Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Y Cefndir

Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW) i weithwyr gofal cymdeithasol, a oedd yn rhan o Faniffesto Plaid Lafur Cymru, a'r Rhaglen Lywodraethu ddilynol ar gyfer 2021-26. Mae'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac â gwaith ehangach y Gweinidogion a'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar delerau ac amodau ym maes gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn rhan o'r agenda i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol a darparu llwybrau gyrfa gwell.

Ym mis Gorffennaf 2021, gofynnodd y Gweinidogion am gyngor gan y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol (SCFWF, y Fforwm), grŵp teirochrog o gyflogwyr, undebau a'r llywodraeth, ar weithredu'r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol.   Y pwyntiau allweddol o gyngor y Fforwm oedd:

  • Dylai'r ymrwymiad ddechrau cyn gynted â phosibl.
  • Rhaid osgoi ymagwedd raddedig yn ddaearyddol o ran cyflwyno'r cynnydd yn RLW.
  • Dylai'r ymrwymiad gynnwys gweithwyr cofrestredig mewn  gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau i blant (gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref) a Chynorthwywyr Personol).
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu elfen gyfrannol tuag at gost gyfatebol o godi gwahaniethau.
  • Dylid annog darparwyr i ymrwymo i gyfres o egwyddorion gwaith teg.
  • Ni ddylai'r broses gyflwyno dorri ar draws cytundebau sydd eisoes wedi'u bargeinio ar y cyd.
  • Dylid cynnal gwerthusiad annibynnol o'r gwaith.

Felly, y cynnig a gyflwynwyd yw gwneud taliad wedi'i gynyddu i grŵp penodol o weithwyr gofal cymdeithasol, o fis Ebrill 2022 ymlaen, ar gyfradd fesul awr RLW.  

Effaith

Mae costau byw cynyddol a gwahaniaethau mewn tâl yn y sector gofal cymdeithasol yn golygu bod tâl ac amodau yn cael eu derbyn fel ffactorau pwysig ym maes recriwtio a chadw staff mewn gofal cartref a chartrefi gofal. Mae'r pandemig wedi rhoi mwy o bwysau byth ar y sector hwn sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ac mae wedi atgyfnerthu pwysigrwydd strategaeth i'r gweithlu sy'n cwmpasu iechyd a gofal cymdeithasol. Gallai darparu'r codiad gael effaith fuddiol yn y tymor hwy ar ddarparu digon o ofal ac fe allai leddfu'r pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Gallai hyn hefyd gael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru gyda gwasanaethau gofal yn cael mwy o gapasiti i gefnogi'r gwaith o leihau ôl-groniad triniaeth y GIG.

Er na fydd y cynnydd yn unig yn mynd i'r afael â'r heriau hyn, bydd yn cyfrannu at yr uchelgais tymor hwy i godi proffil y sector fel lle proffesiynol i weithio, yn gwella cyfleoedd i unigolion ddatblygu eu gyrfaoedd, ac yn helpu i wella recriwtio a chadw staff.  

Nod y cynnig hwn yw integreiddio â chydnabyddiaeth y Fforwm o heriau cyflog isel yn y sector.  Mae hefyd yn gysylltiedig ag amcanion polisi Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ynghylch hyrwyddo iechyd a llesiant pobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Mae'n cyfrannu at alluogi unigolion i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac fe all gael effaith gadarnhaol ar gapsiti a morâl y gweithlu. Cafodd y polisi y tu ôl i'r cynnydd hwn ei ddatblygu mewn  partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y sector gofal cymdeithasol a'i lywio gan arolygon â chanolbwynt penodol. Yn hyn o beth, mae'r cynnig hwn hefyd yn cysylltu â ffrydiau gwaith COVID-19 cyfredol ar gartrefi gofal a gofal yn y cartref (gan gynnwys defnyddio Cynorthwywyr Personol), gan y gallai morâl gwell ymhlith staff effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd y gofal yn y lleoliadau hyn hefyd a lleihau absenoldebau y gellir eu hosgoi.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau gweithredu llwyddiannus, ac yn cydweithio ar ddatblygu canllawiau sy'n cefnogi awdurdodau lleol, byrddau iechyd, comisiynwyr, cyflogwyr a gweithwyr i ddarparu'r cymorth hwn y mae ei angen yn llwyddiannus i weithwyr o fis Ebrill 2022. Byddwn yn comisiynu gwerthusiad annibynnol a deinamig o weithrediad RLW a fydd yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer ymgysylltu â'r derbynwyr, pobl o wahanol grwpiau demograffig megis siaradwyr Cymraeg, a phobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig.

