Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd - yn cyflawni i wireddu’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi ffermwyr i weithredu, gan ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw dros y 3 blynedd nesaf, a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru (ar Busnes Cymru).

Adran A: cyflwyniad

Mae'r Canllawiau hyn yn egluro'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd (FBAS) a'r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth grant.  Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am grant a'ch bod am wneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, darllenwch ‘Sut i Wneud Cais’ yn adran C.

Agorodd y ffenestr Datgan Diddordeb ar 17 Tachwedd 2022 a chaiff proses ddewis ei chynnal bob 4 wythnos i wahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyflwyno cais llawn. Bydd y ffenestr yn parhau ar agor cyhyd ag y bydd cyllideb yn dal ar gael ar gyfer y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd.

Y gyllideb ddangosol a ddyrannwyd oedd £40 miliwn.

Bwriad yr FBAS yw helpu'r busnesau hynny sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Ei nod yw helpu busnesau newydd neu wella perfformiad, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd busnesau sydd eisoes yn bod a’u gwneud yn fwy cystadleuol; eu helpu i ymateb i'r galw ymhlith defnyddwyr; eu hannog i arallgyfeirio; ac adnabod a gwasanaethu marchnadoedd newydd a marchnadoedd cyfredol a manteisio arnynt.

Mae'r FBAS yn talu am fuddsoddi cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith, ynghyd â rhai costau cysylltiedig, ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos bod yna farchnad hyfyw ar gyfer eu cynnyrch, bod ganddynt gynllun credadwy i'w gwerthu i'r farchnad honno, ac na fyddai'r prosiect yn mynd ei flaen heb y grant.  Mae'r cynllun yn un dewisol, a bydd y grant sy'n cael ei gynnig yn berthnasol i amgylchiadau’r unigolyn.

Gellir defnyddio'r grant i wella a datblygu cyfleusterau cynhyrchu a phrosesu, e.e. i godi adeiladau newydd; gwella safle; a phrynu a gosod offer newydd neu ail-law (rhaid cadw at amodau penodol). 

Darllenwch reolau a chanllawiau'r cynllun cyn Datgan Diddordeb.

Os cewch eich dewis, rhaid i chi allu cwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn dyddiad gorffen eich contract neu 31 Mawrth 2025 pa un bynnag ddaw gyntaf. Byddwn yn gwrthod hawliadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn.

Amcanion strategol

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant bwyd a diod sy’n cael ei disgrifio yn ‘Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021'. Mae’n cynnig gweledigaeth o ddiwydiant cryf, bywiog gydag enw da trwy’r byd am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Cenhadaeth y Weledigaeth yw:

  • cynyddu gwerth, cynhyrchiant a maint busnesau
  • bod llwyddiant busnesau’n dod â budd i bobl a chymdeithas; a
  • hyrwyddo Cymru a dathlu ein llwyddiant fel Cenedl Fwyd

Rhaid i bob prosiect sy'n cael ei gefnogi drwy'r FBAS gyfrannu at wireddu’r Weledigaeth a gwneud cyfraniad amlwg.  Bydd y cyfraniad at wireddu’r weledigaeth yn cael ei asesu yn ystod yr arfarniad.  Dyma amcanion penodol y Weledigaeth:

Tyfu: Bob blwyddyn, bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru’n tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.

Cynhyrchiant: Bydd cyfartaledd tair blynedd Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yr awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y DU.

Gwaith Teg: Bob blwyddyn, bydd cyfran gweithwyr y sector sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i gyflawni 80% erbyn 2025.

Achrediad: Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sydd wedi cael eu hachredu (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).

Dyfarniadau: Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y sector sy’n ennill dyfarniadau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwe chynnyrch arall o Gymru yn ymuno â chynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU.

Hylendid: Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.

Er bod y Weledigaeth yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu a phrosesu bwyd, mae'n cyfuno â nifer o strategaethau eraill Llywodraeth Cymru sydd â chysylltiadau â'r gadwyn gyflenwi ehangach: amaethyddiaeth a physgodfeydd, pecynnu, cyfanwerthu, manwerthu — mae'r system yn gysylltiedig.

Hanfod y Weledigaeth yw datblygu busnesau cyfrifol mewn amgylchedd deinamig. Mae’n rhoi pwyslais ar y cymorth busnes a’r gwaith datblygu busnesau sy’n gysylltiedig ag ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sy’n anelu at wneud Cymru’n lle gwell – gan adeiladu economi werddach sy’n seiliedig ar yr egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd a ddisgrifir yn y Contract Economaidd (ar Busnes Cymru) – a’n hymrwymiad i ddatblygu Strategaeth Fwyd Gymunedol i Gymru.

Adran B: pwy sy’n gymwys am FBAS

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych yn:

Fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac sy’n cynnal prosesau cynradd a/neu eilaidd mewn cynnyrch amaethyddol ac anamaethyddol, fel:

  • cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus
  • unig fasnachwyr a phartneriaethau
  • busnesau fferm sy’n prosesu cynnyrch amaethyddol
  • busnesau newydd, gan gynnwys hen fusnesau sy'n dechrau arallgyfeirio a busnesau sydd newydd eu sefydlu
  • cwmnïau dielw, cwmnïau cydweithredol a mudiadau cymunedol, cyhoeddus a gwirfoddol

Rhaid bod gan fusnesau sydd eisoes yn bod sgôr hylendid bwyd o 3 fan leiaf cyn cael gwneud cais.

Yn ogystal, er mwyn cael gwneud cais rhaid eich bod wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Gweithgareddau cymwys

Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymorth ar gyfer buddsoddiadau diriaethol a/neu anniriaethol mewn gweithgareddau prosesu sy'n dod â manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru a'i gadwyni cyflenwi.

Gall ffrwyth y gweithgaredd fod yn unrhyw fath o gynnyrch bwyd a diod i'w fwyta gan bobl; cynhyrchion bwyd anifeiliaid fferm neu anwes; cynhyrchion bwyd swyddogaethol eraill; cynhyrchion maethol-fferyllol; a chynhyrchion nad ydynt yn fwyd megis bio-blastigau.

Parciau Bwyd sy'n darparu unedau cynhyrchu a phrosesu gyda chymorth technegol, masnachol ac academaidd ar gael ar y safle.

