Datganiadau buddiant yr aelodau
Datganiadau buddiant aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cynnwys
Frances Duffy (Cadeirydd)
Mae Frances yn Gyfarwyddwr Frances Duffy Consulting Ltd, sy'n darparu sicrwydd a chyngor am brosiectau i'r sector cyhoeddus ledled Cymru a gweddill y DU.
Saz Willey (Is-gadeirydd)
Bu Saz yn Gadeirydd Gofal a Thrwsio Cymru hyd at fis Medi 2024 pan ddaeth ei thymor 5 mlynedd i ben. Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Cadeiryddion, Women on Board, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, ac mae'n gwirfoddoli mewn pantri bwyd lleol.
Beverley Smith
Cafodd Bev ei geni a'i magu yng Nghwm Rhondda ac mae'n was cyhoeddus profiadol ers 32 o flynyddoedd. Gan arbenigo mewn adfywio economaidd a chynllunio at argyfyngau mae ei gyrfa wedi cynnwys cyfnodau yn gweithio mewn amryw o Gynghorau Dosbarth a Bwrdeistref yn Lloegr. Mae ei rolau diweddaraf wedi cynnwys:
- Rolau ar lefel Prif Weithredwr ym Mansfield, Swydd Nottingham a Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr yn sbarduno twf economaidd a chefnogi democratiaeth leol fel swyddog canlyniadau etholiadol a swyddog canlyniadau rhanbarthol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Cadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, prif gynghorau a chynghorau cymuned i osod ffiniau etholiadol a chyfrannu at ddemocratiaeth leol effeithiol ac effeithlon
- Cyfarwyddwr Anweithredol yr Awdurdod Glo ym mis Ebrill 2023
Yn fwy diweddar cafodd ei phenodi yn Ddyfarnwr Annibynnol i lywodraeth leol yng Nghymru o 1 Mai 2024.
Mae hi'n credu'n gryf yng nghryfder gweithio mewn partneriaeth a'r rôl sydd gan y Panel wrth gefnogi democratiaeth amrywiol yng Nghymru ac mae'n brif adolygydd rhaglen adolygu cyrff cyhoeddus Llywodraeth y DU.
Mae Bev yn gyfarwyddwr Bev Smith Consultancy Ltd (cwmni segur).
Dianne Bevan (Aelod)
Mae Dianne yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Hansard, Llundain (elusen sy'n hyrwyddo democratiaeth seneddol), yn Gydymaith â Global Partners Governance, Llundain (sefydliad sy'n gweithio gyda democratiaethau sy'n datblygu) ac yn Gomisiynydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Katherine Watkins
Dim datganiadau.
