Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi sut y mae gwasanaethau digidol a chynhwysiant digidol yn cefnogi'r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus modern ac effeithlon.

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru (y Cynnig Gofal Plant) yn croesawu'r strategaeth newydd a’i Hegwyddorion, sydd wedi’u nodi yn Atodiad 1. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu’r trefniadau sydd ar waith i helpu pobl i ddefnyddio gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant os bydd angen.

Prif egwyddorion gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant wedi cael ei ddatblygu ar sail egwyddorion Strategaeth Ddigidol Cymru. Gwasanaeth cwbl ddigidol yw hwn, ac nid oes opsiynau cyfochrog all-lein. Fodd bynnag, mae yna gyfres o drefniadau cymorth, gan gynnwys gwasanaeth ffôn, i’r rheini sydd angen help llaw i ddefnyddio’r gwasanaethau ar-lein.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y feddalwedd ddigidol yn defnyddio adnoddau technoleg gynorthwyol sydd wedi’u rhestru yng Ngwasanaeth Digidol y Llywodraeth.

Cynigir canllawiau ar y sgrin a fydd yn cyfeirio defnyddwyr at ddeunyddiau cymorth neu nodiadau esboniadol, a bydd hyn oll ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae'r system yn cael ei datblygu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd modd i ddefnyddwyr fynd o un iaith i’r llall.

Cyn i wasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant gael ei sefydlu, byddai ceisiadau am gyllid o dan y Cynnig yn cael eu cyflwyno i 10 awdurdod lleol (ALl) a oedd yn cyflawni rôl awdurdodau gweithredu (AG), a hwythau wedyn yn eu prosesu. Y 10 AG hyn oedd yn cyflawni llawer o waith gweinyddol y Cynnig Gofal Plant ar ran y 22 ALl. Wrth symud i wasanaeth cwbl ar-lein, rydym wedi cydweithio’n agos â phob un o’r 22 ALl, ac yn benodol gyda’r 10 AG, yn ogystal ag â nifer o rieni a darparwyr gofal plant.

Ystyriwyd y pwyntiau isod fel rhan o’r broses o benderfynu symud i wasanaeth ar-lein, gan sefydlu gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant.

  • nid yw fersiynau papur neu all-lein mor ddiogel
  • maent yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau
  • maent yn llai cost-effeithiol
  • nid yw’n hawdd cyfeirio'r defnyddiwr at wybodaeth bellach
  • mae mwy o risg o wneud camgymeriadau
  • nid yw mor hawdd eu diwygio i’w gwella
  • nid ydynt yn helpu i feithrin sgiliau a hyder digidol sylfaenol y defnyddiwr

Mae’n werth nodi hefyd, o’r 10 AG sy’n gweinyddu’r Cynnig Gofal Plant, nad oes gan chwech fersiynau papur o’u gwasanaethau; maent i gyd ar-lein, ond cynigir cymorth uniongyrchol lle bo angen. Ni wnaeth pedwar o’r AGau ymateb.

Cymorth digidol

Er bod gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant wedi cael ei brofi nifer o weithiau ymhlith defnyddwyr wrth iddo ddatblygu, mae'n anochel y gallai fod angen cymorth ar rai (rhieni a darparwyr gofal plant) i ddefnyddio’r gwasanaeth. Efallai nad yw’n glir iddynt beth sy’n cael ei ofyn yn y cais ar-lein neu fod angen mwy o wybodaeth arnynt nag y mae’r gwasanaeth yn ei ddarparu. Gallai lleoliad unigolyn, ei iechyd a'i offer hefyd effeithio ar ei allu i ddefnyddio’r gwasanaeth. Bydd angen cymorth ar rai defnyddwyr, felly, i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Cyfeirir at hyn fel ‘cymorth digidol’ yn y ddogfen hon.