Gweithgareddau anghymwys

Mae nifer o fuddsoddiadau a chynhyrchion nad ydynt yn gymwys i gael cymorth:

  • buddsoddiadau ar lefel manwerthu yn unig – sef prynu nwyddau ar gyfer eu hailwerthu neu i'w defnyddio ar gyfer ychwanegu at werth gwasanaeth fel mewn tai bwyta, caffis, safleoedd bwyd cyflym gan gynnwys safleoedd symudol.
    Eithriadau: siopau ar y safle a siopau fferm.
  • buddsoddiadau i brynu eitemau yn lle’r rhai a brynwyd gyda chymorth grant cyhoeddus (yn yr un busnes)
  • buddsoddiadau mewn cludo a/neu ddosbarthu
  • cynnyrch nad oes prawf bod marchnad realistig ar ei gyfer
  • prosiectau'n ymwneud â storfeydd ymyrryd
  • gwella safle a/neu offer i ateb gofynion yn sgil camau gorfodi statudol neu a brynwyd o dan hawliad yswiriant
  • gosod a phrynu paneli solar

Costau cymwys

Gellir defnyddio’r cymorth o dan y cynllun hwn i brynu asedau diriaethol fel tir, adeiladau, peiriannau, a chyfarpar, yn ogystal ag asedau anniriaethol fel meddalwedd gyfrifiadurol, hawliau patent, a thrwyddedau a ffioedd ar gyfer gwasanaethau technegol ac ymgynghori, yn amodol ar gyfyngiadau:

  1. adeiladu, caffael, neu wella eiddo sefydlog, gyda thir ond yn gymwys cyn belled nad yw'n fwy na 10% o gyfanswm costau cymwys y prosiect buddsoddi
  2. prynu peiriannau a chyfarpar newydd hyd at werth yr ased ar y farchnad
  3. costau cyffredinol sy'n gysylltiedig â gwariant pwyntiau (a) a (b), fel ffioedd peiriannydd neu ymgynghorydd, rheoli prosiect, ffioedd cyngor ar gynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd, cyn belled nad ydynt yn fwy na 12% o gyfanswm costau cymwys y prosiect buddsoddi
  4. caffael neu ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol, a chaffael patentau, trwyddedau, hawlfreintiau, nodau masnach.

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • bod yr offer yn bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • ei fod yn ateb y gofyn
  • y disgwylir iddo allu para o leiaf bum mlynedd arall

Costau anghymwys

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad ydynt yn gymwys am gymorth grant.  Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • prynu tir, gan gynnwys treuliau cysylltiedig, lle mae’r costau’n fwy na 10% o gyfanswm y buddsoddiad (h.y. cyfanswm cost y prosiect sydd wedi’i gynnwys yn y cais am gymorth
  • prynu adeiladau sydd wedi’u defnyddio o’r blaen at yr un diben unrhyw waith ffisegol ar y safle a wneir cyn dyddiad dechrau swyddogol y gwaith (os bydd unrhyw waith wedi’i wneud, gellid gwrthod y grant cyfan)
  • gwaith dros dro nad yw’n uniongyrchol gysylltiedig â chynnal y prosiect
  • prynu cerbydau ar gyfer cludiant allanol neu’r tu allan i’r safle (mae wagenni fforch godi, neu’u tebyg, at ddiben cludo a thrafod mewnol yn gymwys)
  • prynu stoc i’w werthu
  • cyfalaf gweithio
  • TAW y gellir ei hawlio yn ôl
  • costau cynnal a chadw
  • eich costau llafur a’ch cyfarpar eich hun
  • cyfnewid peiriannau neu gyfarpar am rai newydd yr un fath,
  • nwyddau traul (eitemau sy’n cael eu dileu o fewn blwyddyn fel arfer)
  • cyfarpar hamdden (er efallai y gallai setiau teledu, taflunyddion ac ati at ddibenion addysgol neu fusnes fod yn gymwys am grant)
  • gwaith tirlunio ac addurno a darparu cyfleusterau hamdden
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol heblaw am ddesgiau, cadeiriau, cyfarpar ffôn, cyfrifiaduron a chyfarpar TG arall, meddalwedd ac offer labordai a darlithfeydd sy’n hanfodol ar gyfer cynnal y prosiect
  • costau refeniw fel cyflogau ar gyfer staff allweddol; hyfforddiant ar gyfer cyfarwyddwyr a staff allweddol; mynychu ffeiriau masnach; treuliau cyfarwyddwyr allanol
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract lesio fel elw’r lesydd, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant
  • costau trefnu gorddrafft, benthyciadau neu gyfleusterau cymorth ariannol eraill, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu daliadau eraill
  • gorbenion ar gyfraddau lawer uwch na’r rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith tebyg a wneir gan yr ymgeisydd
  • gwariant tybiannol
  • talu am weithgarwch o natur wleidyddol
  • dibrisiant, amorteiddio ac amhariad asedau a brynwyd gyda chymorth grant
  • rhwymedigaethau digwyddiadol
  • hapddigwyddiadau / darpariaethau
  • elw a wneir gan yr ymgeisydd
  • difidendau
  • cyfraddau llog
  • taliadau gwasanaeth am lesio, hurbwrcasu a threfnu credyd
  • costau sy’n deillio o ohirio talu credydwyr
  • costau sy’n ymwneud â dirwyn cwmni i ben
  • taliadau am ddiswyddo annheg
  • taliadau i gynlluniau pensiwn preifat
  • taliadau ar gyfer pensiynau heb eu cyllido
  • iawndal am golli swydd
  • iawndal a delir i drydydd partïon am ddifeddiant, cnydau heb eu cynaeafu ac ati
  • drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain
  • talu am anrhegion a rhoddion
  • adloniant
  • dirwyon a chosbau statudol
  • trethi statudol (ac eithrio trethi na ellir eu hawlio yn ôl)
  • dirwyon ac iawndal troseddol
  • treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha

Rhaid i gostau sy’n gysylltiedig â phrynu a/neu adnewyddu a/neu addasu unrhyw adeilad fod yn gymesur â maint, natur a bwriad y prosiect. Prif ffocws y grant fydd cynhyrchu a phrosesu cynhyrchion a chynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac felly ni ellir ei ddefnyddio at ddiben caffael asedau cyfalaf nad ydynt yn hanfodol ar gyfer cynnal y gweithgaredd arfaethedig.

Er mwyn cael grant ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â phrynu cyfarpar (newydd a/neu ail law), rhaid bod yr hawliwr wedi talu’r costau hynny.  Hynny yw, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar sy’n cael ei brynu trwy hurbwrcas neu brydles neu drefniant ariannol arall yn gymwys am gymorth grant.  O dan amgylchiadau penodol, gall elfen gyfalaf taliadau misol fod yn gymwys am gyfnod penodol, ond bydd rheolau eraill yn gymwys.

