Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd trydydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU ei gyhoeddi ym mis Mai 2016. Nododd y cynllun ymrwymiadau llywodraeth agored ar gyfer y DU am y ddwy flynedd nesaf. Ym mis Rhagfyr 2016, cafodd ymrwymiadau pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi mewn diweddariad i Gynllun Gweithredu'r DU. Amlinellodd yr ymrwymiadau hyn uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ynghylch gweithio'n fwy agored a chynnwys dinasyddion mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Fel rhan o gylch dwy flynedd y cynllun gweithredu, mae'n ofynnol i lywodraethau lunio adroddiadau hunanasesu canol tymor a diwedd tymor. Mae'r hunanasesiad diwedd tymor hwn yn adeiladu ar yr asesiad canol tymor ac yn ein galluogi i fyfyrio ar lwyddiannau a heriau'r ymrwymiadau cyfredol.

Datblygu'r cynllun

Roedd Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol yn gyfrifol am gydlynu'r gwaith o goladu a monitro ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn barhaus yn nhrydydd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU. Bu swyddogion yn cydweithio'n agos â chydweithwyr Swyddfa Cabinet y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth ddatblygu'r ymrwymiadau, gan rannu gwybodaeth ac arfer gorau. Maent yn parhau i gysylltu'n rheolaidd i drafod gweithredu ymrwymiadau cyfredol a datblygu ymrwymiadau yn y dyfodol.

Pan oedd ymrwymiadau'r cynllun yn cael eu datblygu, nid oedd rhwydwaith cymdeithas sifil yn bodoli yng Nghymru a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar lywodraeth agored. Fodd bynnag, cafodd nifer o'r ymrwymiadau eu datblygu gyda mewnbwn gan sefydliadau allanol unigol a chan gymdeithas sifil. Ar ôl cyhoeddi'r ymrwymiadau, roedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid i'w galluogi i sefydlu rhwydwaith cymdeithas sifil yng Nghymru, sef Rhwydwaith Llywodraeth Agored Cymru.

Dull Adrodd Annibynnol

Yn ogystal â'r broses hunanasesu, mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU hefyd yn destun craffu annibynnol. Ym mis Ebrill 2018 cyhoeddwyd yr adroddiad asesu canol tymor annibynnol. Darparodd yr adroddiad grynodeb o gynnydd, sylwadau ar lwyddiant a chyfres o argymhellion. Yn yr adroddiad, dim ond dau o ymrwymiadau'r DU a nodwyd fel rhai penodol, perthnasol, trawsnewidiol o bosibl ac a oedd wedi cael eu rhoi ar waith yn sylweddol neu'n llawn. Roedd yr ymrwymiadau amlwg neu serennog hyn ill dau yn ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, ac maent fel a ganlyn:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Dangosyddion Cenedlaethol Cymru
  • Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru

Wrth i ni symud tuag at yr ail flwyddyn o roi'r ymrwymiadau ar waith ceisiwyd mynd i'r afael â rhai o'r argymhellion a nodwyd yn yr Asesiad Canol Tymor Annibynnol. Er enghraifft, mae gwaith yn mynd rhagddo ar wella cyflwyniad a hygyrchedd y Dangosyddion Cenedlaethol. Mae gwelliannau i'n platfform data agored ystadegol, StatsCymru, hefyd yn parhau ac rydym wedi bod yn defnyddio offer i'n helpu i wella'r broses o ddelweddu'r data. Rydym hefyd yn ceisio dysgu gan eraill o ran eu portholion data ac mae gwaith yn dechrau ar nodi'r modd y gallwn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ddata agored a'u defnyddio yn haws.

Casgliad a'r camau nesaf

Lai na dwy flynedd ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi y tro cyntaf, mae'r mwyafrif o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru wedi cael eu cwblhau. Dangosir manylion pellach am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o'r naw ymrwymiad yn Atodiad 1.

