Gwiriwch i weld os gall eich plentyn dderbyn prydau ysgol am ddim.
Cynnwys
Trosolwg
Mae prydau ysgol am ddim ar gael i blant cymwys sy’n mynychu ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae’r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd ar draws Cymru, gan ddechrau gyda’r dysgwyr ieuengaf yn ein hysgolion cynradd.
Pwy sy'n gymwys
Mae'n bosibl y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn cael unrhyw un o'r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Elfen gwarant Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm blynyddol yn fwy nag £16,190 cyn treth)
- Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
- Credyd Cynhwysol – rhaid i incwm eich aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth
Mae’r awdurdod lleol lle mae’r dysgwr yn mynd i’r ysgol (nid lle mae’n byw) yn gyfrifol am y canlynol:
- darparu pryd ysgol am ddim
- asesu cymhwysedd
Mae deddfwriaeth prydau ysgol am ddim yn galluogi rhieni maeth i hawlio prydau ysgol am ddim. Cyn belled â bod rhiant yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim, gall y plentyn eu cael. Mae'n bosibl y gall fod gan blentyn bedwar rhiant; dau riant maeth a dau riant naturiol.
Amddiffyniad wrth bontio
Ar 1 Ebrill 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd ar gyfer hawlio prydau ysgol am ddim. Oherwydd hyn, gallai nifer gymharol fach o blant a phobl ifanc fod wedi colli eu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim. Cyflwynwyd 'amddiffyniad wrth bontio' er mwyn sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim am gyfnod cyfyngedig o amser.
Darpariaeth prydiau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau
Gyda’r argyfwng costau byw yn parhau, a’r pwysau y mae hyn yn ei roi ar deuluoedd incwm isel yn ystod gwyliau’r Ysgol, rydym wedi penderfynu ymestyn ein cynnig darpariaeth gwyliau i’r dysgwyr hynny sy’n cael prydiau ysgol am ddim, tan hanner tymor y Gwanwyn 2023. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.
Gwneud cais
Ceir gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais am brydau ysgol am ddim ar wefan eich awdurdod lleol.