Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i'r Cabinet:

  • Nodi sut mae gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn mynd rhagddo a'r gwahoddiad i fynd i’r cyfarfodydd i gael newyddion ar feysydd mewn Portffolios Gweinidogol, fel sy'n briodol.
  • Ailfywiogi’r broses o roi’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar waith, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gyson trwy holl waith Llywodraeth Cymru.
  • Penderfynu cyd-gynhyrchu gyda phobl anabl a sefydliadau pobl anabl wrth fynd ti i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Trawslywodraethol i Gymru ar gyfer Hawliau Pobl Anabl.

Fel rhan o'r penderfyniadau uchod bydd y Cabinet eisiau ystyried sut y gellir cyflwyno addewidion ac amcanion y Rhaglen Lywodraethu mewn ffordd sy'n cael gwared ar rwystrau i bobl anabl, gweler  enghreifftiau ohonynt yn Atodiad D.

Crynodeb

1. Yn 2021 sefydlodd y Prif Weinidog y Tasglu Hawliau Pobl Anabl sy'n dod â phobl â phrofiadau byw ag anabledd, arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioladol at ei gilydd i fynd i'r afael â'r problemau a'r rhwystrau y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad Drws ar Glo, sy'n cael effaith ar fywydau llawer o bobl anabl.

2. Mae'r papur hwn yn rhoi diweddariad ar waith y Tasglu, y dull gweithredu o ran datblygu cynllun gweithredu trawslywodraethol a'r angen i ailfywiogi’r broses o roi’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar waith wrth i ni wireddu ein dyheadau am Gymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb.

Amcan y papur

3. Yn ein Rhaglen Lywodraethu (Mehefin 2021), un o'n hamcanion yw dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math. Mae hefyd yn ymrwymo i:

  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio.
  • Gwneud ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl
  • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.

4. Mae'r Cytundeb Cydweithio a’r rhaglen bolisi (Tachwedd 2021) yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu’r un penderfyniad i gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i’r afael â’r mathau gwahanol o anghydraddoldeb y maent yn parhau i’w wynebu. Rydym yn ymrwymedig i’r model cymdeithasol o anabledd. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau llwyddiant y Tasglu Anabledd a sefydlwyd er mwyn ymateb i’r adroddiad ‘Drws ar Glo’.

5. Amlygodd yr adroddiad ‘Drws ar Glo: datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ (Gorffennaf 2021) y niwed a wnaed i bobl anabl gan y pandemig, gan waethygu’r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bod yn ogystal â chynhyrchu niweidion ychwanegol. Lluniwyd yr adroddiad i dynnu sylw at heriau newydd a phresennol a ddaeth i’r fei drwy’r pandemig, ac i ystyried sut roedd angen i Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw’n Annibynnol newid er mwyn wynebu’r heriau hynny’n well.

6. Awgrymodd adroddiad Drws ar Glo y dylid ymdrin ag ystod o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac ar y cyd â'n partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Roedd hyn yn ymdrin â hawliau dynol, iechyd a lles, anfanteision economaidd-gymdeithasol, a chau allan, hygyrchedd, a dinasyddiaeth. Fe wnaeth ymateb Llywodraeth Cymru ailddatgan ei hymlyniad i Fodel Cymdeithasol Anabledd ac i wreiddio'r model ym mholisïau'r Llywodraeth, gan gyfeirio at y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo, fel gwaith i gryfhau'r fframwaith hawliau dynol drwy ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl i gyfraith Cymru. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl gan y Prif Weinidog yn 2021, sef testun y papur hwn.

7. Yn 2019 cyhoeddwyd Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol – fframwaith a chynllun gweithredu. Datblygwyd hyn mewn partneriaeth â llawer o bobl anabl. Oherwydd graddfa ac ehangder yr effeithiau a'r anghydraddoldebau, a ddatgelwyd ymhellach trwy gydol y pandemig, penderfynwyd llunio Cynllun Gweithredu ar gyfer Hawliau Pobl Anabl newydd i Gymru a fydd yn ymgorffori ac, lle y bo'n briodol, yn datblygu ymhellach y camau a gynhwysir yn y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd.

Anghydraddoldeb Anabledd yng Nghymru

8. Mae tystiolaeth sylweddol yn ymwneud ag anghydraddoldeb anabledd yng Nghymru ac ar draws y DU yn ehangach. Mae'r dystiolaeth yn dangos anfanteision cronnol, yn rhoi enghreifftiau o amrywiaeth o rwystrau posibl y mae pobl anabl yng Nghymru yn eu hwynebu, ac yn dangos maint yr her o lwyddo i gael cydraddoldeb deilliannau ar draws pob grŵp. Mae’r rhain yn amrywio o risgiau troseddau casineb, tlodi, llesiant gwael, cyrhaeddiad is yn yr ysgol a bylchau cyflogaeth ymhlith pobl anabl. Mae Atodiad B yn crynhoi’r data allweddol sydd ar gael ar hyn o bryd.

9. Mae'r hefyd diffyg data o ansawdd da ar bobl anabl yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl anabl sydd â mwy nag un nodwedd warchodedig ac elfennau croestoriadol eraill. Yn ogystal, mae’r data presennol yn cydymffurfio â'r model meddygol o anabledd ac nid yw'n gynrychiolaeth gywir o'r bobl yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd i helpu i fynd i'r afael â'r bylchau hyn a chefnogi Gweinidogion wrth iddynt wneud penderfyniadau. Bydd yr Uned yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ac yn sicrhau bod profiad bywyd wrth wraidd ei gwaith.

Tasglu Hawliau Pobl Anabl

10. Mae'r Tasglu Hawliau Anabledd yn cael ei gyd-gadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Athro Debbie Foster, awdur yr adroddiad Drws ar Glo. Mae'r Tasglu'n cynnwys tua dwy ran o dair o bobl anabl a sefydliadau pobl anabl, swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, a swyddfeydd Comisiynwyr (fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Comisiynydd y Gymraeg, TUC Cymru) a fydd yn hanfodol i'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r cynllun yn effeithiol.

11. Gwaith y Tasglu hwn fydd llunio Cynllun Gweithredu Trawslywodraethol newydd ar Hawliau Pobl Anabl a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn Haf 2023.

12. Mae creu ar y cyd yn un o brif egwyddorion y Tasglu hwn, gan adlewyrchu mantra’r Mudiad Hawliau Pobl Anabl "Dim byd amdanom ni, hebom ni" a mabwysiadu’r egwyddor yn llwyr. Mae hyn yn hanfodol o ran mynd i'r afael â'r 'bwlch gweithredu' rhwng y bwriadau y tu ôl i bolisi neu raglen a'r hyn sy'n cael ei gyflawni neu ei brofi gan y bobl y bwriedir i’r polisi eu cefnogi a'u helpu. Bydd aelodau tasglu'n cael hyfforddiant ar y cyd-greu, gan ddefnyddio'r gwersi cadarnhaol a ddysgwyd wrth weithio ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

13. Mae awduron adroddiad Drws ar Glo ac aelodau'r Tasglu wedi tynnu sylw at yr angen am strwythurau llywodraethu cadarn i fynd i'r afael â'r bwlch gweithredu er mwyn i’r Llywodraeth fod yn atebol am wella canlyniadau i bobl anabl a sicrhau ein bod yn gwella’r ffordd rydym yn monitro darpariaeth ac effeithiau ein gweithredoedd ar fywydau pobl anabl. Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd i sicrhau bod data a gwybodaeth am ymchwil yn cael eu casglu. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i fonitro gweithgareddau’n barhaus a gwerthuso polisïau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru a ddarperir gan drydydd partïon.