Mae rhai ymrwymiadau wedi'u cwblhau, ac mae ganddynt gerrig milltir y nodwyd eu bod yn 'barhaus' gan y bydd yr elfennau hyn yn parhau i'r dyfodol. Mewn achosion o'r fath, megis ailasesu'r gofynion ar gyfer catalog o setiau data agored, byddwn yn ceisio datblygu'r rhain drwy eu cynnwys yn y set nesaf o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru. Fel gyda'r hunanasesiad canol tymor, bydd yr hunan-asesiad diwedd tymor hefyd yn destun craffu annibynnol.

Rydym yn cydnabod yn llawn yr angen i adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma drwy barhau i feithrin natur agored a thryloyw. Wrth i Gynllun Gweithredu Cenedlaethol cyfredol y DU ddod i ben, mae ymrwymiadau newydd ar gyfer y cynllun nesaf eisoes yn cael eu datblygu. Er mwyn datblygu'r ymrwymiadau newydd hyn, rydym yn gweithio gyda chymdeithas sifil, drwy Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y dull hwn yn y dyfodol, gan ddysgu'r gwersi o ganlyniadau'r cynllun gweithredu cyfredol.

Ymrwymiad 1: Cynllun data agored

Datblygu cynllun data agored i Lywodraeth Cymru a'i roi ar waith a gweithio tuag at gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y cynllun.

Adran(nau) arweiniol

Swyddfa'r Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

-

Amserlen

Mawrth 2016 – Mawrth 2018

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Parhaus

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Cyhoeddwyd Cynllun Data Agored Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016. Mae cynnydd da wedi'i wneud ar nifer o'r ymrwymiadau a bennwyd yn y cynllun. Er bod oedi wedi bod wrth ddatblygu rhai o'r ymrwymiadau, mae adnoddau bellach ar gael i adolygu a datblygu’r gwaith hwn.

Carreg filltir 1: Rhoi’r ymrwymiadau a amlinellir yng Nghynllun Data Agored Llywodraeth Cymru ar waith

Mawrth 2016 – Mawrth 2018

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae'r mwyafrif o'r ymrwymiadau yn y Cynllun Data Agored wedi'u cwblhau neu yn achos ymrwymiadau penagored yn mynd rhagddynt.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu Gwasanaeth Data Agored i Gymru drwy adeiladu ar y seilwaith Lle presennol a'i ehangu.

Caffaelwyd adnoddau yn ddiweddar er mwyn adolygu a hyrwyddo'r gwaith ar ddatblygu catalog o setiau data agored a chaffael tystysgrif data agored.

Statws: Parhaus

Ymrwymiad 2: Gwasanaeth data agored

Datblygu Gwasanaeth Data Agored i Gymru gyda ffocws ar helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus.

Adran(nau) arweiniol

Pennaeth Daearyddiaeth a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Menter Llywodraeth Cymru sy'n cyhoeddi data i Gymru, y gall rhai darnau ddod o adrannau eraill o'r llywodraeth.

Mae defnyddwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu gwefan StatsCymru, e.e. rhoi adborth, a chael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fforymau amrywiol i ddefnyddwyr. Mae hyn wedi cynnwys ein grŵp defnyddwyr sy'n cwmpasu'r trydydd sector.

Rydym yn gweithio er mwyn galluogi partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus i gyhoeddi drwy StatsCymru o dan eu logo eu hunain. Hyd yma, dim ond Comisiynydd y Gymraeg sydd wedi gwneud hynny.

Amserlen

Mawrth 2016 – Mawrth 2017

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Mae'r mwyafrif o'r cerrig milltir sy'n gysylltiedig â'r ymrwymiad hwn wedi eu cwblhau ac mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar ddatblygu Gwasanaeth Data Agored i Gymru. Mae gwaith ar y garreg filltir i ddatblygu catalog o setiau data agored yn mynd rhagddo, a chaffaelwyd adnoddau i adolygu a datblygu’r gwaith fel y bo angen.

Carreg filltir 1: Mae data StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar ffurf y gall peiriant eu darllen

Mehefin 2016 (parhaus)

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae holl ddata heb eu harchifo StatsCymru (90% o'r cynnwys) bellach ar gael ar ffurf y gall peiriant eu darllen.

