pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gwneud cyfraniad anfesuradwy at Gymru ffyniannus, iachach a mwy cyfartal gyda’u diwylliannau bywiog a’u hieithoedd ffyniannus.

Mae’n ofid mawr inni fod llawer o bobl ethnig leiafrifol wedi profi hiliaeth yn eu bywyd pob dydd, fel dinasyddion, fel defnyddwyr gwasanaethau, fel cyflogeion ac fel ymgeiswyr am swyddi a chyfleoedd. Mae’r teimlad o beidio â chael eu gwerthfawrogi na’u parchu yn dwysáu wrth weld mai ychydig iawn o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n rheolwyr neu’n arweinwyr yn y sefydliadau y maent yn gweithio iddynt, neu mewn bywyd cyhoeddus. Mae’n rhaid i hyn newid, ac mae’r gwaith i sicrhau’r newid hwnnw wedi dechrau.

Datblygwyd y cynllun mewn cydweithrediad ag amrywiaeth eang o gymunedau a sefydliadau ym mhob cwr o Gymru. Lluniwyd y nodau a’r camau gweithredu ar y cyd â phobl ethnig leiafrifol a phennwyd ‘gwerthfawrogi profiadau bywyd’ yn un o werthoedd sylfaenol y cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i lywio ein dull gweithredu.

Rydym am ddiolch i bawb am eu cyfraniad at y gwaith hwn – ac am barodrwydd pobl ethnig leiafrifol i ymddiried ynom i sicrhau newid – ac am rannu eu harweinyddiaeth a’u profiadau bywyd er mwyn helpu i lunio’r cynllun hwn.

Yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol ar y cynllun hwn, (y cyfeiriwyd ato bryd hynny fel y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft), ffurfiwyd Llywodraeth newydd. Yna, yn ein Rhaglen Lywodraethu newydd, ailddatganwyd bod cyflwyno’r cynllun hwn yn un o’n hymrwymiadau pwysicaf o hyd.

Felly, mae hon yn un o’n blaenoriaethau allweddol. Mae’n gyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth fel sbardun i wella cyfleoedd mewn bywyd a mynd i’r afael â thlodi ym mhob grŵp gwarchodedig. Rydym yn ymrwymo ein harweinyddiaeth a’n hadnoddau, a’n dylanwad ar eraill, i roi’r cynllun hwn ar waith. Ond rydym hefyd yn galw ar bawb sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ar ba lefel bynnag, i wneud yr un peth. Gall pawb, ar bob lefel mewn unrhyw sefydliad, ddangos arweinyddiaeth. Mae gan bawb ran i’w chwarae yn y gwaith o fynd i’r afael â hiliaeth a bod yn weithredol wrth-hiliol.

Rydym yn gwneud y gwaith hwn, gan gydnabod yr arweinyddiaeth hynod yn y cymunedau ethnig lleiafrifol a’u harweinyddiaeth ar bob lefel – fel unigolion, fel arweinwyr gwleidyddol, fel ymgyrchwyr cymunedol, fel academyddion ac fel arweinwyr sefydliadau. Heb amrywiaeth eang o brofiadau bywyd yn llywio ein gwaith, rydym yn cyfyngu ar ein galluoedd creadigol. Felly, rydym wedi mynd ati’n fwriadol i gynnwys yr arweinwyr hyn er mwyn llywio ein gwaith a’n hysbrydoli ar y cyd i wneud mwy.

Rydym wedi dangos y gall Llywodraeth Cymru newid yr hyn a wnawn a’r ffordd rydym yn gweithio. Mae’r gwaith arloesol a arweiniwyd gan yr Athro Charlotte Williams yn golygu bod dysgu am dreftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ethnig Cymru a’r byd yn fwy cyffredinol bellach yn elfen orfodol o’n Cwricwlwm cenedlaethol. Mae hyn yn rhywbeth hanesyddol; nid oes yr un genedl arall yn gwneud hyn.

O ystyried ein hymrwymiadau i weithio mewn ffordd fwy cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, paratowyd y cynllun hwn, a’r cynllun drafft yn 2021 drwy gyd-lunio a chyd-gynhyrchu â phobl a chymunedau. Roedd y broses yn un gydweithredol, arloesol ac ysbrydoledig, a chafwyd sylwadau cadarnhaol gan y rhai a fu’n gweithio ochr yn ochr â ni a’r rhai yr ymgynghorwyd â nhw.

Gwyddom fod angen inni sicrhau bod llais a phrofiadau bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol nid yn unig yn cael eu clywed, ond ein bod yn gweithredu arnynt. Mae’r ffordd rydym wedi datblygu’r cynllun hwn yn sicrhau bod yr hanesion a’r profiadau hyn yn dod yn rhan o’r gwaith hwn. Rhoddodd pobl o’u hamser yn hael a rhannodd llawer, er gwaethaf cryn gost bersonol iddyn nhw eu hunain, eu profiadau o wahaniaethu a gelyniaeth fel dinasyddion Cymru; gwnaethant hefyd rannu eu cyflawniadau fel entrepreneuriaid, gweithwyr ac arweinwyr; fel ymchwilwyr, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol, ac fel cymunedau.