Cyfradd a throthwy uchaf y grant

Y grant fydd cyfraniad y sector cyhoeddus at y prosiect buddsoddi, a gall hynny gynnwys: arian oddi wrth Lywodraeth Cymru; arian oddi wrth adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol ac awdurdodau lleol; arian oddi wrth gyrff a reolir gan y llywodraeth fel y Gwasanaeth Busnesau Bach a'r Loteri Genedlaethol; ac arian oddi wrth ardollau.

Os ceir arian o ffynonellau cyhoeddus eraill i gefnogi costau’r prosiect, tynnir swm cyfwerth o’r grant Sbarduno Busnesau Bwyd.

Y grant mwyaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £5,000,000.

Y grant lleiaf a roddir fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £20,000.

FBAS llawn – y grant mwyaf y gellir gwneud cais amdano yw £5,000,000

Mae’r cyfraddau grant uchaf fel a ganlyn:

40% o gyfanswm y gost buddsoddi

Mae'r grant yn darparu hyd at 40% o gyfraniad tuag at fuddsoddiad cyfalaf (ac eithrio TAW) ar sail costau gwirioneddol wedi’u hanfonebu.

Er enghraifft, os cynigir grant i chi i brynu peiriant gwneud selsig gwerth £60,000, y grant mwyaf y gallwch ei gael yw £24,000.

Os bydd cost cwblhau’r buddsoddiad yn fwy na £60,000, ni chaiff y grant fynd yn uwch na’r gost wreiddiol a nodwyd yn y cais h.y. 40% neu £24,000.

Os bydd cost cwblhau'r buddsoddiad yn llai na'r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais e.e. £58,000, bydd y grant y gallwch ei hawlio yn gostwng i £23,200 (40% o'r gwariant gwirioneddol).

Efallai y bydd cyfanswm cost y prosiect y byddwch yn ei gynnwys yn eich cais yn uwch na'r grant mwyaf a ganiateir. Fodd bynnag, os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, bydd cap yn cael ei roi ar yr hawliad/au cysylltiedig ac ni ddyfernir mwy na’r uchafswm o £5,000,000.

Dewis prosiectau llwyddiannus

Bydd y broses Datgan Diddordeb a dewis gychwynnol yn cadarnhau eich bod wedi bodloni’r meini prawf sylfaenol. Os bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn am gyllid grant o dan y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd. Sylwer nad yw’r ffaith bod eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus yn gwarantu y bydd cyllid grant yn cael ei ddyfarnu.

Prif ofynion

Wrth ichi gyflwyno ceisiadau llawn, rhaid dangos hefyd eich bod wedi rhoi sylw i’r materion hyn:

  • eich bod wedi cael caniatâd cynllunio, lle bo’i angen
  • eich bod wedi cael yr holl gydsyniadau, trwyddedau a mathau eraill o ganiatâd, lle bo’u hangen
  • ar gyfer busnesau sydd eisoes yn bod, rhaid dangos bod y prosiect a'r busnes yn hyfyw yn economaidd, drwy ddarparu cyfrifon ar gyfer 3 blynedd yn olynol yn union cyn dyddiad y cais, a'r rhagolygon ariannol ar gyfer cyfnod y prosiect

Bydd gofyn i fusnesau newydd ddarparu manylion llawn am gefndir a phrofiadau'r cyfarwyddwyr ynghyd â thystiolaeth arall sydd ei hangen er mwyn dilysu'r cynllun busnes a chynigion y prosiect a dangos sut y bwriedir cyflawni’r canlynol:

  • ni ddylai'r prosiect ddisodli unrhyw weithgaredd busnes arall.
  • dylai prosiectau hyrwyddo ac annog cyfleoedd cyfartal a mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol
  • rhaid recriwtio staff allweddol drwy gystadleuaeth deg ac agored
  • cydymffurfio â’r safonau gofynnol a’r gofynion deddfwriaethol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a safonau iechyd a diogelwch (gan gynnwys cael cymeradwyaeth y Gwasanaeth Hylendid Cig a'r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd lleol)
  • sicrhau bod gan y busnes y sgiliau a'r cymwyseddau technegol angenrheidiol
  • ennill neu ragori ar y sgôr 'Ardderchog' o dan fframwaith asesu amgylcheddol BREEAM, neu fodloni safonau cyfwerth lle bo angen
  • anelu at sicrhau bod pob adeilad newydd yn garbon sero o fan allyriadau

Rhaid cwblhau’r prosiect a hawlio'r grant erbyn dyddiad cwblhau’r contract neu 31 Mawrth 2025 pa un bynnag ddaw gyntaf. Ni fydd hawliadau a fydd yn cyrraedd ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael eu hystyried ac ni fyddant yn cael eu talu.

Rhaid i’r prosiect gynnig manteision uniongyrchol neu anuniongyrchol i gynhyrchwyr cynradd yn y sector amaethyddiaeth neu gynnig manteision clir a mesuradwy i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mae marchnad arferol (hyfyw) ar gyfer cynnyrch/cynhyrchion y prosiect.

Ni fyddai’r prosiect yn mynd rhagddo heb gymorth grant.

Swm y grant y gofynnir amdano yw’r lleiaf sydd ei angen i lenwi’r bwlch cyllid i’r prosiect allu mynd yn ei flaen.

Dim ond un grant FBAS sy’n cael ei gynnig ichi ar y tro.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler Adran E am ragor o fanylion.

Sicrhewch fod yr holl fuddsoddiadau mewn seilwaith wedi'u cwblhau a bob pob eitem rydych wedi’i phrynu ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Cymorth gwladwriaethol

Sefydliad masnach y byd a rheoli cymorthdaliadau

Ystyrir bod y cymorthdaliadau a roddir o dan y cynllun hwn yn daliadau sy’n dod o dan y Pwyllgor Cymorthdaliadau a Mesurau Cyfosod.

Am hynny, caiff y cynllun gan gynnwys dyfarniadau unigol sydd werth rhagor na £100,00 ei hysbysu o dan drefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Contract economaidd Llywodreath Cymru

Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus gofrestru ar gyfer Contract economaidd Llywodraeth Cymru (ar Busnes Cymru) cyn y gellir cynnig grant iddo.

Adran C: gwneud cais am FBAS

RPW Ar-lein

Bydd gofyn i bob ymgeisydd fod wedi cofrestru ar RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau oherwydd caiff y gwahoddiad i gyflwyno Ceisiadau Llawn ei roi ar RPW Ar-lein.

Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun i Iau 8:30am i 5.00pm, Gwener 8:30am i 4.30pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r cais am y Grant Sbarduno Busnesau Bwyd ar gael yn yr adran "Ceisiadau a Hawliadau". 

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW. Os nad yw wedi gwneud eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch y canllaw ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch ragor o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y broses ymgeisio

Rhennir y broses ymgeisio ar gyfer yr FBAS yn ddau gam.