Statws: Wedi ei chwblhau

Carreg filltir 2: Mae deunydd hyfforddiant StatsCymru ar welliannau'n cael ei baratoi a'i gyflwyno

Tachwedd 2016 – Rhagfyr 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae Deunydd canllaw, yn ymwneud ag OData, wedi cael ei gynhyrchu ac mae bellach ar gael ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys fideo sy'n dangos sut i dynnu data i mewn i Excel o API (Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau) OData.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Lle wedi ei ddatblygu i alluogi defnyddwyr i greu eu mapiau eu hunain

Ionawr 2016 – Ionawr 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae Gwasanaeth beta o seilwaith Lle bellach ar gael i bob defnyddiwr ac mae'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i lunio proffiliau map ar gyfer adrannau Llywodraeth Cymru. Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar wella maint ac ansawdd y data gofodol sydd ar gael i ddefnyddwyr er mwyn adeiladu eu mapiau eu hunain.

Statws: Wedi ei chwblhau

Carreg filltir 4: Mae catalog o ddata agored yn cael ei baratoi

Hydref 2016 – Rhagfyr 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Yn ddiweddar, caffaelwyd adnoddau i adolygu a hyrwyddo'r gwaith ar ddatblygu catalog o setiau data agored fel yr amlinellwyd yng Nghynllun Data Agored Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys nodi beth sydd ei angen ar ddefnyddwyr a beth fyddai'n ateb posibl.

Statws: Parhaus

Ymrwymiad 3: StatsCymru

Datblygu StatsCymru, sef ystorfa ar-lein Llywodraeth Cymru ar gyfer data ystadegol manwl, er mwyn codi ei statws bod yn agored i 4*.

Adran(nau) arweiniol

Pennaeth Daearyddiaeth a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Menter Llywodraeth Cymru sy'n cyhoeddi data i Gymru, y gall rhai darnau ddod o adrannau eraill o'r llywodraeth.

Mae defnyddwyr wedi bod yn cymryd rhan yn y broses o ddatblygu gwefan StatsCymru, e.e. rhoi adborth, a chael y wybodaeth ddiweddaraf mewn fforymau amrywiol i ddefnyddwyr. Mae hyn wedi cynnwys ein grŵp defnyddwyr sy'n cwmpasu'r trydydd sector.

Amserlen

Mawrth 2016 – Rhagfyr 2017

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Mae gwelliannau wedi'u gwneud i StatsCymru a'i ganllawiau ac, o ganlyniad, mae sgôr natur agored StatsCymru wedi gwella. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymchwilio i'r posibilrwydd o achredu setiau data yn awtomatig sydd ar gael drwy StatsCymru.

Carreg filltir 1: Mae data StatsCymru yn cael eu cyhoeddi ar ffurf y gall peiriant eu darllen

Mehefin 2016 (parhaus)

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae holl ddata heb eu harchifo StatsCymru (90% o'r cynnwys) bellach ar gael ar ffurf y gall peiriant eu darllen.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Mae canllawiau a fideos hyfforddiant StatsCymru yn cael eu paratoi a'u cyhoeddi

Tachwedd 2016 – Rhagfyr 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae Deunydd canllaw, yn ymwneud ag OData, wedi cael ei gynhyrchu ac mae bellach ar gael ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys fideo sy'n dangos sut i dynnu data i mewn i Excel o API (Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau) OData.

Noder: mae cerrig milltir 2 a 4 wedi cael eu cyfuno.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Caiff StatsCymru ei achredu'n llwyddiannus

Medi 2016 – Mawrth 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymchwilio i'r posibilrwydd o achredu setiau data yn awtomatig sydd ar gael drwy StatsCymru.

Statws: Parhaus

Carreg filltir 4: Mae deunydd hyfforddiant StatsCymru yn cael ei baratoi a'i gyflwyno

Tachwedd 2016 – Rhagfyr 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae Deunydd canllaw, yn ymwneud ag OData, wedi cael ei gynhyrchu ac mae bellach ar gael ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys fideo sy'n dangos sut i dynnu data i mewn i Excel o API (Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau) OData.

Noder: mae cerrig milltir 2 a 4 wedi cael eu cyfuno.

