Gwiriwch i weld os gall eich plentyn dderbyn prydau ysgol am ddim.
Cynnwys
Trosolwg
Gall pob plentyn ysgol gynradd sy'n mynychu ysgol a ariennir gan y wladwriaeth (a gynhelir) yng Nghymru gael pryd ysgol am ddim.
Gallai plant mewn ysgolion uwchradd hefyd gael pryd ysgol am ddim os yw eu teuluoedd yn bodloni'r meini prawf cymhwystra.
O fis Medi 2026 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn ehangu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy'n cael Credyd Cynhwysol, heb unrhyw gyfyngiad ar incwm, gan ddechrau gyda phlant ym mlynyddoedd 7 ac 8.
Os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim trwy unrhyw un o'r llwybrau hyn, mae angen ichi wirio a ydych chi'n gymwys i gael mynediad at gymorth ehangach. Gallech gael hyd at £200 drwy'r Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol i'ch ysgol.
Pwy all wneud cais: prydau ysgol am ddim ac elfennau cymorth eraill
Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael prydau ysgol am ddim ac elfennau cymorth eraill os ydych yn cael unrhyw un o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm.
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm.
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm.
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
- Elfen warantedig y Credyd Pensiwn.
- Credyd Cynhwysol: mae'n rhaid i enillion eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau.
Yr awdurdod lleol lle mae'r dysgwr yn mynd i'r ysgol (nid lle mae'n byw) sy'n gyfrifol am y canlynol:
- darparu'r pryd ysgol am ddim
- asesu cymhwystra
Mae deddfwriaeth prydau ysgol am ddim yn caniatáu i rieni maeth hawlio prydau ysgol am ddim. Gallai plentyn o bosibl gael pedwar rhiant; dau riant maeth a dau riant naturiol. Cyn belled â bod rhiant yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, gall y plentyn eu cael.
Ehangu'r Cynllun Prydau Ysgol am Ddim
Mae'n bosibl y bydd aelwydydd â dysgwyr ym mlwyddyn 7 neu 8 sy'n cael Credyd Cynhwysol, ond y mae enillion y cartref yn fwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth, yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.
Gall rhieni plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 gael gwybodaeth ynglŷn â phryd i wneud cais gan eu hawdurdod lleol. Defnyddiwch ein gwiriwr cod post i ddarganfod pryd mae ffurflenni cais ar gael yn eich ardal chi a sut i wneud cais.
Amddiffyniad wrth bontio
Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim. O ganlyniad, gallai nifer bach o blant a phobl ifanc fod wedi colli'r hawl i gael prydau ysgol am ddim. Cyflwynwyd 'amddiffyniad wrth bontio' i sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan eich awdurdod lleol.
Gwneud cais
Mae gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais am brydau ysgol am ddim ar wefan eich awdurdod lleol.