14. Mae'r Tasglu wedi cytuno ar saith maes blaenoriaeth ar gyfer eu gwaith sy'n cwmpasu ystod eang o gyfrifoldebau Gweinidogol a byddant yn cyffwrdd ag ymrwymiadau perthnasol y Rhaglen Lywodraethu. (Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad C): 

  • Mynediad i wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu hygyrch)
  • Tai Fforddiadwy a Hygyrch
  • Gwreiddio a Deall Model Cymdeithasol Anabledd (ledled Cymru)
  • Cyflogaeth ac Incwm
  • Teithio
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Byw'n Annibynnol, Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol

15. Gwahoddir gweinidogion i fynd i gyfarfod o’r Tasglu yn y dyfodol i ddiweddaru ei aelodau ar gynnydd gwaith perthnasol ac i wrando ar brofiad byw pobl anabl a'u deall. Mae uwch swyddogion ar draws meysydd portffolio yn aelodau o'r Tasglu. Maent mewn sefyllfa dda i gefnogi Gweinidogion i ymgysylltu'n llawn â'r gwaith hwn ac i hyrwyddo ac ystyried hawliau pobl anabl wrth ddatblygu gwaith yn eu portffolios.

Y Model Cymdeithasol o Anabledd

16. Mae'r model cymdeithasol o anabledd wedi bod yn ymrwymiad gan Lywodraethau olynol Cymru ers tro; fodd bynnag, mae'r model meddygol yn parhau i ymdreiddio wrth ddatblygu polisi ac wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydym wedi gweld y newid sylweddol mewn teithi meddwl a defnyddio’r model sydd ei angen arnom. Mae'r model cymdeithasol yn golygu symud ffocws o'r hyn na all pobl ei wneud oherwydd eu hamhariadau, i'r hyn y gallant ei wneud a'i gyflawni pe bai rhwystrau yn ein cymdeithas yn cael eu dileu. Datgelodd y pandemig annigonolrwydd y model meddygol o anabledd wrth iddo gynyddu anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol presennol mewn cymdeithas a'u dylanwad ar ganlyniadau iechyd. Daeth yr adroddiad Drws ar Glo i'r casgliad na fydd dulliau meddygol yn datrys yr hyn sydd, yn eu bôn, yn broblemau cymdeithasol, sy'n gofyn am atebion gwleidyddol.

17. Mae aelodau tasglu a staff Llywodraeth Cymru yn cael hyfforddiant ychwanegol ar y model cymdeithasol er mwyn sicrhau ei fod wedi'i wreiddio'n llwyr. Yn ogystal, bydd rhagor o ymchwil yn cael ei gomisiynu gan yr Uned Tystiolaeth Anabledd a Data i gefnogi ymgorffori'r model cymdeithasol. Gofynnir i'r Cabinet ail-ymrwymo i ymgorffori'r model cymdeithasol a darparu arweiniad ar ei gyfer yn eu portffolios.

Datblygu cynllun gweithredu'r llywodraeth gyfan

18. Cydnabyddir bod llawer o waith yn cael ei wneud eisoes ar draws Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau i bobl anabl, ond mae angen dod â'r camau hyn, a chamau newydd at ei gilydd mewn un cynllun gweithredu cydlynol. Bydd hyn yn caniatáu i ni ddod â ffocws i'r camau hyn a gymerir yn ogystal â dweud wrth bobl anabl beth rydyn ni'n ei wneud i wella eu bywydau a dileu'r rhwystrau sy'n eu hwynebu. Bydd angen nodi sut y bydd ymrwymiadau Rhaglen y Llywodraeth yn gweithio er budd pobl anabl a chanolbwyntio ar gamau gweithredu a blaenoriaethau allweddol, gan gynnwys tlodi ac anghydraddoldeb, sy'n golygu bod anghydraddoldeb strwythurol sylfaenol i bobl anabl yn parhau.

19. Mae gwaith mapio cynnar o weithgarwch allweddol presennol ar draws portffolios Gweinidogol wedi'i gynnwys yn Atodiad D. Bydd y gwaith mapio hwn yn helpu i nodi bylchau a chyfleoedd ar gyfer cydweithio yn ogystal â helpu i gyfleu sut mae ein polisïau a'n gwasanaethau yn cefnogi, neu'n cael eu datblygu i gefnogi pobl anabl.  Ni ddisgwylir y bydd pob darn o waith yn dod o fewn cylch gwaith y Tasglu yn uniongyrchol, ond bydd yn hanfodol bod y Tasglu'n cael gwybod am waith sy'n cael ei wneud.

20. Un o'r heriau’r adroddiad Drws ar Glo oedd sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin o berchnogaeth yr argymhellion a sut y byddent yn llywio camau gweithredu neu ddatblygu’n gamau sy'n cael eu cymryd. Mae'n hanfodol nad yw'r un materion yn codi gyda gwaith y Tasglu, ac mae'n amlwg sut y bydd y cyfleoedd y maen nhw'n eu nodi trwy eu gwaith yn troi'n gamau a rennir, a ddatblygwyd ar y cyd. Gofynnir i'r cabinet fabwysiadu’r egwyddor o greu ar y cyd â phobl anabl a sefydliadau pobl anabl wrth ddatblygu'r cynllun gweithredu.

21. Mae gan weinidogion a swyddogion wahoddiad parhaol i fynd i gyfarfodydd y  Tasglu i ymgysylltu ag aelodau ynghylch cyfleoedd a heriau o fewn portffolios Gweinidogol. Gofynnir i gydweithwyr fynychu cyfarfodydd y Tasglu yn y dyfodol.

Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghyfraith Cymru

22. Er bod y Papur Cabinet hwn yn canolbwyntio ar waith y Tasglu Hawliau Anabledd bydd y gwaith ehangach ar Hawliau Dynol yn gyd-destun perthnasol ar gyfer unrhyw gamau a gwaith a ddônt i'r fei. Ar 23 Mai 2022 cyhoeddwyd ein hymateb i'r gwaith ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd yr ymateb yn nodi'r prif feysydd gwaith y byddwn yn eu mabwysiadu, gan gynnwys y gwaith paratoi ar opsiynau deddfwriaethol ar ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn sicrhau bod gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn gydnaws â gwaith y Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol, a'r gwaith paratoi ar opsiynau ar gyfer ymgorffori Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Bydd cwmpas ac amseriad unrhyw gam deddfwriaethol yn dibynnu ar benderfyniadau Gweinidogol yn y dyfodol.

