Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

‘Nowhere to Go’, Conwy Youth Service

Cân ac animeiddiad clyfar am ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yw 'Nunlle i Fynd'. Cafodd y syniad ei greu a’i ddatblygu gan bobl ifanc fel rhan o Brosiect y Dderwen, prosiect digartrefedd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy.

Daeth Prosiect y Dderwen â grŵp o bobl ifanc at ei gilydd ar gyfer cyfres o weithdai ar-lein. Y bwriad yn wreiddiol oedd annog pobl ifanc i greu cynhyrchiad theatrig er mwyn addysgu eraill am ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Fodd bynnag, yn ystod y gweithdai, roedd y bobl ifanc yn teimlo'n ddigon hyderus i newid y briff hwn a chymryd yr awenau – gan ddewis yn hytrach ysgrifennu cân a chreu animeiddiad i gyd-fynd â hi.

Dysgodd y cyfranogwyr i weithredu technoleg newydd, camerâu ac offer recordio. Aethant ati i recordio'r lleisiau a chreu animeiddiad gafaelgar, gan ddefnyddio blychau cardbord a deunyddiau gwastraff eraill yr oeddent yn eu cysylltu â digartrefedd. Drwy annog y bobl ifanc i arwain â'u syniadau eu hunain, roedd modd sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn berthnasol ac yn targedu eu cyfoedion. Defnyddir yr adnodd hwn mewn lleoliadau addysg anffurfiol a ffurfiol, ac mae’n cael derbyniad gwresog. Roedd y beirniaid o’r farn bod y prosiect yn gyfle gwych i bobl ifanc feithrin sgiliau digidol trosglwyddadwy, addysgu eu hunain a rhannu’r hyn a ddysgant ar yr un pryd.