Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

#FelMerch, Urdd Gobaith Cymru

Un o brosiectau’r Urdd yw #FelMerch, sy'n ceisio ysbrydoli, cefnogi, a grymuso menywod ifanc a merched i gadw'n heini, a chwalu'r rhwystrau sy'n atal menywod ifanc a merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. 

Methodoleg gwaith ieuenctid oedd sail datblygu #FelMerch drwy rwydwaith o lysgenhadon benywaidd ifanc ledled Cymru. Sicrhaodd y dull hwn fod gan lysgenhadon #FelMerch y llais, y llwyfan a'r wybodaeth i wneud gwahaniaeth mewn chwaraeon i ferched.

Daeth y syniad ar gyfer cynhadledd chwaraeon ieuenctid benywaidd gyntaf Cymru gan lysgenhadon #FelMerch yr Urdd a oedd am weithredu ymhellach. Roedd y gynhadledd genedlaethol dau ddiwrnod yn cynnwys siaradwyr proffil uchel, ac yn gyfle i ferched a menywod gysylltu, rhannu straeon a chael eu hysbrydoli a'u grymuso.  Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn y Gymraeg, yn canolbwyntio’n benodol ar annog a chefnogi'r rheini sy’n llai hyderus yn y Gymraeg i gyfrannu ac i glywed y Gymraeg fel iaith fyw. Aeth dros 140 o fenywod ifanc i’r digwyddiad.

Cymeradwyodd y panel beirniaid y prosiect, gan dynnu sylw ato fel enghraifft ardderchog o ddefnyddio'r Gymraeg mewn ffordd gynhwysol a thrawiadol, yn ogystal â chynnig profiad a chyfle dysgu gwych i'r llysgenhadon a arweiniodd y gwaith o ddatblygu’r digwyddiad yn ogystal â'r rhai a oedd yn bresennol.