Effaith

23. Wrth wneud yr ymrwymiadau a amlinellir yn y papur hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y cam nesaf tuag at y newid diwylliannol a chymdeithasol radical sydd ei angen i sicrhau canlyniadau a hawliau gwell i bobl anabl yng Nghymru a chael gwared ar y rhwystrau sy'n eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd. Bydd camau ymarferol sylweddol i gyflawni hyn yn dilyn ond, ar gyda’i gilydd, bydd y gwaith hwn yn ceisio rhoi diwedd ar yr anfantais sy'n effeithio’n cael effaith anghymesur ac andwyol ar bobl anabl.

24. Bydd symud yr agenda yma ymlaen ar y cyd â Phlaid Cymru yn gyfle i danlinellu bod cefnogaeth i'r gwaith hwn yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau pleidiol. Rwyf wedi cysylltu ag Aelod Dynodedig Plaid Cymru ar waith y Tasglu a bydd yn dod i gyfarfod nesaf y Tasglu ar 29 Mehefin 2022.

Cyfathrebu a chyhoeddi

25. Byddwn yn defnyddio cytundeb y Cabinet i'r argymhellion i ailgysylltu â swyddogion am yr ymrwymiad i'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Byddwn yn ceisio tynnu sylw at waith y Tasglu a chyfleoedd a pholisïau lle mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn amlwg.

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet:

  • Sylwi ar waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'r gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd y  Tasglu i roi’r newydd diweddaraf ar feysydd o fewn Portffolios Gweinidogol fel sy'n briodol.
  • Ailfywiogi’r broses o roi’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar waith gan sicrhau bod hyn yn cael ei ddefnyddio'n gyson trwy holl waith Llywodraeth Cymru.
  • Ymrwymo i gyd-greu gyda phobl anabl a sefydliadau pobl anabl wrth fynd ati i ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Trawslywodraethol ar Hawliau Pobl Anabl ar gyfer Cymru.

Fel rhan o'r penderfyniadau uchod bydd ar y Cabinet eisiau ystyried sut y gellir cyflawni ymrwymiadau ac amcanion y Rhaglen Lywodraethu mewn ffordd sy'n dileu rhwystrau i bobl anabl. Ceir enghreifftiau o hyn yn Atodiad D.

Jane Hutt
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mehefin 2022

Atodiad A: Materion Statudol, Cyllid, Cyfreithiol a Llywodraethu

Dylai'r atodiad hwn gynnwys dadansoddiad o'r goblygiadau Ariannol, Cyfreithiol a Llywodraethu.

Gofynion statudol

Yn unol ag adran 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 (“Deddf 2015”), mae dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion gyda'r nod o sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni pob un o'r nodau llesiant, sy'n cynnwys y nod o sicrhau ‘Cymru sy'n fwy cyfartal’. Mae cysylltiad amlwg rhwng datblygu Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl ("y Cynllun”) a'r nod hwn. Caiff gwaith i ddatblygu'r Cynllun ei wneud yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy a'r ‘pum ffordd o weithio’ yn adran 5 o Ddeddf 2015. Yn bwysicaf oll, drwy gynnwys Pobl Anabl a chydweithio â nhw, bydd eu profiadau uniongyrchol yn ganolog i gynnwys y Cynllun.

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i CCUHP wrth arfer eu swyddogaethau. Gosodir y ddyletswydd hon o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn a hefyd gyflawni dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan egwyddor datblygu cynaliadwy, bydd y Cynllun yn canolbwyntio'n benodol ar blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru.

Un o nodau'r Cynllun yw asesu a deall croestoriadedd ag anabledd. Bydd y Cynllun hwn yn mynd i'r afael â'r croestoriadedd rhwng oedran, rhyw a hil ymhlith grwpiau gwarchodedig perthnasol eraill. Bwriedir gwneud rhagor o waith â'r grwpiau gwarchodedig hyn er mwyn deall eu hanghenion ac ystyried sut y gellir eu diwallu o fewn y Cynllun i Gymru. Mae Asesiad Effaith Integredig hefyd yn cael ei baratoi fel rhan o'r broses o ddatblygu'r Cynllun er mwyn sicrhau y caiff hawliau pob grŵp gwarchodedig eu hystyried yn fanwl ac ar gam cynnar yn y broses o lunio'r polisi.

Cydraddoldeb

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ("Deddf 2010") i ystyried sut mae eu polisïau yn effeithio ar y rhai â nodweddion gwarchodedig perthnasol o dan Ddeddf 2010. O dan yr adran honno, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gyflawni eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy'n anghyfreithlon o dan Ddeddf 2010.
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.
  • meithrin perthynas dda rhwng personau sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Bydd llunio’r Cynllun, sy'n ymdrechu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau ar sail anabledd yn ein cymdeithas yng Nghymru, yn dangos yn glir y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mewn perthynas â nodwedd warchodedig anabledd a, lle maent yn croestorri, â nodweddion gwarchodedig perthnasol eraill.

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn cynnwys gofynion penodol i gyrff perthnasol (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) gydymffurfio wrth geisio cyflawni'r ddyletswydd gyffredinol yn Nyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ‘i roi sylw dyledus’ o dan adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae Rheoliadau 2011 yn cynnwys gofyniad i fonitro ac asesu effaith. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn cefnogi'r gofyniad i fonitro ac asesu effaith trwy ddarparu cronfa o wybodaeth a data i Weinidogion Cymru am y rhai yng Nghymru sydd ag anableddau, y gellir ei defnyddio i liniaru unrhyw effeithiau andwyol wrth i bolisïau ddatblygu.

Caiff Asesiad Effaith Integredig ei ddatblygu ochr yn ochr â'r Cynllun.

Gofynion Cyllid a Goblygiadau Llywodraethiant

Gellir talu costau bwrw ymlaen â gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl o Linell Wariant yn y Gyllideb Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ym Mhrif Grŵp Gwariant Cyfiawnder Cymdeithasol am y cyfnod 22-23 i 24-25 ac fe nodir y costau yn MA/JH-/1077/22. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol hysbys yn gysylltiedig â'r Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl ar gyfer eleni. Fodd bynnag, wrth i'r fenter bolisi gael ei datblygu, mae'n debygol y bydd goblygiadau ariannol i fwrw ymlaen â chamau gweithredu yn y Cynllun.

Bydd ariannu cynllun gweithredu yn y tymor hwy yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth drawslywodraethol. Wrth inni ddatblygu cynigion unigol yn y Cynllun, bydd cost yn ystyriaeth allweddol a fydd yn gofyn am ymgysylltu pellach wrth i gamau ddatblygu.. Unwaith y bydd y costau hyn wedi'u cadarnhau, bydd Cyngor Gweinidogol pellach yn cael ei ddrafftio y bydd angen ei glirio gan y portffolio Gweinidogol perthnasol o ran camau gweithredu sy'n ymwneud yn benodol â'r Prif Grŵp Gwariant hwnnw.

Darparwyd Cliriad Ariannol gan Dîm Cyllid a Gweithrediadau Grwpiau ESJWL a CRLG (ESJWL/JH/49/22). Mae'r papur hwn hefyd wedi'i glirio gan Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (BGB/0465/6).