Mae’r cynllun yn ffrwyth ymdrech i gynnal deialogau agored a dynamig yn Llywodraeth Cymru, a rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, academyddion, actifyddion, undebau llafur, arweinwyr grwpiau cymunedol, arweinwyr crefyddol ac unigolion o’r ystod gyfan o grwpiau hil ac ethnig lleiafrifol yng Nghymru. Mae arnom ddyled i’r mentoriaid cymunedol a’r ‘arbenigwyr drwy brofiad bywyd’ eraill sydd wedi ein cefnogi ni fel swyddogion a’r Grŵp Llywio. Bydd y ddeialog honno a’r broses gyd-ddylunio yn parhau, a byddwn yn asesu cynnydd ac yn nodi’r meysydd lle mae angen i ni gymryd rhagor o gamau gweithredu ar y cyd.

Drwy gynnwys pobl mewn ffordd wahanol, gwnaethom newid ein cynllun. Rydym wedi rhoi mwy o ffocws ar ddisgrifio’r problemau a wynebir gan bobl, gan ddefnyddio profiadau bywyd go iawn. Rydym hefyd wedi bod yn fwy hyderus a diamwys o ran y camau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd – rydym yn fwy uchelgeisiol o ganlyniad i gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Dyma sut y dylid cynnwys pobl. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun hwn wedi’u hanelu at atal problemau rhag codi ac maent yn canolbwyntio ar graidd ein systemau, ein prosesau a’n hymddygiad, er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol.

Rydym hefyd wedi cryfhau’r ffyrdd y byddwn yn cyflawni’r cynllun ac yn cael ein dwyn i gyfrif amdano. Cawn ein sbarduno gan yr angen i gau’r bwlch gweithredu. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau gwell cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010, a byddant hefyd yn gwneud defnydd o ddata gwell a, thrwy hynny, yn galluogi gwaith dadansoddi gwell. Ein nod yw cau’r bwlch rhwng cyhoeddi cynllun, a’i weld yn cael ei roi ar waith – cau’r hyn a elwid yn “fwlch gweithredu”.

Un gwahaniaeth allweddol yw’r ymrwymiad cryfach i wrth-hiliaeth. Yn wir, rydym wedi ailenwi’r cynllun yn “Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol”. Y nod yw pwysleisio ein ffocws ar fynd ati i amlygu hiliaeth sefydliadol a systemig a mynd i’r afael â hi.

Gofynnwn ichi yn awr weithio gyda ni i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac i greu Cymru wrth-hiliol; Cymru lle y gall pob un ohonom fod yn falch o berthyn iddi, a ffynnu ynddi. Credwn y bydd rhoi’r cynllun hwn ar waith yn llwyddiannus o fudd i bob dinesydd, nawr ac yn y dyfodol.

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru.

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Rhagair y Cyd-gadeiryddion

Fel cymdeithas, mae hiliaeth yn achos pryder i ni i gyd. Fodd bynnag, ers gormod o amser, rydym wedi credu y bydd anghydraddoldeb hil yn diflannu heb ymdrechion parhaus i’w herio a’i ddileu. Mewn sawl ffordd, rydym wedi dod i arfer â byw gydag anghydraddoldeb hil mewn ffordd sydd wedi gwneud yr anghydraddoldeb hwnnw yn agwedd hunanbarhaus ar realiti a fu’n bla ar fywydau aelodau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (y cyfeirir atynt fel lleiafrifoedd ethnig o hyn ymlaen) o’n cymdeithas.

Mae cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (y cynllun) yn adeiladu ar fentrau blaenorol gan Lywodraeth Cymru ym maes cydraddoldeb hil. Tynnwyd sylw amlwg a dwys at y ffaith bod angen cyflwyno’r cynllun ar fyrder oherwydd effaith pandemig COVID-19, ac efallai yn fwy na hynny, amlygrwydd ac ymateb digynsail y byd i lofruddiaeth George Floyd yn UDA. O ganlyniad i’r ddau ddigwyddiad hyn, daeth canlyniadau enbyd hiliaeth yn amlwg i’r byd a phwysleisiwyd yr angen i gymryd camau gweithredu parhaus er mwyn dileu achosion o wahaniaethu ar sail hil.

Mae’r cynllun yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru ar COVID-19 a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghymru, ac mae’n cynnwys tair nodwedd ryng-gysylltiedig. Yn gyntaf, mae’r cynllun yn seiliedig ar werthoedd gwrth-hiliaeth. Mae hyn yn golygu bod yr awydd i greu gwlad lle na chaiff unrhyw fath o hiliaeth ei goddef yn thema gyffredin sydd i’w gweld ym mhob pennod. Yn hyn o beth, mae’r cynllun yn gynhwysfawr ac yn cyffwrdd â phob sefydliad y mae gan Lywodraeth Cymru ddylanwad drosto.