Efallai y bydd angen cymorth digidol ar ddefnyddiwr, os na all yn gorfforol ddefnyddio’r gwasanaeth digidol a/neu os nad oes ganddo:

  • ymddiriedaeth yn y gwasanaeth neu yn y defnydd o’r rhyngrwyd
  • hyder i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein
  • mynediad at y rhyngrwyd (cysylltedd a dyfeisiau)
  • sgiliau digidol sylfaenol
  • cymhelliant i oresgyn y rhwystrau hyn ar ei ben ei hun

Yn gyffredinol, bydd tri math o gymorth digidol y gallai fod ei angen ar ddefnyddwyr:

  1. pasio gwiriadau diogelwch - actifadu cyfrifon
  2. cymorth i lywio’u ffordd drwy'r system
  3. cymorth i gofnodi gwybodaeth

Wrth ddatblygu’r gwasanaeth, roeddem yn awyddus i gynnwys defnyddwyr a nododd eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol yn ein gwaith ymchwil a phrofi. Fodd bynnag, nid oeddem yn gallu recriwtio unrhyw rieni plant o oedran y Cynnig Gofal Plant, nac yn agos at yr oedran hwnnw, a nododd eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol – hyd yn oed ar ôl defnyddio asiantaeth recriwtio arbenigol a chynnig cymhellion. Ni ddisgwylir i allgáu digidol fod yn broblem fawr, felly, i’r grŵp hwn o ddefnyddwyr.

Ar sail gwybodaeth gan ALlau, partneriaid Cwlwm ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gallai’r elfen ddigidol fod yn broblem i rai darparwyr gofal plant, yn enwedig gwarchodwyr plant. Aethom ati, felly, i weithio gyda PACEY Cymru, y corff sy’n cynrychioli gwarchodwyr plant, er mwyn dod o hyd i ddefnyddiwr priodol i lywio a phrofi’r broses o ddylunio ac adeiladu’r gwasanaeth.

Gwyddom fod AGC yn gweld cyfradd uchel iawn o Ddatganiadau Hunanasesu Gwasanaeth digidol gan ddarparwyr gofal plant, a bod dros 50% o systemau cyfredol ALlau ar gyfer gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant yn rhai ar-lein yn unig, heb unrhyw broblemau mawr. Mae gan bob ALl gynllun clir i gefnogi’r rheini sydd angen cymorth gyda’r gwasanaeth ar-lein. Mae ALlau yn dweud wrthym nad oes problemau wedi’u cofnodi hyd yma ymhlith rhieni/darparwyr wrth ddefnyddio’r prosesau hyn. Byddwn yn sicrhau bod defnyddwyr sydd angen cymorth digidol yn gwybod ei fod ar gael a sut i gael gafael arno. Bydd negeseuon am y cymorth hwn yn cael eu rhannu drwy sawl cyfrwng.

Er mai dim ond ar-lein y bydd gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant ar gael, bydd amrywiaeth o opsiynau cymorth all-lein ar gael i ddefnyddwyr i'w galluogi i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein, e.e. ar y ffôn a wyneb yn wyneb. Mae opsiynau cymorth ar-lein hefyd yn cael eu hystyried wrth inni ysgrifennu'r adroddiad hwn. Gan fod y gwasanaeth ar gael drwy unrhyw ddyfais sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd, gall defnyddwyr nad ydynt yn berchen ar ddyfais neu sy'n profi tlodi data gael mynediad at y gwasanaeth drwy ddyfeisiau rhad ac am ddim mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda staff llyfrgelloedd i ddatblygu eu sgiliau digidol, gan gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae o ran cefnogi dinasyddion.

Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi datblygu adnoddau pwrpasol, sydd ar gael ar-lein, i’r rheini sydd angen cymorth i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder digidol sylfaenol. Drwy Cymunedau Digidol Cymru, gallwn ddarparu cymorth wyneb yn wyneb lle bo angen cydnabyddedig.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol i gynnal ‘archwiliadau o sgiliau digidol’ sy’n helpu i nodi bylchau yng ngwybodaeth staff, er mwyn cefnogi dinasyddion ag ymholiadau digidol. Mae’r archwiliad hwn yn caniatáu i  Cymunedau Digidol Cymru deilwra hyfforddiant yn unol â hynny, i sicrhau bod yr holl staff rheng flaen yn hyderus yn ddigidol, ac felly yn gallu cyflawni anghenion dinasyddion sy’n chwilio am gymorth i ddefnyddio gwasanaethau digidol.