Ymchwil a / neu Ystadegau

Mae'r ymchwil neu'r ystadegau a geir yn y papur hwn wedi cael eu cymeradwyo gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi. Cliriad rhif 30/2022.

Gweithio Cydgysylltiedig

Mae yna wahoddiad i arweinwyr polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru i ddod i gyfarfodydd y Tasglu lle bo hynny'n berthnasol i'r materion sy'n cael eu trafod.

Atodiad B: Tystiolaeth am anabledd - tueddiadau sylfaenol

Yn 2021, mae pobl anabl (15.3%) oedran gwaith (18-64 oed) yng Nghymru yn fwy tebygol o fod heb gymwysterau na phobl heb anabledd (5.7%) ac yn llai tebygol o feddu ar gymwysterau uwch na lefel 2 (Llywodraeth Cymru (2022). Lefel y cymwysterau uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio: 2021).

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2021, roedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru yn 48.0%, gyda’r ffigur cyfatebol ar gyfer y rhai nad oeddent yn anabl yn 80.9%, sy’n cyfateb i fwlch cyflogaeth ar sail anabledd o 32.9 pwynt canran. Mae'r bwlch cyflogaeth ar sail anabledd wedi codi yn ystod y pandemig (o 31.6 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019), er ei fod yn dal yn is nag yr oedd 5 mlynedd yn ôl (34.6 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2016) (StatsCymru (2022). Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn a statws anabl, o Ebrill 2013).

Mae'r bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru wedi cynyddu o 7.5% yn 2014 i 11.6% yn 2021 (ONS (2022). Disability pay gaps in the UK: 2021).

O 2017-18 i 2019-20, roedd 38% o’r plant a oedd yn byw ar aelwyd lle’r oedd unigolyn anabl yn goddef tlodi incwm cymharol o gymharu â 26% o blant ar aelwydydd lle nad oedd unigolyn anabl. Yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gwaith a oedd yn byw ar aelwyd lle’r oedd unigolyn anabl mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 18% o’r rheini a oedd yn byw ar aelwyd heb unigolyn anabl. (Llywodraeth Cymru (2021). Tlodi incwm cymharol: mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020). Yn yr un modd, mae pobl sy'n anabl yn fwy tebygol o fyw yn y 10% mwyaf difreintiedig o ardaloedd na phobl nad ydynt yn anabl (13.8% o'i gymharu â 8.1% yn y drefn honno). Pobl anabl yw 1 o bob 3 o'r holl bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn (Llywodraeth Cymr (2020). Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal: 2017 hyd at 2019).

Barnwyd fod anabledd yn ffactor cymhellol mewn 11% o’r troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, yr un gyfran â 2019/20 (Llywodraeth y DU (2021). Police recorded crime and outcomes open data tables). Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, fe brofodd 41% o oedolion anabl yng Nghymru ymddygiad gwrthgymdeithasol, o'i gymharu â 36.9% o oedolion heb anabledd. Profodd 17.5% o bobl anabl rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru gam-drin domestig, o'i gymharu â 6% o bobl nad ydynt yn anabl, gan gynyddu o 14.3% yn y flwyddyn flaenorol (ONS (2022). Outcomes for disabled people in the UK: 2021).

Ar gyfartaledd, roedd gan bobl anabl rhwng 16 a 64 oed sgoriau gwaeth na phobl nad ydynt yn anabl ar y pedwar mesur llesiant personol (hapusrwydd, gorbryder, boddhad â bywyd a gwneud pethau gwerth chweil mewn bywyd) yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 (ONS (2022). Outcomes for disabled people in the UK: 2021).

Tystiolaeth am anabledd: effaith pandemig Covid-19

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod pandemig Covid-19 a'r mesurau a gyflwynwyd i liniaru ei effeithiau wedi cael effaith anghymesur ar bobl anabl, gan waethygu'r anghydraddoldebau a wynebwyd ganddynt cyn y pandemig.

Dengys y data a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 68%, neu bron i 7 o bob 10 marwolaeth a oedd yn gysylltiedig â Covid yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 68 ymhlith pobl anabl (ONS (2020). Coronavirus (COVID-19) related deaths by disability status, England and Wales: 2 March to 14 July 2020).

Ym mis Medi 2020 nododd tua 5 o bob 10 o bobl anabl ym Mhrydain Fawr a oedd yn derbyn gofal meddygol cyn dechrau'r pandemig Covid-19 eu bod naill ai'n derbyn triniaeth ar gyfer rhai o'u cyflyrau yn unig erbyn hynny neu fod eu triniaeth wedi ei chanslo neu heb ei dechrau. Mewn cymhariaeth dim ond tua 3 o bob 10 o bobl nad ydynt yn anabl nododd hyn (ONS (2020). Coronavirus and the social impacts on disabled people in Great Britain: September 2020). Yn ôl arolwg mwy diweddar, ym mis Rhagfyr 2021 nododd pobl anabl ym Mhrydain Fawr fod Covid-19 wedi effeithio mwy ar eu bywydau na phobl heb anabledd mewn dau faes yn benodol. Y meysydd hyn yw mynediad at ofal iechyd a thriniaeth ar gyfer materion nad oes a wnelont â’r coronafeirws (58% i bobl anabl, o'i gymharu â 31% i bobl nad ydynt yn anabl) a lles (55% o'i gymharu â 35%). Yn achos yr olaf, pan ofynnwyd pa effaith a gafwyd ar eu lles, roedd pobl anabl yn fwy tebygol o adrodd: teimlo dan straen neu bryderus (79% o'i gymharu â 68% i bobl nad ydynt yn anabl); iechyd meddwl gwaeth (50% o'i gymharu â 31%); a theimlo fel baich ar bobl eraill (23% o'i gymharu â 7%). Ar ben hynny, yn Rhagfyr 2021, roedd pobl anabl ym Mhrydain Fawr hefyd dros bedair gwaith yn fwy tebygol o oddef rhyw fath o iselder na phobl nad oeddent yn anabl (37% o'i gymharu â 9%). Roedd cyfraddau'r ddau grŵp yn uwch na'r rhai a welwyd cyn pandemig Covid-19 (27% a 4% yn ôl eu trefn). Ers dechrau'r pandemig, mae pobl anabl hefyd wedi bod tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi teimlo'n unig yn aml, bob amser neu rywfaint o'r amser o'i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl (ONS (2022). Coronavirus and the social impacts on disabled people in Great Britain: March 2020 to December 2021).