Statws: Wedi cwblhau

Ymrwymiad 4: Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru

Mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod mynediad at setiau data'r llywodraeth ar gael mewn modd diogel at ddibenion ymchwil academaidd a sector cyhoeddus. At hynny, caiff mynediad o'r fath ei hyrwyddo er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o ddata o'r fath at ddibenion ymchwil a gyhoeddir ac sydd ar gael i helpu i wneud penderfyniadau gwell.

Adran(nau) arweiniol

Prif Ystadegydd, Llywodraeth Cymru

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Awdurdod Ystadegau'r DU

Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol – Cymru (partneriaeth academaidd); Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol; Bwrdd y Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol.

Amserlen

Parhaus

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADRC-W), mae ymchwil bellach wedi cael ei chyhoeddi. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu nifer y setiau data sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr Cymru drwy ADRC-W. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys prosiect peilot Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru i osod 'Offer Data Ymchwil Cenedlaethol' mewn Awdurdodau Lleol. Bydd yr offer yn galluogi Awdurdodau Lleol i ddarparu data at ddibenion ymchwil yn uniongyrchol ac yn ddiogel i ADRC-W.

Carreg filltir 1: Cyhoeddi rhagor o ymchwil mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol

Mawrth 2015 – 31 Mawrth 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae'r prosiectau canlynol yn Rhaglen Llywodraeth Cymru i Wneud Gwell Defnydd o Ddata Presennol wedi cyhoeddi adroddiadau neu wrthi'n cyhoeddi adroddiadau:

Yn ystod 2019, disgwylir i nifer o brosiectau yn y Rhaglen gynhyrchu mwy o gyhoeddiadau o ganfyddiadau eu hymchwil, gan gynnwys 'Astudiaeth Ddichonoldeb Casglu Data Lefel Unigol Dechrau'n Deg'.

Statws: Wedi cwblhau / Parhaus

Carreg filltir 2: Cynyddu nifer setiau data'r sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru drwy Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol

Mawrth 2015 – 31 Mawrth 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn nifer o feysydd er mwyn cynyddu nifer setiau data'r sector cyhoeddus sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru drwy Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, gan gynnwys:

  • Gweithio gyda phrosiectau academaidd er mwyn eu helpu a'u cynghori o ran cael mynediad at setiau data.
  • Ariannu/cydariannu prosiectau ymchwil cysylltu data sy'n sbarduno'r broses o rannu setiau data ychwanegol, e.e. data ar gyfer cynllun effeithlonrwydd ynni cartref Nyth Cartrefi Clyd a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Cynnwys gofyniad i ddarparu setiau data i SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) / yr ADRC-W yn Nhelerau ac Amodau grant rhaglenni cenedlaethol, e.e. Cefnogi Pobl a Dechrau'n Deg, y dechreuwyd sicrhau bod data ar gael ar eu cyfer.
  • Cydariannu, gyda'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Prosiect Datblygu Llif Data (gweler Carreg Filltir 3 isod), a fydd yn helpu i gefnogi awdurdodau lleol wrth ddatblygu trefn, llifau data rheolaidd i SAIL/yr ADRC-W i'w ddefnyddio gan ymchwilwyr yng Nghymru a'r DU yn ehangach;
  • Parhau ag adneuon data cyhoeddus rheolaidd sefydledig, e.e. ar gyfer Cronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion ac Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • Parhau i weithio gyda chydweithwyr yn fewnol ac yn allanol i ddatblygu prosiectau cysylltu data a chefnogi caffaeliad data e.e. gwnaethom weithio gyda Cafcass Cymru a Phrifysgol Abertawe a'u helpu i gaffael cyllid ar gyfer Labordy Cyfiawnder Teuluol a fydd yn adneuo data Cafcass dienw ar gyfer Cymru a Lloegr i'w cysylltu.

Statws: Wedi cwblhau / Parhaus

Carreg filltir 3: Treialu technegau i awdurdodau lleol ddarparu data at ddibenion ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol

Medi 2016 – 31 Mawrth 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae prosiect a gydariennir gan Lywodraeth Cymru - prosiect y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol - ar y gweill i dreialu'r broses o osod technoleg cysylltu data awtomatig mewn awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i gysylltu setiau data a chyflenwi data at ddibenion ymchwil i SAIL/yr ADRC-W.

Hyd yma, gosodwyd technoleg cysylltu data awtomatig yn Awdurdod Lleol Abertawe sydd wedi galluogi data i gael eu rhannu â SAIL/yr ADRC-W. Mae gwaith ar y gweill i ddadansoddi'r data a gosod y dechnoleg mewn pedwar Awdurdod Lleol braenaru arall.

Statws: Parhaus

Ymrwymiad 5: Protocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi ymchwil y llywodraeth yn unol â Phrotocol Cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gan gyhoeddi teitlau adroddiadau ymlaen llaw a'u cyhoeddi ar dudalennau 'Ystadegau ac Ymchwil' gwefan Llywodraeth Cymru. Mae cyhoeddi adroddiadau ymchwil gymdeithasol, yn unol â phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, yn rhan allweddol o Egwyddorion Ymchwil a Gwerthuso Llywodraeth Cymru.

Adran(nau) arweiniol

Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Llywodraeth Cymru

Amserlen

Er bod protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth wedi cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ers iddo gael ei gyflwyno yn 2010, bu ymrwymiad gan Weinidogion i ddefnyddio'r protocol ers mis Mawrth 2014.

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ac yn cyhoeddi teitl pob cyhoeddiad ymchwil ymlaen llaw.

Carreg filltir 1: Defnyddio protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar gyfer pob cyhoeddiad ymchwil

Mawrth 2010 (parhaus)

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae protocol ar waith ac ni fu achos o dorri'r protocol hwnnw.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Ymrwymiad Gweinidogion i ddefnyddio protocol cyhoeddi Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth

Mawrth 2014 (parhaus)

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Ymrwymiad Gweinidogion wedi'i ail-gadarnhau ar ôl etholiad 2016.

Statws: Wedi cwblhau

Ymrwymiad: LLYW.CYMRU

Byddwn yn sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n gwybodaeth a'n gwasanaethau drwy gyfuno ein cynnwys digidol ar wefan newydd i Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion defnyddwyr. Bydd y wefan yn cynnwys gwasanaeth ymgynghori gwell.

Adran(nau) arweiniol

Pennaeth y Tîm Digidol Corfforaethol, Is-adran Cyfathrebu

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Mae dinasyddion Cymru yn cymryd rhan yn y broses o brofi'r wefan.

Amserlen

1 Ebrill 2015 – 30 Mehefin 2019

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Mae'r mwyafrif o'r cerrig milltir wedi cael eu cwblhau'n llwyddiannus, ac mae gwaith ar symud y cynnwys yn llawn i'r platfform newydd yn parhau yn unol â'r dyddiad a amlinellwyd yng ngharreg filltir 5.

Carreg filltir 1: Lansio gwasanaeth ymgynghori beta, gan gynnwys ffurflenni ymateb y gall defnyddwyr eu cadw

1 Gorffennaf 2016 – 30 Medi 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Cafodd y platfform ymgynghori ei lansio'n brydlon a gwneir cryn ddefnydd ohono. Mae'r adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr mewnol ac allanol wedi bod yn gadarnhaol.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Lansio llwyfan ymgyrchoedd beta

1 Hydref 2016 – 30 Tachwedd 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Defnyddir y platfform ymgyrchoedd er mwyn hyrwyddo ymgyrchoedd ac mae wedi lleihau'n sylweddol y gost a'r amser sydd eu hangen i greu cynnwys.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Lansio llwyfan cyrff cyhoeddus beta

1 Ionawr 2017 – 31 Mawrth 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi symud i'r platfform newydd ac mae ymarferoldeb ychwanegol yn cael ei asesu ar gyfer camau datblygu yn y dyfodol.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 4: Cyhoeddi'r tranche cyntaf o gynnwys corfforaethol beta

1 Hydref 2016 – 30 Ebrill 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae tranche cyntaf cyfyngedig o gynnwys wedi'i gyflwyno ac mae'n parhau i gael ei fireinio.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 5: Cyhoeddi gweddill y cynnwys corfforaethol

1 Mai 2017 – 30 Mehefin 2019

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar symud y cynnwys corfforaethol sy'n weddill i'r platfform newydd.