Y cam cyntaf yw Datgan Diddordeb (EoI). Gallwch wneud hynny unrhyw bryd o fewn amserlen y cynllun neu nes bod y gyllideb gyfan wedi’i defnyddio.

Bydd proses ddewis yn cael ei chynnal bob 4 wythnos. Os dewisir eich Datganiad o Ddiddordeb, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno cais llawn, a fydd ar gael i chi ar RPW Ar-lein. Bydd angen lanlwytho’r holl ddogfennau ategol hefyd drwy eich cyfrif RPW ar-lein.

Bydd ail gam y broses yn gwerthuso’ch cais llawn. Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bydd yr holl ddogfennau ategol wedi cyrraedd. Os daw’r dogfennau atodol i law wedi’r dyddiad cau, mae’n bosibl y caiff y cais ei wrthod.

Dylai ymgeiswyr sy'n ystyried cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ystyried a pharatoi cynllun busnes ar gyfer eu cais llawn, rhag ofn y caiff ei ddewis.

Cwblhau Datganiad o Ddiddordeb

Mae ffurflenni Datgan Diddordeb ar gael ar Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd. 

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Rhaid cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb trwy Flwch Postio FBAS: FBAS@llyw.cymru.

Tynnu Datganiad o Ddiddordeb yn ôl

Gallwch dynnu’ch Datganiad o Ddiddordeb yn ôl unrhyw bryd cyn iddo gael ei sgorio a’i ddewis trwy e-bostio blwch post FBAS a gofyn. Os byddwch yn ei dynnu’n ôl ar ôl iddo gael ei ddewis, mae’n bosib na chewch wneud cais am FBAS yn y dyfodol.

Sgorio a dewis

Bydd disgwyl i bob prosiect wireddu’r uchelgeisiau a ddisgrifir yng Ngweledigaeth y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021, 'Adeiladu ar Lwyddiant'.

‘Creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru sydd ag enw da ym mhedwar ban byd am ragoriaeth, ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.’

I gael ei ddewis, mae’n rhaid i brosiect, yn ôl yr angen, ddangos:

Bod angen y gweithgarwch:

  • bod angen yr allbynnau a byddant yn cyflawni amcanion y cynllun

Bod angen y cyllid:

  • ni all fynd rhagddo heb gymorth

Y gallu i gyflawni:

  • bod y busnes yn hyfyw
  • ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith
  • ei fod yn gallu cyflawni’r prosiect o fewn amserlenni'r cynllun

Po fwyaf yw pwysigrwydd a chyfraniad y prosiect buddsoddi at amcanion strategol priodol y Weledigaeth ar gyfer Bwyd a Diod, y mwyaf tebygol ydyw o gael ei argymell ar gyfer ei ddewis.

Bydd y Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei sgorio ar sail y meini prawf sy'n cyfrannu at lwyddiant y Weledigaeth.

Twf

Yr amcan yn ein Gweledigaeth yw y bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru yn tyfu, yn ôl cyfran, yn fwy na gweddill y DU bob blwyddyn, gan gyrraedd o leiaf £8.5 biliwn erbyn 2025.

Cynaliadwyedd

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn hyrwyddo cyrraedd y lefelau uchaf o gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol.

Arloesi

Rhaid i ddiwydiant  blaengar sy’n economaidd fyrlymus fod yn arloesol i gipio marchnadoedd a symud yn ei flaen.

Gwaith Teg, Datblygu Sgiliau a Llwybrau Gyrfa

Rydym yn rhoi rôl ganolog i’r diwydiant bwyd a diod i greu Cymru ffyniannus a chryf, o dan arweiniad deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae Gwaith Teg yn golygu trin pob gweithiwr yn deg a chyda pharch. Mae'n cynnwys cyflog teg, cydraddoldeb, iechyd a diogelwch, a datblygu sgiliau

Sgorio

Bydd gofyn i Ddatganiad o Ddiddordeb sicrhau o leiaf sgôr Ganolig er mwyn cael mynd ymlaen i gam y Cais Llawn.

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani ac wedi dangos ychydig iawn o risg
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani ac wedi dangos bod lefel y risg yn isel
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani ac wedi dangos bod lefel y risg yn annerbyniol

Mae tri chanlyniad posibl i’r cam Datgan Diddordeb:

  1. nid yw’ch prosiect yn gymwys yn ôl meini prawf y cynllun
  2. nid yw’ch cais wedi cyrraedd y sgôr trothwy ar gyfer cael ei ddewis i fynd ymlaen i gam y cais llawn
  3. mae eich cais yn llwyddiannus yn y cam Datgan Diddordeb a rhoddir gwahoddiad i gyflwyno cais llawn

Os nad yw eich cais yn bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, byddwn yn eich e-bostio i roi gwybod i chi.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn 6 wythnos ar eich cyfrif RPW Ar-lein os bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus.

Bydd un o Reolwyr Achos Llywodraeth Cymru yn cael gwybod os bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwyddiannus a bydd yn trafod eich cynnig gyda chi.

Bydd eich cynnig yn cael ei asesu yn ôl meini prawf a fydd yn dangos gwerth disgwyliedig eich buddsoddiad neu'r prosiect a'r cyfraniad y disgwylir iddo ei gael at amcanion y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd.

Bydd rhanddeiliaid allweddol yn gweithio gyda chi os yw’ch prosiect yn gymwys er mwyn datblygu cynnig llawn a chadarn gydag achos busnes cryf. Bydd y prosiectau’n cael eu rhoi yn eu trefn yn unol â nodau'r cynllun.

Datganiad o Ddiddordeb a ddewiswyd: cadarnhau eich bod yn derbyn

Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, rhoddir gwybod i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i chi dderbyn neu wrthod y cynnig trwy lenwi’r Atodiad i’r Cais fydd wedi’i gynnwys yn eich llythyr hysbysu a’i anfon at Lywodraeth Cymru trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad fydd wedi’i nodi ar eich llythyr. Bydd y cais llawn ar gael i chi pan fydd y llythyr dewis yn cael ei anfon atoch.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr i ddweud eich bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni ddylech ddechrau unrhyw waith nes i chi gael Llythyr Cynnig Grant trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Bydd unrhyw brosiectau sy’n torri’r rheol hon yn cael eu gwrthod.

Os na fyddwch wedi cadarnhau’ch bod yn derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad ar y llythyr, ni chaiff eich Datganiad o Ddiddordeb fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl ac ni fydd y cais llawn ar gael i chi ei lenwi.

Datganiad o Ddiddordeb a ddewiswyd: cyflwyno cais llawn

Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd y cais llawn yn ymddangos ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i geisiadau llawn fod yn gyson â’r cynnig a ddisgrifir yn y Datganiad o Ddiddordeb gafodd ei gymeradwyo.