Cymorth cyffredinol

Bydd staff yr AGau yn parhau i ystyried y ceisiadau, a bydd pob ALl yn parhau â’u rôl o gefnogi rhieni a lleoliadau gofal plant i fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant. Cyn cyflwyno’r gwasanaeth, bydd staff ym mhob ALl wedi derbyn hyfforddiant a chymorth ar bob rhan o'r gwasanaeth, a byddant yn gyfarwydd â'r prosesau er mwyn cefnogi rhieni a lleoliadau gofal plant.  Bydd y defnyddiwr (rhieni/darparwyr) yn gallu manteisio ar y gefnogaeth hon naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg drwy ffurflen ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb drwy eu ALl. Pan fydd defnyddiwr yn cysylltu â’r llinell gymorth am help, caiff yr alwad ei chyfeirio at yr ALl priodol, yn dibynnu ar natur yr ymholiad a dewis iaith yr unigolyn sy’n ffonio. Os, am ryw reswm, bydd problem gyda’r broses hon, gall yr ALlau drosglwyddo galwadau rhwng y naill a’r llall yn hwylus.

Ni chynigir cymorth drwy we-sgwrs am y tro, ond caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r Model Gweithredu Targed.

Caiff pob ALl eu hyfforddi ar bob agwedd ar y gwasanaeth digidol, a gallant i gyd gynnig cymorth cyffredinol. Yn achos cwestiynau mwy penodol, e.e. pan fydd rhiant eisoes wedi gwneud cais ac eisiau trafod eu cais, caiff y galwadau hyn eu cyfeirio’n awtomatig at yr AG perthnasol. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fydd yr ALl dynodedig i helpu gydag ymholiadau Porth y Llywodraeth ac unrhyw alwadau Cymraeg nad oes modd i’r Awdurdod Lleol gwreiddiol ddelio â nhw, boed yn AG neu’n un o’r 12 ALl arall (Awdurdodau Ymgysylltu).

Darperir cyllid i ALlau i godi ymwybyddiaeth o’r Cynnig yn lleol, a bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael gafael ar gymorth. Mae contract wedi’i lunio hefyd ar gyfer ymgyrch genedlaethol i gefnogi’r gweithgarwch ac i godi ymwybyddiaeth drwy gyfryngau traddodiadol, megis hysbysebion radio, yn ogystal â chyfryngau cymdeithasol. Darparwyd gwaith celf i ALlau y gellir ei argraffu i’w ddefnyddio gan leoliadau gofal plant i godi ymwybyddiaeth ymhlith rhieni drwy daflenni, posteri a baneri. Gall ALlau ddefnyddio’r rhain hefyd i hysbysebu mewn papurau newydd lleol a chylchgronau os ystyrir hynny’n briodol.

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant wedi'i brofi a'i ddylunio i fod mor hwylus â phosibl. Byddwn hefyd yn darparu deunyddiau cymorth dwyieithog ar-lein i helpu defnyddwyr i allu bod mor annibynnol â phosibl wrth ddefnyddio'r gwasanaeth. Caiff y deunyddiau cymorth eu hysgrifennu gan ddefnyddio iaith glir a chânt eu cyhoeddi ar ffurf html fel bod y cynnwys yn gydnaws â thechnoleg gynorthwyol, ac felly'n diwallu anghenion llawer o ddefnyddwyr. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw ar wefan llyw.cymru, ac felly bydd yn bodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1. Mae’r wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd ar gael mewn ieithoedd eraill.

Gyda chymorth y deunyddiau ar llyw.cymru, bydd defnyddwyr yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r testun hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'u ffordd drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'u ffordd drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Os oes angen fformatau ychwanegol ar gyfer anghenion penodol, caiff hyn ei ystyried. Os nad yw defnyddiwr yn gallu cael gafael ar y deunyddiau cymorth ar-lein, bydd tîm yr ALl yn gallu darparu'r wybodaeth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Mae hefyd yn fwriad datblygu deunyddiau cymorth ar ffurf fideo, gyda sain ac is-deitlau. Caiff y posibilrwydd o ddatblygu fersiynau Iaith Arwyddion Prydain hefyd ei ystyried, gydag opsiwn i weld capsiynau trawsgrifiad. Drwy’r rhaglen cynhwysiant digidol ac iechyd a gafodd ei chaffael gan Lywodraeth Cymru, Cymunedau Digidol Cymru, byddwn yn ystyried sut i sicrhau bod modd cael gafael ar y fideos yn hwylus.

Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth ychwanegol am elfennau o'r Cynnig Gofal Plant y mae rhieni a darparwyr wedi dweud wrthym eu bod yn gallu bod yn gymhleth i'w deall, megis sut mae elfennau addysg gynnar a gofal plant y Cynnig yn gweithio gyda'i gilydd, a'r oriau gofal plant sydd ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol.

Darpariaeth cymorth gwasanaethau

Byddwn yn cydweithio ag ALlau i sicrhau:

  • y gellir cynnig gwasanaethau cymorth yn ddwyieithog
  • y cânt eu hariannu'n ddigonol drwy gyllid grant, gan gynnwys wrth reoli newidiadau yn y galw am gymorth, megis ar adegau prysurach o’r flwyddyn neu pan fo’r hen systemau yn cael eu diddymu'n raddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio
  • y caiff lefel y cymorth sydd ei angen ganddynt ei fonitro drwy gydol y cyfnod pontio
  • y darperir cymorth yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr
  • y caiff staff hyfforddiant priodol i gynnig cymorth
  • y bydd y system ddigidol yn gyfleus i ddefnyddwyr ac yn hawdd ei defnyddio
  • y cedwir gwybodaeth am ddefnyddwyr yn ddiogel ac y diogelir eu preifatrwydd
  • y gallant roi adborth ar y cymorth drwy sefydlu systemau pwrpasol fel bod unrhyw enghreifftiau o ddryswch ymhlith defnyddwyr yn llywio penderfyniadau wrth ddylunio systemau neu ddiweddaru cymorth
  • y gallant arwain defnyddwyr yn hawdd drwy Borth y Llywodraeth

Cymorth dros y ffôn

Bydd cymorth dros y ffôn ar gael i rieni a darparwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd staff yr ALl yn gofyn iddynt a yw'r ymholiad yn ymwneud â'r Cynnig Gofal Plant neu a yw’n gwestiwn technegol. Yn dilyn diagnosis cychwynnol, bydd yr ymholiad naill ai'n cael ei ateb yn gyflym dros y ffôn neu efallai y bydd angen ymchwilio ymhellach iddo.

Fel y pwynt cymorth cyntaf, bydd staff yr ALl yn parhau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â'r Cynnig Gofal Plant, ac yn darparu canllawiau cam wrth gam lle bo angen.

Bydd staff yr ALl yn cael canllawiau i'w galluogi i ddatrys materion technegol syml, megis ailosod cyfrinair. Fodd bynnag, ar gyfer materion technegol mwy cymhleth, bydd staff yr ALl yn cyfeirio'r mater/cais i dîm cymorth technegol ail linell i’w ddatrys.

Rhoddir Gweithdrefnau Gweithredu Safonol i staff yr ALl eu dilyn, cânt eu hyfforddi'n llawn ar bob elfen o'r gwasanaeth digidol, a bydd deunyddiau cymorth ar gael iddynt i helpu rhieni a darparwyr yn ôl y gofyn.

Bydd staff yr ALl sy'n profi problemau technegol eu hunain yn gallu eu nodi. Caiff manylion y broses ar gofnodi problemau eu darparu i ALlau.