Wrth ystyried eu gallu yn y dyfodol i arbed arian, mae pobl anabl ym Mhrydain Fawr wedi bod yn llai tebygol na phobl sydd ddim yn anabl o ddweud y bydden nhw'n gallu arbed unrhyw arian gydol y pandemig. Ym mis Mawrth 2020, nododd 32% o bobl anabl y bydden nhw'n gallu arbed arian yn y 12 mis nesaf, o'i gymharu â 45% o bobl nad ydynt yn anabl. Ym mis Rhagfyr 2021, roedd pobl anabl yn dal i fod yn llai tebygol o ddweud y bydden nhw'n gallu arbed arian na phobl nad ydynt yn anabl (36% o'i gymharu â 51%). Ym mis Rhagfyr 2021, nododd pobl anabl hefyd eu bod yn llai tebygol o allu fforddio talu cost annisgwyl, ond angenrheidiol, o £850 na phobl nad ydynt yn anabl (56% o'i gymharu â 67%). Yn gyson, mae pobl anabl wedi dweud eu bod yn llai tebygol o allu fforddio cost o'r fath ers dechrau'r pandemig (ONS (2022). Coronavirus and the social impacts on disabled people in Great Britain: March 2020 to December 2021). Mae ffigyrau o'r fath yn adlewyrchu'r cysylltiad cadarnhaol rhwng anabledd a thlodi yng Nghymru. Rhwng 2017-18 a 2019-20, roedd 38% o blant oedd yn byw ar aelwyd gyda pherson anabl mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 26% ar aelwydydd lle nad oedd neb yn anabl. Yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw ar aelwyd a oedd yn cynnwys person anabl mewn tlodi incwm cymharol, o’i gymharu â 18% o’r rhai a oedd yn byw ar aelwyd lle nad oedd neb yn anabl (Llywodraeth Cymru (2021). Tlodi incwm cymharol: mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020). Rhwng 2017 a 2019 roedd 1 ymhob 3 o'r holl bobl sy'n byw yn y 10% ardal fwyaf difreintiedig o Gymru yn bobl anabl (Llywodraeth Cymru (2020). Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal: 2017 hyd at 2019).

Mae cyfran ychydig yn uwch o bobl anabl cyflogedig yn gweithio mewn diwydiannau a orchmynnwyd i gau yn ystod cyfnod cynnar y pandemig o gymharu â gweithwyr nad ydynt yn anabl (19% o’i gymharu â 15%) (Llywodraeth Cymru (2020). Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig). Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2021, roedd y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru yn 48.0%, gyda’r ffigur cyfatebol ar gyfer y rhai nad oeddent yn anabl yn 80.9%, sy’n cyfateb i fwlch cyflogaeth ar sail anabledd o 32.9 pwynt canran. Mae'r bwlch cyflogaeth ar sail anabledd wedi cynyddu yn ystod y pandemig (o 31.6 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2019) (StatsCymru (2022). Crynodeb o weithgarwch economaidd yng Nghymru yn ôl blwyddyn a statws anabl, o Ebrill 2013. Llywodraeth Cymru).

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a blaenoriaethu'r rhaglen waith

Comisiynwyd Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru ar y cyd â thîm yr Uned Arbenigol ar gyfer Adolygu Tystiolaeth (SURE) ym Mhrifysgol Caerdydd, i gynnal adolygiad cyflym ar effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru.

Awgrymodd crynodeb tystiolaeth gyflym gychwynnol (Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru (2022). A rapid evidence map of the impact of the COVID-19 pandemic on disabled children and adults across the Equality and Human Rights Commission life domains (Saesneg yn unig)) fod pobl anabl wedi profi llawer o anghydraddoldebau ac anfanteision yn ystod pandemig COVID-19, gan gynnwys mwy o farwolaethau, llai o fynediad at wasanaethau, anawsterau ariannol, ynysigrwydd, ac unigrwydd. Er mwyn penderfynu ar flaenoriaethau a chamau i’w cymryd, roedd angen cael gwell syniad o faint a chwmpas y sylfaen dystiolaeth bresennol gan ddefnyddio methodoleg adolygiad cwmpasu cyflym i nodi lle mae adolygiad cyflym yn fwyaf ymarferol.

Awgrymodd yr adolygiad cwmpasu cyflym y byddai'n fwyaf priodol i'r adolygiad cyflym ganolbwyntio ar effaith COVID-19 ar iechyd pobl anabl yng Nghymru o ystyried mai dyma ble mae'r rhan fwyaf o dystiolaeth ar gael, ynghyd a’r ffaith mai iechyd yw'r maes lle mae'r angen dybryd am dystiolaeth o ansawdd uchel ar hyn o bryd o ystyried bod pandemig COVID-19 yn parhau. Cyhoeddwyd yr adolygiad cyflym hwn ym mis Mawrth 2022 (Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru (2022). Adolygiad cyflym o effaith pandemig COVID-19 ar iechyd a mynediad at ofal iechyd pobl anabl).

Atodiad C: Tasglu Hawliau Pobl Anabl - blaenoriaethau a gweithgorau

Gweithgor Blaenoriaethu

Sefydlwyd y Gweithgor Blaenoriaethu i nodi a blaenoriaethu'r anghydraddoldebau y mae’r brys mwyaf i fynd i’r afael â nhw ar gyfer ail gyfarfod y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Aeth aelodau'r Tasglu a'r Uned Arbenigol ar gyfer Adolygu Tystiolaeth i’r cyfarfod blaenoriaethu i gynorthwyo a darparu sylfaen ystadegol i gefnogi pynciau a oedd yn cael blaenoriaeth.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ar 14 Ionawr 2022 i nodi a thrafod y prif flaenoriaethau ac yn yr ail gyfarfod ar 20 Ionawr, llwyddodd y grŵp i gytuno ar restr o flaenoriaethau cychwynnol ar gyfer Cyfarfod y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, sef:

Cael mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu hygyrch)

Cytunodd y Grŵp Blaenoriaethu nad yw llawer o bobl anabl yn cael gwrandawiad ac nad ydynt yn gallu arfer eu hawliau fel dinasyddion Cymru. Enghraifft o hyn oedd pan oedd llawer o feddygfeydd teulu yn anhygyrch i lawer o gleifion anabl yn ystod pandemig COVID, ac yn enwedig felly i gleifion Byddar.

Tai Fforddiadwy a Hygyrch

Tynnodd y Grŵp Blaenoriaethu sylw at yr angen i ymchwilio i anghenion tai pobl anabl. Cytunwyd bod tai yn rhan hanfodol o fyw'n annibynnol i bobl anabl.

Gwreiddio a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru)

Mae'n hanfodol bod y Model Cymdeithasol o Anabledd yn cael ei ddeall yn llwyr a'i ddefnyddio gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cyflogaeth ac Incwm

Tynnodd y Grŵp Blaenoriaethu sylw at yr angen i edrych ar y bylchau anghymesur mewn cyflogau a oedd yn effeithio ar lawer o bobl anabl. Mae pandemig COVID wedi taro cyflogaeth a chyflog llawer o bobl anabl ymhellach.

Teithio

Tynnodd y Grŵp Blaenoriaethu sylw at y rhwystrau i bob person anabl, yn enwedig y rhwystrau a wynebir ar fysiau gan lawer o bobl sy'n ddall neu ag amhariad ar eu golwg. Roedd y rhwystrau hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth hygyrch ar gyfer cynllunio teithiau, diffyg cyhoeddiadau llafar a gweledol am y gyrchfan nesaf ar y bws, diffyg cefnogaeth gan rai gyrwyr a gweithdrefnau cwynion sy’n anodd eu canfod a defnyddio a thoriadau i wasanaethau. Soniwyd hefyd am y ffaith bod bylchau yn narpariaeth hyfforddiant cydraddoldeb anabledd ymhlith cwmnïau bysiau. Amlygwyd hefyd yn y cyfarfod fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, ond mae yna ddiffyg dull gweithredu cydlynus ar lawr gwlad.

Plant a Phobl Ifanc

Roedd y Grŵp Blaenoriaethu yn cydnabod nad oedd plant a phobl ifanc yn cael sylw llawn yn yr adroddiad 'Drws ar Glo' a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Tasglu Hawliau Pobl Anabl.

Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Tynnodd y Grŵp Blaenoriaethu sylw at yr angen i ddeall y sefyllfa bresennol ym maes gofal cymdeithasol, sy'n elfen sylfaenol o fyw'n annibynnol. Mae gofal cymdeithasol yn cael ei rannu'n gyfreithiol fel y dewis olaf sy'n wael iawn. Dylid ei ddefnyddio i hwyluso byw'n annibynnol i alluogi pobl anabl i fyw bywyd cyfartal ac mae ganddo allu enfawr i roi rhyddid i bobl.

Gwreiddio a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd

Mabwysiadwyd y Model Cymdeithasol o Anabledd gan Lywodraeth Cymru yn 2002, ond mae ei roi ar waith wrth ddatblygu polisïau a strategaethau wedi bod yn dameidiog ac roedd bylchau clir o ran gweithredu’r polisi wedi'u nodi yn adroddiad Drws ar Glo am brofiad ymarferol pobl anabl o wasanaethau ac ati. Cytunwyd i sicrhau gwell dealltwriaeth ac i weithredu i ymgorffori'r model cymdeithasol, gan gydnabod bod hynny’n greiddiol i’r gwaith o adeiladu sylfeini cryf er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl anabl ledled Cymru. Mae angen i bawb ddeall y Model Cymdeithasol yn well - gwasanaethau cyhoeddus, datblygwyr polisi, cynllunwyr, pobl anabl a chymdeithas yn ehangach. Mae'r gweithgor hwn yn sefydlu dulliau o gyflawni hyn – mae angen ffordd aml-ddull i gyflawni'r newidiadau cymdeithasol a diwylliannol a fydd yn sicrhau newid cynaliadwy a llwyddiannus.

Byw'n Annibynnol, Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol

Mae cydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio wedi sefydlu gweithgor i fwrw ymlaen â’r bwriad yn y Rhaglen Lywodraethu i wella'r rhyngwyneb rhwng Gofal Iechyd Parhaus a thaliadau uniongyrchol, mater hollbwysig i bobl anabl. Mae'r gweithgor hwn yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau o'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, pobl anabl a phobl sydd â phrofiadau byw. Pwrpas y grŵp yw cyd-gynhyrchu datrysiadau i gyflawni'r bwriad, yn y tymor byr/ tymor canolig ac yn y tymor hwy, gan gynnwys creu deddfwriaeth sylfaenol i alluogi taliadau uniongyrchol o dan Ofal Iechyd Parhaus. Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Cydraddoldeb a’r Ymgynghorydd Polisi Arbenigol ar Anabledd i sicrhau grymuso a chynnwys pobl anabl yn y broses.

Mynediad at Wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu hygyrch)

Bydd y gweithgor Mynediad at Wasanaethau yn cynnwys gwaith a chamau gweithredu sy’n ymwneud ag Iaith Arwyddion Prydain er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag argymhellion yn archwiliad Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain  i Lywodraeth Cymru ar gyfer Siarter Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain.

Atodiad D: Gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth - mapio cychwynnol

(Noder: dyma gipolwg ar weithgaredd ac nid yw'n adlewyrchiad cynhwysfawr o waith ar draws y Llywodraeth ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach). Mae'r eitemau cyntaf yn nodi cynnydd yn erbyn y Rhaglen benodol ar gyfer Ymrwymiadau'r Llywodraeth.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a Hawliau Dynol

Rydym newydd gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Nododd ein hymateb bum prif faes ar gyfer gweithredu. Y cyntaf ohonynt yw edrych ar opsiynau deddfwriaethol ar gyfer ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n sefydlu gweithgor gyda rhanddeiliaid allanol er mwyn bwrw ymlaen â hyn.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol wedi cytuno gyda’i gilydd bod angen ystyried dull gweithredu cyfannol, fel Bil Hawliau Dynol Cymru, a bod angen ystyried camau posibl eraill ar y cyd mewn perthynas â materion penodol.

Byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu cynhwysol, gan fynd y tu hwnt i’r ddau Gonfensiwn gan y Cenhedloedd Unedig sydd wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu i gynnwys hefyd ystyried hawliau pobl hŷn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar Sail Hil (ICERD), hawliau pobl LHDTC+ hawliau cymdeithasol ac economaidd ac adeiladu ar ein Mesur Hawliau Plant presennol.

Mae Cyfle Cyfartal yn fater a gedwir yn ôl er bod amrywiaeth o eithriadau i hynny sy'n rhoi rhywfaint o le i'r Senedd ddeddfu. Nid yw hawliau dynol yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl ond rhaid i holl ddeddfwriaeth y Senedd fod yn gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i fod o fewn cymhwysedd. At hynny, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn ddeddfiad gwarchodedig o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru sy'n golygu na all y Senedd addasu'r Ddeddf honno. Felly mae materion ehangach ynghylch datganoli i'w hystyried fel rhan o‘r broses o archwilio opsiynau deddfwriaethol.

Mae cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno Bil Hawliau yn lle’r Ddeddf Hawliau Dynol 1998 wedi cymhlethu'r cyd-destun deddfwriaethol. Fe wnaethom ein gwrthwynebiad sylfaenol i hyn yn eglur yn ystod yr ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn, felly roedd yn siomedig iawn gweld y cynnig anflaengar hwn yn cael ei gynnwys yn Araith y Frenhines. Nid ydym yn gwybod hyd yn hyn beth yn union fydd yn cael ei gynnwys yn y Bil Hawliau: bydd angen ystyried y cynigion a'u goblygiadau yn fanwl cyn i unrhyw Fil cysylltiedig gael ei gyflwyno yng Nghymru.

Bydd cwmpas ac amseriad unrhyw ddeddfwriaeth, megis Bil Hawliau Dynol Cymru yn ddarostyngedig i benderfyniadau yn y dyfodol, gan ddibynnu ar ganlyniad y gwaith paratoadol hwn. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid wrth i'r gwaith fynd rhagddo a byddwn yn ymgynghori'n ffurfiol ar unrhyw opsiynau deddfwriaethol sy'n dod i'r amlwg.

Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Mae Llwybr Newydd yn amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy. Mae'n cynnwys uchelgeisiau trawsbynciol, lefel uchel sy'n gallu darparu buddion ehangach i bobl a chymunedau, i'r amgylchedd, i'r economi a lleoedd, ac i ddiwylliant ac iaith.