Rhoddir 12 wythnos i chi gyflwyno eich cais llawn a’r dogfennau ategol trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Mae'r llyfryn Sut i Lenwi yn esbonio’n fanwl sut i wneud hyn.

Yn y cais llawn, bydd ymgeiswyr yn gorfod ateb cwestiynau am:

  • y ffit strategol
  • addasrwydd y buddsoddiad
  • cyflawni’r prosiect
  • risg a rheoli risg
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • gwerth am arian
  • rheoli prosiectau
  • ariannol a chydymffurfiaeth

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a Phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Bydd y cais yn gofyn ichi hefyd ddewis y dangosyddion a'r canlyniadau mwyaf perthnasol a fydd yn cael eu cyflawni o ganlyniad i'r buddsoddiad. Bydd angen monitro’r dangosyddion a'r canlyniadau, ac efallai y bydd gofyn ichi ddarparu gwybodaeth a fydd yn cadarnhau lefel y dangosyddion yr ydych yn ei chyflawni ar yr adeg y byddwch yn gwneud y cais, yn ogystal â chadarnhau'r lefel a fydd wedi’i chyflawni ddwy flynedd ar ôl i’ch contract ddod i ben. Mae rhestr o'r dangosyddion a'r canlyniadau i’w gweld yn y tabl isod. Bydd gofyn ichi ddewis o leiaf un dangosydd o bob categori. Os yw’r busnes eisoes wedi cyflawni gofynion unrhyw ddangosydd, dylid ystyried y dangosydd hwnnw yn anghymwys at ddibenion y prosiect ac ni ddylid ei ddewis (e.e. os yw eich Sgôr Hylendid Bwyd presennol yn 5 ni ddylech ddewis y dangosydd hwnnw).

Twf a Chynhyrchiant

  • Twf – Cynnydd yng  ngwerth y Trosiant
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol.  
    Bydd angen ichi ddarparu copi o'ch cyfrifon neu lythyr oddi wrth eich cyfrifydd yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran trosiant.  
     
  • Cynhyrchiant -  Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr sy’n cael ei weithio
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd angen gofyn am wybodaeth ychwanegol yn ystod y broses arfarnu.
    Byddwn yn gofyn ichi i gwblhau cyfrifiannell GVA a/neu ddarparu unrhyw ddogfennau ategol sydd eu hangen.

Gwaith Teg a Lleihau Carbon

  • Gwaith Teg – Nifer y gweithwyr sy’n cael o leiaf y Cyflog Byw Cymru
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. 
    Gall y dystiolaeth i gadarnhau hyn gynnwys slipiau cyflog neu lythyr oddi wrth eich cyfrifydd yn cadarnhau nifer y gweithwyr sy'n cael Cyflog Byw Cymru.
     
  • Lleihau carbon
    Yn ogystal â darparu'r wybodaeth yn y cais, bydd gofyn ichi gynnal asesiad carbon annibynnol i bennu ôl troed carbon y busnes ymhen 3 mis i’r dyddiad y bydd eich contract yn dechrau.
    Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth i gadarnhau eich ôl troed carbon ymhen dwy flynedd i’r dyddiad y bydd eich contract yn dod i ben.  Bydd gofyn ichi lunio adroddiad annibynnol yn cadarnhau eich ôl troed carbon.

Marchnadoedd Newydd a Busnesau Fferm

  • Nifer y Marchnadoedd Newydd a Gyrhaeddwyd
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. 
    Bydd angen ichi ddarparu enwau a chyfeiriadau'r sefydliadau y byddwch wedi’u cyrraedd yn y farchnad newydd.  Bydd angen tystiolaeth hefyd a fydd yn cadarnhau eich bod yn gwerthu i'r marchnadoedd hynny e.e. archebion neu anfonebau gwerthu.
     
  • Nifer y busnesau Fferm a gefnogwyd
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. 
    Bydd angen ichi ddarparu enwau a chyfeiriadau'r ffermydd a fydd wedi’u cefnogi. Bydd angen tystiolaeth hefyd a fydd yn cadarnhau eich bod wedi prynu oddi wrth y ffermydd hynny e.e. anfonebau.

Achrediadau Newydd, Dyfarniadau Newydd a’r Cynllun Hylendid Bwyd 

  • Nifer yr Achrediadau Newydd
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. 
    Bydd angen darparu tystiolaeth am yr achrediadau y byddwch wedi gwneud cais amdanynt neu a fydd wedi’u dyfarnu ichi e.e. ceisiadau neu dystysgrifau.
     
  • Nifer y Dyfarniadau Newydd
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. 
    Bydd angen darparu tystiolaeth am y dyfarniadau y byddwch wedi gwneud cais amdanynt neu a fydd wedi’u dyfarnu  ichi e.e. ceisiadau neu dystysgrifau.
     
  • Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
    Bydd y dystiolaeth sylfaenol yn cael ei chymryd o'r wybodaeth a ddarperir yn y cais a'r dogfennau ategol. 
    Bydd gwiriadau ar-lein yn cael eu cynnal ddwy flynedd ar ôl i’r contract ddod i ben.

Yn ogystal â chwblhau'r cais llawn ar-lein, bydd angen i chi gyflwyno'r dogfennau ategol canlynol ar-lein o fewn 12 wythnos ar ôl ichi gael gwybod eich bod wedi’ch dewis er mwyn i Lywodraeth Cymru allu eu gwerthuso:

  • cynllun busnes 3 mlynedd
  • 3 blynedd o Gyfrifon Ardystiedig
  • 3 Dyfynbris ar gyfer pob eitem buddsoddi sydd werth £5,000 neu fwy ac 1 dyfynbris ar gyfer eitemau o dan £5,000
  • tystiolaeth bod arian ar gael gennych
  • caniatâd Cynllunio os oes angen ac unrhyw gymeradwyaeth/cydsyniad arall
  • tystiolaeth/dilysu annibynnol gan randdeiliaid allweddol i gefnogi datganiadau a wnaed o dan ‘Addasrwydd y Buddsoddiad’.  Mae hyn yn cynnwys adroddiad cyllid a thechnegol

Os na ddarperir unrhyw ran o’r wybodaeth uchod o fewn y cyfnod o 12 wythnos, gallai hynny olygu y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Cynllun busnes

Dylai'r cynllun busnes roi manylion llawn y busnes. Dylai’r cynllun busnes bara o leiaf am y 3 blynedd nesaf a chynnwys y canlynol:

  • manylion y busnes
  • crynodeb gweithredol
  • prif ragdybiaethau
  • dadansoddiad o'r farchnad – cyfleoedd a bygythiadau
  • dadansoddiad o’r busnes – cryfderau a gwendidau
  • ffactorau llwyddiant critigol
  • strategaeth fasnachol
  • strategaeth gweithrediadau
  • cynllun gweithgareddau
  • cynlluniau ariannol
  • rheoli risg
  • parodrwydd sefydliadol
  • dadleoli

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod y cais a’r HOLL ddogfennau ategol yn dod i law Llywodraeth Cymru. Gallwch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Gallwch ddefnyddio ymgynghorydd i baratoi’ch cais os dymunwch, ond eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i gwblhau’n gywir a bod yr wybodaeth a ddarperir i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Os bydd unrhyw un yn gwneud datganiad ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu'n ddi-hid er mwyn cael grant o dan y FBAS, bydd hynny’n golygu y bydd ei gais yn cael ei wrthod, y bydd unrhyw daliadau a wnaed yn cael eu hadennill, ac y gellir ei erlyn.   