Cymorth wyneb yn wyneb

I'r defnyddwyr hynny sydd heb ddyfais neu gysylltiad â'r rhyngrwyd, bydd cymorth hefyd ar gael wyneb yn wyneb. Os bydd angen help ar rieni i gwblhau eu cais, neu ar ddarparwyr i gyflwyno eu manylion, e.e. oherwydd eu bod wedi'u hallgáu'n ddigidol, yna dylent gysylltu â'u Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu gyswllt arall yn yr ALl am gymorth. Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r rhai na allant yn gorfforol deipio eu gwybodaeth eu hunain i'r gwasanaeth am eu bod yn anabl neu am nad oes ganddynt hyder i ddefnyddio gwasanaethau digidol. Yn yr achosion hyn, bydd ALlau yn eistedd gyda'r defnyddiwr a, lle bo'n bosibl, ei helpu i ddefnyddio'r gwasanaeth digidol ei hun. Bydd angen cymorth wyneb yn wyneb ar rai defnyddwyr mewn gwahanol leoliadau, er enghraifft:

  • swyddfeydd/canolfannau teulu'r ALl
  • efallai y bydd modd i warchodwyr plant gael cymorth yn eu cartref eu hunain
  • efallai y bydd modd i leoliadau gofal plant gael cymorth yn y lleoliad ei hun

Rhaid bod gan y defnyddiwr a'r darparwr cymorth fynediad at yr wybodaeth ar y sgrin.

Yn ddelfrydol, bydd y defnyddiwr yn cael cymorth i deipio ei wybodaeth ei hun yn hytrach na bod staff yr ALl yn gwneud hyn ar ei ran. Diogelwch data yw’r rheswm dros hyn, a hefyd bydd yn helpu'r defnyddiwr i ddatblygu sgiliau digidol a magu hyder. 

Yn achos unrhyw un sy'n anabl neu'n methu’n gorfforol â chwblhau'r cais, byddai angen i'r ALl greu cyfrif defnyddiwr, mewnbynnu data ar gyfer y defnyddiwr a sganio dogfennau i'w lanlwytho ar ran y defnyddiwr.

Ar adegau, efallai y bydd rhiant/darparwr yn gofyn i oedolyn y mae’n ymddiried ynddo i gwblhau’r wybodaeth ar ei ran. Byddai angen i'r rhiant/darparwr fod yn bresennol, gwybod yr holl ddata sydd eu hangen a dod â chopïau papur o ddogfennau i'w lanlwytho.

Byddai'n ofynnol i'r rhai sy'n gallu cwblhau'r cais yn gorfforol ddod â chopïau o'u tystiolaeth ddogfennol i weithle priodol, lle gall swyddog yr ALl eu helpu i lanlwytho'r dogfennau eu hunain.

Byddai angen i'r rhai sy'n gallu mewnbynnu data i’r cais digidol ond sy'n ei chael yn anodd tynnu lluniau, sganio neu lanlwytho tystiolaeth ddogfennol ymweld â swyddfeydd yr ALl fel y gallai staff gynnig arweiniad a chymorth i lanlwytho'r dystiolaeth. Gallai staff llyfrgell hefyd helpu gyda’r sganio a’r uwchlwytho.

Bydd rhywun ar gael i ateb y llinell ffôn gymorth genedlaethol rhwng 8.30 a 5 o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30 a 4.30 ar ddydd Gwener. Os bydd unrhyw rieni yn ffonio’r gwasanaeth cenedlaethol y tu allan i’r oriau hyn, bydd modd iddynt adael neges ar beiriant ateb yn gofyn am i rywun eu ffonio’n ôl er mwyn gallu trafod trefniadau cymorth lleol pellach.

Cymorth i ddefnyddwyr mewn iaith heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg

Mae ALlau mewn sefyllfa ddelfrydol i ddeall anghenion eu cymunedau lleol a darparu gwasanaeth o safon i bawb, beth bynnag eu cefndir demograffig neu gymunedol. Efallai y defnyddir gwasanaethau fel Language Line neu Wasanaeth Cyfieithu Cymru, ac mae gan lawer o ALlau eisoes eu prosesau a’u contractau eu hunain i gynnig gwasanaethau cyfieithu i’w dinasyddion.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyfle i adeiladu ar arferion da a ddilynir gan ALlau sy'n darparu gwybodaeth mewn sawl iaith yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg. Tynnir sylw at yr arfer effeithiol hwn mewn trafodaethau sy’n parhau gyda gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.