Costau ac Arbedion        

Yn wahanol i isafswm cyflog Llywodraeth y DU ('Cyflog Byw Cenedlaethol' i bobl dros 23 oed sydd yn £8.91 gan godi i £9.50 ym mis Ebrill 2022), Cyflog Byw y Living Wage Foundation (y cyfeirir ato'n aml fel y 'Cyflog Byw Gwirioneddol') yw'r unig gyfradd cyflog a gyfrifir yn annibynnol yn seiliedig ar gostau byw cynyddol – gan gynnwys tanwydd, ynni, rhent a bwyd.  O fis Ebrill 2022 bydd yn codi i £9.90.

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu darparu £43.2m yn 2022/23 i ddarparu'r RLW ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei blwyddyn gyntaf yn y broses o gyflwyno'r rhaglen, gan ddarparu gwell tâl i weithwyr, cefnogi cyflogwyr i wella recriwtio a chadw staff, a lleddfu'r pwysau ar wasanaethau.

Caiff y gost ei hymgorffori yn y Grant Cynnal Refeniw, gyda £6.7m ar gyfer gofal yn cael ei gomisiynu gan fyrddau iechyd ac yn cael ei thalu o'n cyllideb iechyd.   Bydd hyn yn dechrau o fis Ebrill 2022, ond mae'n debygol y bydd yn rhai misoedd nes y caiff y cyfraddau uwch fesul awr  eu hadlewyrchu mewn cyflogau.

Mae'r cyllid yn cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau ar ben isaf graddfeydd cyflog. Bydd hyn yn helpu cyflogwyr i barhau i dalu atodiad i weithwyr sy'n ymgymryd â rhai dyletswyddau ychwanegol, neu sy'n cael eu talu uwchlaw'r isafswm statudol oherwydd bod ganddynt wasanaeth hirach er enghraifft.

Mae hwn yn sector cymhleth gyda channoedd o gyflogwyr a degau o filoedd o weithwyr, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau yn y sector annibynnol. Amcangyfrifwn y gallai gyrraedd hyd at 55,000 o weithwyr, gan gynnwys gweithwyr cofrestredig a chynorthwywyr personol taliadau uniongyrchol yn yr RLW ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Dyna pam y byddwn yn bwriadu gwerthuso'n ofalus y broses gyflwyno cynllun ar gyfer unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl ac i lywio costau yn y dyfodol.

Nid oes angen deddfwriaeth ar gyfer y cynnig hwn.  Bydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gweinyddu'r cynnig ar ran Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio'r strwythurau presennol.  

Adran 8: Casgliad

8.1  Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i ddatblygu?

Mae'r cynnig hwn yn seiliedig ar nifer o ganfyddiadau gan gynnwys y Living Wage Foundation, Adroddiad Gwaith Teg Cymru, gwaith y Comisiwn Gwaith Teg, y Maniffesto Llafur, y Rhaglen Lywodraethu, trafodaethau'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, a'r adroddiad ar Gyflog Byw Gwirioneddol yr Alban.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i gynllunio pob agwedd ar y polisi Cyflog Byw Gwirioneddol, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector. Comisiynwyd gwaith hefyd i arolygu nifer cynrychioliadol o awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyflogwyr annibynnol i gefnogi'r gwaith o gostio'r fenter hon yn ddigonol.   Rydym wedi ymrwymo i gomisiynu gwerthusiad deinamig annibynnol o'r gwaith gweithredu

8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Mae rhoi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi proffil y sector gofal cymdeithasol ac i gefnogi'r rôl hanfodol sydd ganddo wrth gynnal iechyd a llesiant pobl y mae arnynt angen gofal.

Bwriad y cynnig yw darparu'r codiad yn y taliad i weithwyr gofal cymdeithasol cymwys. Rydym yn disgwyl i'r codiad gael effaith gadarnhaol ar recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol (gweler hefyd: What innovations help to attract, recruit and retain social care workers within the UK context? (researchgate.net)(Saesneg yn unig). Mae'n cyd-fynd â gwaith Gweinidogion a'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar delerau ac amodau ym maes gofal cymdeithasol, yn ogystal â'r agenda i broffesiynoli'r gweithlu gofal cymdeithasol a darparu llwybrau gyrfa gwell. Byddai'r camau hyn yn helpu i gyflawni nifer o'r saith nod llesiant (Cymru Gydnerth, Cymru Lewyrchus, Cymru Fwy Cyfartal a Chymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu) ond yn bwysicach na hynny mae ganddynt fanteision hirach i unigolion a busnesau.