Arfarnu'r cais llawn

Bydd y cais llawn yn cael ei werthuso yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes unrhyw gwarant y bydd cynnig sy’n amlinellu prosiect yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant.

Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn  90 diwrnod ar ôl y diwrnod cau ar gyfer cyflwyno cais. Os byddwch yn hir yn ateb cais am ragor o wybodaeth, gwrthodir eich cais.

Bydd yr wybodaeth a gawn gennych yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi’r grant neu wrthod y cais:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

Sgôr Canolig yw’r trothwy ansawdd ym mhob un o’r categorïau.

Sylwer: rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau'n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani gyda'r cais.

Ar ôl cwblhau'r arfarniad, bydd y cais a chanfyddiadau’r arfarniad yn cael eu hasesu gan banel sy'n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru. Gwneir hynny er mwyn sicrhau bod y prosiect yn cyflawni amcanion y cynllun ac yn rhoi gwerth am arian. 

Canlyniad yr arfarniad a chynnig contract

Mae tri chanlyniad posibl ar ôl i’r cais llawn gael ai arfarnu:

  1. Nid yw’ch prosiect yn gymwys i gael grant.  Byddwn yn rhoi gwybod ichi drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein y rhesymau pam nad yw’ch cais wedi bod yn llwyddiannus.
  2. Mae’ch prosiect yn gymwys i gael ei ystyried, ond nid yw’n cael ei gymeradwyo ar gyfer y grant. Cewch wybod y rhesymau pam na fu’ch cais yn llwyddiannus.  Gallwch ymgeisio eto gyda’r un prosiect (gan newid y cais os dymunwch) cyn belled nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  3. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant.  Bydd contract yn cael ei gyflwyno i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein a fydd yn nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod y contract a gynigir i chi o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Caiff manylion llawn ynghylch pryd y bydd yn rhaid ichi dderbyn y contract a phryd y bydd yn rhaid ichi brynu'r eitemau a hawlio amdanynt eu nodi yn eich contract.

Os ydych yn derbyn y contract a gynigir ichi, bydd gofyn ichi hefyd gwblhau proffil cyflawni i gadarnhau pryd y byddwch yn gwneud eich hawliadau, a gwerth yr hawliadau hynny.

Ar ôl ichi gael eich dewis, os byddwch yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'ch contract neu os na fyddwch wedi cadarnhau’ch bod yn derbyn y cynnig o fewn yr amser a ganiateir, ni chewch wneud cais am FBAS yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu gadael y contract cyn cwblhau'r gwaith neu os nad ydych yn cwblhau'r holl waith a gymeradwywyd yn eich contract, efallai na fyddwch yn cael gwneud cais o dan y FBAS yn y dyfodol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Dechrau ar y gwaith

Peidiwch â dechrau ar y gwaith tan y bydd y contract wedi cael ei gynnig i chi. Os byddwch yn dechrau ar y gwaith cyn hynny, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrthod y gwaith sydd wedi’i wneud neu’n diddymu’r contract ac yn gofyn am unrhyw daliadau sydd wedi’u gwneud yn ôl.

Adran D: amodau’r grant

Daw’r FBAS o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r grant Sbarduno Busnesau Bwyd cael ei gynnig yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Bydd y contract yn dechrau o'r dyddiad y rhoddir y contract. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r grant arwain at ganslo’r grant a/neu at adennill yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi, neu leihau swm y grant sydd i’w dalu i chi.

Yr amodau:

Rhaid derbyn neu wrthod y contract a gynigir i chi o fewn 30 diwrnod ar ôl ei gynnig.

Mae’r grant yn cael ei gynnig ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth ddilynol. Bod y manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Peidiwch â dechrau gweithio ar y prosiect nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.

Byddwch wedi prynu'r offer ac wedi hawlio trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn y contract a gynigir. Os na fyddwch wedi hawlio erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru o bosibl ddiweddaru’r rheolau a’r amodau yng ngoleuni newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol o dan gyfraith y DU, megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Ni chaniateir newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Ni chaniateir gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw offer a/neu adeiladau a brynir gyda chymorth grant heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, yn ystod cyfnod cyflawni’r prosiect nac am bum mlynedd wedi dyddiad gorffen y prosiect.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ynghylch gwariant cymwys, yn unol â’r Nodyn perthnasol yng Nghanllawiau’r Cynllun.

Rhaid cyflwyno hawliadau ar ffurflen Hawlio Contract RPW Ar-lein yn y fformat cywir a chyda’r holl ddogfennau eraill sy’n angenrheidiol o dan y cynllun. 

Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni.  Ni chewch newid yr amseriad y cytunwyd arno na gwerth eich hawliadau heb gael cytundeb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid cyflwyno'r cais cyntaf ddim hwyrach na phedwar mis o ddyddiad dechrau'r contract 

Os nad yw’r hawliad cyntaf yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu’n awtomatig.

RHAID cwblhau’r prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru.  Ni chewch newid hyn heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru. Ni fydd hawliadau’n sy’n cyrraedd ar ôl 31 Mawrth 2025 yn cael eu talu.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rhaid i chi ymrwymo i fodloni, yn ôl yr angen, unrhyw rwymedigaethau o ran cael caniatâd cynllunio

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Deyrnas Unedig neu eraill). Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at gyfraniad Llywodraeth Cymru at ei ariannu.