Yr ail ffactor sy’n arbennig am y cynllun yw ein bod wedi dilyn egwyddorion cyd-greu yn yr ystyr bod y cynllun yn deillio o ddeialogau agored a dynamig o fewn grwpiau a rhyngddynt, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, academyddion, ymgyrchwyr a gweithwyr hil/ethnigrwydd, Undebau Llafur a TUC Cymru, swyddogion o lywodraeth leol a sefydliadau anllywodraethol, arweinwyr grwpiau cymunedol, arweinwyr crefyddol ac, yn bwysig ddigon, aelodau unigol o’r cymunedau lluosog sy’n rhan o’r grwpiau lleiafrifoedd hil ac ethnig yng Nghymru. Ffrwyth y gwaith hwn yw cynllun sy’n cynrychioli’r hyn a glywsom gan ein rhanddeiliaid.

Y nodwedd olaf sy’n arbennig am y cynllun hwn yw’r pwyslais ar gau’r bwlch gweithredu. Wrth ddatblygu’r cynllun, cafodd aelodau’r Grŵp Llywio eu harwain gan y ffaith na lwyddodd Cynlluniau Cydraddoldeb Hil blaenorol â bwriadau cadarnhaol i esgor ar welliannau ystyrlon i fywydau grwpiau ethnig lleiafrifol. Roeddem hefyd yn ymwybodol bod problemau gweithredu wedi cael effaith andwyol ar effeithiolrwydd y fframwaith deddfwriaethol (Deddf Cydraddoldeb 2010) a gynlluniwyd i ddileu achosion o wahaniaethu ar sail hil mewn cymdeithas. Credwn y bydd rhoi’r cynllun hwn ar waith yn llwyddiannus o fudd i bob dinesydd, nawr ac yn y dyfodol.

Egwyddor arweiniol y cynllun hwn yw y dylid troi’r ‘rhethreg’ ar gydraddoldeb hil yn gamau gweithredu ystyrlon, ac y dylai mudiadau a sefydliadau fod yn atebol am roi’r camau hyn ar waith fel sy’n gyffredin ar gyfer meysydd polisi pwysig eraill. Felly, mae’r cynllun yn nodi bod ‘nodau, ‘camau gweithredu’, ‘terfynau amser’, ‘canlyniadau’ a rôl y Grŵp Atebolrwydd a fydd yn goruchwylio’r trefniadau llywodraethu yn hollbwysig er mwyn ei roi ar waith yn llwyddiannus.

Fodd bynnag, ni fydd llwyddiant y cynllun hwn yn dibynnu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru na sefydliadau ar eu pennau eu hunain; bydd hefyd yn dibynnu ar ymddygiadau a gweithredoedd cyfun pobl gyffredin mewn cymdeithas. Efallai fod unigolion sy’n credu nad ydynt yn hiliol, ond nad ydynt yn mynd ati’n rhagweithiol i gael gwared ar hiliaeth, yn cefnogi’r system hiliol bresennol rydym yn ceisio ei newid yn anfwriadol. Dyna pam y mae gan bawb rôl i’w chwarae i gael gwared ar hiliaeth. A dylai pawb, o leiaf, ystyried sut mae’r stereoteipiau sy’n bodoli am bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn dylanwadu ar ein hymddygiad tuag atynt a dylem wneud popeth o fewn ein gallu i ymgorffori tegwch yn ein bywydau pob dydd.

Yn ein barn ni, bydd rhoi’r cynllun ar waith yn llwyddiannus o fudd i bob dinesydd. Bydd marchnad gyflogaeth deg sy’n cynyddu cyfranogiad lleiafrifoedd hil ac ethnig yn gwella cynhyrchiant a thwf cyffredinol yr economi yng Nghymru, a fydd o fudd i bawb. Bydd system addysg a hyfforddiant decach yn harneisio potensial pawb yng Nghymru. Yn olaf, bydd sicrhau cyfleoedd a chanlyniadau cyfartal rhwng hiliau ym maes gofal iechyd ac mewn gwasanaethau cymdeithasol eraill yn helpu i leihau’r baich cyffredinol ar y wladwriaeth ac unigolion ac yn helpu i hybu dinasyddiaeth weithgar.

Yn hyn o beth, mae’r hanfodion ar gyfer gweithredu’r cynllun hwn yn llawn yn seiliedig nid yn unig ar y gofynion moesol a chyfreithiol, ond hefyd ar y ffaith y bydd y canlyniadau o fudd i bawb: mae cydraddoldeb hil o fudd i bob un ohonom.

Yr Athro Emmanuel Ogbonna, Prifysgol Caerdydd.

Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru.