Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella argaeledd cartrefi fforddiadwy i bobl leol yn ardal Dwyfor, Gwynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Dylai pawb allu fforddio byw yn eu hardal leol, p'un a yw hynny'n golygu prynu neu rentu tŷ.

Mae gan nifer o gymunedau yng Nghymru nifer fawr o:

  • ail gartrefi
  • llety gwyliau
  • cartrefi gwag

Mae hyn yn achosi problemau ynghylch fforddiadwyedd tai. Mae hefyd yn effeithio ar gynaliadwyedd y Gymraeg yn y cymunedau hyn.

Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd adroddiad Ail-gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru.  Roedd yr adroddiad astudio effaith ail gartrefi mewn cymunedau ledled Cymru.

Gwnaeth awdur yr adroddiad, Dr Simon Brooks 12 o argymhellion, oedd yn cynnwys sefydlu ardal beilot, i dreialu dulliau newydd.

Ardal beilot ail gartrefi

Dewiswyd ardal Dwyfor yng Ngwynedd fel yr ardal beilot yn seiliedig ar:

  • ei faint daearyddol
  • crynodiad ail gartrefi mewn cymunedau yn yr ardal
  • materion yn gysylltiedig â’r Gymraeg

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Grŵp Cynefin a'r Parc Cenedlaethol yn ardal Beilot Dwyfor.

Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am o leiaf ddwy flynedd ac yn ffordd o ddysgu hanfodol i rannau eraill o Gymru.

Ers y llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau helaeth a radical i ddod o hyd i atebion cytbwys wrth reoli'r nifer uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn rhai o'n cymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru:

Cynllun Lesio Cymru

Mae 15 awdurdod lleol, gan gynnwys Gwynedd, wedi ymuno â'r cynllun lesio hwn. Mae'r cynllun yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnig cymhellion i berchnogion eiddo sy'n lesio eu heiddo i'r awdurdod lleol

Hunanadeiladu Cymru

Mae'r cynllun benthyciadau hwn yn darparu:

  • 75% o gost plot adeiladu;
  • 100% o gost adeiladu eich cartref.

Dewiswch blot cymwys sydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio drwy Hunanadeiladu Cymru.

Cymorth Prynu

Mae Cymorth Prynu yn helpu pobl na allan nhw allu fforddio prynu eiddo fel arall i brynu eiddo drwy ddarparu benthyciad ecwiti. Mae'r cynllun o fudd penodol mewn cymunedau mwy gwledig lle yn aml nad oes llawer o gyfleoedd i brynu cartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £8.5 miliwn yn ardal y cynllun peilot dros y tair blynedd nesaf. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda:

  • Grŵp Cynefin, sy'n gweithredu cynllun yng Ngogledd Cymru
  • Chyngor Gwynedd

Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi gwneud Cymorth Prynu yn fwy ymatebol i anghenion yn ardal y cynllun peilot, ac mae nifer o bobl eisoes wedi prynu cartref.