Mae’n rhaid cadw cofnodion ynghylch gweithgaredd y busnes a chynnal y prosiect, gan gynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau eraill perthnasol megis tendrau cystadleuol neu ddyfynbrisiau, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect fel y'i nodir yn y contract.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect.  Pan ofynnir ichi, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld dogfennau gwreiddiol am y prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Dylech fod yn ymwybodol, os byddwch yn llwyddiannus, fod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu gwmni, swm y grant a roddwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Daw'r wybodaeth yn y datganiad o ddiddordeb a’r cais llawn o dan yr Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran E: caffael a thendro cystadleuol

Rhaid i chi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Canllawiau Technegol ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol trwy’r canlynol:

Adran F: talidau

Hawliadau

Er mwyn cael yr FBAS, rhaid ei hawlio gan ddefnyddio’r ffurflen Hawlio Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Cewch wneud hawliadau interim yn ystod eich prosiect. Mae’r Llawlyfr Sut i Lenwi Ffurflen Hawlio Contract yn esbonio sut i hawlio a chaiff ei roi i chi ar ôl cadarnhau’r grant a bod yr hawliad ar gael i chi.

Ni chewch eich talu nes bydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Rhaid cyflwyno'r cais cyntaf ddim hwyrach na phedwar mis o ddyddiad dechrau'r contract. Os nad yw’r hawliad cyntaf yn cael ei wneud o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu’n awtomatig.

Dylid cyflwyno hawliadau terfynol ar gyfer talu grant cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r gwaith ffisegol ar y prosiect, a ddim hwyrach na dyddiad diwedd y contract.  Rhaid i bob hawliad terfynol ein cyrraedd ddim hwyrach na 31 Mawrth 2025.

Ni roddir estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad terfynol ar ôl 31 Mawrth 2025.

Gall peidio â chwblhau'r prosiect a chyflwyno'r hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau uchod arwain at adennill y grant a dalwyd hyd yma.

RHAID cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru.  Ni chewch ei newid heb gytundeb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod oes y grant, pan fydd hawliadau’n cael eu cyflwyno, efallai y byddant yn cael eu harchwilio i sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn unol â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. 

Dogfennau ategol i’w cyflwyno wrth hawlio

I gael taliad FBAS, rhaid bodloni’r canlynol:

  • byddwch wedi derbyn y cynnig o gontract FBAS o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a byddwch yn cadw at yr holl ofynion
  • ni fyddwch wedi cynnal unrhyw fuddsoddiadau heblaw am y rheini a restrir yn eich contract ar ôl i chi gael cynnig contract
  • byddwch erbyn diwedd eich contract, wedi cwblhau'r prosiect fel y nodwyd yn eich cais a'i bydd wedi cael ei gymeradwyo
  • bydd yr holl fuddsoddiadau wedi’u cynnal yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru
  • bydd yr holl eitemau a brynwyd ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad
  • cyflwynwch yr hawliad gan ddefnyddio ffurflen Hawlio'r Contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein ar ôl rhoi’ch contract i chi, erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn eich contract, gyda'r holl ddogfennau ategol

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai ei fod wedi'i gyflwyno drwy ffurflen Hawlio Contract RPW Ar-lein gyda'r holl ddogfennau ategol.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir caniatáu cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio a rhaid ei wneud yn ysgrifenedig gydag esboniad drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio. Ond, ni roddir unrhyw estyniadau ar ôl 31 Mawrth 2025.

Dogfennau ategol i’w cyflwyno wrth hawlio

Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol gyda phob hawliad:

  • tystiolaeth bod y gwariant ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad wedi cael ei wneud
  • anfonebau ar gyfer eitemau sy'n cael eu hawlio

Os na fyddwch wedi darparu tystiolaeth, gwrthodir yr hawliad.

Rhaid rhoi’r gair ‘anfoneb’ yn glir ar anfonebau a chynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw a chyfeiriad eich cwmni a manylion y cyswllt
  • enw a chyfeiriad y cwmni anfonebu a manylion cyswllt
  • disgrifiad clir o'r hyn yr ydych yn talu amdano
  • dyddiad darparu'r nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm(au) sy'n cael ei godi
  • y TAW, os yw'n gymwys
  • y cyfanswm sy'n ddyledus

Dylid ddarparu tystiolaeth am daliadau drwy gyflwyno cyfriflenni banc. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyd-fynd â gwerth yr anfoneb (er enghraifft os ydych wedi prynu eitemau nad ydynt yn rhan o’r prosiect oddi wrth yr un cyflenwr) bydd angen ichi esbonio’r taliad cyfan gydag anfonebau ategol.

Os ydych yn talu â siec, yna bydd angen sganio neu ffotograffio'r siec ysgrifenedig, cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, ynghyd â'r gyfriflen banc.

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob hawliad sy’n cael ei gyflwyno yn rhifyddol gywir; ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn brydlon.

Mae’n rhaid i’r holl fuddsoddiadau a gymeradwywyd fod wedi eu cynnal ar ôl derbyn y contract.

Byddwch wedi cam-hawlio os:

  • yw’r buddsoddiadau wedi’u gwneud cyn i’r contract gael ei dderbyn.
  • erbyn diwedd eich contract, nid ydych wedi cwblhau'r prosiect fel y cafodd ei gymeradwyo.
  • nad ydych wedi cyflwyno hawliad na dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • nad yw pob un o'r buddsoddiadau a hawlir yn bresennol yn ystod ymweliad â'ch safle.
  • nad yw’r buddsoddiadau wedi’u gwneud yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys. Bydd y grant sydd i’w dalu yn cael ei gyfrif yn unol â hynny. Fodd bynnag, os gwelir bod yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys, tynnir swm sy'n cyfateb i werth yr eitemau anghymwys o'ch taliad.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn eich bod yn talu amdano.

Os gwelwn nad yw eitemau a brynwyd yn bodloni'r gofynion uchod, bydd taliadau'n cael eu lleihau i werth yr eitemau a brynwyd yn unol â’r gofynion.

Er enghraifft:

Mae cwsmer yn hawlio’r eitemau FBAS canlynol, sy’n werth cyfanswm o £49,000, mewn un hawliad.

Eitem FBAS Gwerth y grant
System TG awtomatig

£3,000

Offer gwneud selsig

£33,000

Beltiau cludo

£6,000

Cyfanswm

£49,000

Enghraifft 1: prynwyd yr eitem gwerth £3,000 cyn ei chymeradwyo felly mae’r eitem anghymwys yn werth llai na 10% o'r costau cymwys (£46,000) felly cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £46,000.

Enghraifft 2: Nid oedd y beltiau cludo gwerth £6,000 ar gael i'w harchwilio, mae hyn yn gwneud £6,000 yn anghymwys. Tynnir yr eitem anghymwys o'r hawliad gwreiddiol o £49,000 gan adael hawliad cymwys o £42,000. Gan fod gwerth yr eitem anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys (£42,000), mae swm sy'n cyfateb i werth yr eitem anghymwys neu £6,000 hefyd yn cael ei dynnu o'r swm sy'n weddill. Cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £36,000.