Yn ystod datblygiad y strategaeth, cododd gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid rai meysydd allweddol i'w gwella:

  • Hygyrchedd - materion yn ymwneud â rhwystrau cymdeithasol, corfforol ac o ran agweddau.
  • Fforddiadwyedd – problem arbennig i grwpiau penodol
  • Dibynadwyedd a chysondeb darpariaeth gwasanaethau – problem gyffredinol ond problem benodol mewn ardaloedd mwy gwledig.
  • Materion amgylcheddol - o bwysigrwydd arbennig i grwpiau penodol, yn fwyaf enwedig i blant a phobl ifanc

Roedd y strategaeth yn nodi sawl 'llwybr' sydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ac a fydd yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Trafnidiaeth Genedlaethol. Bydd y llwybr Cydraddoldeb yn mapio'r camau gweithredu y mae eu hangen er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau cyfreithiol a pholisi ar hygyrchedd seilwaith a gwasanaethau, yn ogystal â'n hymrwymiadau ar gynllunio cynhwysol, hyfforddiant, datblygu polisi a safonau. Bydd yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth ar ôl iddo gael ei gyflawni. Y nod yw sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei integreiddio i gynllunio trafnidiaeth ar y lefel uchaf yn hytrach na'i ystyried yn fater ar wahân. Yn unol â'r pum ffordd o weithio, byddwn yn cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o broblemau cydraddoldeb, gan gynnwys Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru.

O fewn Llwybr Newydd, mae amryw o ymrwymiadau sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hygyrchedd. Fel rhan o ddatblygiad y llwybr cydraddoldeb, mae'r ymrwymiadau hynny wedi eu rhannu’n bum piler:

  1. Ymgysylltu a Chyfranogiad: mynd ati i ymgysylltu â'r rhai sy'n cynllunio ac yn defnyddio cludiant i sicrhau ei fod yn addas i'r diben
  2. Isadeiledd: drwy’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, ystyrir cydraddoldeb fel rhywbeth amlwg ynddo’i hun wrth gynllunio seilwaith newydd / adolygu'r seilwaith presennol i sicrhau bod y cyfleusterau'n ddiogel, yn groesawgar, ac yn hygyrch
  3. Cyfiawnder Cymdeithasol: gweithio i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael, yn hygyrch, ac yn fforddiadwy i bobl Cymru.
  4. Technoleg ac Arloesi: sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau ym maes arloesi a thechnoleg o'r dechrau'n hygyrch ac o fudd i bawb sy'n defnyddio cludiant.
  5. Hyfforddiant a Chanllawiau: gweithio gyda'r holl bartneriaid i ddarparu hyfforddiant ac arweiniad a fydd yn cefnogi rhaglen i newid ymddygiad.

Bydd y llwybr cydraddoldeb yn cael ei fonitro gan y Bwrdd Perfformiad Trafnidiaeth a fydd yn darparu haen ychwanegol o graffu (nad oedd ar gael cynt) mewn perthynas â chyflenwi a gwella'r gwaith integreiddio polisi sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud cynnydd pellach.

Mae gennym ymrwymiad hirsefydlog ac ymarferol i sicrhau gwell hygyrchedd ar y rheilffyrdd er bod hyn yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU nas datganolwyd o ran seilwaith y rheilffyrdd (ar wahân i Linellau Craidd y Cymoedd, yr ydym ni bellach yn gyfrifol amdanynt) a threnau.

Cyflogadwyedd a Sgiliau

Mae’r Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl yn rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol i Lywodraeth Cymru ar broblemau a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg er mwyn cynorthwyo â'r nod o gynyddu nifer y bobl anabl sy’n gweithio.

Mae'r Cynllun newydd ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn cynnwys bwriad i ymateb i argymhellion adroddiad Drws ar Glo ac i yrru yn eu blaenau syniadau ar gyfer mynd i'r afael ag anfantais economaidd-gymdeithasol pobl anabl yng Nghymru. Bwriedir hefyd parhau i gynnwys rhanddeiliaid drwy weithgor Cyflogaeth Pobl Anabl i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl anabl ar raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru.

Cyflogodd Llywodraeth Cymru rwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn 2021 er mwyn helpu i leihau anghydraddoldeb yn y canlyniadau i bobl anabl yn y farchnad gyflogaeth. Ers hynny mae'r hyrwyddwyr wedi ymddangos yn y Rhaglen Lywodraethu fel menter allweddol ac maent yn cael eu cynrychioli ar y Tasglu a'i weithgorau. Wrth ddarparu cefnogaeth un-i-un i fusnesau i hyrwyddo cyflogaeth pobl anabl, mae'r hyrwyddwyr hefyd wedi cymryd rôl ehangach o fewn Llywodraeth Cymru, sef llywio polisi a helpu i sicrhau bod rhaglenni cyflogadwyedd yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u statws o ran amhariadau.

Anableddau dysgu

Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu newydd ar 24 Mai 2022. Mae'r cynllun hwn yn olynydd i'n Rhaglen Gwella Bywydau: Anabledd Dysgu. Mae wedi'i chyd-greu â phobl ag anableddau dysgu drwy'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu a wnaeth 43 o argymhellion ar gyfer blaenoriaethau'r dyfodol. Mae'r camau gweithredu yn y cynllun newydd yn cynnwys parhau i leihau anghydraddoldebau iechyd, hyfforddi'r gweithlu, hyrwyddo byw'n annibynnol a llety yn agos i’r cartref, eiriolaeth, hunaneiriolaeth a chyd-greu. Adnewyddir y pwyslais ar les plant a phobl ifanc hefyd. Bydd y gwaith o gyflawni'r blaenoriaethau hyn yn cael ei fonitro gan y Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anabledd Dysgu.

Gall Llywodraeth Cymru hefyd ddangos ymrwymiad cryf i wella bywydau pobl â chyflyrau niwroddatblygiadol, gan ddefnyddio dull gweithredu wedi’i seilio ar gryfderau wrth ddylunio a darparu gwasanaethau a chymorth, sy'n adlewyrchu egwyddorion y model cymdeithasol o anabledd. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi'r Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ym mis Medi 2021; mae'r cod yn gorfodi eto’r dyletswyddau a roddir ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu haddasu i ddiwallu anghenion pobl ag awtistiaeth.

Bwlch cyflog ar Sail Anabledd

Mae mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyflogaeth a thâl gweithwyr anabl yn gofyn am weithredu cyson a hirdymor i drawsnewid strwythurau sefydliadol, polisïau ac arferion, ymddygiadau, a diwylliannau. Mae cyflawni hyn yn gofyn am ymroddiad o fewn a thu allan i'r Llywodraeth.

Mae Swyddogion Polisi yn cefnogi'r trawsnewid hwn drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol a'n polisi gwaith teg. Mae'r rhain yn rhoi cyfleoedd i ni weithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur i fynd i'r afael â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, gan gynnwys bylchau cyflog, gan gynyddu cyffredinrwydd gwaith teg i bawb, gan gynnwys y rhai ag anableddau, a chodi ymwybyddiaeth o hawliau'r gweithlu.

