Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Hydref, rydym yn nodi Diwrnod Adfywio’r Galon. Bydd Achub Bywydau Cymru a’i bartneriaid yn ein hannog i ddysgu mwy am adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), defnyddio diffibrilwyr a gwybod sut i helpu pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiweddaru Aelodau ar y cynnydd sy’n cael ei wneud i roi’r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty ar waith, a hefyd ar waith Achub Bywydau Cymru.

Cafodd y Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty ei lansio yn 2017, ac rydym wedi sefydlu’r bartneriaeth Achub Bywydau Cymru sy’n dod â sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i helpu i ddatblygu sgiliau'r cyhoedd i wneud CPR a defnyddio diffibrilwyr, fel bod pobl yn teimlo’n hyderus eu bod yn gallu helpu os ydynt yn gweld rhywun yn cael ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Y llynedd cynyddwyd y cyllid ar gyfer y rhaglen achub bywyd hon.

Yn gynharach y mis hwn lansiwyd ymgyrch Achub Bywydau Cymru newydd. Mae’r ymgyrch ‘Cofia, mae help wrth law’ (Help is closer than you think) yn canolbwyntio ar gynyddu hyder pobl i ymyrryd mewn argyfwng ataliad y galon drwy dynnu sylw at bwysigrwydd galw 999 ar unwaith, yn ogystal â’r cymorth a ddarperir gan atebwr y galwad i wneud CPR a dod o hyd i ddiffibriliwr cofrestredig hyd nes bod ambiwlans yn cyrraedd. Aeth hysbyseb teledu, radio a chyfryngau cymdeithasol yn fyw ddydd Llun 10 Hydref.

Mae Achub Bywydau Cymru wedi recriwtio rheolwr rhaglen clinigol ar gyfer ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty sy’n datblygu fframwaith CPR a diffibrilwyr Cymru gyfan i helpu cymunedau i fod yn barod ar gyfer achub bywydau a chael yr adnoddau cywir yn y lle iawn i helpu rhywun sy’n cael ataliad y galon. Mae hefyd wedi recriwtio pedwar cydlynydd cymorth cymunedol Achub Bywydau Cymru, y mae un ohonynt eisoes yn ei swydd a’r gobaith yw y bydd y gweddill yn eu swyddi cyn diwedd mis Tachwedd. Maent hefyd wrthi’n hysbysebu ar gyfer dwy rôl arweinydd tîm cymorth cymunedol Achub Bywydau Cymru.

Mae Achub Bywydau Cymru yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i helpu pobl o bob oed a chefndir i ddysgu sgiliau CPR a defnyddio diffibrilwyr, gan gynnwys:

  • Parhau i ddatblygu eu partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ehangu cyrhaeddiad dysgu CPR yng Nghymru.
  • Yn dilyn peilot llwyddiannus, mae Prifysgol Caerdydd wedi cyflwyno ei model ar gyfer pob myfyriwr meddygol sydd wedi’i hyfforddi mewn CPR i hyfforddi pob myfyriwr blwyddyn gyntaf.
  • Cefnogi Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli cynghorau cymuned a thref, drwy gyflogi person i gydlynu gweithgarwch CPR a defnyddio diffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys sicrhau bod diffibrilwyr wedi’u cofrestru ac mewn cyflwr gweithio da.
  • Penodi, ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol a fydd yn datblygu prosiectau ymchwil i gychwyn gwneud gwelliannau yng nghanlyniadau Ataliadau’r Galon y Tu Allan i’r Ysbyty yng Nghymru.
  • Gweithio mewn partneriaeth â thîm meddygol Rygbi'r Gweilch i helpu i godi ymwybyddiaeth o CPR a defnyddio diffibrilwyr ymhlith ei gynulleidfaoedd.
  • Llunio taflen wybodaeth addysgol ddwyieithog i gefnogi CPR cymunedol.
  • Darparu hyfforddiant CPR yn stondin Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau cenedlaethol megis Eisteddfod yr Urdd a Sioe Frenhinol Cymru.
  • Cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i lunio adnodd dwyieithog i Ysgolion Cynradd, wedi’i gefnogi â BSL, sy’n dysgu’r dilyniant CPR i blant drwy gân a dawns.

Yn ystod 2021/22 cyhoeddais £1 miliwn ychwanegol i brynu 1,000 o ddiffibrilwyr ychwanegol yr oedd grwpiau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru yn gallu gwneud cais ar eu cyfer. Ymgeisiodd 638 o grwpiau a sefydliadau yn llwyddiannus am ddiffibrilwyr a hyd yn hyn mae tua 238 wedi’u gosod mewn cymunedau ledled Cymru. Bu rhywfaint o oedi cyn i grwpiau allu prynu a gosod y cypyrddau ac felly mae diffibrilwyr yn dal i gael eu dosbarthu.

Mae cymunedau a sefydliadau sydd eisoes â diffibrilwyr yn cael eu hannog i’w cofrestru ar The Circuit – mae mwy na 7164 wedi’u cofrestru ac mae gan 72% bellach warcheidwad. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y diffibrilwyr cofrestredig ac yng nghanran y diffibrilwyr sydd â gwarcheidwad ond mae dal gwaith i’w wneud.

Yn ogystal, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag ap GoodSAM i wella’r broses o symud staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n glinigol i alwadau brys sy’n bygwth bywyd. Felly pan fo galwad brys yn cyrraedd y gwasanaeth ambiwlans ac yn cael ei ddosbarthu o natur sy’n bygwth bywyd, bydd manylion yn cael eu hanfon yn awtomatig i’r ap GoodSAM i rybuddio’r ymatebwr gwirfoddol cymeradwy agosaf. Byddant yn ail-lansio’r ap GoodSAM yn fuan yng Nghymru, a gafodd ei oedi yn ystod y pandemig, a bydd hyn yn rhoi’r cyfle i fod yn ymatebwr GoodSAM i bob unigolyn sydd wedi cofrestru a chael ei gymeradwyo gan GoodSAM a sefydliadau partner. Bydd hyn yn gam anferth ymlaen yng Nghymru.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf ac rydym wedi clywed straeon am y gwahaniaethau y mae’r gwaith hwn yn eu gwneud i fywydau pobl. Gwyddom fod pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon. Gall pob un ohonom helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd galw 999 a gwneud CPR a defnyddio diffibrilwyr yn gynnar.