Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Karen and Jake Henry, Vibe Youth CIC

Mae Vibe Youth yn Abertawe yn fudiad sy'n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy'n helpu pobl ifanc i ymdopi â digwyddiadau bywyd a goresgyn heriau, beth bynnag eu hamgylchiadau. Mae Karen a Jake Henry, sylfaenwyr Vibe Youth, yn cynllunio ac addasu eu gwasanaethau mewn ymateb i anghenion y bobl ifanc a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Maent yn defnyddio eu teithiau personol eu hunain a'u profiad i ddangos sut y gellir trawsnewid bywyd drwy ddatblygu dealltwriaeth unigolyn ohono’i hun, ei annog i ymrwymo i ystyried ei hun yn werthfawr, a’i rymuso i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.

Mae Vibe Youth yn cynnig ystod o wasanaethau cyffredinol ac arbenigol i bobl ifanc, gan gynnwys prosiect arloesol 'Street Safe' mewn ysgolion, sy'n mynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyffuriau a thrais difrifol. Yn angerddol dros wella dealltwriaeth o rai o'r heriau mwyaf y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, mae Karen a Jake hefyd yn cynnig gweithdai i weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar y ffactorau a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â bod yn rhan o gangiau a throseddu – gan herio eraill i ymateb, gwneud gwahaniaeth a helpu i newid a gwella bywydau pobl ifanc.

Cydnabu’r beirniaid yr adborth hynod gadarnhaol a ddaeth i law am berthnasedd sesiynau Vibe Youth; yr effaith enfawr y maent yn ei chael ar gyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol; ac yn gyffredinol y gwaith rhyfeddol y mae Karen a Jake yn ei wneud i annog pobl i gychwyn ar ffyrdd positif o fyw, beth bynnag eu cefndir.