Mae'r cynnydd yn y maes hwn hyd yma yn cynnwys:

  • Datblygu dangosyddion canlyniadau wedi'u mapio i bob nodwedd o Waith Teg a nodwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg, gan gynnwys cydnabyddiaeth deg. Lle bo modd, bydd data yn cael eu datgyfuno yn ôl nodweddion gwarchodedig.
  • Sefydlu Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a Fforwm Manwerthu gan ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i wella cyffredinrwydd gwaith teg. Mae swyddogion hefyd yn ystyried sut y gallwn gefnogi sectorau eraill gan gynnwys y sectorau twristiaeth a gofal plant.
  • Cyflwyno Ymgyrch Hawliau a Chyfrifoldebau'r Gweithlu, gan sicrhau bod gweithwyr yn ymwybodol o'u hawliau cyflogaeth, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â thâl ac anableddau, a bod cyflogwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol.
  • Darparu cymorth grant i Cynnal Cymru (y corff achredu cyflog byw ar gyfer Cymru) i hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru ymhellach.

Yn ogystal, cafodd y garfan gyntaf o set o Gerrig Milltir Cenedlaethol ar gyfer Cymru ei gosod yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2021. Roedd y rhain yn cynnwys carreg filltir genedlaethol ar gyfer dileu'r bylchau cyflog ar sail rhywedd, hil ac anabledd erbyn 2050. Mae'r garreg filltir yn adlewyrchu uchelgais a dyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd a'n dealltwriaeth o'r ffordd y mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith yn rhan annatod o'n hymrwymiad ehangach i sicrhau gwaith teg i bob gweithiwr yng Nghymru.

Budd-daliadau Anabledd

Mae'r gangen cyngor ar les cymdeithasol a pholisi'r DWP yn cydlynu dull trawslywodraethol o weithredu o ran datblygiadau sy'n ymwneud â budd-daliadau pobl anabl sy'n codi fel rhan o strategaeth Iechyd ac Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Gweinidog  Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymateb i'r ymgynghoriad papur gwyrdd a alwodd ar lywodraeth y DU i fabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd a'i wreiddio yn eu prosesau.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae Swyddogion wedi sefydlu grŵp at ddiben rhannu gwybodaeth ac adnoddau i gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau datganoledig a’r rhai nad ydynt wedi’u datganoli ar gyfer pobl anabl ac ennill rhagor o ddealltwriaeth o brofiad pobl anabl o system fudd-daliadau. Rydym yn rhagweld y bydd y papur gwyn yn cael ei gyhoeddi yn yr haf a byddwn yn monitro effaith newidiadau ar bobl anabl yng Nghymru. 

Mae gan Lywodraeth y DU hanes o ddefnyddio'r model meddygol mewn perthynas â’u system fudd-daliadau ac mae wedi'i wreiddio'n ddwfn yn y broses ymgeisio ac asesu ar gyfer budd-daliadau pobl anabl. Er bod peth llwyddiant wedi bod o ran cynnig hyfforddiant i staff gweithredol yng Nghymru ar fodel cymdeithasol o anabledd a hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth, prin yw’r newid o fewn y systemau a phrosesau sy'n llywodraethu darparu budd-daliadau.

Cymru Iachach

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn 2018 - Cymru Iachach. Y weledigaeth yw cael system iechyd a gofal integredig sy'n eu darparu mor agos at gartref â phosib. Mae'n canolbwyntio ar gefnogi pobl i fyw bywydau iach ac annibynnol. Rydym yn benderfynol o wreiddio'r model cymdeithasol o anabledd ledled y system iechyd a gofal er mwyn sicrhau bod gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau yn digwydd yng nghyd-destun y model cymdeithasol. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn drwy hyfforddi a datblygu'r gweithlu i godi ymwybyddiaeth a gwella arfer proffesiynol. Byddwn hefyd yn sicrhau, wrth i wasanaethau gael eu dylunio a'u cynllunio, y bydd hygyrchedd gwasanaethau yn cael ei ystyried yng nghyd-destun y model cymdeithasol.

Cydraddoldeb yn y Gweithle: GIG

Mae'r GIG yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru, gan gynnwys i bobl ag anableddau ac yn draddodiadol mae wedi darparu gwasanaethau gan ddefnyddio model mwy meddygol o anabledd. Rydym yn benderfynol o wreiddio'r model cymdeithasol o anabledd ledled y GIG i sicrhau, pan fydd gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu ei gynllunio, ei fod yng nghyd-destun y model cymdeithasol. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn drwy hyfforddi a datblygu'r gweithlu i godi ymwybyddiaeth a gwella arfer proffesiynol. Byddwn hefyd yn sicrhau, wrth i wasanaethau gael eu dylunio a’u cynllunio, y bydd hygyrchedd gwasanaethau yn cael ei ystyried yng nghyd-destun y model cymdeithasol.

Mae'r GIG yn gyflogwr sylweddol ar draws Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau i gyflogaeth i bobl ag anableddau, yn unol â'r model cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys adolygu polisïau ac arferion cyflogi i gael gwared ar rwystrau a datblygu data cadarn i werthuso effaith y polisïau hyn ar gyflogaeth a hynt pobl anabl o fewn y GIG.

Unigrwydd ac Ynysigrwydd

Strategaeth drawslywodraethol yw Cysylltu Cymunedau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol sy’n cydnabod y gallwn ni i gyd brofi'r teimladau hyn, ar unrhyw oedran. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod bod rhai pobl yn fwy agored i niwed nag eraill; mae hyn yn cynnwys pobl anabl. Ers lansio'r strategaeth ym mis Chwefror 2020, mae cynnydd wedi'i wneud o ran rhoi’r dros 80 o ymrwymiadau ynddi ar waith, a hefyd o ran sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r newidiadau yn ein cymunedau yn sgil y pandemig.

Mae sefydlu grŵp cynghori o randdeiliaid gwerthfawr o'r sectorau statudol a gwirfoddol a sefydliadau ar lawr gwlad, gan gynnwys Anabledd Cymru a Pobl yn Gyntaf Cymru, wedi bod yn hollbwysig o ran helpu Swyddogion i ddeall yn well effaith Covid-19, unigrwydd, ac ynysu cymdeithasol ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Ymhlith y prif faterion a amlygwyd gan y grŵp mae allgau digidol; goresgyn rhwystrau rhag ail-ymgysylltu; y mathau o gymorth parhaus sydd eu hangen i alluogi pobl i gadw’n iach, a chynnal eu lles a'u hannibyniaeth a chadw cefnogaeth yn y gymuned i fynd. Bydd swyddogion yn cyhoeddi adroddiad sy'n nodi cynnydd a wnaed a'r camau nesaf yn ddiweddarach eleni.

Roedd y strategaeth yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu cronfa unigrwydd ac ynysigrwydd am dair blynedd. Nod y gronfa yw cefnogi gweithgarwch yn y gymuned trwy feithrin gallu a chynaliadwyedd sefydliadau rheng flaen sy'n dod â phobl o bob oed at ei gilydd. Mae £1.5 miliwn wedi'i ddyrannu'n gyfartal ledled Cymru yn ystod y tair blynedd (2021-24) a byddwn yn gweld awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol yn ei ddosbarthu i sefydliadau yn y gymuned. Mae cyllid hefyd wedi'i ddyrannu i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Cenedlaethol. Mae adolygiadau cyntaf ar sut mae'r partneriaethau wedi defnyddio'r arian yn dangos bod sawl grŵp sy’n cefnogi pobl anabl a'u teuluoedd wedi elwa arno.