Statws: Parhaus

Ymrwymiad 7: Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi, a fydd yn sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gamau gweithredu i liniaru problemau moesegol mewn cadwyn cyflenwi.

Adran(nau) arweiniol

Rheolwr Prosiectau Arbennig, Gwerth Cymru, ESNR

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector yng Nghymru.

Amserlen

Mawrth 2016 – dechrau 2017

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Lansiwyd Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ym mis Mawrth 2017. O fis Hydref 2018, roedd 136 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer y Cod ac roedd sefydliadau ychwanegol wrthi'n gwneud hynny.

Carreg filltir 1: Y drafft cyntaf wedi'i gwblhau a'i gyflwyno yn Procurex

Mawrth 2016 – Medi 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Cyflwynwyd y Cod drafft yn nigwyddiad Procurex yn 2016.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu a'r cyfarfod cyntaf wedi'i drefnu

Hydref 2016 – Tachwedd 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Bu'r gwaith o gyflwyno'r cod yn nigwyddiad Procurex yn 2016 yn llwyddiant ac arweiniodd at gyhoeddi'r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ym mis Mawrth 2017.

Mae ymgysylltu â'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn parhau – gyda gwaith parhaus i oruchwylio'r broses o roi'r Cod ar waith.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Ymgysylltu â'r sector busnes a'r trydydd sector

Hydref 2016 – dechrau 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae rhaglen barhaus o waith a luniwyd i godi ymwybyddiaeth o'r Cod a gwella nifer y busnesau sy'n cofrestru ar ei gyfer drwy wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar y gweill.

Ym mis Hydref 2018, cynhaliwyd y digwyddiad Cod Ymarfer cydweithredol cyntaf a oedd yn canolbwyntio ar y cyflenwr yng Ngwynedd.

Statws: Wedi cwblhau / Parhaus

Carreg filltir 4: Lansio cod ar gyfer ymddygiad moesegol mewn cadwyni cyflenwi

Dechrau 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Lansiwyd y Cod ar 9 Mawrth 2017 yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 5: Ymrwymo

Parhaus

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Erbyn mis Hydref 2018, roedd 136 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer y Cod ac mae llawer ohonynt yn gweithio'n galed i roi ymrwymiadau'r Cod ar waith. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys pob Prifysgol yng Nghymru, heddluoedd Cymru, 14 Awdurdod Lleol, 2 Gymdeithas Dai a nifer o sefydliadau busnes a thrydydd sector. Mae sefydliadau eraill wrthi'n cofrestru ac mae llawer mwy yn ystyried gwneud hynny.

Statws: Wedi cwblhau / Parhaus

Ymrwymiad 8: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Dangosyddion Cenedlaethol Cymru

Mesur cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant i Gymru a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a chyflwyno adroddiad blynyddol arnynt.

Adran(nau) arweiniol

Prif Ystadegydd

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Cyrff cyhoeddus penodedig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Amserlen

Mawrth 2016 – dechrau 2017

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Cwblhawyd yr ymrwymiad hwn yn ôl y disgwyl. Gosodwyd y Dangosyddion Cenedlaethol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2016 a chyhoeddwyd y data a oedd yn sail i'r dangosyddion ar wasanaethau data agored StatsCymru erbyn mis Medi 2017. Defnyddiwyd y setiau data agored hyn i boblogi tudalennau gwe rhyngweithiol ar gyfer pob dangosydd ac roeddent yn rhan o becyn ehangach yn cefnogi'r adroddiadau blynyddol yn erbyn y nodau fel rhan o adroddiad Llesiant Cymru.