Mae'r codiad yn cydnabod y gweithlu gofal cymdeithasol ac o bosibl yn codi eu morâl a'u hymroddiad; gall hefyd helpu i'w hannog i ddefnyddio eu sgiliau'n well, eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg a rhoi mwy o hyder iddynt wneud hynny. Gallai'r gydnabyddiaeth hon hefyd gyfrannu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n hyderus i ddarparu gwasanaethau i unigolion trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gall staff mewn gofal cymdeithasol a sectorau eraill nad ydynt yn gymwys i gael y codiad hwn deimlo'n siomedig a/neu herio rheolau'r cynnig. Er hynny, rydym yn bwriadu comisiynu gwerthusiad annibynnol o weithrediad RLW, er mwyn asesu ei effeithiolrwydd a'i effaith.

8.3  Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu yn osgoi, yn lleihau neu’n lleddfu unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW) ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon, fel man cychwyn ar gyfer gwella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r Rhaglen Lywodraethu a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Roedd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, sef grŵp partneriaeth gymdeithasol o gyflogwyr, cynrychiolwyr cyflogeion a Llywodraeth Cymru'n darparu cyngor am y ffordd orau o gyflawni'r ymrwymiad hwn heb ansefydlogi'r sector bregus a chymhleth hwn.  

Mae'r rheoliadau'n hybu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi proffil y gweithlu gofal cymdeithasol a'r sector yn ei gyfanrwydd.  Gyda gwell cydnabyddiaeth o'r gweithlu, gallwn symud tuag at  “Cymru Iachach” tuag at integreiddio gwasanaethau yn well, a chryfhau'r cyfathrebu rhwng staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol i adeiladu gwasanaethau gofal a chymorth mwy cynaliadwy a chadarn at y dyfodol.

Er mai prif ddiben y cynnig yw sicrhau codiad cyflog ariannol i weithwyr gofal cymdeithasol cymwys, bydd y taliad yn cyfrannu'n anuniongyrchol at well recriwtio a chadw gweithwyr ac yn cynyddu morâl staff a chapasiti gwasanaethau. Trwy geisio sicrhau bod gweithwyr sy'n parhau i fod yn broffesiynol a medrus gyda llwybrau gyrfa clir a gwell boddhad o ran swyddi, rydym yn gobeithio gweld y bydd gwelliant yn nifer y staff sy'n cael eu cadw yn gwella cynaliadwyedd y sector trwy fwy o ddilyniant o ran gofal a gwell cadernid busnes.

O safbwynt cydraddoldeb ac effeithiau amgylcheddol a nodwyd, byddwn yn adolygu'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod y gwerthusiad deinamig, gan weithio i hyrwyddo mwy o amrywiaeth yn y gweithlu gofal cymdeithasol ac i greu gweithlu sy'n adlewyrchu cymdeithas. Mae ein hasesiad o'r effaith ar blant a phobl ifanc yn awgrymu, er nad oes unrhyw effaith uniongyrchol ar y grŵp hwn gan fod y ffocws ar weithwyr gofal cymdeithasol, y bydd effaith gadarnhaol yn gyffredinol ar y grŵp hwn drwy enillion anuniongyrchol e.e. mwy o arian i'w wario yn yr aelwyd.  

O ran effaith y cynnig ar y Gymraeg, bydd y canllawiau a'r dulliau cyfathrebu ar gael yn ddwyieithog. Ceir enillion anuniongyrchol hefyd o gynyddu'r cyflog, gan ein bod yn disgwyl gweld rhywfaint o welliant ym morâl y gweithlu, gwell dilyniant gofal, a gofal a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.   Gallai gwerthfawrogiad o'r gwaith y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud hefyd eu hannog i ddysgu Cymraeg fel rhan o'r model gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Byddwn yn comisiynu gwerthusiad annibynnol a deinamig o weithrediad RLW a ddylai ystyried nid yn unig effeithiolrwydd y cyflwyno a'i lwyddiant gan gyflawni'r cynnydd ym mhocedi gweithwyr ond a fydd hefyd yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer ymgysylltu â phobl o wahanol grwpiau demograffig h.y. pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig gan gynnwys croestoriadedd. Ymrwymiad hirdymor yw hwn, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r gweithlu gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid i sicrhau ei fod yn arwain at newid cynaliadwy, hirdymor.