Neidio i'r prif gynnwy

Mae Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol yn asesu perfformiad busnesau, hyder busnesau a’r bwlch sgiliau yn niwydiannau creadigol Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau Arolwg Diwydiant Cymru Creadigol 2022. Cafodd yr arolwg hwn ei gynnal ym mis Ebrill 2022 ac mae’n cynnwys sampl o fusnesau a gweithwyr llawrydd o’r sectorau sgrin, cerddoriaeth, digidol a chyhoeddi yng Nghymru.

Prif ganlyniadau

  • Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan 344 o ymatebwyr o’r sectorau cyhoeddi (51%), sgrin (19%), cerddoriaeth (16%) a digidol (14%), ac roedd tua thraean o’r ymatebwyr yn hunangyflogedig neu’n weithwyr llawrydd.
  • Roedd y sectorau yn nodi profiadau cymysg mewn perthynas â pherfformiad busnes a throsiant, gan ddangos bod effeithiau COVID-19 wedi bod yn gadarnhaol ar gyfer rhai ac yn negyddol ar gyfer eraill.
  • Gwella proffidioldeb, gwella cyfleoedd marchnata a thyfu’r gweithlu yw’r tair prif flaenoriaeth ymhlith y sectorau.
  • Ar y cyfan mae busnesau yn fwy hyderus y bydd eu busnesau yn broffidiol y flwyddyn ariannol nesaf nag fel arall.
  • Mae tua un busnes o bob pump wedi cael trafferth recriwtio yn ystod y flwyddyn diwethaf, gyda’r rhan fwyaf yn priodoli hyn i’r bwlch sgiliau yn y gweithlu neu ymhlith ymgeiswyr.
  • Byddai’r diwydiant ar ei ennill o ragor o gymorth ariannol, rhagor o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio, a chymorth a chyngor busnes mwy hygyrch.

Adroddiadau

Arolwg Diwydiant Cymru Greadigol, 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sophie Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.