Carreg filltir 1: Gosod 'Dangosyddion Cenedlaethol Cymru' gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ebrill 2015 – Mawrth 2016

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Gosododd Llywodraeth Cymru set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn mesur cynnydd Cymru wrth gyflawni'r saith nod llesiant i Gymru. Cyhoeddwyd dogfen dechnegol ategol er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth am y dangosyddion terfynol.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Llunio'r Adroddiad Llesiant Blynyddol cyntaf i Gymru

Ebrill 2016 – haf 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Cyhoeddwyd adroddiad Llesiant Cymru ar 25 Medi 2017 fel adroddiad ar-lein rhyngweithiol sy'n defnyddio ffynonellau data agored. Cyhoeddwyd y data ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol ar blatfform data agored StatsCymru ac fe'u cyflwynwyd yn weledol gan ddefnyddio dangosfyrddau Power B.I. Cyhoeddwyd ail argraffiad ar 20 Medi 2018.

Symudwyd y cyhoeddiad i fis Medi er mwyn gallu dadansoddi data Arolwg Cenedlaethol Cymru ymhellach.

Statws: Wedi cwblhau

Ymrwymiad 9: Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru

Mae dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i bennu a chyhoeddi amcanion llesiant sy'n amlinellu sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni pob un o'r nodau llesiant a chymryd camau rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny.

Adran(nau) arweiniol

-

Eraill fu'n ymwneud â'r broses o roi'r ymrwymiad ar waith hyd yn hyn

Y 43 o gyrff cyhoeddus a bennwyd o dan y Ddeddf, a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Amserlen

Ebrill 2016 ymlaen

Statws cyffredinol yr ymrwymiad

Wedi cwblhau

Cynnydd cyffredinol yn erbyn yr ymrwymiad

Mae'r ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodedig i bennu a chyhoeddi nodau llesiant, a'r ddyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i asesu llesiant lleol wedi'u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Y rhain yw'r dyletswyddau cyntaf y mae angen eu cyflawni er mwyn darparu'r sylfaen a fydd yn galluogi cyrff cyhoeddus penodedig a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni addewid y Ddeddf. Cafodd cerrig milltir 2 a 3 eu cwblhau o fewn yr amserlenni statudol a nodwyd yn y Ddeddf.

Mae pob corff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf wedi cyhoeddi eu hamcanion llesiant a'u datganiad llesiant cysylltiedig fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf. Mae Cynlluniau Llesiant Lleol Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cael eu cyhoeddi ac mae Cyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ddarostyngedig i'r Ddeddf, yn cymryd camau i gyflawni eu hamcanion yn unol â'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol 'Llesiant yng Nghymru: y daith hyd yn hyn' sy'n amlinellu'r hyn y mae'r sefydliadau wedi ei ddweud y byddant yn ei wneud yn y flwyddyn gyntaf hon ac yn rhoi cyngor ar y ffordd orau o ddangos eu bod yn cymryd camau effeithiol i gyflawni eu hamcanion.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei sylwebaeth fel adroddiad cyfochrog, 'Myfyrio ar Flwyddyn Un: Sut mae Cyrff Cyhoeddus wedi Ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?' ar y modd y mae'r 44 o gyrff cyhoeddus yn dechrau ymateb i'w dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Carreg filltir 1: Y ddyletswydd gyfreithiol yn dod i rym

Ebrill 2016 – Ebrill 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Dechreuwyd ar adran berthnasol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar 1 Ebrill 2016.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 2: Cyrff cyhoeddus yn cyhoeddi eu hamcanion llesiant cyntaf

Ebrill 2016 – Ebrill 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae'r holl gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant wedi cyhoeddi eu hamcanion llesiant cyntaf. Gellir gweld yr amcanion hyn ar y gwefannau perthnasol. Ar gyfer rhestr o'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant rhestr o'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd llesiant.

Statws: Wedi cwblhau

Carreg filltir 3: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus – Asesiad o lesiant lleol

Ebrill 2016 – Mai 2017

Cynnydd cyffredinol yn yr ymrwymiad

Mae'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cwblhau eu hasesiad o lesiant lleol a fydd yn sail i'r amcanion lleol a bennir ganddynt. Ceir rhagor o fanylion yma LLYW.CYMRU

Statws: Wedi cwblhau