Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Mahieddine Dib, EYST

Mae Mahieddine yn gwirfoddoli mewn Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig  (EYST) yn Wrecsam. Mae'n aelod allweddol o'r tîm, ac mae ganddo ffordd gadarnhaol, gynnes, gyfeillgar a chroesawgar gyda phawb. Mae ei rôl yn cynnwys sicrhau bod y bobl ifanc i gyd yn cofrestru bob wythnos, gan gyfarch pob un ohonynt yn unigol a chymryd yr amser i siarad â nhw.

Yn siaradwr Arabeg rhugl, mae ei brofiad wedi bod yn amhrisiadwy wrth groesawu pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n siarad Arabeg i'r ardal. Mae Mahieddine yn addysgu pobl ifanc yn anffurfiol ar y pethau bychain a all wneud gwahaniaeth enfawr – gan rannu opsiynau cymorth sydd wedi bod o fudd iddo ef, rhannu cyfleoedd y mae gan bobl ifanc ddiddordeb ynddynt, eu cyfeirio at wybodaeth, a bod yn wyneb cyfeillgar a chefnogol. Mae'n defnyddio dulliau diwylliannol-sensitif a chynhwysol i addysgu a grymuso'r bobl ifanc y mae'n eu cefnogi.

Mae Mahieddine yn ymroddedig dros ben ac yn addasu'n wych i anghenion y grŵp. Mae'n ymwneud â phob un o brosiectau’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig. Yn dilyn cais llwyddiannus am Grant Dan Arweiniad Ieuenctid gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, gwerth £1,000 aeth ati yn ddiweddar i gynllunio a gweithredu prosiect i ddarparu pryd bwyd am ddim mewn bwyty ar gyfer teuluoedd ethnig lleiafrifol bregus oedd newydd symud i Wrecsam. Roeddent wrth eu bodd yn cael creu cysylltiadau a chydberthnasau newydd. Gwnaeth yr effaith gadarnhaol y mae Mahieddine yn ei chael ar y bobl ifanc y mae'n gweithio gyda nhw argraff ar y beirniaid, a chanmolwyd hefyd ei ymroddiad i ddysgu a rhannu ei brofiadau er budd eraill.