Cymorth ychwanegol i ddarparwyr gofal plant

Rydym wedi gweithio'n agos gyda Cymunedau Digidol Cymru i gynnig hyfforddiant cyffredinol i'r sector gofal plant i gefnogi a chynyddu eu hyder digidol. Rhwng Medi 2021 a Medi 2022, mae tua 427 o leoliadau gofal plant wedi cofrestru ar gyfer yr adnodd hwn. Gan weithio gyda Cymunedau Digidol Cymru, byddwn yn ystyried yr angen a’r math o gymorth i’w roi i rieni wrth inni ddechrau hyrwyddo’r gwasanaeth digidol ymhlith rhieni o hydref 2022. Mae diweddaru sgiliau staff rheng flaen ALlau sydd â rôl o ran darparu’r Cynnig Gofal Plant hefyd yn cael ei ystyried er mwyn gallu helpu defnyddwyr yn effeithiol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid drwy ALlau i helpu darparwyr i brynu dyfeisiau digidol neu i osod band eang lle bo angen drwy Grant Cyfalaf Bach y Cynnig Gofal Plant.

Cymorth ychwanegol i rieni

Rhaglen i’w defnyddio ar y we yw gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, ac felly, er mwyn manteisio ar yr ymyriad polisi, bydd angen mynediad at y rhyngrwyd ar rieni ac at ddyfais i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Pan gaiff y gwasanaeth ei gyflwyno, yn hydref 2022, bydd llawer o ddinasyddion Cymru, ac yn ehangach, yn profi pwysau costau byw, a allai arwain at dlodi data, h.y. methu fforddio mynediad at fand eang neu ddata symudol a/neu heb fynediad at ddyfeisiau digidol.

Mae opsiynau wedi’u hystyried ar gyfer ymyriadau pellach i geisio osgoi unrhyw rwystrau i rieni sydd am wneud cais am y Cynnig, sef:

  • creu ffurflenni papur i ddefnyddwyr eu cwblhau a chaniatáu i weinyddwyr awdurdodau lleol fewnbynnu a diwygio ceisiadau a chytundebau rhieni ar y gwasanaeth digidol
  • datblygu opsiwn TG sy’n caniatáu i weinyddwyr awdurdodau lleol fewngofnodi fel y defnyddiwr, a mewnbynnu a diwygio ceisiadau a chytundebau
  • prynu dyfeisiau digidol, bwndeli data a MiFi ar gyfer awdurdodau lleol i’w benthyca i rieni, naill ai’n uniongyrchol, neu drwy eu darparwr gofal plant

Ar hyn o bryd, ni fyddem yn argymell gweithredu’r ymyriadau pellach hyn oherwydd:

  • gall unrhyw riant nad yw’n berchen ar ddyfais neu sy’n dioddef tlodi data ddefnyddio swyddfeydd cynghorau lleol, llyfrgelloedd cyhoeddus neu leoliadau cyhoeddus eraill sy’n cynnig mynediad am ddim at y rhyngrwyd er mwyn manteisio ar y Cynnig. Efallai y bydd rhieni hefyd yn gallu defnyddio dyfeisiau a wi-fi mewn lleoliadau gofal plant, yn enwedig gan fod LlC wedi darparu cyllid tuag at gyfarpar TG lle bo angen;
  • mae mecanweithiau ar waith yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru, os nad pob un, i helpu pobl yn ddigidol ac yn ariannol, a gofynnwn i awdurdodau lleol gyfeirio’r rhieni perthnasol at y rhain;
  • yn hydref 2022 bwriedir cyhoeddi menter gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu map rhyngweithiol o ddarpariaeth band eang sydd ar gael am ddim. Bydd hyn yn helpu unrhyw rieni sydd am ddod o hyd i ddarpariaeth rhyngrwyd am ddim yn eu hardal.

Fodd bynnag, rydym am gadw llygad ar y sefyllfa am chwe mis drwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r awdurdodau lleol. Gallem gomisiynu ymchwil ychwanegol i’r mater hwn hefyd drwy ein gwerthusiadau annibynnol. Byddwn yn ymchwilio ymhellach i brofiadau ein cydweithwyr ym maes addysg o fynediad rhieni at TG yn ystod y pandemig er mwyn cofnodi unrhyw wersi a ddysgwyd.