Os na fyddwch yn cynnal y buddsoddiadau yn unol â gofynion Tendro Cystadleuol a Chaffael Llywodraeth Cymru gellir cosbi’ch hawliad.

Newidiadau i brosiect a gymeradwywyd

Mae Newid Prosiect (Ail-werthuso) yn golygu’r broses o gytuno ar newidiadau arwyddocaol i brosiect sydd wedi’i gymeradwyo. Os bydd y prosiect y byddwch yn ei gynnal yn wahanol i'r hyn y cytunwyd arno, mae angen i chi ofyn am ail-werthusiad a gofyn am gymeradwyaeth i’r newidiadau.

Os newidir y prosiect, rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i’r newid. Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni bod angen newid eich prosiect, byddwn yn esbonio wrthych sut y byddwn yn trin y newidiadau. Byddwn yn rhoi Canllawiau Ail-werthuso i chi gyda'ch contract.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd.  Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran G: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau i ddeddfwriaeth (gan gynnwys newidiadau o ran dehongli)

Mae’n bosibl y bydd deddfwriaeth yn newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i reolau neu gontract y cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi os oes angen

Adran H: mesurau rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau Rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun FBAS.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os byddwch yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes am 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r contract.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r eitemau sydd wedi’u prynu o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Yn ystod oes y grant, wrth ichi gyflwyno hawliadau, efallai y gwnawn ni eu harchwilio i sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn unol â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. 

Ar ôl cwblhau'r gwaith ffisegol, cynhelir ymweliad â’r safle a chaiff asesiad manwl o’r prosiect ei gynnal.  Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnom gan gynnwys: anfonebau gwreiddiol, rhifau cyfresol/offer, tystysgrif gwblhau Rheoliadau Adeiladu (os yn briodol); system Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys dadansoddiad risg; dogfennau Asesu Risgiau Tân yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; cofnodion y Drefn Lanhau, cofnodion Rheoli Plâu a chofnodion Rheoli Ansawdd.  Caiff y grant ei dalu ar yr amod y gwelir cynnydd digonol.

Un o ofynion y grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect a nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Ymwelir â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd i ddyddiad cwblhau’r prosiect (Dyddiad Diwedd y Contract) i sicrhau bod yr ymgeisydd yn dal i ddefnyddio’r cyfarpar a brynwyd gyda’r grant a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract FBAS yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys data ar gyfrifiadur sy’n ymwneud â’ch contract FBAS i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantwyr. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Adran I: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Nid oes unrhyw seiliau dros apelio yn ystod y cam Datgan Diddordeb.

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn caniatáu i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae dau gam i’r broses apelio:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi anfon apeliadau atom yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hynny’n arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Mae grantiau a thaliadau gwledig yn apelio.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn oddi wrth y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378 
E-bost: complaints@gov.wales 
Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed 
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon.cymru

Adran J: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwyster, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yr Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • I ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data.
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Adran K: deddfwriaeth

Mae’r cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae'r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn cael ei lywodraethu gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir Rhif. 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif  809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • sicrhau cadernid hinsawdd
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eu prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a meysydd gwledig
  2. gwneud ffermydd yn fwy hyfyw a chystadleuol mewn pob math o amaethyddiaeth, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth
  5. hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau  amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig

Sefydliad Masnach y Byd a rheoli cymorthdaliadau

Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, a daw’r rheini o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac maent wedi’u categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.

O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran L: cysylltiadau

Ymholiadau am y Datganiad o Ddiddordeb

Os oes gennych ymholiadau am eich Datganiad o Ddiddordeb, cysylltwch â FBAS@llyw.cymru.

Pob ymholiad arall: Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad ydych yn teimlo bod ein cyfleusterau yn eu diwallu, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n llawn newyddion, cyngor a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a’u deall. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i www.llyw.cymru/hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Atodiad

Cyflwyniad

Mae'r atodiad hwn yn cyfeirio at ganllawiau Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2022. Mae’r holl newidiadau ac ychwanegiadau yn cael eu gwneud i Adran I – Y Weithdrefn Apelio a Chwynion –  yn y llyfryn gwreiddiol.

Mae wedi cael ei disodli gan y canlynol:

Adran 1 - Gweithdrefn apelio a chwynion

Y weithdrefn apelio

(i) Cyn dyfarnu’r contract / grant

(a) Datgan Diddordeb

Nid oes unrhyw seiliau dros apelio yn ystod y cam Datgan Diddordeb.

(b) Cais llawn

Cewch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad a wnaed yn ystod cam y Cais Llawn. Rhaid i'ch gwrthwynebiadau, gan gynnwys tystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr syn amlinellu'r penderfyniad yr ydych yn dymuno iddo gael ei adolygu. Dylid cyflwyno’r cais am adolygiad yn ysgrifenedig drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Bydd swyddogion yn cynnal adolygiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn rhoi gwybod ichi, a byddant hefyd yn rhoi’r  rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

ii) Ar ôl dyfarnu’r contract / grant

Os bydd apeliadau yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno ar ôl i gontract gael ei gynnig, bydd yr apeliadau hynny’n cael eu hystyried o dan y 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig'. Mae'r broses hon yn eich galluogi i ofyn am adolygiad os ydych yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad cywir yn unol â rheolau'r cynllun.

Mae dau gam i’r broses apelio:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan Banel Apeliadau Annibynnol (os ydych yn anfodlon â'r ymateb yn ystod cam 1).

Mae'r Panel Annibynnol yn cyflwyno argymhellion i Weinidogion Cymru, sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, ac mae hynny’n dod â'r broses i ben.

Ni codir unrhyw dâl am apêl cam 1, ond codir tâl am apêl cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Mae'r taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os yw'r apêl cam 2 naill ai'n rhannol neu'n gwbl lwyddiannus.

Rhaid cyflwyno apeliadau, gan gynnwys tystiolaeth ategol, drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr yn amlinellu'r penderfyniad yr hoffech apelio yn ei erbyn.

Rydym yn croesawu apeliadau yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd hynny’n arwain at oedi wrth brosesu eich apêl.

Mae rhagor o fanylion am y broses apelio ac am sut i gyflwyno apêl gan ddefnyddio'r ffurflen apêl ar-lein, ar gael oddi wrth y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ar ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

Y weithdrefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwynion. Mae rhagor o gyngor ar sut i wneud cwyn ar gael oddi wrth y Tîm Cynghori ar Gŵynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378 
E-bost: complaints@gov.wales 
Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed 
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: Ombwdsmon.cymru

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Gorffennaf 2023